Canllawiau

Paratoadau llywodraeth y DU ar gyfer senario 'dim cytundeb'

Diweddarwyd 24 August 2018

Diben yr hysbysiad hwn

Fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ar 18 Gorffennaf 2018, bydd y llywodraeth yn cyhoeddi cyfres o hysbysiadau technegol yn ystod mis Awst a mis Medi. Heddiw rydym yn cyhoeddi’r 25 cyntaf o’r hysbysiadau hyn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor yn ystod mis Medi.

Bydd yr hysbysiadau hyn yn rhoi gwybodaeth i ganiatáu i fusnesau a dinasyddion ddeall yr hyn y byddai’n rhaid iddynt ei wneud pe bai senario ‘dim cytundeb’, a hynny er mwyn iddynt allu gwneud cynlluniau a pharatoadau hyddysg.

Mae senario lle y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb (senario ‘dim cytundeb’) yn dal i fod yn annhebygol, o ystyried budd cyffredin y DU a’r UE mewn sicrhau canlyniad ar sail trafodaethau. Ar ôl cyhoeddi papur gwyn llywodraeth y DU ynghylch y berthynas yn y dyfodol ar 12 Gorffennaf 2018, rydym yn gweithio gyda thîm trafod yr UE, a hynny ar frys, i gytuno ar delerau ein perthynas yn y dyfodol ochr yn ochr â’r Cytundeb Ymadael yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, ein dyletswydd fel llywodraeth gyfrifol yw paratoi ar gyfer pob posibiliad, gan gynnwys senario ‘dim cytundeb’, hyd nes y gallwn fod yn sicr o ganlyniad y trafodaethau hynny.

Ers dwy flynedd, mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau y bydd y DU yn barod o’r diwrnod cyntaf ym mhob senario, gan gynnwys canlyniad ‘dim cytundeb’ posibl ym mis Mawrth 2019.

Mae wedi bod yn ystyriaeth erioed y byddai’n rhaid cyflymu’r paratoadau ar gyfer senario ‘dim cytundeb’ wrth nesáu at fis Mawrth 2019. Nid yw cyflymu yn y fath fodd yn golygu bod canlyniad ‘dim cytundeb’ yn fwy tebygol. Yn hytrach, rydym yn cyflymu’n paratoadau er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau ar waith yn y sefyllfa annhebygol y bydd yn rhaid dibynnu arnynt.

Mae hyn yn gyson â’r datganiad a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2018 ar ôl diwrnod cwrdd i ffwrdd y Cabinet yn Chequers:

“It remains our firm view that it is in the best interests of both sides to reach agreement on a good and sustainable future relationship. But we also concluded that it was responsible to continue preparations for a range of potential outcomes, including the possibility of ‘no deal’. Given the short period remaining before the necessary conclusion of negotiations this autumn, we agreed preparations should be stepped up.”

Cyd-destun – cynnydd y trafodaethau

Mae’r llywodraeth wedi bod yn glir o gychwyn y broses hon y byddai’r DU yn paratoi ar gyfer pob un senario. Amlinellodd y Prif Weinidog y canlynol yn ei haraith yn Lancaster House ar 17 Ionawr 2017:

“It is right that the government should prepare for every eventuality – but to do so in the knowledge that a constructive and optimistic approach to the negotiations to come is in the best interests of Europe and the best interests of Britain.”

Mae’r llywodraeth yn dal i gredu mai ymadawiad trefnus, wedi’i drafod yw’r canlyniad gorau i bawb.

Mae’r UE hefyd wedi bod yn glir mai sicrhau cytundeb drwy drafod â’r DU yw ei nod o hyd; mae’r canllawiau a fabwysiadwyd gan y Cyngor Ewropeaidd ar 23 Mawrth 2018 yn amlinellu penderfyniad yr Undeb i gael partneriaeth mor agos â phosibl â’r DU yn y dyfodol, ac ailadroddodd y Comisiwn ar 19 Gorffennaf 2018 ei fod yn rhoi cryn adnoddau ac ymdrechion i sicrhau cytundeb.

Gwnaed cynnydd sylweddol yn barod, a chafwyd cytundeb ar y rhan fwyaf o’r Cytundeb Ymadael drafft. Cyhoeddwyd fersiwn o’r testun ar 19 Mawrth 2018 a oedd yn amlygu’r meysydd hynny y cafwyd cytundeb arnynt, gan gynnwys hawliau dinasyddion, y setliad ariannol a chyfnod gweithredu dan gyfyngiad amser.

Amlinellodd cyd-ddatganiad y DU a’r UE ar y Cytundeb Ymadael ar 19 Mehefin 2018 gynnydd dilynol yn y trafodaethau, gyda’r rhan fwyaf o’r testun bellach wedi’i gytuno.

Rydym yn gwneud cynnydd da ar y materion sydd heb eu datrys eto cyn i ni gwblhau’r cytundeb ar gyfanrwydd y Cytundeb Ymadael. Rydym ar y trywydd iawn o hyd i ddod i gytundeb erbyn yr hydref, a chydnabu’r UE yn ei gyfathrebiad ar 19 Gorffennaf 2018 mai’r bwriad ar hyn o bryd yw y byddai’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn cytuno ar y Cytundeb Ymadael ym mis Hydref 2018.

Yn nhermau ehangach, cyhoeddodd y DU ei phapur gwyn ar gyfer y berthynas yn y dyfodol ar 12 Gorffennaf 2018, gan amlinellu cyfres fanwl a chynhwysfawr o gynigion. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y DU bapur gwyn ar ddeddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael ar 24 Gorffennaf 2018. Mae hwn yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gweithredu ein hymrwymiadau rhyngwladol dan gyfraith y DU, ac yn rhan o’n paratoadau ar gyfer ymadawiad esmwyth a threfnus.

Pan fydd trafodaethau wedi dod i ben ar y Cytundeb Ymadael a’r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn darparu y bydd y Senedd yn pleidleisio ar y Cytundeb Ymadael a’r fframwaith ar gyfer y dyfodol.

Bydd y llywodraeth yn rhoi’r bleidlais hon ar y cytundeb terfynol i’r Senedd cyn gynted ag y bo modd wedi i’r trafodaethau ddod i ben. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r Cytundeb Ymadael a’r fframwaith ar gyfer perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol, bydd y llywodraeth yn dwyn Bil yr UE (Cytundeb Ymadael) yn ei flaen er mwyn rhoi effaith gyfreithiol ddomestig i’r Cytundeb Ymadael.

Amlinellir y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo a gweithredu’r Cytundeb Ymadael a’r fframwaith ar gyfer ein perthynas yn y dyfodol yn y papur gwyn ar ddeddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael. Yn gyfochr â hynny, bydd angen cynnal proses gadarnhau yn yr UE.

Yr hyn a olygwn gan senario ‘dim cytundeb’

Er bod cryn gynnydd wedi bod, a’n bod yn dal i fod yn hyderus bod modd sicrhau cytundeb cadarnhaol, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn llofnodi Cytundeb Ymadael, ac y bydd Senedd y DU a Senedd Ewrop yn cadarnhau’r cytundeb hwnnw, mae dal i fod posibiliad y gallwn adael yr UE heb gytundeb ym mis Mawrth 2019.

Gwnaeth y DU danio Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2017. Fel yr amlinellir dan y cytuniad hwnnw, mae gan y DU ddwy flynedd i drafod Cytundeb Ymadael a fframwaith ar gyfer perthynas â’r UE yn y dyfodol cyn daw’r amser i’r DU adael yr UE am 11pm GMT ar 29 Mawrth 2019.

Bydd senario ‘dim cytundeb’ yn golygu y bydd y DU yn gadael yr UE ac yn dod yn drydedd wlad am 11pm GMT ar 29 Mawrth 2019, gan na fydd Cytundeb Ymadael na fframwaith ar gyfer perthynas yn y dyfodol ar waith rhwng y DU a’r UE.

Mewn senario ‘dim cytundeb’, felly, ni fyddai cytundeb i gymhwyso unrhyw elfennau’r Cytundeb Ymadael a ddisgrifiwyd uchod.

Mae’r DU yn paratoi, felly, ar gyfer senario lle nad oes cytundeb ar waith rhwng y DU a’r UE ar y diwrnod ymadael.

Cynlluniau sydd eisoes ar waith

Ers dwy flynedd, mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i baratoi ar gyfer pob senario, gan gynnwys senario ‘dim cytundeb’ posibl ym mis Mawrth 2019.

Mae’r llywodraeth wedi cymryd ei chyfrifoldebau i baratoi’r DU ar gyfer pob senario o ddifrif. Yng Nghyllideb yr Hydref 2017, sicrhaodd Trysorlys EM fod cyllid gwerth £3 biliwn ar gael (£1.5 biliwn yn 17/18, ac £1.5 biliwn yn 18/19) er mwyn i adrannau a’r gweinyddiaethau datganoledig allu paratoi’n effeithiol ar gyfer Brexit. Roedd hyn yn ogystal â’r £700 miliwn a sicrhawyd ynghynt ar gyfer paratoadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Deddfwriaeth

Rydym eisoes wedi dwyn deddfwriaeth yn ei blaen sy’n cymryd y gwahanol senarios i ystyriaeth. Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ddarn hanesyddol o ddeddfwriaeth, sy’n sicrhau y bydd gennym lyfr statud gweithredol, waeth beth fo canlyniad y trafodaethau.

Mae Deddf Dulliau Diogelu Niwclear 2018 yn sefydlu cyfundrefn dulliau diogelu niwclear yn y DU wrth i ni adael Euratom, tra bo Deddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018 yn sicrhau y gallwn barhau i orfodi, diweddaru a chodi sancsiynau a chyfundrefnau gwrth-wyngalchu arian.

Mae Deddf Trwyddedau Cludo Nwyddau a Chofrestru Trelars 2018, a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn ddiweddar (19 Gorffennaf 2018), hefyd yn nodi carreg filltir ym mharatoadau’r llywodraeth ar gyfer gadael yr UE. Mae’n rhoi’r pwerau i’r DU sydd eu hangen arni i roi cymorth i gludwyr Prydeinig er mwyn iddynt allu parhau i weithredu’n rhyngwladol ar ôl gadael yr UE.

Er mai nod cyffredinol y llywodraeth yn ei thrafodaethau â’r UE yw cadw mynediad dwyochrog ar gyfer cludwyr nwyddau ar y ffordd, mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi’r hyblygrwydd i ni gael systemau ar waith pe bai’n ofynnol cael system drwyddedau, ac yn rhoi tawelwch meddwl i gludwyr er mwyn parhau i gynllunio ar gyfer ymadawiad esmwyth o’r UE.

Yn ogystal, mae’r Senedd eisoes yn craffu ar y Bil Trethiant (Masnach Drawsffiniol) a’r Bil Masnach, a fydd yn sicrhau bod gennym gyfundrefnau tollau a masnach gweithredol, waeth beth fo canlyniadau’r trafodaethau.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi dechrau gosod offerynnau statudol i baratoi’r llyfr statud ar gyfer gadael.

Staffio, seilwaith a pholisi

Bu cynnydd sylweddol hefyd wrth roi ar waith y trefniadau staffio, seilwaith a pholisi y byddai eu hangen arnom mewn senario ‘dim cytundeb’.

Er enghraifft, rydym wedi:

  • sicrhau bod 6400 o weision sifil yn Whitehall ar hyn o bryd yn gweithio mewn cysylltiad â’r broses ymadael. Mae rhai adrannau, megis Defra, yn gyfrifol am gryn gyfran o waith ymadael y llywodraeth, ac maent wedi cynyddu eu capasiti’n gyflym i ateb yr her, gan recriwtio 1300 o aelodau staff yn 2017 i 2018 i weithio ar y broses ymadael. Mae Llu’r Ffiniau (Border Force) wrthi’n recriwtio 300 o swyddogion rheng flaen i sicrhau gwydnwch a pharodrwydd cyn Brexit, a hefyd yn recriwtio hyd at 1000 o staff ychwanegol i sicrhau hyblygrwydd ar gyfer pob un senario a digon o adnoddau ar gyfer gweithrediadau presennol
  • cadarnhau y bydd sefydliadau sy’n bodoli eisoes yn tyfu ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Er enghraifft, bydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ymgymryd â swyddogaeth ychwanegol fel rheoleiddiwr cymorth gwladwriaethol y DU a bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi cymorth i fusnesau mewn perthynas â threfniadau rhannu data newydd
  • caffael neu ddatblygu nifer o systemau newydd i adeiladu popeth o system newydd ar gyfer goruchwylio marchnadoedd i wella galluoedd ein system Tystysgrifau Iechyd Allforio
  • llofnodi cytundebau dulliau diogelu rhyngwladol gyda’r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol, yn ogystal â Chytundeb Cydweithredu Niwclear Dwyochrog gyda’r Unol Daleithiau ac Awstralia. Byddwn yn parhau i weithio gyda thrydydd gwledydd a phartneriaid rhyngwladol i geisio dilyniant o ran effeithiau cytundebau rhyngwladol y mae’r llywodraeth yn cymryd rhan ynddynt o ganlyniad i’w haelodaeth o’r UE, neu mewn perthynas â’r aelodaeth honno
  • amlinellu ein dull o drosglwyddo deddfwriaeth gwasanaethau ariannol yr UE i gyfraith ddomestig mewn pryd i ymadael ym mis Mawrth 2019
  • gwarantu rhai prosiectau a ariennir gan yr UE mewn senario ‘dim cytundeb’, gan gynnwys dyraniad llawn y Fframwaith Ariannol Amlflynyddol 2014-20 ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi; sicrhau y telir dyfarniadau pan fo sefydliadau o’r DU wedi gwneud cynnig llwyddiannus yn uniongyrchol i’r Comisiwn Ewropeaidd ar sail gystadleuol tan ddiwedd 2020; gwarantu unrhyw brosiectau’r Rhaglen Datblygu Gwledig a gontractiwyd cyn diwedd 2020, a hynny ar hyd eu hoes

Gyda saith mis i fynd tan y bydd y DU yn gadael yr UE, a chan ei bod yn bosibl o hyd y gallai’r ymadawiad hwn fod heb gytundeb, mae’n briodol bod paratoadau’r llywodraeth ar gyfer senario ‘dim cytundeb’ yn cynyddu yn awr ac, yn benodol, ein bod yn sicrhau bod unigolion a busnesau’n deall yr hyn y byddai angen iddynt ei wneud.

Mae cyhoeddi cyfres o hysbysiadau technegol heddiw a thrwy gydol mis Medi yn un elfen o’r gwaith ychwanegol hwn o baratoi’r cyhoedd. Mae’r llywodraeth yn glir mai cynlluniau wrth gefn yw’r fath baratoadau. Rydym yn gobeithio, fodd bynnag, fod busnesau a dinasyddion yn ffyddiog ein bod yn cymryd y fath baratoadau o ddifrif, er mwyn sicrhau ymadawiad esmwyth a threfnus, waeth beth fo canlyniad y trafodaethau.

Dull y DU – blaenoriaethu sefydlogrwydd

Wrth galon dull y llywodraeth o baratoi ar gyfer senario ‘dim cytundeb’, ceir ymrwymiad i flaenoriaethu sefydlogrwydd ar gyfer dinasyddion, defnyddwyr a busnesau, i sicrhau y gall busnesau, seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus weithredu’n esmwyth, ac i darfu cyn lleied â phosibl ar yr economi. Mae gennym gynlluniau ar waith i wneud hyn.

Mewn rhai hysbysiadau technegol a gyhoeddir heddiw, rydym yn dangos achosion lle y byddai’r llywodraeth yn gweithredu’n unochrog i ddarparu dilyniant ar gyfer cyfnod dros dro mewn senario ‘dim cytundeb’ i ddiogelu dinasyddion a busnesau’r DU ac i darfu cyn lleied â phosibl arnynt, p’un a yw’r UE yn dymuno darparu’r un trefniadau ai peidio. Bydd graddau’r fath ddilyniant yn amrywio fesul maes, fel y manylir mewn hysbysiadau technegol penodol, gyda newidiadau’n digwydd mewn meysydd gwahanol dros amser. Yn hanfodol, fodd bynnag, caiff newidiadau o’r fath eu cymhwyso ble bynnag a phryd bynnag a fydd orau ar gyfer y DU.

Mae’r dull hwn wrth wraidd llawer o’n cynlluniau ‘dim cytundeb’ sydd eisoes yn gyhoeddus. Er enghraifft, mae Deddf yr UE (Ymadael) 2018 yn sicrhau, ym mhob senario, y bydd yr un rheolau a chyfreithiau’n gymwys y diwrnod cyn ymadael a’r diwrnod wedi hynny, gyda Senedd y DU yn cytuno ar newidiadau dros amser.

Rydym am i fusnesau deimlo sicrwydd y bydd y llywodraeth, hyd yn oed mewn senario ‘dim cytundeb’ ym mis Mawrth 2019, yn ceisio gwneud yr hyn y mae’n ei gallu i sicrhau bod y newid mor esmwyth â phosibl ac yn caniatáu amser i wneud newidiadau sylweddol.

Dyna pam mae’r hysbysiad technegol ar feddyginiaethau dynol a gyhoeddwyd heddiw yn cadarnhau y bydd y llywodraeth yn parhau i gydnabod swp-brofion, ardystiadau Person Cymwys ac yn rhyddhau meddyginiaethau dynol a wnaed yn yr UE, hyd nes y bydd y llywodraeth yn ystyried bod angen gwneud newidiadau pellach, gan osgoi’r angen i ail-brofi’r meddyginiaethau hyn yn y DU. Byddwn hefyd yn parhau i gymhwyso rheolaethau tollau tra awtomataidd, sy’n seiliedig ar risg ac sy’n canolbwyntio ar gudd-wybodaeth pan fo’r DU yn gadael yr UE. Yn yr un modd â heddiw, bydd CThEM yn gweithio’n agos gyda diwydiannau i sicrhau y cynhelir ei ymyriadau mewn modd sy’n creu cyn lleied â phosibl o oedi a beichiau ychwanegol ar fasnach gyfreithlon, gan hefyd sicrhau cydymffurfiad mewn modd cadarn.

Nid yw’r dull o ddilyniant yn golygu y bydd popeth yn aros yr un fath, ond y flaenoriaeth yw sicrhau cymaint o sefydlogrwydd â phosibl wrth ymadael, a hynny drwy weithredoedd y llywodraeth.

Er enghraifft, bydd yn rhaid addasu fframwaith y gwasanaethau ariannol i adlewyrchu’r ffaith na fydd y DU yn rhan o fframwaith yr UE ar gyfer gwasanaethau ariannol mwyach. Er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer senario ‘dim cytundeb’, bydd dull llywodraeth y DU tuag at wasanaethau ariannol, yn gyffredinol, yn trin gwladwriaethau’r AEE yn yr un modd, i raddau helaeth, ag yr ydym yn trin trydydd gwledydd eraill, ar wahân i achosion pan fo dull gwahanol yn angenrheidiol er mwyn rheoli’r newid i gyfundrefn annibynnol yn y DU. Er enghraifft, bydd y Gyfundrefn Caniatadau Dros Dro yn caniatáu i gwmnïau a chronfeydd yr UE sy’n dod i mewn i’r DU barhau i ddarparu gwasanaethau yn y DU am gyfnod dros dro ar ôl gadael.

Mae meysydd lle y byddai’n angenrheidiol neu’n fuddiol gwneud newidiadau pellach yn ddomestig er mwyn gwella canlyniadau mewn senario ‘dim cytundeb’. Ceir enghreifftiau o hyn mewn dau o’r hysbysiadau technegol sy’n cael eu rhyddhau heddiw. Yn ogystal â’r gwarantau ynghylch ariannu a wnaed eisoes, gall y llywodraeth gyhoeddi heddiw y bydd sefydliadau nawdd y DU yn gallu parhau i ymgeisio am gyllid o gyllideb graidd Mecanwaith Amddiffyn Sifil a Nawdd Dyngarol Ewropeaidd (ECHO) oherwydd bydd y DU yn darparu sicrwydd ariannol ar gyfer unrhyw gytundebau a lofnodwyd cyn mis Mawrth 2019 pe bai senario ‘dim cytundeb’ er mwyn i gyrff anllywodraethol y DU fodloni meini prawf cymhwystra. Rydym hefyd yn amlinellu’r trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y DU yn bodloni ei hymrwymiadau atal-lledaenu a dulliau diogelu niwclear rhyngwladol pan na fydd dulliau diogelu Euratom yn gymwys mwyach, gyda’r Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR) yn cyflwyno cyfundrefn dulliau diogelu niwclear ddomestig.

Rydym yn glir bod yn rhaid i ni, mewn senario ‘dim cytundeb’, barchu ein perthynas unigryw ag Iwerddon, gwlad yr ydym yn rhannu ffin dirol â hi ac sy’n gyd-lofnodwr Cytundeb Belfast. Mae llywodraeth y DU wedi bod yn gyson wrth roi’r gwaith o gynnal Cytundeb Belfast a’i olynwyr wrth wraidd ein dull. Mae’n diogelu’r egwyddor cydsyniad y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon wedi’i gosod arni. Rydym yn cydnabod y sail y mae wedi’i rhoi ar gyfer cydweithio economaidd a chymdeithasol cryf ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithio rhwng y gogledd a’r de rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r cydweithio hwn yn unol â llythyren ac ysbryd rhan dau o’r Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi nodi y byddai angen iddi drafod trefniadau yn achos ‘dim cytundeb’ â’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod-wladwriaethau’r UE. Mae’r DU yn barod i ymgysylltu mewn modd adeiladol yn y senario hwn i fodloni ein hymrwymiadau a gweithredu er budd pennaf trigolion Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau o gryn bwys y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y DU a’r UE yn eu cyflwyno yn y cyd-destun unigryw a hynod sensitif hwn.

Mae llywodraeth y DU, fodd bynnag, yn dal i fod yn gyfrifol fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, am barhau â’r gwaith o baratoi ar gyfer yr ystod lawn o ganlyniadau posibl, gan gynnwys ‘dim cytundeb’. Wrth i ni wneud hynny, ac wrth wneud penderfyniadau, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Dull yr UE

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gymryd camau unochrog i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ac i flaenoriaethu sefydlogrwydd pe bai senario ‘dim cytundeb’.

Rydym yn croesawu cyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn ar baratoi ar gyfer ymadael, sy’n nodi y dylid cynyddu paratoadau ar bob lefel ac ar gyfer pob senario.

Mewn senario ‘dim cytundeb’, mae’r Comisiwn wedi nodi y byddai’n bwriadu trin y DU i bob pwrpas fel trydedd wlad. Mae’r UE wedi awgrymu y byddai’n cymhwyso rheoliadau a thariffau wrth ffiniau â’r Deyrnas Unedig fel trydedd wlad, gan gynnwys gwiriadau a rheolaethau ar gyfer tollau, safonau iechydol a ffytoiechydol, a chadarnhad o ran cydymffurfiad â normau’r UE.

Felly, mae’r hysbysiadau technegol hyn yn amlinellu sut y byddai angen i fusnesau baratoi ar gyfer gwiriadau tollau a fyddai’n gymwys os ydynt ond yn masnachu gyda’r UE ar hyn o bryd.

Mae’n aneglur ar hyn o bryd pa fesurau lliniaru y gallai’r UE ddewis eu mabwysiadu. Byddai eglurder o ran y camau y gallai’r UE ystyried eu cymryd i gynnal sefydlogrwydd am gyfnod dros dro yn rhoi sicrwydd i fusnesau a dinasyddion yr UE a’r DU fel ei gilydd.

Mewn senario ‘dim cytundeb’, bydd sawl cyd-ddibyniaeth rhwng ein priod gynlluniau wrth gefn. Mae’r DU yn credu’n daer ei bod o fantais i’r UE a’r DU fel ei gilydd i barhau i drafod y rhain, gan gynnwys drwy reoleiddwyr a sefydliadau.

Rydym yn falch o weld bod yr UE yn ymrwymo i gynyddu paratoadau ar gyfer pob senario a’i fod wedi cydnabod, yn ei gyfathrebiad diweddar, y bydd hyn yn mynnu paratoadau pwrpasol gan aelod-wladwriaethau, awdurdodau cenedlaethol a lleol, gan amrywio yn ôl eu hagosrwydd at y DU a’u rhwymau economaidd â’r DU.

Rydym yn barod i ddwysáu ein hymgysylltiad a’n cydweithrediad â Grŵp Parodrwydd ar gyfer Brexit y Comisiwn, sefydliadau eraill yr UE ac aelod-wladwriaethau ar baratoadau ar gyfer ein hymadawiad er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau a dinasyddion y DU a rhai’r UE. Mae sawl maes lle y mae cyd-drafodaethau technegol a gweithredol rhwng arbenigwyr o’r DU a’r UE yn angenrheidiol, megis sicrhau y gallwn gynnal gwasanaethau awyr di-dor ar draws Ewrop, parhau i allforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, a hefyd y gall data personol barhau i lifo rhwng y DU a’r UE. Mae trafodaethau technegol eisoes yn mynd rhagddynt mewn rhai meysydd, er enghraifft rhwng Banc Canolog Ewrop a Banc Lloegr, ac rydym yn awyddus i weld y fath drafodaethau’n cael eu hefelychu mewn meysydd eraill sydd â blaenoriaeth.

Amserlen a chasgliad

Heddiw, caiff y gyfres gyntaf o 25 o hysbysiadau technegol ei chyhoeddi. Caiff rhagor o hysbysiadau technegol eu cyhoeddi ym mis Medi i amlinellu manylion pellach y senario hwn a beth y dylai busnesau a dinasyddion ei wneud i baratoi. Mae’r hysbysiadau hyn at ddiben arweiniad yn unig. Dylai busnesau a dinasyddion ystyried a oes angen cyngor proffesiynol ar wahân arnynt cyn gwneud paratoadau penodol.

Ochr yn ochr â chyhoeddi’r hysbysiadau technegol, gall y cyhoedd ddisgwyl gweld rhagor o gyfathrebiadau ynghylch cynlluniau ‘dim cytundeb’ a rhagor o waith o ran gweithredu’r cynlluniau hyn. Bydd hyn yn rhedeg yn gyfochr â gwaith parhaus y llywodraeth o sicrhau Cytundeb Ymadael a fframwaith ar gyfer y dyfodol sydd er budd pennaf y DU a’r UE, a dyma’r prif nod o hyd.

Dim ond ar ôl i Senedd y DU gadarnhau’r cytundeb, ac i Gyngor yr UE gael cydsyniad Senedd Ewrop a mabwysiadu’r penderfyniad i gloi’r cytundeb, y gallwn fod yn sicr na fydd y DU yn mynd i senario ‘dim cytundeb’ ym mis Mawrth 2019.

Rhaid parhau â’r paratoadau ar gyfer senario ‘dim cytundeb’ felly. Ni ddylai pobl na busnesau adael i’r cynlluniau a’r paratoadau ‘dim cytundeb’ eu dychryn, ac ni ddylent ychwaith briodoli unrhyw besimistiaeth iddynt. Yn hytrach, dylent deimlo sicrwydd ein bod yn arfer dull cyfrifol, gan sicrhau y gall ymadawiad y DU fod mor esmwyth â phosibl ym mhob senario.