Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Cynllun Gweithredu diweddaraf ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 

Cyhoeddwyd 1 Medi 2026

Yn berthnasol i Gymru

Cynllun Gweithredu diweddaraf ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf  

Dyddiad yr archwiliad: 11 – 15 Ebrill 2016 

Dyddiad yr ailarchwiliad: 9 – 11 Chwefror 2026

Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) Statws Cynnydd hyd yma Beth sy’n weddill?
3.24 (i) Sicrhau bod Cynlluniau Gwasanaeth y dyfodol ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd yn cael eu datblygu yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaeth yn y Cytundeb Fframwaith. Yn benodol, dylai roi amcangyfrif o’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaethau yn erbyn y rheiny sydd ar gael. Hefyd, dylai sicrhau bod amrywiadau sy’n ymwneud ag ymyriadau mewn sefydliadau newydd o ran safonau bwyd, o risg is a chanolig, yn cael eu nodi yn y cynllun gwasanaeth. Dylai hefyd sicrhau bod y gwelliannau’n cynnwys camau i fynd i’r afael ag amrywiadau mewn busnesau hylendid bwyd newydd sy’n cyrraedd y targed. [Y Safon – 3.1] Cynnydd da. Mae rhaglenni ymyrryd bellach yn cynnwys amcangyfrifon o nifer y busnesau newydd. Mae’r adolygiad o berfformiad yn cynnwys asesiad o fel mae safleoedd safonau bwyd risg ganolig ac isel yn cyflawni. Wedi dangos ymrwymiad i fynd i’r afael â’r safleoedd heb sgôr hylendid bwyd. Sicrhau bod yr ymrwymiad i gyflawni’r rhaglen ymyrryd o ran safonau bwyd yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (‘y Cod Ymarfer’). Sicrhau bod gwybodaeth wedi’i chynnwys am y galw am waith a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni pob rhan o’r gwaith reoli swyddogol i ategu’r datganiad bod digon o adnoddau ar gael. Sicrhau bod pob amrywiad sy’n codi o’r adolygiad o berfformiad wedi’i nodi a’ch bod chi’n dangos ymrwymiad clir i fynd i’r afael â phob un fel maes i’w wella.
4.6 (i) Sicrhau bod y weithdrefn awdurdodi yn cynnwys yr wybodaeth a’r cyfeiriadau cyfredol diweddaraf, a’i bod hi’n cael ei hadolygu’n rheolaidd yn unol â gweithdrefnau rheoli dogfennau. [Y Safon – 4.1 a 4.2] Wedi’i gwblhau. Gweithdrefn awdurdodi wedi’i diweddaru. Wedi’i gwblhau.
5.8 (i) Adolygu ei awdurdodiadau, a’u diwygio, i sicrhau bod swyddogion wedi’u hawdurdodi’n briodol o dan yr holl ddeddfwriaeth berthnasol; a diwygio ei weithdrefn ar gyfer awdurdodi swyddogion i gynnwys manylion y broses o asesu cymhwysedd swyddogion, a sicrhau bod yr asesiadau hyn wedi’u cofnodi. [Y Safon – 5.1] Wedi’i gwblhau. Mae awdurdodi yn cynnwys y broses o asesu a’r swyddogion sydd wedi’u hawdurdodi’n briodol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Wedi’i gwblhau.
7.25 (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau hylendid bwyd yn cael eu cynnal ar yr amlder lleiaf a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.1] Wedi’i gwblhau. Mae’r rhaglen ymyriadau o ran hylendid bwyd wedi’i haddasu’n sylweddol i gyd-fynd â’r Cod Ymarfer. Wedi’i gwblhau.
7.25 (ii) Sicrhau bod cymeradwyo sefydliadau, sgorio risg ymyriadau, a’r Strategaeth Orfodi Amgen yn cael eu cyflawni yn unol â’r Cod Ymarfer, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog, a gweithdrefnau lleol, lle bo hynny’n berthnasol. [Y Safon – 7.2] Cynnydd da. Mae’r sgoriau’n gywir ac yn gyson â chanfyddiadau’r arolygiad. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Sicrhau bod y broses o gymeradwyo yn cyd-fynd â’r gofynion.
7.25 (iii) Asesu cydymffurfiaeth y sefydliadau yn ei ardal yn llawn gan ddilyn y safonau sydd wedi’u pennu’n gyfreithiol; yn arbennig, wrth ymwneud â gwiriadau o darddiad bwyd sydd wedi’i fewnforio a gwiriadau o nodau adnabod / iechyd. [Y Safon – 7.3] Cynnydd cyfyngedig. Mae pwyntiau rheoli critigol wedi’u cadw ar ffeiliau safleoedd cymeradwy. Sicrhau bod asesiadau o nodau adnabod sy’n dod i mewn a bwyd sy’n cael ei fewnforio yn cael eu cofnodi’n gyson ar ymyriadau o ran hylendid bwyd. Sicrhau bod asesiadau o nodau adnabod sy’n dod i mewn a’r defnydd o nodau adnabod sy’n gadael yn digwydd yn gyson yn ystod ymyriadau safleoedd cymeradwy.
7.25 (iv) Sicrhau bod gweithdrefnau cofnodedig ar gyfer ymyriadau yn cael eu hadolygu i gynnwys cyfeiriad at y trefniadau lleol ar gyfer clustnodi sefydliadau. Diwygio’r weithdrefn ar gyfer sefydliadau cymeradwy i gynnwys cyfeiriad at yr amserlenni cywir ar gyfer adroddiadau. Adolygu gweithdrefn y Strategaeth Orfodi Amgen, a’i diwygio, i gynnwys manylion penodol am wiriadau y mae swyddogion cymwys priodol yn eu cynnal. [Y Safon 7.4] Wedi’i gwblhau. Mae gweithdrefnau ymyrryd a gweithdrefnau ymyrryd safleoedd cymeradwy wedi’u diwygio. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Wedi’i gwblhau.
7.44 (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal ar yr amlder lleiaf a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.1] Cynnydd da. Cynnydd da wedi’i wneud ar addasu i gyd-fynd â’r Cod Ymarfer. Ôl-groniad bach o 14 o ymyriadau â sgôr ganolig a 23 heb sgôr. Sicrhau bod pob busnes yn cael ymyriad priodol ar yr amlder cywir.
7.44 (ii) Cynnal ymyriadau/arolygiadau o ran safonau bwyd yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. [Y Safon – 7.2] Cynnydd cyfyngedig. Cafodd gwybodaeth am gyhoeddiadau ei gofnodi’n gyson. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Sicrhau bod y sgoriau’n cynrychioli canfyddiadau’r arolygiad yn gywir ac yn gyson. Sicrhau bod ailymweliadau yn digwydd yn brydlon.
7.44 (iii) Asesu cydymffurfiaeth sefydliadau yn ei ardal gan ddilyn y safonau sydd wedi’u pennu’n gyfreithiol a chymryd camau priodol yn unol â’i Bolisi Gorfodi. [Y Safon – 7.3] Cynnydd cyfyngedig. Cafodd asesiadau o gyfansoddiad eu cofnodi. Sicrhau bod asesiadau o labelu ac olrheiniadwyedd yn digwydd yn gyson. Sicrhau bod cymryd camau / uwchgyfeirio o ran gorfodi yn digwydd yn briodol ac yn unol â’r Polisi.
7.44 (iv) Diwygio ei weithdrefnau ymyrryd i ddarparu canllawiau ar y broses o arolygu. Yn ogystal â rhoi manylion am ba sefydliadau sy’n gymwys i’w cynnwys mewn strategaeth orfodi amgen [Y Safon – 7.4] Cynnydd cyfyngedig. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Sicrhau bod y gweithdrefnau ymyrryd yn darparu canllawiau ar y broses o arolygu, gan gynnwys manylion am amserlenni a chynnwys yr adroddiadau
7.44 (v) Sicrhau bod arsylwadau a/neu ddata sydd wedi’i gasglu yn ystod arolygiad/ymyriad o ran safonau bwyd yn cael eu cofnodi’n brydlon fel nad oes gwybodaeth berthnasol yn cael ei cholli. [Y Safon – 7.5] Cynnydd cyfyngedig. Roedd arolygiadau safonau bwyd yn cofnodi maint a graddfa’r gweithgareddau yn gyson. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Sicrhau bod asesiadau o labelu ac olrheiniadwyedd yn cael eu cofnodi’n llawn ac yn gyson.
8.8 (i) Diwygio’r weithdrefn berthnasol i gynnwys amseroedd ymateb targed ar gyfer cwynion hylendid bwyd neu geisiadau gwasanaeth. [Y Safon – 8.1] Wedi’i gwblhau. Cafodd yr amseroedd targed eu cofnodi ac maen nhw ar gael ar y gronfa ddata Wedi’i gwblhau.
8.8 (ii) Sicrhau bod cwynion hylendid bwyd neu geisiadau gwasanaeth yn cael eu gweithredu o fewn yr amserlenni a nodir mewn gweithdrefnau lleol. [Y Safon – 8.2] Wedi’i gwblhau. Roedd amseroedd targed wedi’u bodloni’n gyson. Wedi’i gwblhau.
11.4 (i) Rhoi ei weithdrefnau cofnodedig ar waith yn llwyr er mwyn sicrhau bod ei gronfa ddata yn gywir, yn ddibynadwy ac yn gyfredol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr wybodaeth am y camau gorfodi yn gywir ar bob adeg. [Y Safon – 11.2] Wedi’i gwblhau. Roedd y gronfa ddata yn gyfredol i fusnesau bwyd. Codau am gamau gorfodi dyblyg wedi’u tynnu. Wedi’i gwblhau.
12.11 (i) Diwygio ei bolisi samplu ar gyfer archwiliad microbiolegol a dadansoddiad cemegol o fwyd, yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog, a rhoi’r newidiadau ar waith. [Y Safon – 12.4] Wedi’i gwblhau. Mae’r polisi a’r gweithdrefnau samplu o ran hylendid bwyd wedi’u diwygio i gynnwys gwaith samplu y tu allan i oriau gwaith, gwaith samplu mewn gwahanol daleithiau a bwydydd sydd wedi’u mewnforio. Mae’r polisi a’r gweithdrefnau samplu o ran safonau bwyd wedi’u diwygio i gynnwys gwaith samplu mewn gwahanol daleithiau a bwydydd sydd wedi’u mewnforio. Wedi’i gwblhau.
12.11 (ii) Diwygio ei weithdrefnau cofnodedig ar gyfer gwaith samplu bwyd yn ficrobiolegol i gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r offer penodol sydd eu hangen i samplu, yn ogystal â chynnwys trefniadau’r awdurdod ar gyfer storio a chludo. Gan wneud hyn yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog, a rhoi’r newidiadau ar waith. [Y Safon – 12.5] Wedi’i gwblhau. Mae’r weithdrefn samplu o ran hylendid bwyd wedi’i chofnodi bellach yn cynnwys manylion am yr offer sydd eu hangen, y dull o gludo a storio samplau, y dogfennau samplu sydd eu hangen a’r hysbysiad o ganlyniadau’r samplau. Wedi’i gwblhau.
12.11 (iii) Diwygio ei weithdrefn gofnodedig ar gyfer samplu bwyd i’w dadansoddi’n gemegol i gynnwys gwybodaeth am gasglu a phrynu samplau, a rhoi’r weithdrefn hon ar waith, sy’n unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. [Y Safon – 12.5] Heb weithredu. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r weithdrefn gofnodedig ar gyfer samplu safonau bwyd. Diwygio’r weithdrefn gofnodedig ar gyfer samplu safonau bwyd i gynnwys caffael / prynu samplau, y dogfennau samplu angenrheidiol a’r hysbysiadau i’w hanfon yn dilyn canlyniadau samplau. Dylai’r awdurdod hefyd roi manylion y canllawiau ar gamau dilynol yn sgil samplau anfoddhaol.
12.11 (iv) Cymryd camau priodol yn unol â’i Bolisi Gorfodi lle nad yw canlyniadau’r samplau yn cael eu hystyried i fod yn foddhaol. [Y Safon – 12.7] Cynnydd cyfyngedig. Roedd yr awdurdod yn rhoi gwybod i berchennog / mewnforiwr / gweithgynhyrchwr pan gododd canlyniadau anfoddhaol. Sicrhau bod camau dilynol yn digwydd yn gyson pan fo canlyniadau samplau o ran hylendid bwyd yn codi, nad ydynt yn cael eu hystyried i fod yn foddhaol. Sicrhau bod camau dilynol yn digwydd yn gyson pan fo canlyniadau samplau o ran safonau bwyd yn codi, nad ydynt yn cael eu hystyried i fod yn foddhaol.
15.19 (i) Adolygu, diwygio a chyflwyno ei weithdrefnau gorfodi cofnodedig ar gyfer Hysbysiadau Gwella Hylendid, Hysbysiad Camau Unioni a Hysbysiadau Cadw i gynnwys gwybodaeth am brosesau lleol. Cofnodi ei weithdrefnau ar gyfer cymryd camau gorfodi mewn perthynas â rheoli bwyd sydd wedi’i fewnforio yn fewndirol, rhybuddion syml ac erlyniadau Hylendid Bwyd a’i weithdrefn gwahardd ac atafaelu ar gyfer Safonau Bwyd. Yn ogystal, dylai’r awdurdod ddiwygio’r weithdrefn mewn perthynas â Hysbysiadau Gwella Hylendid i sicrhau bod manylion apelio a’r llys priodol yn cael eu cynnwys ar dempledi dogfennau. [Y Safon – 15.2] Cynnydd da. Roedd gweithdrefnau ar gyfer gorfodi Hysbysiadau Gwella Hylendid bellach yn cynnwys y broses leol, yr apêl a manylion y llys ar ffurflenni. Mae’r gweithdrefnau ar gyfer gorfodi Hysbysiadau Camau Unioni a Hysbysiadau Cadw wedi’u diwygio yn ôl yr angen. Mae’r weithdrefn gorfodi ar gyfer bwyd a fewnforir wedi’i chofnodi’n llawn. Mae’r weithdrefn ar gyfer ymgymryd â Rhybuddion Syml ac erlyniadau o ran hylendid bwyd wedi’i chofnodi’n rhannol. Diwygio’r weithdrefn erlyn o ran hylendid bwyd i gynnwys manylion adnabod y swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliadau a’r weithdrefn lawn ar gyfer anfon Rhybuddion Syml. Sicrhau bod gweithdrefnau gorfodi ar gyfer safonau bwyd yn cael eu creu ar gyfer yr holl gamau/hysbysiadau gorfodi sydd ar gael, gan gynnwys Hysbysiadau Gwella o dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd, yn ogystal â hysbysiadau cadw, atafaelu ac ildio bwyd yn wirfoddol.
15.19 (ii) Sicrhau bod gwaith gorfodi hylendid bwyd, gan gynnwys Hysbysiadau Camau Unioni, Hysbysiadau Gwella Hylendid ac Ildio’n Wirfoddol, yn cael ei gyflawni yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau lleol. [Y Safon – 15.2 a 15.3] Cynnydd da. Roedd yr holl Hysbysiadau Gwella Hylendid yn gywir, roedd copïau go iawn wedi’u cadw, ac roeddent yn cynnwys gwybodaeth am apeliadau a manylion y llys. Roedd gwiriadau cydymffurfiaeth prydlon wedi’u cynnal. Cafodd Hysbysiadau Camau Unioni eu cyflwyno heb oedi. Sicrhau bod Hysbysiadau Camau Unioni yn cynnwys gwybodaeth lawn am apeliadau a bod gwiriadau cydymffurfiaeth prydlon yn cael eu cynnal ar bob hysbysiad. Sicrhau bod yr amser, y lleoliad a’r dull o ddinistrio yn cael eu cofnodi ar gyfer pob ildiad gwirfoddol a bod cofnodion o’r fath yn cael eu cadw.
15.19 (iii) Sicrhau y caiff pob penderfyniad ar gamau gorfodi eu cofnodi, ac y cânt eu gwneud ar ôl ystyried polisi gorfodi’r awdurdod. Mae’n rhaid cofnodi’r rhesymau dros unrhyw wyro oddi wrth y meini prawf a nodir yn y Polisi Gorfodi. [Y Safon – 15.4] Wedi’i gwblhau. Nid oedd unrhyw safleoedd â sgôr o 0 ar gael i’w harchwilio felly mae’n dal i fod yn ddi-brawf. Rhoddwyd sicrwydd y byddai camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Wedi dod i ben
16.11 (i) Cadw cofnodion cyfredol a chywir ar gyfer pob sefydliad bwyd yn ei ardal, yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. Mae’n rhaid i’r cofnodion hyn gynnwys adroddiadau ar bob ymyriad/arolygiad (gan gynnwys copïau o adroddiadau am arolygiadau bwyd), beth yw penderfyniad y swyddog awdurdodedig ar gydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, manylion y camau gweithredu lle nodwyd achos o ddiffyg cydymffurfio a manylion unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd. [Y Safon – 16.1] Cynnydd da. Roedd ffurflenni cofrestru ar gael ar bob ffeil hylendid bwyd. Roedd ffeiliau’r safleoedd cymeradwy yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth ofynnol. Sicrhau bod ffeiliau’r safleoedd cymeradwy yn cynnwys llif gwaith, cynlluniau dŵr a draenio, rhestrau o gynnyrch a chyflenwyr a labeli cyfredol ar gyfer cynnyrch.
16.11 (ii) Sicrhau bod adroddiadau’n cael eu darparu i fusnesau, gan gynnwys eu prif swyddfeydd, yn dilyn ymyriad, a bod y ffurflenni adrodd am arolygiadau safonau bwyd a ddarperir yn dilyn ymyriad/arolygiad yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl Atodiad 6 y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 16.1] Wedi’i gwblhau. Roedd y manylion llawn, sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer, wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau. Wedi’i gwblhau.
16.11 (iii) Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw am o leiaf 6 blynedd. [Y Safon – 16.2] Wedi’i gwblhau. Roedd cofnodion yn cael eu cadw ar y gronfa ddata. Wedi’i gwblhau.
19.10 (i) Ehangu ei weithdrefnau ar gyfer y gwasanaeth safonau bwyd er mwyn gwirio ei gydymffurfiaeth â’r Safon, deddfwriaeth berthnasol, y Codau Ymarfer perthnasol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a pholisïau a gweithdrefnau cofnodedig yr awdurdod. [Y Safon – 19.2] Cynnydd cyfyngedig. Roedd gweithdrefnau monitro mewnol cofnodedig o ran safonau bwyd yn cynnwys cwmpas y gwaith gwirio ffeiliau samplau. Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen bellach yn rhan o’r opsiynau ymyrryd. Sicrhau bod cofnodion cyflawn o’r gwaith monitro mewnol o ran safonau bwyd yn cael eu cynnal; gan gynnwys, digwyddiadau, ymchwiliadau i geisiadau gwasanaeth a chamau dilynol ar ôl samplu.

Cynllun Gweithredu yn sgil Archwiliad 2017 i 2018 y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf    

Argymhelliad Statws Beth sy’n weddill? (gwreiddiol) Cynnydd hyd yma Beth sy’n weddill? (presennol)
Camau archwilio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau Wedi’i gwblhau. Cynnwys ac ymrwymo i raglen o ymyriadau yn unol â’r gofynion. Cynllun Gwasanaeth wedi’i ddiwygio. Wedi’i gwblhau.
Camau gweithredu mewn perthynas â swyddogion awdurdodedig yn sgil archwiliad y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Wedi’i gwblhau. Sicrhau bod swyddogion awdurdodedig wedi ymgymryd â hyfforddiant cysondeb. Mae swyddogion wedi cael hyfforddiant yn ddiweddar ar gysondeb wrth ddyrannu sgôr. Wedi’i gwblhau.
Camau archwilio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ymwneud â rhaglen ymyriadau hylendid bwyd. Cynnydd da. Sicrhau bod yr holl ddata disgwyliedig am y rhaglen ymyriadau yn ddibynadwy. Problemau â’r sgorio wedi’u trin mewn perthynas â risg sylweddol a dyddiadau cau yn gyson gywir. Sicrhau bod yr hanes rheoli yn cael ei adlewyrchu’n gywir wrth asesu hyder yn y rheolaeth o’r safleoedd sydd â hanes diweddar o dorri rheolau’n ddifrifol.
Camau archwilio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd  mewn perthynas â gweithdrefnau. Wedi’i gwblhau. Sicrhau bod gweithdrefnau, gan gynnwys aide-mémoires a thempledi llythyrau, yn cydymffurfio â gofynion y Cynllun. Mae gweithdrefnau ymyrryd, aide-mémoires a thempledi llythyrau adroddiadau wedi’u diwygio. Mae’r weithdrefn orfodi yn cyfeirio at gamau gweithredu ar safle’r awdurdod lleol. Wedi’i gwblhau.
Camau archwilio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd  yn ymwneud â chamau gorfodi. Wedi’i gwblhau. Sicrhau bod camau gorfodi, mewn ymateb i dorri deddfwriaeth y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, yn cyd-fynd â’r canllawiau. Mae hysbysiadau cosb benodedig y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi’u hanfon yn unol â’r canllawiau. Wedi’i gwblhau.

Crynodeb  

Categori Cyfrif
Cyfanswm yr argymhellion 31
Wedi’i gwblhau 16
Cynnydd da 7
Cynnydd cyfyngedig 7
Heb weithredu 1
Cyfanswm sy’n weddill 15