Gwneud cais am Ddull Eithriad Rhannol Arbennig
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am Ddull Eithriad Rhannol Arbennig i adennill treth fewnbwn ar y nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir gennych.
Os ydych yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau, gallwch wneud cais am Ddull Eithriad Rhannol Arbennig i adennill treth fewnbwn.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd yn rhaid i chi ddarparu dogfennau gyda’ch cais. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dogfen gynnig
- enghraifft o’ch cynnig
- y cyfrifiad diweddaraf o’ch addasiad blynyddol
- eich datganiad — gwiriwch Atodiad 1 o Hysbysiad TAW 706 (yn agor tudalen Saesneg) i weld beth i’w gynnwys yn eich datganiad
- unrhyw ddogfennau ychwanegol
Dysgwch ragor ynghylch y dogfennau y mae angen i chi eu darparu yn Atodiad 2 o Hysbysiad Taw 706 (yn agor tudalen Saesneg).
Gwneud cais ar-lein
Gallwch wneud cais ar-lein gan ddefnyddio naill ai eich:
- manylion mewngofnodi — os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu
- cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 30 diwrnod i roi gwybod i chi:
- ein bod yn derbyn eich cynnig
- bod angen rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad
- os nad yw’ch cynnig yn addas, y rhesymau pam
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
First published.