Dosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd – Dadansoddi Delweddau Fideo (VIA)
Canllawiau ar ddefnyddio technegau graddio awtomataidd i ddosbarthu carcasau eidion
Beth yw VIA
Proses raddio awtomataidd yw VIA sy’n defnyddio camerâu fideo ar linell y lladd-dy a meddalwedd arbenigol i ddosbarthu carcasau.Mae VIA yn goleuo’r carcasau crog ac mae’r camerâu fideo yn tynnu lluniau digidol o bob carcas. Mae’r feddalwedd yn prosesu’r lluniau hyn er mwyn dadansoddi gwybodaeth am siâp y carcas (cydffurfiad) a gorchudd braster. Caiff amlinellau’r carcas eu dadansoddi er mwyn asesu ei gydffurfiad yn seiliedig ar raddfa dosbarthu EUROP. Yna, mae’n cymharu faint o liw coch (croen) a gwyn (braster) sydd yn y llun i bennu dosbarth braster y carcas.
Peiriannau cymeradwy
Ar hyn o bryd, y peiriannau sydd wedi cael eu cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU yw peiriant VBS 2000 (E+V Technology), peiriant VBS 2000 (Marel) a pheiriant AuraVBS (JBT-Marel).
Fersiwn wedi’i hail-frandio o’r peiriannau VBS 2000 cymeradwy yw peiriant AuraVBS. Er bod yr enw wedi newid, nid yw swyddogaethedd y peiriant wedi newid o gwbl sy’n golygu nad oedd angen cynnal treial awdurdodi ar wahân.
Trwyddedau ar gyfer VIA
Gellir defnyddio VIA â thrwydded ledled y DU. Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) sy’n rhoi’r trwyddedau priodol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n rhaid i ladd-dai hysbysu’r RPA, yn ysgrifenedig, os ydynt am ddosbarthu carcasau gan ddefnyddio VIA.Bydd yr RPA yn rhoi trwydded i ddosbarthu carcasau gan ddefnyddio technegau graddio awtomataidd os yw’r lladd-dy wedi gosod y dechnoleg briodol ac yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ei defnyddio. Rhaid i’r RPA fod yn fodlon bod y peiriant VIA yn gweithredu ac yn dosbarthu carcasau buchol gan gyrraedd y safonau gofynnol. Caiff arolygiadau rheolaidd eu cynnal i sicrhau hyn. Gellir atal neu ddirymu trwydded o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os yw’r busnes (gweithredwr) sy’n defnyddio’r peiriant wedi torri telerau’r drwydded a roddwyd
- os nad yw’r broses raddio yn cyrraedd y safonau a nodir yn y Rheoliadau – p’un a yw hyn wedi digwydd o ganlyniad i’r peiriant neu’r ffordd y caiff ei ddefnyddio
- os caiff y peiriant sy’n gysylltiedig â’r drwydded ei symud
Cyflwyno’r carcas
Dylid dilyn manyleb trin y DU wrth gyflwyno carcasau i’w dosbarthu drwy VIA. Er mwyn sicrhau bod dosbarthiad VIA yn ddilys, rhaid i’r carcas gael ei gyflwyno yn yr un ffordd yn union â’r profion a ddefnyddiwyd i ardystio a chymeradwyo’r defnydd o VIA ar gyfer y DU. Y profion hyn yw prawf ardystio’r UE ym mis Mawrth 2010, a’r prawf cymeradwyo a gynhaliwyd ar addasiadau i fanylebau technegol y peiriant graddio eidion awtomataidd awdurdodedig a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2023. Cafodd manyleb trin y DU ei defnyddio ar gyfer y ddau brawf. Os gwneir cais i wneud newidiadau i’r ffordd gymeradwy o gyflwyno carcas, rhaid:
-
cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig, a
-
rhaid cael cytundeb cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Gofynion gweithredu ar gyfer VIA
Rhaid i ladd-dai sy’n defnyddio VIA i ddosbarthu carcasau fodloni’r gofynion canlynol:
- meddu ar drwydded briodol a roddwyd gan yr RPA
- nodi categori’r carcas gan ddefnyddio’r system y cyfeirir ati yn Rheoliad EUR 2000/1760 ‘Identification and registration of bovine animals’
- llunio adroddiadau rheoli dyddiol ar y system graddio awtomataidd, gan nodi’n benodol unrhyw ddiffygion neu anghywirdebau a’r camau a gymerwyd lle y bo angen
- dosbarthu carcasau yn unol â graddfa EUROP
- defnyddio labeli carcasau
- cofnodi’r radd a gynhyrchwyd drwy VIA heb addasiadau
- sicrhau bod dosbarthwr trwyddedig ar y safle bob amser
Mae’n rhaid defnyddio labeli os caiff y broses ddosbarthu ei chynnal gan ddefnyddio technegau graddio awtomataidd. Rhaid i ladd-dai gofnodi’r radd a gynhyrchwyd drwy VIA a’r holl wybodaeth angenrheidiol arall ar labeli’r carcasau, cofnodion a hysbysiadau talu ac ni ddylid newid y radd hon. Rhaid iddynt gynnwys y ffaith bod y carcas wedi’i ddosbarthu gan ddefnyddio technegau graddio awtomataidd.
Rhaid i’r carcas gael ei ddosbarthu, ei nodi a’i bwyso o fewn 1 awr wedi i’r anifail gael ei ladd ar ôl iddo gael ei hongian. Os na fydd VIA yn llwyddo i ddosbarthu carcas, rhaid dosbarthu a nodi’r carcas y diwrnod y caiff yr anifail ei ladd. Rhaid pwyso’r carcas o fewn 1 awr o hyd. Am y rheswm hwn, rhaid i ladd-dy sy’n defnyddio VIA drefnu bod dosbarthwr trwyddedig ar y safle bob amser i gynnal y broses raddio os na fydd y peiriant yn gweithio neu os na fydd peiriant yn llwyddo i ddosbarthu carcas.
Mae angen gwasanaethu a chynnal a chadw peiriannau VIA yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithio’n gywir. Rhaid i weithredwyr wirio pob peiriant yn ddyddiol a llunio adroddiad rheoli. Mae’n rhaid i’r adroddiadau hyn fod ar gael i’w harchwilio ar gais.
Pwy sy’n gyfrifol am VIA
Y lladd-dai sy’n defnyddio VIA sy’n gyfrifol am gywirdeb y broses dosbarthu carcasau yn eu busnesau. Mae’n ofynnol iddynt gynnal gwiriadau graddio a chalibradu ar y peiriant bob dydd a rhoi rhaglen cynnal a chadw ddyddiol ar waith. Mae gwneuthurwr y peiriant a oedd yn gyfrifol am osod y peiriannau hefyd yn gyfrifol am wasanaethu ac atgyweirio’r peiriannau’n barhaus.Yr RPA sy’n gyfrifol am gynnal arolygiadau statudol o berfformiad peiriannau a sicrhau y caiff carcasau eu dosbarthu a’u cyflwyno yn unol â’r safon ofynnol.
A allaf drefnu bod fy ngharcasau yn cael eu hailasesu a’u hailraddio?
Os na chaiff carcasau a gyflwynwyd eu graddio yn ôl y disgwyl, fe’ch cynghorir i gysylltu â’r lladd-dy. Nodwch na ellir newid y radd a nodwyd ar label y carcas hyd yn oed os cytunir ar y radd “gywir”. Ni ellir cyflwyno apeliadau drwy’r RPA ychwaith. Mae’n bosibl y gellir cytuno ar iawndal ariannol â’r lladd-dy, ond mater i’r lladd-dy yn gyfan gwbl yw hyn.
Materion o ran VIA
Rhaid i weithredwr hysbysu’r RPA os caiff unrhyw faterion eu nodi sy’n effeithio ar y gwaith o raddio a dosbarthu carcasau buchol.
Mae’r RPA yn cynnal arolygiadau rheolaidd a lle y caiff materion eu nodi, bydd yr RPA yn asesu’r wybodaeth ac yn penderfynu a ddylid diffodd y peiriant VIA.
Peiriannau sydd wedi’u diffodd neu sydd wedi’u gosod yn y modd prawf
Rhaid i weithredwyr barhau i fodloni holl ofynion y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion, hyd yn oed pan fyddant wedi diffodd y peiriant neu ei osod yn y modd prawf. Rhaid i weithredwyr barhau i ddosbarthu carcasau buchol 8 mis oed a throsodd yn unol â graddfa EUROP. Mae angen i’r broses ddosbarthu hon gael ei chynnal gan ddosbarthwr trwyddedig. Pan gaiff carcas ei ddosbarthu gan ddosbarthwr yn hytrach na pheiriant, rhaid i’r cofnodion gofynnol gynnwys y manylion canlynol am y dosbarthwr a gwblhaodd y broses ddosbarthu:
- enw
- llofnod
- rhif trwydded
Rhaid i’r wybodaeth a roddir i gyflenwr yr anifail a laddwyd hefyd nodi bod y carcas wedi cael ei ddosbarthu gan ddosbarthwr yn hytrach na pheiriant. Bydd yr RPA yn cadarnhau pan fydd modd defnyddio’r peiriant eto, ond bydd y gofynion hyn yn berthnasol tan hynny. Rhaid i weithredwyr roi tystiolaeth i’r RPA bod y materion a nodwyd wedi cael eu datrys yn llawn. Ar ôl i’r RPA dderbyn y dystiolaeth hon, bydd yn cynnal arolygiad i asesu a ellir troi’r peiriant ymlaen eto. Ni chaiff gweithredwyr droi’r peiriant ymlaen eto oni bai bod yr RPA wedi awdurdodi hynny.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
Added new information about AuraVBS machine in the 'Approved machines' section.
-
Updates to approved machines and carcase presentation information.
-
Updated guidance to operating requirements for VIA, responsibility for VIA and reassess and regrade carcases question answered
-
Regulation change updated due to EU exit
-
First published.