Adroddiad corfforaethol
Cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn
Cyhoeddwyd 16 Hydref 2026
Yn berthnasol i Gymru
Cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn
| Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) | Statws | Heb ei gyflawni’n flaenorol | Cynnydd hyd yma | Heb ei gyflawni |
|---|---|---|---|---|
| 3.21 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod Cynlluniau’r Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn y dyfodol yn cael eu datblygu yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaeth yn y Cytundeb Fframwaith. Dylid cynnwys dadansoddiad o’r adnoddau sy’n ofynnol o gymharu â’r adnoddau sydd ar gael, ynghyd â chynlluniau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffyg. [Y Safon – 3.1] | Wedi’i gwblhau | Sicrhau bod y Cynllun Darparu Gwasanaeth yn cael ei ddatblygu ymhellach yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaeth i gynnwys: Cynnal arolygiad safonau bwyd yn unol â’r cod, cyfrifiad adnoddau ar gyfer pob maes gwaith safonau bwyd, gan gynnwys yr adnoddau sydd ar gael yn erbyn yr adnoddau gofynnol, dadansoddiad o gostau ansefydlog a dadansoddiad o dueddiadau ar gyfer cost cynnal y gwasanaeth. | Cynllun drafft y gwasanaeth bellach yn cynnwys ymrwymiad a rhaglen ar gyfer ymyriadau safonau bwyd yn unol â’r Cod Ymarfer, dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael, dadansoddiad o’r costau a dadansoddiad o’r tueddiadau ar gyfer gwariant y gwasanaeth. | Wedi’i gwblhau. |
| (ii) Mynd i’r afael ag unrhyw amrywiad wrth gyflawni’r Cynllun Gwasanaeth mewn cynlluniau gwasanaeth dilynol. [Y Safon – 3.3] | Cynnydd da | Sicrhau bod yr adolygiad yn cynnwys pob rhan o’r gwasanaeth, gan gynnwys gwaith samplu, cwynion a nodau adnabod, a hynny gan ystyried tueddiadau a’r effaith ar y gwasanaeth. | Mae’r adolygiad yn cynnwys pob rhan o waith cyflawni’r gwasanaeth hylendid bwyd. | Sicrhau bod yr adolygiad yn cynnwys pob rhan o’r gwasanaeth safonau bwyd, gan gynnwys gwaith samplu a chŵynion / ceisiadau am wasanaeth. |
| 5.16 Dylai’r awdurdod: Adolygu a diwygio’r weithdrefn awdurdodi fel ei bod yn cynnwys cyfeiriad at y trefniadau ar gyfer hyfforddiant gloywi a monitro swyddogion sydd newydd gymhwyso a swyddogion sy’n dychwelyd, yn unol â gofyniad y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 5.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (i) Adolygu a diwygio awdurdodiadau swyddogion safonau bwyd a bwyd anifeiliaid i gynnwys y ddeddfwriaeth briodol sy’n ymwneud â Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid er mwyn cyflawni’r gwaith a amlinellir yn y Cynllun Gwasanaeth. Diwygio awdurdodiad y swyddog gorfodi Safonau Masnach nad yw’n gymwys i adlewyrchu ei gymhwysedd, yn unol â’r Codau Ymarfer. Sicrhau nad yw dyletswyddau swyddogion safonau bwyd a bwyd anifeiliaid yn mynd y tu hwnt i’w hawdurdodiadau. [Y Safon – 5.3] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Penodi nifer digonol o swyddogion hylendid bwyd a safonau bwyd ag awdurdodiad addas i gyflawni’r gwaith a amlinellir yn y Cynllun Gwasanaeth a sicrhau eu bod wedi’u hawdurdodi o dan y ddeddfwriaeth briodol. Dylai awdurdodiad swyddogion bwyd anifeiliaid fod ar lefel sy’n gyson â’u cymwysterau. [Y Safon – 5.3] | Cynnydd cyfyngedig | Penodi nifer addas o swyddogion safonau bwyd awdurdodedig i ymgymryd â’r gwaith a nodir yn y Cynllun Gwasanaeth. | Wedi darparu swyddogion awdurdodedig ychwanegol ac mae rhagor o swyddogion wrthi’n ymgymryd â hyfforddiant i ddod yn awdurdodedig. Fodd bynnag, mae diffyg sylweddol yn dal i fod yn bresennol. | Penodi nifer addas o swyddogion safonau bwyd awdurdodedig i ymgymryd â’r gwaith a nodir yn y Cynllun Gwasanaeth. |
| (iii) Sicrhau bod pob swyddog hylendid bwyd awdurdodedig yn derbyn 10 awr o hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn unol â’r Cod Ymarfer. [Y Safon – 5.4] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iv) Cynnal cofnodion o gymwysterau, hyfforddiant a phrofiad perthnasol pob swyddog awdurdodedig a staff cymorth priodol, yn unol â’r Codau Ymarfer perthnasol. [Y Safon – 5.5] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 6.8 Dylai’r awdurdod: (ii) Diwygio’r weithdrefn gofnodedig ar gyfer graddnodi offer mesur tymheredd i gynnwys amlderau profi ar gyfer pob dyfais, tymereddau gweithredu ar gyfer offer oeri a sicrhau bod lefelau goddefiant yn cael eu cymhwyso yn unol â chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. [Y Safon – 6.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 7.26 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod ymyriadau / arolygiadau mewn sefydliadau bwyd yn cael eu cynnal ar yr amlderau sy’n ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.1] | Cynnydd da | Sicrhau bod pob busnes yn cael ymyriad priodol ar yr amlder cywir. | 86 o safleoedd â sgôr yn hwyr yn cael ymyriad, a 34 o safleoedd heb sgôr heb gael ymyriad eto. Mae cynllun yn cael ei ddilyn i gyd-fynd unwaith eto â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. | Sicrhau bod pob busnes yn cael ymyriad priodol ar yr amlder cywir. |
| (ii) Sicrhau bod arolygiadau llawn a strategaethau gorfodi amgen yn cael eu cyflawni yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog, a pholisïau a gweithdrefnau’r awdurdod. [Y Safon – 7.2] | Cynnydd cyfyngedig | Sicrhau bod sefydliadau’n cael eu cymeradwyo a bod Strategaeth Orfodi Amgen yn cael ei dilyn yn unol â’r gofynion perthnasol. | Nid yw’r Strategaeth Orfodi Amgen yn rhan o’r Cod Ymarfer mwyach. | Sicrhau bod sefydliadau’n cael eu cymeradwyo yn unol â’r gofynion perthnasol. |
| (iii) Asesu cydymffurfiaeth sefydliadau yn ei ardal â’r safonau sydd wedi’u pennu gan y gyfraith, a chymryd camau priodol ynghylch unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio sy’n cael eu darganfod, yn unol â Pholisi Gorfodi’r awdurdod. [Y Safon – 7.3] | Cynnydd da | Sicrhau y caiff asesiad o gydymffurfiaeth â HACCP ei gynnal yn gyson a bod camau priodol yn cael eu cymryd yn gyson pan ganfyddir unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn safleoedd cofrestredig. | Mae asesiadau o gydymffurfiaeth â HACCP wedi’u cynnal yn gyson yn unol â’r gofynion. Mae camau gweithredu wedi’u dilyn pan fo diffyg cydymffurfio, yn y rhan fwyaf o achosion. | Sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu dilyn bob tro y mae achos o ddiffyg cydymffurfio yn cael ei ganfod mewn safleoedd cofrestredig. |
| (iv) Diwygio’i Weithdrefn Ymyriadau Bwyd yn ymwneud â Strategaethau Gorfodi Amgen i gynnwys manylion y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer asesu holiaduron wedi’u llenwi ac i amlinellu’r sbardunau ar gyfer cynnal math arall o ymyriad. [Y Safon – 7.4] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (v) Wrth wneud arsylwadau yn ystod arolygiadau, yn benodol mewn perthynas â gwiriadau a wnaed i wirio ffynonellau bwydydd ac i ddangos bod bwydydd a fewnforiwyd wedi’u hystyried, rhaid sicrhau bod yr arsylwadau’n cael eu cofnodi mewn modd amserol fel na chaiff gwybodaeth berthnasol ei cholli. [Y Safon – 7.5] | Dim cynnydd | Sicrhau bod swyddogion yn dogfennu eu hasesiad o wiriadau bwyd a fewnforir yn ystod ymyriadau mewn safleoedd cofrestredig. | Nid yw’r dogfennau am wiriadau bwyd a fewnforir yn rhoi fawr o sicrwydd bod asesiadau wedi’u cynnal yn gyson yn ôl y gofynion. | Sicrhau bod swyddogion yn dogfennu eu hasesiad o wiriadau bwyd a fewnforir yn ystod ymyriadau mewn safleoedd cofrestredig. |
| 7.34 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cynnal ar amlder nad yw’n llai na’r hynny a bennir o dan y cynllun sgorio ymyriadau a amlinellir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Sicrhau y caiff arsylwadau a wneir yn ystod arolygiad eu cofnodi mewn modd amserol er mwyn rhwystro gwybodaeth berthnasol rhag mynd ar goll. [Y Safon – 7.5] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 7.50 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cynnal ar amlder nad yw’n llai na hwnnw a bennir o dan y cynllun sgorio ymyrraeth a amlinellir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.1] | Cynnydd cyfyngedig | Sicrhau bod pob busnes yn cael ymyriad priodol ar yr amlder cywir. | 294 o safleoedd â sgôr yn hwyr yn cael ymyriad, a 167 o safleoedd heb sgôr heb gael ymyriad eto. Mae’r gwaith i gyd-fynd unwaith eto â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn dal i fod yn ansicr. | Sicrhau bod pob busnes yn cael ymyriadau priodol yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. |
| (ii) Gweithredu cynllun sgorio risg ar gyfer ymyriadau safonau bwyd sy’n cyd-fynd â’r cynllun a sefydlwyd o dan Atodiad V i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iii) Darparu adroddiad i fusnesau bwyd ar ôl pob arolygiad/ymyriad, datblygu a gweithredu polisi ymyriadau ar gyfer sefydliadau safonau bwyd heb sgôr a’r rhai sydd “â risg nad oes modd ei harolygu”, sicrhau bod sefydliadau safonau bwyd ond yn cael eu harolygu gan swyddogion wedi’u hawdurdodi’n briodol, a sicrhau bod ymweliadau â rhybudd ac ailymweliadau yn cael eu cynnal yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, y Cod Ymarfer, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a pholisïau a gweithdrefnau’r awdurdod ei hun. [Y Safon – 7.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iv) Cymryd camau priodol ynghylch unrhyw ddiffyg cydymffurfio sy’n cael ei ddarganfod mewn sefydliadau safonau bwyd, yn unol â pholisi gorfodi’r awdurdod. [Y Safon – 7.3] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (v) Sefydlu polisi ailymweld sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 7.4] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (vi) Sicrhau bod cofnodion cyfoes swyddogion o ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cofnodi’n amserol a’u storio fel y gellir eu hadalw. [Y Safon – 7.5] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 8.10 Dylai’r awdurdod: (i) Adolygu a diweddaru’r gweithdrefnau cwyno i gynnwys cyfeiriad at gwynion yn erbyn sefydliadau bwyd a chyflwr sefydliadau bwyd anifeiliaid. [Y Safon – 8.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Ymchwilio i gwynion a geir yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a’i bolisi a’i weithdrefnau ei hun. [Y Safon – 8.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iii) Cymryd camau priodol ynghylch cwynion sy’n dod i law yn unol â Pholisi Gorfodi’r awdurdod. [Y Safon – 8.3] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 11.5 Dylai’r awdurdod: (i) Cynnal ei gronfa ddata o sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid, gan sicrhau bod busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u cofrestru’n gywir ac wedi’u cynnwys yn y rhaglenni ymyriadau bwyd a bwyd anifeiliaid. [Y Safon – 11.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 12.11 Dylai’r awdurdod: (i) Diwygio’r Polisi Samplu Bwyd a Bwyd Anifeiliaid i gynnwys cyfeiriad at ei ddull o hysbysu/cysylltu â’r Prif Awdurdod ac Awdurdod Cartref. [Y Safon – 12.4] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Sefydlu, cynnal a rhoi gweithdrefn gofnodedig ar waith ar gyfer caffael neu brynu, sicrhau parhad tystiolaeth ac atal dirywio neu ddifrod i samplau safonau bwyd anffurfiol, yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau perthnasol a gyhoeddir yn ganolog. [Y Safon – 12.5] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iii) Cymryd camau priodol yn unol â’i bolisi gorfodi lle nad ystyrir bod canlyniadau samplau hylendid bwyd yn foddhaol. [Y Safon – 12.7] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 13.8 Dylai’r awdurdod: (i) Diwygio’r Cynllun Rheoli Brigiadau o Achosion i sicrhau ei fod yn cynnwys cysylltiadau perthnasol yr awdurdod lleol. [Y Safon – 13.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Datblygu ymhellach y weithdrefn gofnodedig ar gyfer ymchwilio i glefydau heintus fel ei bod yn cynnwys cyfeiriad at samplu a sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei rhoi ar waith yn llawn. [Y Safon – 13.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 14.7 Dylai’r awdurdod: (i) Hysbysu’r ASB am unrhyw beryglon bwyd lleol, difrifol, yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 14.5] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| 15.14 Dylai’r awdurdod: (i) Adolygu a diwygio’i bolisi gorfodi i gynnwys cyfeiriad at y dulliau gorfodi mewn sefydliadau pan mai’r awdurdod yw’r gweithredwr busnes bwyd neu fwyd anifeiliaid, a rhoi copi o’i bolisi gorfodi, neu gyfarwyddiadau ar gyfer sut i gael copi, ar ei wefan. Sicrhau bod y polisi gorfodi’n cael ei weithredu’n llawn. [Y Safon – 15.1] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Sefydlu gweithdrefnau cofnodedig ar gyfer cynnal erlyniadau hylendid bwyd a rhoi rhybuddion syml, atal cymeradwyaeth sefydliadau bwyd anifeiliaid dros dro a thynnu’r gymeradwyaeth yn ôl, a hefyd sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwaith gorfodi bwyd anifeiliaid wedi’i fewnforio’n fewndirol, yn unol â’r Codau Ymarfer a chanllawiau swyddogol. [Y Safon – 15.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iii) Diwygio’r gweithdrefnau ar gyfer cadw, atafael ac ardystio wrth ystyried hylendid bwyd, a diwygio’r gweithdrefnau safonau bwyd yn unol â’r Codau Ymarfer perthnasol a chanllawiau swyddogol. [Y Safon – 15.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (iv) Sicrhau y caiff camau gorfodi eu cymryd mewn perthynas â hylendid bwyd, yn unol â’r Codau Ymarfer perthnasol a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. [Y Safon – 15.3] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (v) Sicrhau bod yr holl benderfyniadau ar gamau gorfodi’n cael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth o Bolisi Gorfodi’r awdurdod a bod y rhesymau dros unrhyw wyro oddi wrth y meini prawf a amlinellir yn y polisi gorfodi’n cael eu cofnodi. [Y Safon – 15.4] | Wedi’i gwblhau | Sicrhau bod rhesymau dros wyro oddi wrth bolisi gorfodi’r awdurdod yn cael eu dogfennu. | Penderfyniadau ar gamau gorfodi wedi’u gwneud yn unol â’r polisi gorfodi. | Wedi’i gwblhau. |
| 16.7 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod manylion cofrestru cyfredol busnesau bwyd yn cael eu cadw a bod llythyrau a ddarperir i fusnesau yn dilyn ymyriadau/arolygiadau yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. [Y Safon – 16.1] | Cynnydd cyfyngedig | Sicrhau bod adroddiadau arolygu’n cael eu cyfeirio’n gyson at berchennog cofrestredig y busnes bwyd. | Adroddiadau arolygu weithiau’n cael eu cyfeirio at y gweithredwr busnes bwyd cofrestredig. | Sicrhau bod adroddiadau arolygu’n cael eu cyfeirio’n gyson at berchennog cofrestredig y busnes bwyd. |
| 16.18 Dylai’r awdurdod: (i) Cynnal cofnodion cyfredol ynghylch safonau bwyd ar ffurf adalw ar gyfer pob sefydliad bwyd yn ei ardal, yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. Rhaid i’r cofnodion hyn gynnwys canlyniadau samplau, dyddiad, amser, y mannau a welwyd a’r dogfennau a archwiliwyd yn ystod ymyriad, y math o fusnes a’i faint a’i raddfa, y penderfyniad ynghylch cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a wnaed gan y swyddog awdurdodedig, manylion y camau i’w cymryd gan yr awdurdod a’r camau a gymerwyd lle yr amlygwyd diffyg cydymffurfiaeth, yr amserlen ar gyfer cydymffurfio ac enw’r gweithredwr busnes bwyd. Hefyd, rhaid i adroddiadau arolygu gynnwys dynodiad y swyddog arolygu, manylion cyswllt uwch-swyddog a chyfeiriad yr awdurdod. [Y Safon – 16.1] | Cynnydd da | Sicrhau bod adroddiadau arolygu bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion ac yn cynnwys y canlynol: Mannau a arolygwyd, y person a welwyd ac amserlenni ar gyfer cydymffurfio. | Roedd adroddiadau arolygu’n cynnwys y mannau a arolygwyd a’r person a welwyd bob tro. | Sicrhau bod adroddiadau arolygu bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion ac yn cynnwys amserlenni ar gyfer cydymffurfiaeth. |
| 19.9 Dylai’r awdurdod: (i) Datblygu ymhellach, cynnal a rhoi gweithdrefnau monitro mewnol ar waith ar gyfer hylendid bwyd, safonau bwyd, a bwyd anifeiliaid, a hynny i wirio eu bod yn cydymffurfio â’r Safon, deddfwriaeth berthnasol, y Codau Ymarfer perthnasol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog, a’i bolisïau a’i weithdrefnau cofnodedig ei hun. [Y Safon – 19.1 a 19.2] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| (ii) Sicrhau bod cofnodion gweithgareddau monitro mewnol yn cael eu cynnal am ddwy flynedd [Y Safon – 19.3] | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| Camau gweithredu mewn perthynas â chynllunio gwasanaeth yn sgil archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| Camau gweithredu mewn perthynas â gweithdrefnau ymyrryd yn sgil archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. | Wedi’i gwblhau | Sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu diwygio ymhellach i gynnwys cyfarwyddiadau i hysbysu’r brif swyddfa o’r canfyddiadau. | Mae’r weithdrefn wedi’i diwygio’n ddiweddar. | Wedi’i gwblhau. |
| Camau gweithredu mewn perthynas ag adroddiadau arolygu yn sgil archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| Camau gweithredu mewn perthynas â data a sgoriau risg yn sgil archwilio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd | Wedi’i gwblhau | Lleihau ymhellach wallau yn y gronfa ddata sy’n ymwneud â dyddiadau dyledus. | Nifer y gwallau o ran dyddiadau dyledus wedi’i leihau. | Wedi’i gwblhau. |
| Camau gweithredu mewn perthynas â gorfodi yn sgil archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
| Camau gweithredu mewn perthynas â monitro mewnol yn sgil archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. | Wedi’i gwblhau | Wedi’i gwblhau. | [gwag] | [gwag] |
Crynodeb
| Cyfanswm yr argymhellion | 46 |
|---|---|
| Wedi’i gwblhau | 37 |
| Cynnydd da | 4 |
| Cynnydd cyfyngedig | 4 |
| Heb weithredu | 1 |
| Heb eu profi | 0 |
| Cyfanswm sy’n weddill | 9 |