Canllawiau

Amodau a thelerau yn CThEM

Diweddarwyd 1 April 2022

Diolch am ystyried swydd gyda CThEM.

Gweler isod grynodeb o amodau a thelerau CThEM. Mae’n bwysig nodi bod y rhain yn brif faterion sydd wedi’u dewis, nid datganiad cynhwysfawr o’r holl amodau a thelerau cyflogaeth contractiol yn CThEM. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi contract cyflogaeth i chi gyda datganiad llawn o’n hamodau a thelerau contractiol.

Fel ymgeisydd am swydd, eich cyfrifoldeb chi yw dod yn gyfarwydd â’r telerau ac amodau a fydd ar waith pan fyddwch yn ymuno â CThEM. Fel rhan o’r broses recriwtio, bydd cyfleoedd i ofyn i’r cyswllt a enwir ar gyfer y swydd wag beth allai hyn ei olygu i chi, neu am y swydd yn gyffredinol.

Nodyn pwysig: mae’r telerau ac amodau newydd yn sefydlog ar gyfer pob cyflogai – nid yw’r rheolwr sy’n hurio nac unrhyw reolwr arall yn gallu eu hepgor na’u newid.

Telerau cyflogaeth

Cyfnod prawf

Os ydych yn newydd i’r Gwasanaeth Sifil, bydd angen i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus, pan fydd eich perfformiad, eich presenoldeb a’ch ymddygiad yn cael eu hasesu. Amcan yr asesiad yw sicrhau eich bod yn gallu bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan CThEM yn y meysydd allweddol hyn.

Gwyliau blynyddol

Hyd at 31 Awst 2021, bydd gan bob cydweithiwr hawl gychwynnol i wyliau â thâl o 22 diwrnod y flwyddyn, a hynny’n gymesur â’ch oriau contract (pro rata). Bydd hyn yn codi i 25 diwrnod y flwyddyn (pro rata) ar ôl blwyddyn o wasanaeth cymwys a 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth cymwys.

O 1 Medi 2021 ymlaen (pan gyflwynir y newidiadau i wyliau blynyddol y cytunwyd arnynt fel rhan o gytundeb diwygio CThEM), bydd gan gyflogeion amser llawn lwfans cychwynnol ar gyfer gwyliau blynyddol â thâl o 25 diwrnod y flwyddyn, pro rata, a fydd yn cynyddu un diwrnod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymwys hyd at uchafswm o 30 diwrnod.

Os ydych yn trosglwyddo o un o Adrannau Eraill y Llywodraeth (OGD), byddwn yn ystyried eich gwasanaeth cymwys blaenorol, ar yr amod nad oes toriad yn eich gwasanaeth rhwng gweithio i’ch adran flaenorol a dechrau’ch gwasanaeth gyda CThEM.

Os ydych yn trosglwyddo o Gorff Cyhoeddus Anadrannol Cydnabyddedig, bydd eich gwasanaeth cymwys blaenorol yn cael ei gydnabod o 1 Mawrth 2011 ymlaen, ar yr amod ei fod yn barhaus gyda’ch gwasanaeth gyda CThEM.

Gwyliau cyhoeddus a gwyliau braint

Yn ogystal â’ch lwfans gwyliau blynyddol, mae gennych hawl i wyliau cyhoeddus a gwyliau braint â thâl. Bydd y gwyliau hyn yn ddibynnol ar leoliad eich swyddfa ac fe’u pennir fel a ganlyn:

  • os yw’ch swyddfa yng Nghymru neu yn Lloegr, mae gennych hawl i wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines
  • os yw’ch swyddfa yn yr Alban, mae gennych hawl i wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer Diwrnod Fictoria/pen-blwydd y Frenhines
  • os yw’ch swyddfa yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych hawl i 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines

Gellir cymryd y diwrnod braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn wyliau. Efallai y bydd CThEM, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, yn gofyn i chi weithio ar ddiwrnod o wyliau cyhoeddus neu ddiwrnod braint. Os felly, gallwch gymryd diwrnod arall fel gwyliau (neu nifer gyfwerth o oriau).

Caiff gwyliau cyhoeddus a gwyliau braint eu cyfrifo ar sail pro rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser.

Symudedd

Mae cymal symudedd mewn contract cyflogaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gydweithiwr adleoli a/neu wneud newidiadau i’w rôl pe bai ei gyflogwr yn gofyn iddo wneud hynny.

Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill sy’n briodol i’ch gradd, dros dro neu ar sail barhaus, fel y mae CThEM yn ystyried yn rhesymol ei bod yn angenrheidiol. Ym mhob achos, rhoddir rhybudd rhesymol i chi a bydd eich amgylchiadau personol yn cael eu hystyried.

Mae’n bosibl y bydd hefyd yn ofynnol i chi drosglwyddo’n barhaol i unrhyw swydd gyda CThEM neu swydd arall yn y Gwasanaeth Sifil sy’n briodol i’ch gradd naill ai yn y DU neu dramor, lle ystyrir bod hyn yn angenrheidiol i fodloni gofynion busnes. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i wasanaethu oddi cartref am gyfnodau dros dro o ‘ddyletswydd oddi cartref’. Gall hyn fod mewn lleoliadau nad ydynt o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’ch cartref.

Oriau gwaith

Yr oriau gwaith ar gyfer pob cyflogai amser llawn yw 37 awr yr wythnos, ac eithrio egwyliau ac egwyliau cinio, sy’n ddi-dâl. Mae hyn yr un fath ar gyfer yr holl gyflogeion, p’un a ydynt wedi’u lleoli yn Llundain neu’r tu allan iddi.

Mae eich patrwm gwaith unigol (h.y. yr amserau a’r diwrnodau y mae’n ofynnol i chi’n bersonol fynychu’r gwaith er mwyn cyflawni’ch oriau wythnosol dan gontract) yn rhwymol dan gontract oni bai a hyd nes y bydd CThEM yn ei amrywio, yn unol â darpariaethau hyblygrwydd a nodir yn eich contract neu o dan Gydgytundeb 2020. Mae gan CThEM yr hawl i newid eich patrwm gwaith unigol yn barhaol (ar yr amod bod amodau penodol yn cael eu bodloni) gyda rhybudd rhesymol. Byddwn bob amser yn ymdrechu i ystyried eich amgylchiadau personol os oes modd.

Er ei fod yn sefydliad sy’n gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, oriau gweithredu safonol CThEM yw 07:00 tan 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gellir gofyn i chi weithio unrhyw batrwm gwaith unigol sy’n syrthio o fewn yr oriau hyn. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn cael eich contractio neu y bydd yn ofynnol i chi weithio y tu allan i’r amserau hynny yn ôl yr angen.

Gall CThEM hefyd amrywio’ch rôl, eich lleoliad, eich oriau wythnosol dan gontract neu’ch patrwm gwaith unigol, a hynny dros dro, yn ôl yr angen, dan rai amgylchiadau.

Mae’r holl drefniadau gweithio arbennig, fel gweithio am ran o’r flwyddyn neu oriau cywasgedig, yn agored i adolygiad bob pum mlynedd.

Gwybodaeth Bwysig: Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid (CSG)

Os ydych yn gwneud cais am swydd yn ein Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod trefniadau gweithio penodol ar waith i’n helpu i ddarparu gwell gwasanaethau i gwsmeriaid a gwell profiad gwaith i’n staff.

Bydd gan bawb yn y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid y gofynion contractiol canlynol fel rhan o’u horiau gwaith arferol, ac nid yn ychwanegol atynt:

  • gweithio uchafswm o un sifft hwyr yr wythnos, a fydd yn gorffen am 8pm fan bellaf
  • gweithio uchafswm o chwe dydd Sadwrn y flwyddyn

Mae oriau gweithredu safonol y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid rhwng 8am ac 8pm bob dydd. Mae hyn yn golygu na fydd neb yn y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn dechrau gweithio cyn 7.45am, oni bai bod angen busnes cytunedig i ddechrau’n gynharach. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn barod i ddelio â chwsmeriaid cyn gynted ag y bydd ein llinellau’n agor am 8am, a bod digon o staff ar gael i weithio ar y llinellau ffôn drwy gydol y dydd.

Mae ein polisi newydd ar weithio gartref yn golygu y bydd gan bawb yn y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid yr un cyfle ag eraill yn CThEM i allu gweithio gartref am ddeuddydd yr wythnos. (Gweler yr adran “Oriau hyblyg a gweithio gartref” i gael rhagor o wybodaeth am hyn).

Tâl Salwch

Bydd gennych hawl i gyflog llawn am un mis yn ystod blwyddyn gyntaf eich gwasanaeth, yn ogystal ag un mis ar hanner eich cyflog. Bydd yr hawl yn cynyddu un mis ar gyflog llawn ac un mis ar hanner eich cyflog am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o bum mis ar gyflog llawn a phum mis ar hanner eich cyflog o ddechrau pumed flwyddyn eich gwasanaeth Bydd hyn yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser a chyflogeion sy’n gweithio am ran o’r flwyddyn.

Telir absenoldeb salwch hyd at yr uchafswm o 10 mis yn ystod unrhyw gyfnod treigl o bedair blynedd. Bydd gwasanaeth cymwys blaenorol gyda CThEM neu Adrannau Eraill o’r Llywodraeth yn cyfrif wrth gyfrifo’ch hawl i absenoldeb salwch, ar yr amod bod eich gwasanaeth yn ddi-dor.

Marcio amser

Marcio amser yw pan fydd cyflog sylfaenol unigolyn yn fwy nag uchafswm ei ystod cyflog, ac mae CThEM yn anrhydeddu’r cyflog hwn er mwyn atal gostyngiad mewn cyflog ar unwaith. Gall hyn ddigwydd am amryw resymau, er enghraifft, pan fydd unigolyn yn symud i rôl neu leoliad newydd sy’n golygu trefniadau gwahanol o ran cyflog.

Mae terfyn amser o ddwy flynedd ar bob trefniant marcio amser yn CThEM. O fis Mehefin 2023 ymlaen, bydd trefniadau marcio amser ar gyfer cydweithwyr presennol neu gydweithwyr newydd yn gyfyngedig o ran amser a byddant yn dod i ben ar ôl dwy flynedd.

Oriau hyblyg a gweithio gartref

Bydd cyflogeion sy’n gweithio mewn swyddi ar bob gradd hyd at a chan gynnwys Gradd 6 yn gallu defnyddio Dull Oriau Gwaith Hyblyg (oni bai eu bod yn cael gwybod bod y rôl yn anaddas).

Os yw’n addas ar gyfer swydd, bydd cyflogeion yn cael y cyfle (er nad yw’n hawl gontractiol) i weithio gartref ddau ddiwrnod yr wythnos, neu fwy os bydd y busnes yn cytuno ar hynny. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i weithio gartref gyda’r nos a thros y penwythnos, pan fo’n briodol ar gyfer y rôl.