Skip to main content
Data tryloywder

Cofnodion cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - 9 Gorffennaf 2026

Diweddarwyd 8 Hydref 2026

Yn berthnasol i Gymru

Yn bresennol

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol

  • Dr Rhian Hayward, MBE, Cadeirydd
  • Georgia Taylor
  • Helen Taylor
  • John Williams
  • Dave Holland
  • John Richards
  • Ifan Lloyd
  • Lindsay Horth

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol

  • Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
  • Peter Quigley, Cyfarwyddwr newydd yr ASB yng Nghymru
  • Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
  • Lucy Edwards – Uwch-reolwr Busnes
  • Christie O’Keefe – Rheolwr Busnes
  • Sarah Aza – Pennaeth Gwaith Gweithredu
  • Jonathan Davies – Pennaeth Strategaeth
  • Chun-Han Chan – Pennaeth Diogelu Defnyddwyr

Cyflwynwyr

  • Reginald Bevan – Dirprwy Bennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU)
  • Andy Bartram – Uwch-ddadansoddwr Cudd-wybodaeth, NFCU
  • Simon Ashwin – Uwch-ymchwilydd, NFCU

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, a chofnodion y cyfarfod diwethaf

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Mai 2026.

Datgan buddiannau

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.

Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU)

Rhoddodd Reginald Bevan drosolwg o’r NFCU, gan esbonio ei rôl, ei chylch gwaith a’i blaenoriaethau gweithredol. Esboniodd fod yr Uned wedi dechrau yn 2016 fel tîm cudd-wybodaeth bach yn sgil y sgandal cig ceffyl ac Adolygiad Elliott a ddaeth wedi hynny. Ym mis Ebrill 2020, ehangwyd rôl yr Uned i gynnwys mwy o waith gorfodi. Esboniodd fod gan yr NFCU tua 82 o staff erbyn hyn, wedi’u rhannu’n fras rhwng gwaith cudd-wybodaeth ac ymchwiliadau. Disgrifiodd hefyd gefndiroedd proffesiynol amrywiol aelodau’r tîm, gyda staff yn dod o feysydd fel yr heddlu, awdurdodau lleol, gwaith arolygu cig a mathau eraill o waith gorfodi.

Rhannodd fwy o fanylion am alluoedd yr NFCU, gan gynnwys defnyddio canolfannau cudd-wybodaeth, swyddogion cudd-wybodaeth rhanbarthol a ffynonellau dynol cyfrinachol. Esboniodd hefyd fod gan yr NFCU fynediad at rai pwerau gwyliadwriaeth gudd o dan RIPA, yn ogystal â’r gallu i gynnal ymchwiliadau ariannol a threfniadau i rannu gwybodaeth â’r heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill. Pwysleisiodd Reg nad oes gan yr NFCU holl bwerau’r heddlu, fel y pŵer i arestio. O ganlyniad, mae’r Uned yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac awdurdodau eraill pan fydd angen camau gorfodi troseddol pellach.

Cyflwynodd Andy Bartram wybodaeth am sut mae’r NFCU yn datblygu ei strategaeth reoli flynyddol. Esboniodd fod yr Uned yn defnyddio fframwaith tebyg i’r un a ddefnyddir gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith, sy’n seiliedig ar y camau o fynd ar drywydd, atal, diogelu a pharatoi neu’r “4Ps” (‘pursue, prevent, protect and prepare’) yn Saesneg. Mewn rhai achosion, defnyddir model “3P”, lle nad yw mynd ar drywydd (‘pursue’) yn rhan o gylch gwaith yr NFCU. Pwysleisiodd nad rhestr o bynciau yn unig yw’r strategaeth reoli. Mae’n ffordd i’r Uned flaenoriaethu bygythiadau, mynd i’r afael â bylchau mewn cudd-wybodaeth ac arwain gwaith gweithredol.

Disgrifiodd sut mae’r Uned yn casglu cudd-wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ei systemau ei hun, cronfeydd data cudd-wybodaeth awdurdodau lleol, methiannau gwaith samplu, gwaith sganio’r gorwel, a thrwy gydweithio â sefydliadau partner. Esboniodd fod blaenoriaethau blaenorol a phresennol yr Uned wedi cynnwys olewau bwytadwy, mêl, cynhyrchion â dynodiad gwarchodedig a dynodiad daearyddol, risgiau o ran difwyno ac amnewid cynhyrchion, a materion yn ymwneud â chamgyfleu sy’n anodd eu canfod drwy brofion yn unig. Pwysleisiodd hefyd nad yw’r Uned yn anghofio am bynciau nad ydynt bellach yn flaenoriaethau eleni. Maent yn parhau i gael eu hadolygu, a gellir eu hailgyflwyno fel blaenoriaethau os bydd tystiolaeth newydd yn cyfiawnhau gwneud hynny.

Holodd aelodau’r Pwyllgor yn fanylach ynghylch sail y darlun cudd-wybodaeth, yn enwedig y data gwyliadwriaeth a samplu sy’n sail i’r asesiadau o risgiau nwyddau.  Mewn ymateb, esboniodd yr NFCU a’r ASB yng Nghymru fod pob sampl sy’n methu profion yr ASB yn cael eu huwchlwytho i’r systemau perthnasol, ac yn gallu helpu i bennu blaenoriaethau yn y dyfodol. Nodwyd hefyd fod cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer gwaith samplu ychwanegol ym maes safonau bwyd, a bod yr NFCU a chydweithwyr samplu yn trafod yn rheolaidd lle y byddai gwaith wedi’i dargedu yn ddefnyddiol.

Cyflwynodd Simon Ashwin ddwy astudiaeth achos a oedd yn dangos maint a chymhlethdod troseddau bwyd sydd wedi’u cymell gan elw ariannol. Roedd yr astudiaeth achos gyntaf yn ymwneud â lladd anifeiliaid yn anghyfreithlon, prosesu cynhyrchion cig a’u dosbarthu drwy rwydwaith a oedd yn ymestyn o lwybrau cyflenwi gwledig i farchnadoedd trefol. Amlygodd yr achos bryderon difrifol ynghylch hylendid, lles anifeiliaid, olrheiniadwyedd, iechyd y cyhoedd a throseddau cyfundrefnol. Roedd yr ail astudiaeth achos yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a oedd wedi’u dynodi fel rhai nad oeddent i’w bwyta gan bobl, ond a oedd wedi cael eu dargyfeirio yn ôl i’r gadwyn fwyd drwy ddulliau prosesu a dosbarthu anghyfreithlon. Dangosodd y ddwy astudiaeth achos bwysigrwydd dadansoddi data ffôn, gwaith olrheiniadwyedd, cydweithio â’r diwydiant a rhwng gwahanol asiantaethau er mwyn canfod gweithgarwch troseddol, tarfu ar gadwyni cyflenwi a chymryd camau gorfodi llwyddiannus. Pwysleisiodd y drafodaeth hefyd fod ymchwiliadau o’r fath yn aml yn datgelu rhwydweithiau ehangach a chymhellion ariannol parhaus yn y farchnad. Felly, mae’n hanfodol bod yr NFCU, awdurdodau lleol, y diwydiant a phartneriaid eraill yn parhau i rannu cudd-wybodaeth.

Trafodaeth WFAC – Trafododd aelodau’r Pwyllgor sut mae risgiau troseddau bwyd yn cael eu nodi a’u blaenoriaethu, gan geisio deall yn well y ffynonellau cudd-wybodaeth, y gwaith gwyliadwriaeth a’r data samplu sy’n sail i asesiad yr NFCU o fygythiadau sy’n dod i’r amlwg. Trafododd yr aelodau yr heriau o ran canfod rhai mathau o dwyll bwyd, yn enwedig pan nad yw’n hawdd gwirio honiadau am darddiad cynnyrch, statws sicrwydd neu ddynodiad crefyddol drwy brofion arferol yn unig. Tynnodd y drafodaeth sylw at bwysigrwydd defnyddio amrywiaeth o ffynonellau cudd-wybodaeth, ynghyd ag arbenigedd rheoleiddwyr a’r diwydiant, er mwyn cael darlun mwy cyflawn o’r risgiau posib.

Bu’r aelodau hefyd yn trafod eu profiadau eu hunain o weithio gyda’r NFCU, gan groesawu dull cydweithredol yr Uned o atal troseddau ac ymgysylltu. Rhannwyd enghreifftiau cadarnhaol o waith ymgysylltu â busnesau bwyd yng Nghymru, cyrff y diwydiant ac awdurdodau lleol. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o risgiau troseddau bwyd a chryfhau gwydnwch ar draws cadwyni cyflenwi bwyd. Roedd cytundeb cyffredinol bod rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng rheoleiddwyr, y diwydiant a phartneriaid gorfodi yn parhau’n hanfodol er mwyn nodi pryderon yn gynnar ac atal gweithgarwch troseddol rhag ymwreiddio.

Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb arbennig mewn materion sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys cudd-wybodaeth yn ymwneud â lladd defaid yn anghyfreithlon a chynhyrchu “smokies”. Gwnaeth yr aelodau drafod pwysigrwydd cudd-wybodaeth leol ac ystyried sut y gall gwybodaeth o fewn cymunedau gwledig, rhwydweithiau ffermio a chadwyni cyflenwi helpu i gefnogi gwaith gorfodi. Amlygodd y drafodaeth hefyd yr angen i’r NFCU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a phartneriaid yn y diwydiant barhau i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg a chryfhau’r trefniadau ar gyfer diogelu defnyddwyr.

Holodd yr aelodau sut roedd yr Uned yn addasu i heriau newydd, gan gynnwys y cynnydd o ran cudd-wybodaeth, dulliau troseddol sy’n newid a thechnolegau newydd. Trafodwyd y cyfleoedd a’r cyfyngiadau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data, yn enwedig i nodi patrymau anarferol mewn cadwyni cyflenwi a data ar symudiadau anifeiliaid. Er bod yr aelodau’n cydnabod potensial technolegau newydd, nodwyd bod casglu cudd-wybodaeth yn effeithiol yn parhau i ddibynnu’n helaeth ar wybodaeth gan fusnesau, rheoleiddwyr, partneriaid a’r cyhoedd.

Daeth y drafodaeth i ben drwy ystyried yr heriau tymor hwy sy’n wynebu gwaith gorfodi ym maes troseddau bwyd. Roedd y rhain yn cynnwys pwysau ar adnoddau ar draws y system reoleiddio, cymhlethdod cadwyni cyflenwi modern a phwysigrwydd cynnal partneriaethau cryf ar draws gwahanol sectorau. Croesawodd yr aelodau y mewnwelediadau a rannwyd gan yr NFCU a chytunwyd bod angen dull cydgysylltiedig o fynd i’r afael â throseddau bwyd sy’n cyfuno cudd-wybodaeth, gwaith atal, addysg a gorfodi er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Diweddariad y Cadeirydd

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar lafar ar gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Newcastle, yn ogystal â diweddariad ar weithgarwch ymgysylltu diweddar mewn perthynas ag alergenau a chyfarfodydd gyda chydweithwyr o Gyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru) (DPPW) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 26/07/02)

Cyflwynodd Sian Bowsley ei phapur olaf fel Cyfarwyddwr Cymru a chyflwynodd Peter Quigley fel ei holynydd.Wrth edrych yn ôl ar ei hugain mis yn y swydd, canmolodd Sian ymrwymiad cydweithwyr, awdurdodau lleol, rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Tynnodd sylw at benodiad Nerys Evans yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, cynlluniau i ymgysylltu â gweinidogion yn y Sioe Frenhinol, a gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar ei chynllun bwyd newydd a’i hymrwymiadau ar gyfer ei 100 diwrnod cyntaf.

Unrhyw fater arall

Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod â thema nesaf yn cael ei gynnal ar 22 Hydref 2026.

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.