Canllawiau

Gwirio a ellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU

Dysgwch pryd y gallwch ac na allwch symud neu storio nwyddau mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd’ (Green Freeports) yn yr Alban, oni nodir yn wahanol.

Pryd y gellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd

Gallwch symud nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd, neu storio nwyddau yno, os nad ydyn nhw’n nwyddau sydd wedi’u gwahardd.

Mae nwyddau wedi’u gwahardd yn cynnwys y canlynol:

  • blew a gwlân anifeiliaid penodol
  • unrhyw anifail neu blanhigyn, boed yn fyw neu wedi marw, neu ei rannau neu ei ddeiliadau, o’r rhywogaethau sydd ar y rhestr CITES (gweler gwefan Species+ (yn Saesneg))
  • eitemau sy’n cynnwys dyfeisiau sy’n awgrymu neu’n tueddu i awgrymu bod cosb neu warant gan y llywodraeth
  • asbestos
  • ffwr cathod a chŵn, a chynhyrchion wedi’u gwneud o ffwr o’r fath
  • nwyddau ffug, anghyfreithlon neu rai sy’n mynd yn groes i batent
  • arian papur cyfred ffug
  • stampiau post ffug
  • nwyddau sy’n cynnwys disgrifiad masnach ffug
  • nwyddau sydd (mewn perthynas â nod masnach cofrestredig) yn nwyddau, deunyddiau neu eitemau sy’n mynd yn groes i berchennog y nod masnach, neu drwyddedai
  • nwyddau y gellid eu defnyddio at ddibenion y gosb eithaf neu arteithio a thriniaeth neu gosb greulon, ddiraddiol neu annynol arall, neu mewn cymorth technegol cysylltiedig
  • deunydd anweddus a fyddai’n cael ei wahardd rhag cael ei fewnforio i’r DU
  • nwyddau wedi’u gwneud mewn carchar
  • diemyntau bras
  • tocynnau, hysbysebion a deunyddiau eraill sy’n ymwneud â loterïau tramor

Rhagor o wybodaeth am nwyddau sydd wedi’u gwahardd neu sydd wedi’u cyfyngu (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 15 November 2021