Canllawiau

Gwybodaeth gyffredinol am gyflog wrth drosglwyddo o un o Adrannau eraill y Llywodraeth i CThEM

Diweddarwyd 1 April 2022

Bydd CThEM yn eich talu o ddiwrnod cyntaf dechrau’ch swydd. Bydd yr hen adrannau’n talu’r cyflogai hyd nes y dyddiad trosglwyddo; os bydd y dyddiad hwn ar ddydd Gwener, dylai’r hen adran dalu hyd nes y dydd Sul. Ni ddylai cyflogeion ddechrau eu rôl newydd yn CThEM nes bod y broses o drosglwyddo’r gyflogres wedi’i chadarnhau, a nes bod CThEM mewn sefyllfa i dalu’r unigolyn.

Cyflog Sylfaenol

  1. Mae gan CThEM ystod cyflog gwahanol ar waith mewn dau leoliad ar gyfer pob gradd, sef yn Llundain ac yn Genedlaethol. Mae isafswm ac uchafswm i ystod cyflog pob gradd, heb unrhyw “bwyntiau graddfa”.

  2. Ni ellir trosglwyddo lwfansau i CThEM, ar wahân i Lwfans Pwysoliad Llundain (neu elfen gyfatebol). Caiff pob lwfans arall ei golli wrth drosglwyddo.

Symud ar yr un radd (gwirfoddol)

  1. Os yw’ch adran yn eich talu ar ei hystod cyflog Cenedlaethol ar hyn o bryd, caiff eich cyflog sylfaenol, heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol, ei drosglwyddo i ystod cyflog Cenedlaethol priodol CThEM ar gyfer eich gradd. Os yw hyn yn llai nag isafswm ystod cyflog Cenedlaethol CThEM ar gyfer eich gradd, caiff ei godi i’r isafswm ar gyfer eich gradd. Fodd bynnag, os yw hyn yn fwy na’r uchafswm, caiff ei gyfyngu i uchafswm CThEM ar gyfer eich gradd.

  2. Os yw’ch adran yn eich talu ar ei hystod cyflog ar gyfer Llundain ar hyn o bryd, caiff eich cyflog sylfaenol, heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol, ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer eich gradd yn Llundain. Fodd bynnag, os ydych yn cael Lwfans Pwysoliad Llundain neu elfen gyfatebol, caiff y swm hwn ei gyfuno â’ch cyflog sylfaenol a chaiff y cyfanswm ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain (mae paragraff 3 yn amlinellu sut y gwneir unrhyw godi neu gyfyngu).

  3. Os yw’ch cyflog sylfaenol (gan gynnwys pwysoliad Llundain ond heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol) yn fwy nag uchafswm ystod cyflog cyfatebol CThEM, mae’n bosibl y bydd unrhyw swm uwchlaw uchafswm CThEM yn cael ei gadw ar sail Amser wedi’i Farcio, a bydd yn cael ei gwtogi gan unrhyw godiadau cyflog sylfaenol yn y dyfodol.

  4. Os bydd symud i CThEM yn golygu eich bod yn newid lleoliad cyflog, hynny yw, symud i leoliad ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain neu oddi yno, caiff eich cyflog sylfaenol yn eich adran bresennol ei drosglwyddo i ystod cyflog cyfatebol CThEM y lleoliad hwnnw (fel yr eglurir ym mharagraffau 3 a 4). Yna, bydd eich cyflog yn cael ei drosglwyddo i’r gyfradd gyflog gyfatebol ar gyfer y lleoliad newydd. Cyfeiriwch at yr adran ‘Cyfrifiad cyfradd gyfatebol’ isod.

  5. Mae gan rai Adrannau swyddfeydd lle nad yw’r ffiniau’n cyd-fynd â ffiniau cyflog Cenedlaethol/Llundain CThEM. Bydd y broses, a amlinellir yn yr adran ‘Cyfrifiad cyfradd gyfatebol’ isod, sef symud eich cyflog sylfaenol i’r gyfradd gyfatebol ar gyfer lleoliad cywir CThEM, yn cael ei chynnal ar ôl symud eich cyflog presennol i un sy’n cyd-fynd â dosbarthiad swyddfa CThEM. Er enghraifft, mae’n bosibl bod eich Adran bresennol yn ystyried bod eich swyddfa yn Llundain, ond bod CThEM yn ystyried ei fod yn lleoliad Cenedlaethol. Caiff eich cyflog sylfaenol ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain cyn symud i’r gyfradd gyfatebol ar ystod cyflog Cenedlaethol CThEM.

  6. Os ydych yn symud o ardal yn Llundain gyda’ch Adran bresennol, i ardal Genedlaethol gyda CThEM, mae’n bosibl y bydd eich cyflog yn gostwng.

Cyfrifiad cyfradd gyfatebol

Mae’r cyfrifiad cyfradd gyfatebol yn cael ei ddefnyddio wrth symud rhwng ystod cyflog Cenedlaethol ac ystod cyflog Llundain. Mae’n cynnal safle cymharol eich cyflog sylfaenol yn yr ystod cyflog, wrth ei drosglwyddo i’r ardal gyflog newydd.

Fformiwla’r Gyfradd Gyfatebol:

((A / B) x C) + D = Cyflog sylfaenol newydd wrth symud, lle bo:

A = Uchafswm ystod cyflog newydd llai lleiafswm ystod cyflog newydd
B = Uchafswm hen ystod cyflog llai lleiafswm hen ystod cyflog
C = Cyflog sylfaenol presennol llai lleiafswm hen ystod cyflog
D = Lleiafswm ystod cyflog newydd

Cyflog arbenigol

Os ydych yn cael cyflog ystod arbenigol oherwydd natur eich swydd yn eich adran bresennol, caiff eich cyflog ei addasu i’r gyfradd gyfatebol ar ystod cyflog cyffredinol eich lleoliad yn eich adran bresennol, gan ddefnyddio’r prosesau uchod.

Symud i CThEM ar ôl cael dyrchafiad

Caiff eich cyflog sylfaenol presennol ei drosglwyddo i ystod cyflog cyfatebol CThEM, cyn eich dyrchafiad, gan ddilyn y prosesau a amlinellir uchod. Os yw’ch cyflog cyn eich dyrchafiad yn fwy nag uchafswm ystod cyflog CThEM, bydd eich cyflog yn cael ei gyfyngu i’n huchafswm. Yn dibynnu ar ba un sydd o’r budd mwyaf i chi, byddwch wedyn yn cael un o’r canlynol:

  • codiad o 10% o’r cyflog sylfaenol hwn, wedi’i gyfyngu i uchafswm ystod cyflog CThEM
  • isafswm ystod cyflog CThEM ar gyfer y radd y cawsoch ddyrchafiad iddi

Dylech nodi y gall eich cyflog ar ôl dyrchafiad fod yn llai na 10%, er enghraifft, os ydych yn cael eich talu ar hyn o bryd o ystod cyflog arbenigol uwch, sy’n uwch nag ystodau cyflog CThEM sy’n gyffredinol. Y rheswm am hyn yw y bydd cyflog sylfaenol yn cael ei gyfyngu i uchafswm ystod cyflog CThEM.

Dyfarniad Cyflog Sylfaenol (o 2019 ymlaen)

Lle y bo’n briodol, bydd cyflogeion sy’n trosglwyddo’n cael y dyfarniad cyflog sydd i’w weld yn y matrics isod. Yn dibynnu ar yr union ddyddiad y byddwch yn trosglwyddo i CThEM, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer naill ai dyfarniadau cyflog CThEM neu ddyfarniadau cyflog eich hen adran.

Ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw godiadau o ganlyniad i ailstrwythuro cyflog neu allbryniad cytundebol gan eich hen adran. Os na ellir cael manylion, a’ch bod yn bodloni holl Feini Prawf eraill y Dyfarniad Cyflog, byddwch yn cael dyfarniad CThEM.

Bydd unrhyw ddyfarniad yn cael ei dalu o 1 Mehefin ymlaen, neu o’r dyddiad yr ydych yn ymrwymo i’ch dyletswyddau (gan ôl-ddyddio os bydd angen), hynny yw pa bynnag ddyddiad sydd hwyraf.

O’r Hen Adran (Mae’r flwyddyn berfformiad yn cyfeirio at yr hen adran – os yw’n berthnasol)

Dyddiad trosglwyddo Mwy na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog Llai na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog Ar ôl ei flwyddyn berfformiad ond cyn dyddiad y setliad cyflog Ar ddyddiad y setliad cyflog Ar ôl dyddiad y setliad cyflog
Cyn 31 Rhagfyr Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo’n cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf
Rhwng 31 Rhagfyr a 31 Mawrth Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo’n cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf

O’r Hen Adran (Mae’r flwyddyn berfformiad yn cyfeirio at yr hen adran – os yw’n berthnasol)

Dyddiad trosglwyddo Mwy na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog Llai na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog Ar ôl ei flwyddyn berfformiad ond cyn dyddiad y setliad cyflog Ar ddyddiad y setliad cyflog Ar ôl dyddiad y setliad cyflog
Rhwng 1 Ebrill a 31 Mai Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Telir Dyfarniad Cyflog CThEM Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo’n cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf
Ar neu ar ôl 1 Mehefin a chyn 31 Rhagfyr Bydd y cyflog wrth drosglwyddo’n cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM. Cewch ddyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo’n cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf

Rhagor o wybodaeth

Os ydych o’r farn nad yw’ch sefyllfa o ran cyflog wedi’i chwmpasu gan yr esboniad uchod, neu os oes gennych gwestiynau am eich cyflog arfaethedig wrth drosglwyddo, cysylltwch â hmrc.recruitment@cabinetoffice.gov.uk.