Canllawiau

Gwneud cais i benderfyniad parôl gael ei ailystyried

Lansiwyd mecanwaith ailystyried y Bwrdd Parôl ar 22 Gorffennaf 2019. Mae hwn yn caniatáu i bartïon i'r achos herio penderfyniad parôl a wnaed ar neu ar ôl 22 Gorffenaf 2019.

Canllaw i’r mecanwaith ailystyried

Canllaw i’r mecanwaith ailystyried

Rhesymau i ailystyried

Bydd y mecanwaith ailystyried yn rhoi’r hawl i bobl i ofyn i benderfyniad parôl gael ei ailystyried gan y Bwrdd Parôl os oes ganddynt resymau i ddangos bod y penderfyniad naill ai’n:

  • Annheg o ran gweithdrefn - ni ddilynwyd y broses gywir yn yr adolygiad o’r troseddwr sydd am gael parôl - er enghraifft, ni rannwyd tystiolaeth bwysig
  • Afresymegol - nid yw’r penderfyniad yn gwneud synnwyr yn seiliedig ar y dystiolaeth o risg a ystyriwyd ac ni allai unrhyw banel rhesymegol gyrraedd yr un casgliad.

Nid yw’r ffaith bod rhywun yn anfodlon ar y penderfyniad yn sail i ailystyried.

Mathau o ddedfryd carchar mae hyn yn perthyn iddynt

Mae’r mecanwaith ailystyried yn perthyn i garcharorion sy’n gwneud:

  • Dedfrydau penagored (Oes neu IPP)
  • dedfrydau estynedig,
  • dedfrydau penagored penodol lle mae’r rhyddhad cychwynnol yn ôl disgresiwn y Bwrdd Parôl (achosion Rhyddhad Amodol yn ôl Disgresiwn) (DCR) a Dedfrydau ar gyfer Troseddwyr o Bryder Arbennig )SOPC)).

Bydd hefyd yn perthyn i garcharorion a adelwir sy’n gwneud y dedfrydau hyn.

Pobl sy’n gallu gwneud cais am ailystyried

Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r carcharor sy’n gallu gwneud cais am ailystyried gan eu bod yn bartïon i’r achos.

Gwneud cais o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r penderfyniad

Rhaid derbyn cais o fewn tair wythnos (21 diwrnod calendr) o ddyddiad cyhoeddi’r penderfyniad i’r partïon yn yr achos (y carcharor a’r Ysgrifennyydd Gwladol).

Gwneir y penderfyniad cychwynnol yn derfynol os nad oes unrhyw geisiadau wedi bod yn ystod y ffenestr 21 diwrnod.

Ni fydd y Bwrdd Parôl yn derbyn unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y tair wythnos.

Os oes pryder difrifol ynghylch y penderfyniad ar ôl i’r ffenestr 21 diwrnod gau, yna gall pobl ddal i i wneud cais am ‘Adolygiad Barnwrol’ - drwy’r Llys Gweinyddu

Sut y gall dioddefwyr a’r cyhoedd wneud cais

Bydd Tîm Ailystyried yr Ysgrifennydd Gwladol yn edrych ar bob penderfyniad rhyddhau a wneir ar gyfer pob achos sy’n gymwys i gael ei ailystyried. Mae hyn er mwyn sicrhau na fu unrhyw ddiffygion difrifol. Os ydynt yn credu bod pryder difrifol, gallant wneud cais i’r Bwrdd Parôl i’w ailystyried.

Hefyd gall dioddefwr neu aelod o’r cyhoedd wneud achos i’r Ysgrifennydd Gwladol i benderfyniad gael ei ailystyried, os oes pryder difrifol ynghylch y penderfyniad.

Ewch i’r dudalen ar gyfer dioddefwyr a’r cyhoedd i weld gwybodaeth ar herio penderfyniad parôl.

Sut y gall carcharorion wneud cais

Gall carcharor wneud cais i benderfyniad gael ei ailystyried eu hunain, neu drwy eu cynrychiolaeth gyfreithiol. Anfonir y cais hwn yn uniongyrchol i Dîm Ailystyried y Bwrdd Parôl.

Os yn bosibl, dylid anfon y ffurflen trwy e-bost yn hytrach na’r post gan mai’r ffrâm amser i herio’r penderfyniad yw 21 diwrnod yn unig.

Ewch i’r dudalen hon i gael y ffurflen gais i garcharor ofyn i benderfyniad parôl gael ei ailystyried.

Neu ysgrifennwch i reconsideration@paroleboard.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Canlyiadau posibl i’r adolygiad

Bydd y Bwrdd Parôl yn adolygu manylion yr achos a phenderfynu a ddylid ailystyried y penderfyniad, yn seiliedig ar a yw’r penderfyniad yn diwallu’r trothwy ailystyried - a oedd yn afresymegol neu’n annheg o ran gweithdrefn?

Derbynnir y cais

Anfonir yr achos i gael adolygiad parôl arall, a drefnir fel blaenoriaeth. Gwneir yr adolygiad newydd hwn ar bapurau neu mewn gwrandawiad llafar.

Gan ddibynnu ar ffeithiau’r achos, bydd yr adolygiad yn cael ei reoli naill ai gan y panel a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol, neu gan banel newydd o aelodau.

Os ailystyrir achos mewn adolygiad parôl newydd, gallai’r panel wneud yr un penderfyniad â’r panel gwreiddiol.

Gwrthodir y cais

Bydd y Bwrdd Parôl yn rhoi rhesymau ysgrifenedig pam na ddylid ailystyried y penderfyniad.

Penderfyniadau Ceisiadau i Ailystyried

Mae’r Bwrdd Parôl wedi cychwyn cyhoeddi eu penderfyniadau ceisiadau i ailystyried o 27 Ionawr 2020. Gellir gweld copïau o’r penderfyniadau hyn ar Bailii

Cyhoeddwyd ar 31 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 July 2019 + show all updates
  1. First published.

  2. A video about the reconsideration mechanism has been added. It explains how parties to the case can make a request for the Parole Board to reconsider a parole decision made on or after 22 July 2019.