Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Blynyddol 2022 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru

Diweddarwyd 21 December 2023

Applies to Wales

Diben

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Senedd Cymru i bennu cyfradd Treth Incwm sylfaenol, uwch ac ychwanegol yng Nghymru i’w chymhwyso i incwm trethdalwyr Cymreig nad yw’n deillio o gynilion na difidendau. Defnyddiwyd y pŵer hwn gyntaf mewn perthynas â blwyddyn dreth 2019 i 2020, ac mae’r cyfraddau wedi parhau i fod yr un fath â’r rheiny ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon (GI) ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.

Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn gweithio drwy ostwng cyfradd y DU 10c fesul £1. Codir CTIC ar ben y cyfraddau gostyngol hyn, a gall fod yn is, yn uwch neu’r un fath â chyfraddau’r DU.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn 2021 i 2022

Cyfraddau Haenau             
20%   £12,570 - £50,270 
40%   £50,271 - £150,000
45%   £150,001+         

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gweinyddu CTIC drwy’r prosesau Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad presennol, gan gynnwys drwy ddulliau cydymffurfio a chyfathrebu presennol o ran Treth Incwm. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi gwybodaeth am weinyddiaeth CThEF o CTIC, gan gwmpasu:

  • nodi trethdalwyr Cymreig a rhoi sicrwydd

  • gweithgarwch cydymffurfiad

  • casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano

  • gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid

  • data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu

  • llywodraethu a goruchwylio CTIC

  • y costau o ddarparu CTIC, ac ailgodi tâl am gostau CThEF

Adran 1: Nodi a sicrwydd

Pwy sy’n drethdalwr Cymreig?

I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n fater o ffaith p’un a ydynt yn drethdalwr Cymreig ai peidio mewn blwyddyn dreth benodol. Mae unigolion sy’n byw yng Nghymru, ac sydd â’u hunig neu brif fan preswylio yno, yn drethdalwyr Cymreig. Nid yw’r rheiny sydd â’u hunig neu brif fan preswylio wedi’u lleoli mewn man arall yn y DU yn drethdalwyr Cymreig. Mae’n rhaid i drethdalwr Cymreig fod yn breswylydd yn y DU at ddibenion Treth Incwm.

Os oes gan berson fwy nag 1 man preswylio, bydd p’un a yw’n drethdalwr Cymreig yn dibynnu ar ble mae ei brif fan neu fannau preswylio. Os oes gan berson 2 neu fwy o ‘brif fannau preswylio’ mewn gwahanol rannau o’r DU, bydd yn drethdalwr Cymreig os oedd ei brif fan preswylio yng Nghymru am fwy o’r flwyddyn nag y bu mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru hefyd yn drethdalwyr Cymreig, ni waeth beth fo’u cyfeiriad. Gan nad ydynt yn agored i’r rheolau busnes arferol ynghylch preswylio, rydym yn gweithredu proses ar wahân i sicrhau eu bod yn cael y statws preswylio cywir.

Gwaith nodi a sicrhau

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn datgan mai nodi trethdalwyr Cymreig yw’r her allweddol i weinyddiaeth CThEF o CTIC. Nid oes set ddata bendant o drigolion Cymru i farnu llwyddiant yn ei herbyn, ond rydym yn hyderus yn ein gallu i nodi trethdalwyr Cymreig.

Nid yw’r boblogaeth yn sefydlog, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod tua 129,000 o bobl (na fydd pob un ohonynt yn drethdalwyr) yn symud dros y ffin bob blwyddyn: tua 69,000 yn symud o weddill y DU i Gymru a 60,000 yn symud i weddill y DU o Gymru. Mae hyn yn golygu bod y gwaith o nodi trethdalwyr Cymru yn broses barhaus, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y broses hon yn parhau’n gadarn.

Profi yn erbyn data trydydd parti

Yn 2021, buom yn gweithio gyda chyflenwr allanol i gynnal prawf yn erbyn data trydydd parti. Dyma lle mae data sydd gan CThEF am gyfeiriadau ar gyfer unigolion ledled y DU yn cael eu cymharu â data a ddelir gan drydydd partïon, er enghraifft y gofrestr etholiadol ac asiantaethau gwirio credyd. O dan ein trefniadau presennol gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnal prawf yn erbyn data bob yn ail flwyddyn.

Lle dangoswyd, ar yr olwg gyntaf, y gallai fod unigolion yn byw mewn rhanbarth gwahanol i’r hyn a gofnodwyd yn nata cyfeiriadau CThEF, fe wnaethom ysgrifennu at yr unigolion hyn yn gofyn iddynt sicrhau bod y cyfeiriad yr oedd gan CThEF ar eu cyfer yn gywir. Yn 2021, fe wnaethom ysgrifennu at tua 9,000 o unigolion.

Yn dilyn yr olwg gyntaf a gynhaliwyd gan ein cyflenwr, rydym yn cynnal ein dadansoddiad ein hunain o’r canlyniadau i asesu cywirdeb CThEF wrth nodi trethdalwyr Cymreig. Rydym yn cymharu cofnodion heb eu paru yn y sgan cychwynnol â’r cofnodion TWE a Hunanasesiad diweddaraf. Roedd dadansoddiad yn dilyn y sgan diweddaraf yn awgrymu bod y statws trethdalwr Cymreig cywir wedi’i gymhwyso mewn 98% i 99% o achosion. Nid yw’r 1% i 2% sy’n weddill o reidrwydd yn anghywir, ond nid ydynt wedi’u cadarnhau.

Mae achosion heb eu cadarnhau yn debygol o gael eu hachosi gan gyfrifon sydd wedi dod i ben neu gyfrifon anweithredol. O ganlyniad i hyn, nid oeddem yn gallu dod o hyd iddynt yn ein data ni. Felly, nid oes unrhyw risg i refeniw Treth Incwm Cymru o fethu â chadarnhau’r cofnodion hyn fel rhai Cymreig gan nad oes rhwymedigaeth Treth Incwm arnynt.

Mae’r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â’r dadansoddiad o ganlyniadau sganiau blaenorol, ac yn profi bod cywirdeb data cyfeiriadau CThEF yn parhau i fod yn uchel.

Diweddariadau data

Mae codau post a’r eiddo o fewn iddynt yn newid weithiau i adlewyrchu eiddo newydd sy’n cael eu codi ac eiddo presennol sy’n cael eu his-rannu. Mae CThEF yn cael diweddariadau chwarterol ynghylch codau post gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Bydd CThEF yn diweddaru ei brosesau ar gyfer tynnu sylw at breswyliaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau cywirdeb parhaus o ran codau post a’u statws preswylio.

Sganiau cod post

Mae CThEF yn cynnal sganiau i adnabod unrhyw faterion o ran ansawdd data ac er mwyn gwneud cywiriadau. Bydd wastad angen sicrhau ansawdd y data sy’n dod i’n llaw, ac nid yw hwn yn fater sy’n benodol i CTIC. Daw ein data cyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys unigolion, cyflogwyr ac adrannau eraill o’r llywodraeth. Nid oes unrhyw broblemau i’r mwyafrif helaeth o’r data cyfeiriadau a gofnodwyd ar ein systemau, fodd bynnag mae angen cywiro lleiafrif bach.

Mae CThEF yn dibynnu ar ddata o ffynonellau allanol er mwyn cwblhau ein cofnodion, ac mae problemau o ran ansawdd y data a gawn y tu hwnt i’n rheolaeth. Rydym yn defnyddio rhaglen waith i sicrhau bod unrhyw broblemau o ran data ar gyfer cofnodion trethdalwyr Cymreig yn cael eu nodi a’u cywiro, gan atal unrhyw golled mewn refeniw i Lywodraeth Cymru.

Mae’r sgan i sicrhau ansawdd ein data cyfeiriadau yn gweithredu mewn 2 ran:

  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â rhagddodiad cod post yng Nghymru, ond lle nad yw’r cod post wedi’i nodi ar restr CThEF o godau post yng Nghymru, sy’n fyw neu wedi’u dileu

  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â chod post gwag, ond sydd â gair allweddol yng nghorff y cyfeiriad sy’n dangos ei fod yn god post yng Nghymru, e.e. Caerdydd

Dyma ganlyniadau’r sgan hwn ar gyfer 2021 i 2022:

Math o wall    Cyflogaeth Pensiwn Newid o 2020 i 2021
Cod post annilys 1,365      4       -70.3%                  
Cod post gwag  1,660      178       +12.4%                  

Er bod cynnydd bach wedi bod yn nifer y codau post gwag, sy’n cynnwys gair allweddol Cymraeg, mae hyn yn parhau i fod yn ganran fach iawn o godau post Cymreig.

Cafodd pob achos lle’r oedd gan unigolyn naill ai gyflogaeth neu bensiwn ei gywiro i sicrhau bod y statws preswylio cywir yn cael ei gymhwyso am y flwyddyn. Mae hyn yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn colli unrhyw dreth o ganlyniad i broblemau o ran ansawdd y data.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hanfodol i’n hymdrechion i nodi trethdalwyr Cymreig yn gywir. Mae CThEF wedi parhau i ddefnyddio’r nifer enfawr o sianeli cyfathrebu presennol sydd ganddo gyda threthdalwyr a chyflogwyr i atgyfnerthu negeseuon allweddol am CTIC. Cyfathrebwyd â chwsmeriaid drwy sianeli sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar-lein, y Cyfrif Treth Personol, a’r Crynodebau Treth Blynyddol. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF pan fydd yn symud.

Mae CThEF wedi cyfathrebu â chyflogwyr drwy sianeli sy’n cynnwys Bwletin y Cyflogwr, Diweddariad i Asiantau, ymgysylltiad Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid â busnesau mawr a chyrff cyhoeddus, fforymau ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr ac asiantau’r gyflogres, GOV.UK a chyfryngau cymdeithasol ar-lein. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar atgoffa cyflogwyr o’r pwysigrwydd o ddefnyddio’r codau ‘C’ yn gywir, a anfonwyd atynt gan CThEF.

Sut mae cyflogwyr yn cymhwyso codau Cymreig

Caiff cod ei anfon at gyflogwr unigolyn, pan fydd CThEF yn nodi’r unigolyn dan sylw fel trethdalwr Cymreig yn y system TWE, ac mae’r cod hwn i’r cyflogwr ei weithredu. Mae pob cod treth ar gyfer trethdalwyr Cymreig yn cychwyn gydag ‘C’. Mae’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn gweithredu’r codau a anfonir atynt sydd yn cychwyn gydag ‘C’. Fodd bynnag, mae yna leiafrif bach o gyflogwyr yw’n gwneud hyn ac, yn lle, maent yn gweithredu fersiwn ’gweddill y DU’ o’r cod, heb y rhagddodiad ‘C’.

Mae unigolion yr effeithir arnynt gan y gwallau hyn yn dal i gael eu nodi fel trethdalwyr Cymreig gan CThEF, a thelir y swm cywir o dreth i Lywodraeth Cymru. Gan fod cyfraddau Cymru a gweddill y DU yr un fath, nid oes neb yn talu’r swm anghywir o dreth o ganlyniad i’r gwallau hyn. Byddai hyn yn newid pe bai gwahaniaeth i’w gael yn y cyfraddau, er y byddai cysoni diwedd blwyddyn yn sicrhau bod unrhyw ordaliadau neu dandaliadau yn cael eu cywiro.

Mae CThEF yn cynnig rhaglen waith i gefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau Cymreig, a roddir iddynt, yn gywir. Rydym yn cynnal sganiau rheolaidd i fonitro faint o gyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’. Dyma’r canlyniadau ar gyfer 2021 i 2022:

Mis % y cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’ Newid o 2020 i 2021
Ebrill 2021 2.59%                                   +0.12%                  
Gorffennaf 2021 2.02%                                   -0.88%                  
Hydref 2021 2.11%                                   -0.85%                  
Ionawr 2022 2.32%                                   -0.45%                  

Mae’r broblem o gyflogwyr yn peidio â chymhwyso’r codau a roddwyd iddynt gan CThEF yn mynd y tu hwnt i CTIC yn unig, ac mae nifer o resymau pam mae hyn yn digwydd. Mewn sawl achos, mae cyflogwyr yn methu â chymhwyso codau ‘C’ oherwydd gwall yn ymwneud â’r feddalwedd neu ddiweddariad coll.

Felly, mae ein dull o fynd i’r afael â’r rhagddodiaid ‘C’ sydd ar goll yn canolbwyntio ar atgoffa, addysgu a chefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau, a roddwyd iddynt, yn gywir. Lle nad yw hyn yn digwydd, rydym yn ailanfon codau at gyflogwyr i’w hysbysu o’r gwall a, lle bo’n bosibl pan fo cyflogwyr yn cael hyn yn anghywir dro ar ôl tro, rydym yn cysylltu â’r cyflogwr i ddeall pam a’u helpu i gael pethau’n iawn.

Mae’r dull hwn wedi llwyddo i leihau cyfradd y gwallau ar gyfer cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’ o tua 10% yn 2019 i 2020 i tua 2% yn 2021 i 2022. Dangosodd y sganiau a gynhaliwyd yn 2021 i 2022, yn y rhan fwyaf o fisoedd, fod cyfradd y gwallau yn is nag yr oedd yn yr un mis yn 2020 i 2021. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i sicrhau bod cyfradd y gwallau mor isel â phosibl.

Adran 2: Cydymffurfiad

Gwiriadau cydymffurfio i faterion treth trethdalwyr Cymreig

Mae CThEF yn asesu risgiau cydymffurfio ac yn cynnal gwiriadau i faterion treth trethdalwyr y DU, gan gynnwys trethdalwyr Cymreig.

Mae CThEF yn rhoi gweithgareddau cydymffurfio ar sail risg ar waith wrth gasglu CTIC yn yr un modd ag y gwnaiff wrth gasglu treth incwm oddi wrth drethdalwyr yng ngweddill y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliadau i gwsmeriaid Hunanasesiad yng Nghymru. Ni ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru am gostau ar gyfer y gweithgareddau hyn.

O ganlyniad i sut mae TWE, Hunanasesiad a deddfwriaeth treth yn rhyngweithio â’i gilydd, mae CThEF yn edrych ar risgiau dros nifer o flynyddoedd er mwyn cymryd y camau cydymffurfio mwyaf priodol.

Mae CTIC yn parhau ar yr un lefel â chyfraddau Lloegr a Gogledd Iwerddon, felly ar hyn o bryd nid oes risg o newid mewn ymddygiad trethdalwyr Cymreig.

Rhoi sicrwydd o gyfeiriadau

Mae CThEF yn monitro tueddiadau unigolion o ran mudo ar draws y ffin, boed yn unigolion Hunanasesiad neu TWE, drwy gymharu cwsmeriaid, dadansoddi Ffurflenni Treth a newidiadau i gyfrifon treth er mwyn nodi tystiolaeth bosibl o ymatebion ymddygiadol cwsmeriaid. Mae CThEF hefyd yn dilysu cywirdeb symudiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt a chyflawnder eu data cyfeiriadau. Bydd CThEF yn parhau â’i weithgareddau cyfathrebu â chwsmeriaid, gan atgyfnerthu angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF unwaith y bydd yn symud.

Taflu goleuni pellach

Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng CTIC a chyfraddau’r DU, felly nid yw CThEF yn disgwyl gweld newid mewn ymddygiad sy’n gysylltiedig â CTIC. Mae CThEF yn parhau i gynnal gweithgarwch cydymffurfio yn ymwneud â threthdalwyr Cymreig mewn meysydd ar wahân i CTIC. Os bydd y gwaith hwnnw’n dangos unrhyw dueddiadau o ran ymddygiad a allai hefyd fod yn berthnasol i sicrhau cydymffurfiad â CTIC, byddwn yn eu hystyried yn y dyfodol.

Unigolion cyfoethog

Mae CThEF yn parhau i ddefnyddio’r model presennol ar gyfer Rheoli Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM), a dulliau eraill o ryngweithio â chwsmeriaid cyfoethog, i godi ymwybyddiaeth, addysgu cwsmeriaid am eu hymrwymiadau CTIC ac asesu risg gydymffurfio sy’n gysylltiedig â chamliwio statws trethdalwyr Cymreig neu danddatgan incwm sy’n agored i CTIC.

Adran 3: Pennu cyfraddau a llunio rhagolygon ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Ers i gyfraddau CTIC gael eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2019, mae CThEF wedi parhau i weinyddu a chasglu Treth Incwm gan drethdalwyr Cymreig fel rhan o system dreth y DU. Mae’n talu refeniw CTIC i mewn i Gronfa Gyfunol y DU yn yr un modd ag ar gyfer pob treth arall a dderbynnir. Caiff y refeniw ei drosglwyddo wedyn i Lywodraeth Cymru, a chaiff grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ei ostwng yn unol â hynny, gan adlewyrchu ei phwerau codi refeniw.

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd CThEF Ystadegau Alldro o ran CTIC, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth a ddangosir yng nghyfrifon CThEF, dadansoddiadau pellach o CTIC a gwybodaeth gyfatebol ar gyfer trethdalwyr yng ngweddill y DU. Cyfrifir yr alldro ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, sy’n golygu bod oedi rhwng diwedd y flwyddyn dreth a chyhoeddi’r alldro ar gyfer y flwyddyn honno. Ni fydd alldro 2021 i 2022 yn cael ei gyhoeddi tan 2023.

Alldro CTIC 2020 i 2021

Ar gyfer 2020 i 2021, roedd cyfanswm refeniw Treth Incwm o drethdalwyr Cymreig yn £4.896 biliwn, gan gynnwys refeniw CTIC o £2.140 biliwn a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’r tabl cyntaf isod yn dangos cyfanswm y refeniw o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau (NSND) ar gyfer trethdalwyr Cymreig ac ar gyfer gweddill y DU (gwDU, gan gynrychioli Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn 2020 i 2021. Mae’r ail dabl isod yn dangos refeniw CTIC a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru o Dreth Incwm ar incwm NSND trethdalwyr Cymreig ac yn cymharu hyn â threthdalwyr gweddill y DU yn 2020 i 2021 (er enghraifft, 10c ar y gyfradd sylfaenol, 10c ar y gyfradd uwch, a 10c ar y gyfradd ychwanegol). Mae’r tablau hefyd yn dangos elfennau’r ffigurau.

Cyfanswm refeniw Treth Incwm o Incwm NSND Trethdalwyr Cymreig a di-Gymreig yn 2020 i 2021

NSND Cymreig (£bn) NSND gwDU (£bn)
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad                               1.799          94.068
Rhwymedigaeth sefydledig TWE                               3.153          68.761
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig                               0.129          5.461
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu          (-0.051)         (1.694)
Rhyddhad wrth y ffynhonnell                                    (-0.076)         (1.841)
Rhodd Cymorth                                            (-0.058)         (1.294)
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021                4.896         163.460

CTIC yn 2020 i 2021 yn erbyn Treth Incwm NSND gwDU

NSND Cymreig (£bn) NSND rUK (£bn)
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad                               0.674          29.189
Rhwymedigaeth sefydledig TWE                               1.503          31.849
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig                               0.053          1.894
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu          (0.023)         (0.692)
Rhyddhad wrth y ffynhonnell                                    (0.038)         (0.921)
Rhodd Cymorth                                            (0.029)         (0.647)
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 2.140 60.672

Mae’r oedi wrth gadarnhau swm y CTIC alldro gwirioneddol ar gyfer 2020 i 2021 o ganlyniad i’r prosesau TWE a Hunanasesiad. Er mwyn gweinyddu TWE i drethdalwyr, mae CThEF yn cynnal gwaith cysoni diwedd blwyddyn i asesu a yw unigolion wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon ohoni mewn unrhyw flwyddyn dreth. Yn yr un modd, nid yw’n ofynnol i drethdalwyr gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein i CThEF tan 10 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’r rhain yn berthnasol iddynt.

Mae CThEF wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwaith cytûn. Mae hwn yn manylu ar y dadansoddi a’r data y bydd CThEF yn eu darparu i Lywodraeth Cymru i’w chefnogi yn ei gwaith dadansoddi. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod blaenoriaethau newydd yn cael eu trafod a’u hystyried yn erbyn ymrwymiadau presennol. Fel rhan o hyn, mae’r ddwy ochr wedi cytuno ar ba wybodaeth newydd a fyddai’n ddefnyddiol i’w helpu i ddarparu gwell ddealltwriaeth o alldro CTIC.

Mae CThEF yn rhoi data perthnasol i Lywodraeth Cymru am CTIC. Ar lefel y DU, cyflawnir y tasgau hyn gan ddefnyddio Arolwg o Incwm Personol (SPI).

Mae’r SPI yn cael ei lunio i ddarparu sylfaen dystiolaeth fesuradwy y gellir costio newidiadau arfaethedig i gyfraddau treth, lwfansau personol a rhyddhadau treth eraill ar gyfer Gweinidogion y Trysorlys. Fe’i defnyddir i helpu i lywio penderfyniadau polisi o fewn CThEF a’r Trysorlys, yn ogystal ag at ddibenion modelu a rhagolygu treth.

Mae’r SPI yn seiliedig ar wybodaeth a ddelir gan CThEF am unigolion a allai fod yn agored i dreth y DU. Caiff ei gynnal yn flynyddol gan CThEF ac mae’n cwmpasu incwm sy’n agored i gael ei asesu am dreth bob blwyddyn dreth. Nid yw pob un o’r unigolion yn drethdalwyr oherwydd gall gweithredu rhyddhadau a lwfansau personol eu heithrio rhag bod yn agored i dreth. Pan fo incwm yn fwy na’r trothwy ar gyfer gweithredu TWE, mae’r arolwg yn rhoi ffynhonnell swyddogol, fwyaf cynhwysfawr a chywir y data ar incwm personol.

Mae CThEF yn rhoi copi diweddar o set ddata SPI  i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Roedd y copi hwn union yr un fath â’r hyn a ddefnyddiwyd, at ddibenion tebyg, ar lefel y DU, ac eithrio cyfuno ychydig bach o ddata trethdalwyr ar y lefelau incwm uchaf er mwyn osgoi unrhyw doriadau posibl o gyfrinachedd y trethdalwr. Mae CThEF yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod yr wybodaeth yn bodloni eu gofynion ac yn cefnogi rhagolygon a phennu cyfraddau ar gyfer Cymru.

O 2019 i 2020, wrth gyflwyno CTIC, bu gostyngiad yng ngrant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyfateb i 10 pwynt canrannol o bob cyfradd dreth o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau gan drethdalwyr Cymreig, a bod hyn wedi’i gynyddu gan ddefnyddio’r mecanwaith a nodir yn y fframwaith cyllidol a gytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU arno ym mis Rhagfyr 2016.

Bob blwyddyn, bydd y derbyniadau treth a gynhyrchir a’r didyniad o’r grant bloc yn seiliedig i ddechrau ar ragolwg ac yna fe’u cysonir â derbyniadau go iawn a gasglir a ddaw yn hysbys tua 15 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol sydd dan sylw.

Mae’n rhaid i CThEF roi data digonol i Lywodraeth Cymru allu cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian sy’n gysylltiedig ag unrhyw newid rhwng symiau CTIC a ragolygwyd a’r symiau a gasglwyd. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae CThEF wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i roi ffigurau CTIC o’r data Gwybodaeth Amser Real (RTI) a gafwyd gan gyflogwyr. Dyma’r dangosydd gorau o dueddiadau mewn rhwymedigaethau Treth Incwm sydd ar gael mewn amser real, ond nid yw’n darlun cyflawn o rwymedigaethau Treth Incwm am ei fod yn eithrio treth a delir drwy Hunanasesiad (a rhai addasiadau a wneir i rwymedigaethau TWE) ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae CThEF yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn darparu’r dadansoddiad gofynnol iddynt. Cyflawnodd CThEF amrywiaeth o allbynnau dadansoddol ar CTIC i Lywodraeth Cymru yn 2021 i 2022, gan gynnwys:

Adran 4: Gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid

Mae CThEF yn gweinyddu CTIC fel rhan o system Treth Incwm y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig, felly, yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu.

Cesglir CTIC drwy brosesau TWE a Hunanasesiad presennol sydd wedi’u haddasu i adlewyrchu cyfraddau CTIC. Mae trethdalwyr Cymreig yn gallu defnyddio arweiniad a sianeli cyswllt cwsmeriaid arferol CThEF i gael cyngor a gwybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o feysydd, bydd gwasanaeth i gwsmeriaid a roddir i drethdalwyr Cymreig yn cael ei gynnwys a’i adrodd yn yr hyn y mae CThEF yn ei adrodd am wasanaethau i gwsmeriaid ar draws y DU.

Mae’r gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gefnogaeth ar gyfer trethdalwyr Cymreig, asiantau a chyflogwyr y mae CThEF wedi’u gwneud yn rhan o’i brosesau presennol yn cynnwys y canlynol:

  • darparu codau treth Cymreig i holl drethdalwyr Cymreig a’u cyflogwyr cyn dechrau’r flwyddyn dreth

  • diweddaru cyfrifianellau ar-lein cyn dechrau’r flwyddyn dreth gyda chyfraddau CTIC a bennwyd gan y Senedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir i drethdalwyr Cymreig

  • arweiniad ar gyfer darparwyr meddalwedd gyflogres ar sut i wneud cyfraddau Cymreig yn rhan o’u cynhyrchion TWE i gyflogwyr

  • arweiniad ar sut mae penderfynu ar statws trethdalwr Cymreig a’r hyn i’w wneud os ydych o’r farn bod CThEF wedi nodi eich statws yn anghywir

  • annog cwsmeriaid i ddiweddaru eu manylion personol, gan ganolbwyntio ar ddefnydd o’r Cyfrif Treth Personol

  • anfon tablau treth ar bapur, sy’n adlewyrchu cyfraddau Cymru, at gyflogwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol cyn dechrau’r flwyddyn dreth

Mae rhai agweddau ar wasanaeth cwsmeriaid yn benodol i CTIC, er enghraifft, canllawiau ar statws trethdalwyr Cymreig a’r gallu i drafod â CThEF os ydych yn anghytuno â’r statws man preswylio Cymreig a roddwyd i chi.

Mae’n bwysig bod CThEF yn gallu dangos bod ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y meysydd hyn yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddarparu ar draws y DU gyfan. Felly, mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo CThEF i gasglu ac adrodd am fetrigau allweddol o ran cyswllt cwsmeriaid, sy’n benodol i CTIC. Mae’r metrigau allweddol ar gyfer 2021 i 2022 wedi’u hamlinellu yn yr Atodiad o’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol.

Gwasanaeth Cymraeg

Mae gan CThEF wasanaeth Cymraeg sydd wedi’i hen sefydlu, ers dros 30 mlynedd, ac sy’n cael ei ddarparu o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cyflogir tua 32 o staff amser llawn ar gyfer gwaith yn y Gymraeg.

Mae CThEF yn darparuʼr rhan fwyaf oʼi wasanaethau Cymraeg drwy 2 dîm penodedig o siaradwyr Cymraeg – mae un ym Mhorthmadog aʼr llall yng Nghaerdydd. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaethau cyfieithu, yn ogystal â helpu adrannau eraill yn CThEF gyda materion syʼn ymwneud âʼr Gymraeg. Mae hefyd uwch-reolwr dynodedig dros yr iaith Gymraeg sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’r uwch-reolwr hwn yn Gymraeg ei iaith, a hwythau yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn CThEF.

Cefnogir cymorth CTIC i gwsmeriaid Cymraeg gan y ddau dîm mewn amryw o ffyrdd. Mae CThEF hefyd yn cynnig opsiwn gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid o’r brif linell gymorth Treth Incwm. Mae CThEF yn cael tua 20,000 o alwadau bob blwyddyn gan gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ar draws pob un o’n gwasanaethau cwsmeriaid.

Adran 5: Llywodraethu a goruchwylio

Trefniadau llywodraethu

Mae’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith ar gyfer gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn diwallu anghenion Llywodraeth Cymru. Mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn cael ei llywodraethu ar y cyd gan CThEF a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio’n agos gyda hi i sicrhau bod digon o arolygiaeth o’n gweinyddiaeth o CTIC.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA)

Mae ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth â Llywodraeth Cymru yn nodi rhwymedigaethau CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC, a’r mesurau perfformiad ar gyfer monitro hyn. Mae hyn yn sicrhau bod trethdalwyr Cymreig yn cael gwasanaeth o ansawdd cyson ac mae’n galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i fodloni eu priod gyfrifoldebau.

Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn cael ei adolygu’n flynyddol gan CThEF a Llywodraeth Cymru. Dim ond mân newidiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022. Roedd hyn yn cynnwys ychwanegu ymrwymiad ar welliant parhaus, gan nodi y bydd CThEF yn sicrhau, yn unol â’i arferion, y bydd gwelliannau i’w brosesau a’i weithdrefnau ar gyfer gweinyddu CTIC yn cael eu rhoi ar waith lle bo hynny’n bosibl ac yn gost-effeithiol.

Mae llofnodwyr y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn CThEF a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i adolygu cynnydd CThEF o ran gweinyddu CTIC.

Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru 

Mae’r Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cyfarfod bob chwarter i adolygu gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o CThEF a Llywodraeth Cymru. Daw’r aelodau o feysydd ar draws CThEF sydd â rhan allweddol i’w chwarae yn ein gweinyddiaeth o CTIC. Rhennir cyfrifoldebau cadeirio rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru.

Rhwng 2021 a 2022, trafododd Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Roedd hyn yn cynnwys cymeradwyo’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r alldro Cymreig ar gyfer 2020 i 2021, cymeradwyo’r costau i’w hailgodi ar Lywodraeth Cymru, cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, ac adolygu’r Cynllun Cydymffurfiaeth ar gyfer 2021 i 2022.

Oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19), yn ystod 2021 i 2022 cynhaliwyd holl gyfarfodydd Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn rhithiol. Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd bob yn ail rhwng Llundain a Chaerdydd.

Gweithgor Dadansoddol Datganoledig

Mae’r Gweithgor Dadansoddol Datganoledig yn cynnwys cynrychiolwyr o CThEF, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban.

Mae’r gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn trafod, ymhlith pethau eraill, y fethodoleg y mae CThEF yn ei defnyddio i gyfrifo alldro cyfraddau treth incwm Cymru, a gwaith dadansoddol arall a wneir gan CThEF i Lywodraeth Cymru.

Trefniadau ariannol

O dan y Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu CThEF am unrhyw gostau net ychwanegol yr eir iddynt, yn gyfan gwbl ac o anghenraid, o ganlyniad i weinyddu pwerau CTIC.

Mae gan CThEF broses gadarn ar waith i sicrhau ein bod yn nodi costau gweinyddu CTIC yn gywir. Rydym yn sicrhau ein bod yn darparu digon o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru fel y gall Llywodraeth Cymru fod yn sicr ynghylch cywirdeb y costau sydd i’w hailgodi.

Fel rhan o’r broses hon, mae gennym y Fframwaith Costau y Gellir Ailgodi Tâl Amdanynt ar waith i nodi ein dull o weithredu a’n rhwymedigaethau ar gyfer ailgodi costau ar Lywodraeth Cymru. Mae hwn wedi’i atodi i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ac yn cael ei adolygu bob blwyddyn.

Rydym yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru bob mis i sicrhau ei bod yn gweld y costau sydd i’w hailgodi – ac mae hyn yn digwydd bob chwarter. Dim ond pan fydd Bwrdd Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn fodlon bod y costau’n gywir y bydd anfoneb yn cael ei chodi.

Yn 2021 i 2022, y costau a ailgodwyd ar Lywodraeth Cymru gan CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC oedd:

Chwarter 1 (£m) Chwarter 2 (£m) Chwarter 3 (£m) Chwarter 4 (£m) Blwyddyn gyfan (£m)
Costau cyflawni a gweithredu           0.09            0.10            0.10            0.16            0.44

Mae CThEF yn ailgodi costau cyflawni a chostau gweithredu CTIC. Costau cyflawni oedd costau cychwynnol sefydlu gweinyddiaeth CThEF o CTIC, a chostau gweithredu yw costau dydd i ddydd y weinyddiaeth hon.

Mae’r siartiau isod yn dangos costau hanesyddol cyflawni a gweithredu CTIC sydd wedi’u hailgodi ar Lywodraeth Cymru, a sut mae costau cyflawni wedi lleihau dros amser. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau pellach i CTIC, mae’n debygol y byddai costau cyflawni pellach.

                                                                    2017 i 2018 (£m) 2018 i 2019 (£m) 2019 i 2020 (£m) 2020 i 2021 (£m) 2021 i 2022 (£m)
Costau cyflawni                                                              0.29               5.44 1.77                            0.19                Amherthnasol
Costau gweithredu                                                                   Amherthnasol                Amherthnasol 0.23                            0.53               0.44
Cyfanswm y gost o gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol               0.34               5.80 1.60                            0.72               0.44

Sylwer: Ar gyfer ‘cyfanswm y gost o gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol’, efallai nad yw’r ffigurau yn dangos union swm y costau cyflawni a gweithredu oherwydd amserlenni anfonebu.

Archwiliad allanol

Yn ogystal â’r strwythur llywodraethu mewnol y cytunwyd arno gan CThEF a Llywodraeth Cymru, mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC hefyd yn cael ei goruchwylio gan sawl corff allanol.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO)

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio gweinyddiaeth CThEF o CTIC bob blwyddyn. Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hadroddiad ar berfformiad CThEF yn 2020 i 2021. Gwnaeth yr adroddiad ganfod bod gan CThEF reolau a gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau bod CTIC yn cael eu hasesu a’u casglu’n briodol, a’u bod yn cydymffurfio â’r rheolau hynny.

Ni wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol unrhyw argymhellion ar gyfer gwella, ac mae eu hasesiad cadarnhaol o weinyddiaeth CThEF o CTIC yn rhoi sicrwydd i ni ein bod ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn cynnal gwasanaeth o lefel uchel i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymreig.

Disgwyliwyd i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weinyddiaeth CThEF o CTIC yn 2021 i 2022 gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2023.

Senedd Cymru

Mae CThEF yn gweinyddu CTIC ar ran Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn atebol i’r Senedd am ein perfformiad. Fel rhan o’r gwaith o roi CTIC ar waith, penododd CThEF Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol (SCY), sydd ar gael i roi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd. Yr SCY presennol yw Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid.

Atodiad: Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol 2021 i 2022

Cyswllt â chwsmeriaid – dros y ffôn

Mae gan CThEF lwybr ffôn CTIC o fewn llinell gymorth Treth Bersonol CThEF. Mae hyn yn rhoi negeseuon cyffredinol wedi’u recordio i gwsmeriaid ar CTIC cyn iddynt siarad ag Ymgynghorydd Cwsmeriaid CThEF. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r holl alwadau gan drethdalwyr Cymreig i CThEF.

Mis Galwadau a gafwyd yn 2021 i 2022 Galwadau a gafwyd yn 2020 i 2021 Galwadau a gafwyd yn 2019 i 2020 Galwadau a atebwyd yn 2021 i 2022 Galwadau a atebwyd yn 2020 i 2021 Galwadau a atebwyd yn 2019 i 2020
Ebrill 2021 Amherthnasol 6 0 Amherthnasol 3 0  
Mai 2021 Amherthnasol 6 0 Amherthnasol 2 0  
Mehefin 2021 Amherthnasol 6 0 Amherthnasol 5 0  
Gorffennaf 2021 8 12 0 4 11 0  
Awst 2021 10 9 0 9 6 0  
Medi 2021 11 11 1 8 11 1  
Hydref 2021 12 8 1 10 8 1  
Tachwedd 2021 13 10 1 10 4 1  
Rhagfyr 2021 11 16 0 11 13 0  
Ionawr 2022 10 15 0 5 6 0  
Chwefror 2022 3 9 0 2 6 0  
Mawrth 2022 14 12 0 11 8 0  
Cyfanswm 92 120 3 70 83 3  

Cyswllt â chwsmeriaid – cwynion

Mae CThEF yn olrhain pob cwyn gan gwsmeriaid CTIC er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu o fewn targedau gwasanaethau cwsmeriaid CThEF. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli pob cwyn sydd wedi dod i law gan drethdalwyr Cymreig.

Mis Cwynion yn 2021 i 2022 Cwynion yn 2020 i 2021 Cwynion yn 2019 i 2020 Cyrraedd y targed o 15 diwrnod (80%) yn 2021 i 2022 Cyrraedd y targed o 15 diwrnod (80%) yn 2020 i 2021 Cyrraedd y targed o 15 diwrnod (80%) yn 2019 i 2020
Ebrill                                0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Mai                                    0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Mehefin                                  0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Gorffennaf                                 0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Awst                                0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Medi                         0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Hydref                           0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Tachwedd                      0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Rhagfyr                         0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Ionawr                        0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Chwefror                        0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Mawrth                               0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol
Cyfanswm                         0                              0                              0                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol                                         Amherthnasol

Chwiliadau ar y we

Mae gan CThEF nifer o dudalennau gwe sy’n ymwneud â CTIC sy’n cael eu cynnal ar GOV.UK. Caiff chwiliadau am y tudalennau hyn eu monitro.

Treth Incwm Cymru

Mis     Chwiliadau yn 2021 i 2022 Chwiliadau yn 2020 i 2021 Chwiliadau yn 2019 i 2020
Ebrill                     4,365                 5,221                12,147
Mai                       3,271                 4,147                 8,258
Mehefin                      3,031                 3,180                 5,791
Gorffennaf                      3,274                 3,180                 5,530
Awst                    2,509                 2,804                 5,010
Medi                 2,681                 2,837                 4,723
Hydref                   2,681                 3,544                 5,129
Tachwedd                  2,848                3,204                 5,103
Rhagfyr                  3,044                 2,546                 3,220
Ionawr                   4,085                 3,709                 2,864
Chwefror                  3,690                 4,692                 3,369
Mawrth                     4,348                 4,273                 3,370
Cyfanswm                    39,827                43,337                64,514

Llawlyfrau mewnol CThEF – Canllawiau technegol i drethdalwyr Cymreig

Mis     Chwiliadau yn 2021 i 2022 Chwiliadau yn 2020 i 2021 Chwiliadau yn 2019 i 2020
Ebrill 24 52 134
Mai 30 23 54
Mehefin   11 10 56
Gorffennaf     10 46 76
Awst   9 12 53
Medi                    17                    37                    32
Hydref                      17                    10                    46
Tachwedd                     10                    11                    42
Rhagfyr                     18                    10                    25
Ionawr                      13                    39                    18
Chwefror                      7                    20                    49
Mawrth                        12                    13                    27
Cyfanswm                       178                   283                   612

Rhoi gwybod i CThEF am newid manylion

Mis     Chwiliadau yn 2021 i 2022 Chwiliadau yn 2020 i 2021 Chwiliadau yn 2019 i 2020
Ebrill               134,454               137,097               180,209
Mai                     103,601               132,396               179,413
Mehefin             102,811               116,678               149,142
Gorffennaf           107,504               112,211               169,000
Awst               110,006               107,018               165,589
Medi            114,398               109,312               161,188
Hydref             111,290               117,571               161,645
Tachwedd         110,711               130,252               142,601
Rhagfyr         85,393               108,887                93,810
Ionawr            123,294               147,275               109,261
Chwefror         108,787               142,721               101,372
Mawrth                119,818               169,290               113,309
Cyfanswm           1,332,067             1,530,708             1,726,539