Adroddiad annibynnol

Y Comisiwn Masnach ac Amaeth: Adroddiad Terfynol (Crynodeb gweithredol)

Diweddarwyd 12 March 2021

Nid yw’r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth yn gweithredu rhagor. Cafwyd ei ddisodli gan Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth newydd, sydd â rôl ac aelodaeth.

Rhagair y Cadeirydd

Ym mis Gorffennaf 2020, fe’m gwahoddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, y Gwir Anrhydeddus Liz Truss AS, i gadeirio corff annibynnol newydd, y Comisiwn Masnach ac Amaeth. Bu galw mawr cynyddol ar gyfer Comisiwn o’r fath dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd amseriad ein sefydlu yn gwneud synnwyr.

Ein tasg oedd cynghori Llywodraeth y DU ar y ffordd orau o hyrwyddo buddiannau ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr Prydain mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. I rai gallai hyn ymddangos yn gymharol syml, ond yn bendant nid yw hynny’n wir. Mae darparu set o argymhellion sy’n cydbwyso rhyddfrydoli masnach â’r hyn sydd bwysicaf i ddinasyddion y DU ac sy’n deg i sector bwyd-amaeth y DU yn dipyn o gamp. Ond mae hyn yn ymwneud â’r dyfodol a bydd y cenedlaethau nesaf yn ein beirniadu ar y blaenoriaethau a bennir gennym yn awr. Nid yw’r hyn rydym yn ei gynnig yn rhywbeth tymor byr a bydd rhai cydrannau yn cymryd amser i’w gweithredu.

Mae dod yn wladwriaeth fasnachu annibynnol am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd yn gyfle mawr. Gall allforwyr y DU chwilio am farchnadoedd newydd a gall y DU helpu i lunio’r rheolau sy’n rheoli masnach ryngwladol.

Nid oedd cychwyn fel partner masnachu allanol i’r UE yng nghanol pandemig byd-eang byth yn mynd i fod yn hawdd. Bydd yn rhaid i fusnesau bwyd-amaeth, yn debyg i lawer o fusnesau eraill, wneud addasiadau i barhau yn gystadleuol. Rydym yn edrych yn fanwl ar yr opsiynau, ond wedi archwilio’r sefyllfa, rydym yn dod i’r casgliad na fydd pawb ar ei ennill.

Wrth i’r amgylchedd masnachu esblygu, mae ymddygiad defnyddwyr a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud yn esblygu hefyd. Mae llawer mwy o ymwybyddiaeth o effaith ffermio a chynhyrchu bwyd ar yr amgylchedd. Mae defnyddwyr eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod a sut y cafodd ei gynhyrchu. Maent eisiau cael sicrwydd bod anifeiliaid yn cael eu trin yn drugarog a bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu. Mae llai o oddefgarwch am y symiau enfawr o fwyd sy’n cael eu gwastraffu mewn rhai rhannau o’r byd er bod miliynau yn llwgu mewn mannau eraill.

Y cwestiwn yr oedd yn rhaid i ni ei ofyn i ni ein hunain, felly, oedd sut i sicrhau sector ffermio cystadleuol wrth ddarparu bwyd fforddiadwy a gynhyrchir mewn modd cynaliadwy. Nid oes unrhyw atebion hawdd. Rydym yn gwybod y gallai hyn fod wedi troi’n ymarfer academaidd gydag allbynnau afrealistig. Felly, gwnaethom wirio bod yr hyn yr oeddem yn ei gynnig yn cydymffurfio â rheolau rhyngwladol a’i fod yn ymarferol. Yna gwnaethom asesiadau ynghylch sut y byddai ein partneriaid masnach posibl yn edrych ar ddull gweithredu’r DU. Credwn fod ein hargymhellion yn pasio’r tri phrawf hynny.

Gwnaethom ddechrau ar y sail bod angen dull hirdymor o fwydo’r DU, gan ganolbwyntio ar 3 maes allweddol — bwyd fforddiadwy, diogelu’r amgylchedd a helpu’r rhai sydd am fyw bywydau iachach mewn system sy’n deg i bawb sy’n cymryd rhan.

Mae arnom angen polisi masnach yn y DU hefyd sy’n creu system ffermio deg a diogel i bawb. Mae hyn yn golygu na fydd ras i’r gwaelod, dim llithro’n ôl na throi’r cloc yn ôl ar safonau ac uchelgais i chwarae rhan flaenllaw mewn materion amaethyddol rhyngwladol.

Ein nod oedd gosod yr egwyddorion, y strategaethau a’r amcanion y bydd eraill yn eu defnyddio i’n mesur wrth ddod i gytundebau masnach. Er mwyn helpu i lywio ein ffordd o feddwl, gofynnwyd am farn a syniadau ffermwyr, busnesau, cyrff masnach, sefydliadau academaidd a chymdeithas sifil a chynrychiolwyr etholedig ar draws y Deyrnas Unedig. Ymatebodd dros 400 i arolwg o dystiolaeth neu gwnaethant gymryd rhan mewn trafodaethau bwrdd crwn rhithwir a sioeau teithiol rhanbarthol yn Lloegr a’r gwledydd datganoledig.

Casglodd ein gweithgorau ar gystadleurwydd, safonau a materion defnyddwyr dystiolaeth gan arbenigwyr ym maes bwyd-amaeth, lles anifeiliaid a’r amgylchedd. Rhoddodd arbenigwyr polisi masnach a thrafodwyr masnach gyngor i ni hefyd. Dywedwyd wrthym fod ein proses ymgysylltu yn rhagorol o ran ei chyrhaeddiad ond, yn bwysicach, roedd ansawdd y dealltwriaethau a gawsom yn gwneud ein tasg ychydig yn haws. Rydym yn hynod werthfawrogol o bawb sydd wedi cyfrannu gwybodaeth arbenigol i’n helpu i lunio ein hargymhellion sydd, yn ein barn ni, yn arloesol, yn weithredol ac yn bragmatig.

Cawsom ein sefydlu yn Gomisiwn annibynnol, anwleidyddol. Mae hyn wedi ein galluogi i ystyried barn arbenigwyr profiadol iawn, a ddaeth â safbwyntiau o bob rhan o’r sectorau amaethyddol a masnach. Rydym wedi cael trafodaethau cadarn trwy gydol y broses. Nid ydym wedi cytuno â’n gilydd bob amser, ond mae’r ymrwymiad ar y cyd i’n cenhadaeth wedi bod yn allweddol wrth ddod i gasgliadau cyffredin sy’n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad hwn.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, cynhaliwyd holl gyfarfodydd y Comisiwn a digwyddiadau ymgysylltu allanol yn rhithwir. Mewn rhai ffyrdd, roedd hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â phobl o bob cwr o’r DU a thu hwnt. Ond roedd yn drueni na fu i aelodau’r Comisiwn byth gyfarfod yn gorfforol, ar wahân i rai yn ein digwyddiad lansio.

Hoffwn ddiolch hefyd i’r tîm ymroddedig a roddai gefnogaeth i’n trafodaethau, gan ein cadw yn drefnus ac a weithiodd yn ddiflino i greu’r ddogfen hon.

Roedd cael gwasanaethu fel Cadeirydd y Comisiwn Masnach ac Amaeth yn bleser mawr.

Tim J Smith

Crynodeb gweithredol

Rydym ar groesffordd.

Mae partneriaid masnachu yn credu bod ymagwedd gwladwriaeth tuag at ryddfrydoli masnach mewn nwyddau amaethyddol yn rhywbeth totemaidd; yn brawf litmws. Mae’r hyn y mae’n rhaid inni ei ddatrys yn broblem anodd iawn. Rydym yn ceisio dod o hyd i lwybr y gallwn ei ddefnyddio i goleddu strategaeth fasnach agored a gafodd ei rhyddfrydoli yn hyderus, ac ymagwedd wirioneddol gilyddol tuag at drafodaethau. Yn y cyfamser, rydym yn ceisio diogelu safonau pwysig mewn ffordd nad yw’n warchodol nac yn llurgunio masnach. Mae’n llwybr sy’n addo y byddwn yn dangos arweiniad gwirioneddol ar faterion, amgylcheddol, moesegol a lles ac ar yr hinsawdd. Ni fyddwn yn tanseilio degawdau o gynnydd cadarn, a enillwyd trwy waith caled, ac ni fyddwn yn symud effeithiau’r defnydd o fwyd yn y DU dramor. Mae’r ymagwedd hon yn mynnu ein bod yn rhoi eglurder yn ein gweledigaeth, ein hegwyddorion a’n hargymhellion. Os ydym yn uchelgeisiol ac yn gadarnhaol yn ein hagwedd, byddwn yn trechu’r perygl o syrthni.

Mae’r DU wedi bod yn llywio llwybr drwy rai o’r wythnosau a’r misoedd mwyaf ansicr y mae unrhyw un ohonom wedi’u profi yn ystod ein hoes. Pan ddechreuodd y Comisiwn hwn ar ei waith ym mis Gorffennaf 2020, nid oedd y broses ddiflino gymhleth o ddod i gytundeb â’r UE wedi dod i ben. Roedd COVID-19 yn rhoi pwysau digynsail ar ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl. Ond wrth i ni baratoi’r adroddiad hwn ar ddechrau’r flwyddyn newydd, mae ymdeimlad o optimistiaeth newydd am yr hyn sydd o’n blaenau. Mae Cytundeb Masnach a Chydweithredu UE-DU yn golygu bod y DU yn gadael undeb tollau yr UE a marchnad sengl gyda fframwaith clir, sy’n rhoi trefniant cwota sero tariff yn ei ganol. Mae’n garreg filltir hollbwysig, ac er bod cyfnod anochel o addasu ac aflonyddwch cychwynnol, mae’r cytundeb wedi rhoi sicrwydd i’r DU. Yn y cyfamser, mae COVID-19 yn parhau i fod yn gefndir i fywydau bob dydd, ond mae’r rhaglen frechu yn rhoi gobaith i bob un ohonom y byddwn yn dychwelyd i fywyd normal.

Dros y misoedd diwethaf hyn, mae ein system bwyd a ffermio wedi parhau’n gadarn ac yn gryf. Mae hyn yn dyst i arbenigedd a phenderfyniad y sector a’r strwythurau cadwyn gyflenwi sydd wedi esblygu dros ddegawdau. Ar ôl pwl cychwynnol o banig, mae defnyddwyr i raddau helaeth wedi cael mynediad parhaus at y bwyd amrywiol, o ansawdd uchel a fforddiadwy y maent yn gyfarwydd ag ef. Os rhywbeth, mae bwyd wedi mynd yn ffocws sydd hyd yn oed yn fwy canolig i fywyd bob dydd. Nid bychanu rhai o’r heriau yw hynny; mae tlodi bwyd yn broblem a ddylai fod yn rhywbeth a geir mewn llyfrau hanes yn unig erbyn hyn. Mae ein sector lletygarwch wedi cael ei daro yn arbennig o galed. Yn anad dim, mae’r sefyllfa gyfan wedi ein hatgoffa na ddylem gymryd ein cyflenwad bwyd yn ganiataol.

Rydym bellach yn cychwyn ar gyfnod newydd, fel gwladwriaeth annibynnol, cyfnod o lunio a chyflwyno polisi masnach blaengar newydd. Gall y DU gyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer masnachu i’r byd. Gallwn wneud datganiad clir am ein blaenoriaethau, lefel ein huchelgais, sut rydym am i’n cadwyni gwerth byd- eang weithio a’r hyn yr ydym am ei gyflawni gyda’n partneriaid masnachu. Mae’n rhaid i ni wneud hyn yn gyflym ond mewn ffordd bwyllog a meddylgar. Mae’r byd yn ein gwylio gyda diddordeb i weld pa lwybr y cymerwn. Bydd yr hyn a wnawn yn y misoedd nesaf yn pennu’r naws am beth amser i ddod. Mae angen i ni nodi na fyddwn yn parhau i gael ein cyfyngu gan ein cyn-aelodaeth o’r UE, a’n bod yn wirioneddol agored i berthnasau masnachu newydd sydd wedi’u rhyddfrydoli. Mae 2021 hefyd yn flwyddyn allweddol ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol. Mae ein Llywyddiaeth o’r G7 a’n rôl fel y wladwriaeth sy’n cynnal y COP26 yn rhoi cyfuniad unigryw o gyfleoedd inni ddangos cryfder ac arweinyddiaeth.

Mae hyn yn dod â ni yn ôl at yr her allweddol a nodwyd ar y dechrau. Mae angen i ni fod yn glir ynghylch ein strategaeth a chreu cydlyniad ar draws adrannau gwahanol y llywodraeth, cyn i ni eistedd wrth y bwrdd trafod.

Mae’n amlwg bod y sector ffermio ymhlith y rhai y mae gadael yr EU yn cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae’r newid o ddegawdau o gymhorthdal a rheolaeth trwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn golygu y bydd angen i’r sector ailraddnodi i sefyllfa gwbl gystadleuol. Bydd y diwydiant yn ailstrwythuro a bydd llawer, ond nid pob un, yn addasu. Mae llawer yn y fantol; nid cynhyrchwyr bwyd yn unig yw ein ffermwyr, ond ceidwaid ein cefn gwlad, ein hamgylchedd naturiol a’n bioamrywiaeth, ac yn gonglfeini cymunedau gwledig. Bydd masnach yn allweddol i fod yn gystadleuol, ac mae disgwyliadau’r sector o gyfleoedd allforio newydd yn uchel. Mae’n disgwyl datgloi amrywiaeth o gyfleoedd newydd ar gyfer cig, llaeth, grawnfwydydd, pysgod, wisgi a llu o gynhyrchion eiconig eraill y DU.

Mae ein defnyddwyr, er eu bod yn blaenoriaethu pris, hefyd yn cael eu cyffroi gan y posibilrwydd o gael mwy o ddewis o gynhyrchion o bob cwr o’r byd. Rydym i gyd yn dod yn fwyfwy chwilfrydig ynglŷn ag o ble mae ein bwyd yn dod a sut mae’n cael ei gynhyrchu. Yn gynyddol, mae ôl troed amgylcheddol, ffactorau moesegol a lles anifeiliaid yn arwain ein penderfyniadau. Mae tryloywder yn hanfodol ar draws y gadwyn gyflenwi. Mae’r gallu i olrhain yn darparu gwybodaeth ynghylch tarddiad. Mae gan labelu rôl, ac yn benodol mae labeli gwlad y tarddiad a chynlluniau sicrwydd trydydd parti yn darparu ffyrdd cyfleus o ddangos bod y cynnyrch wedi cyrraedd safon benodol. Ymhlith yr enghreifftiau cyfarwydd byddai Masnach Deg, Tractor Coch a Chynghrair y Fforestydd Glaw. Ond, gyda bywydau prysur, yn aml nid oes gan bobl amser i graffu ar y pethau y maent yn eu prynu ac maent yn disgwyl y sicrwydd bod gan y llywodraeth hyn o dan reolaeth ac y gallant siopa’n ddirwystr gan wybod bod safonau sylfaenol yn cael eu cadw a bod modd olrhain y bwyd drwy’r gadwyn gyflenwi.

I rai, cafodd yr hyder hwn yn y fframwaith safonau ei erydu yn ddiweddar. Safonau amgylcheddol, moesegol a lles anifeiliaid uchel sydd wedi cael eu creu yn ein system fwyd ddomestig, dros ddegawdau lawer. Ymddengys eu bod dan fygythiad oherwydd effaith niweidiol bosibl llofnodi cytundebau â gwledydd yr ymddengys fod eu safonau bwyd yn wannach na’n safonau ni. Mae undebau ffermio, busnesau, cymdeithas sifil, grwpiau defnyddwyr ac enwogion wedi ceisio diogelu’r safonau pwysig hyn.

Mewn ymateb, rydym wedi mynegi gweledigaeth o’r llwyddiant y dylai Llywodraeth y DU anelu ato yn y dyfodol wrth ddatblygu a defnyddio strategaeth fasnach. Adlewyrchir y weledigaeth hon mewn cyfres o 6 egwyddor yr ydym yn awgrymu y dylent arwain y llywodraeth yn y gwaith hwn.

Y weledigaeth

Mae gan y DU bolisi masnach uchelgeisiol sy’n cyfrannu at system ffermio a bwyd fyd-eang sy’n deg ac y mae pawb sy’n cymryd rhan ynddi, gan gynnwys ffermwyr, busnesau a dinasyddion, yn ymddiried ynddi o’r tarddiad hyd at y defnydd terfynol. Mae ein bwyd yn ddiogel, yn iach, yn fforddiadwy, yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd nad yw’n niweidio’r blaned, sy’n parchu urddas anifeiliaid ac yn rhoi elw priodol i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Yr egwyddorion

Dylai’r DU anelu at:

  • hyrwyddo rhyddfrydoli masnach, i ddylanwadu’n gadarnhaol ar arloesedd a chynhyrchiant, a phris a dewis i ddefnyddwyr
  • blaenoriaethu sector bwyd-amaeth domestig ffyniannus a gefnogir gan bolisïau domestig a masnach sy’n ategu ei gilydd
  • sicrhau bod mewnforion bwyd-amaeth yn cyrraedd safonau perthnasol y DU a rhyngwladol o ran diogelwch bwyd a bioddiogeledd
  • paru mynediad di-dariff i’r farchnad gyda’r hinsawdd, yr amgylchedd, lles anifeiliaid a safonau moesegol perthnasol, gan unioni materion ynghylch cystadleuaeth sy’n codi pan nad yw mewnforion a ganiateir yn bodloni safonau perthnasol y DU a rhyngwladol
  • arwain newid, pan fydd ei angen, i’r fframwaith rhyngwladol o reolau ar fasnach a safonau perthnasol, i fynd i’r afael â heriau byd-eang newid hinsawdd a dirywiad amgylcheddol
  • cefnogi gwledydd sy’n datblygu i gael mynediad at fanteision llawn y system fasnachu fyd-eang

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth o bolisi masnach uchelgeisiol sy’n parchu’r egwyddorion yr ydym wedi’u nodi, rydym wedi datblygu cyfres o argymhellion ar gyfer gweithredu mewn 5 maes. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i atgyfnerthu eu heffaith ar ei gilydd, a chredwn fod angen i Lywodraeth y DU weithredu ar draws yr holl feysydd hyn.

Yn gyntaf, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y DU ddatblygu strategaeth fasnach bwyd-amaeth feiddgar ac uchelgeisiol. Byddai hyn yn galluogi dull cydlynol o ymdrin â’r sector sy’n parchu gwahanol gyfrifoldebau Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ac yn darparu fframwaith o flaenoriaethau ar gyfer trafodaethau masnach yn y dyfodol. Dylai’r strategaeth fod yn seiliedig ar ddull rhyddfrydoli tuag at bolisi masnach, gan ganolbwyntio ar ddod â chyfleoedd newydd i fusnesau yn y DU, ar yr amod ei fod yn diogelu safonau pwysig. Byddai angen i’r strategaeth fasnach bwyd-amaeth gael ei fframio yng nghyd-destun strategaeth fwyd ehangach y DU.

Dylai strategaeth masnach bwyd-amaeth fod yn gatalydd ar gyfer dwyn ynghyd fuddiannau ac ymdrechion holl adrannau perthnasol Llywodraeth y DU ar draws bwyd-amaeth, masnach a datblygu.

Yr ydym wedi canolbwyntio’n benodol ar yr angen i gydbwyso rhyddfrydoli â pheidio â thanseilio safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid DU sy’n arwain y byd. Argymhellwn felly y dylai llywodraeth y DU fabwysiadu ymagwedd tuag at fewnforion a fyddai’n cyd-fynd â’i hymagwedd gyffredinol tuag at ryddfrydoli masnach a cheisio i ostwng ei dariffau a’i gwotâu i sero o fewn cytundebau masnach dros gyfnod rhesymol o amser. Byddai hyn yn dibynnu ar fewnforion yn cyrraedd y safonau uchel o ran cynhyrchu bwyd a ddisgwylir gan gynhyrchwyr y DU. Byddai’n ddeinamig, gan gydnabod y rhyngweithio rhwng polisi masnach cyffredinol, darpariaethau cytundebau masnach rydd penodol a llwyddiant eiriolaeth y DU ar gyfer lles anifeiliaid, safonau amgylcheddol a moesegol mewn fforymau rhyngwladol. Byddai’n cynnwys mesurau diogelu rhag llurguniad masnach gwrth-gystadleuol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gynnig arloesol, ond rydym wedi cael ein hysbrydoli gan ddarpariaethau cyfochrog yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu UE-DU. Mae ein cynnig yn llai radical ac mae’n bosibl ei fod yn llai dadleuol gyda phartneriaid masnachu nag y byddai wedi bod ychydig fisoedd yn ôl.

Gwyddom y dylem fod yn ymarferol a chydnabod bod Llywodraeth y DU yn parhau i drafod nifer o gytundebau masnach rydd gyda gwledydd fel UDA, Awstralia a Seland Newydd ar hyn o bryd. Byddai heriau o ganlyniad i newid y dull hwn yn y tymor byr. Mae ein hargymhelliad yn ddyhead strategol ar gyfer polisi masnach y DU yn y tymor canolig a’r tymor hwy.

Yn ail, mae ein gweledigaeth yn gofyn am arweinyddiaeth ryngwladol gref gan y DU. Mae hyn yn arbennig o hanfodol o ran gweithredu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Er mwyn I fasnach fyd-eang ffynnu yn y dyfodol, rhaid ei gwneud yn fwy cynaliadwy ac yn gallu gwrthsefyll ergydion allanol. Mae’n rhaid i’r DU ddwyn pwysau ar fforymau rhyngwladol a gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i godi safonau yn ymwneud â’r hinsawdd a’r amgylchedd. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad clir a chamau gweithredu ystyrlon.

Mae angen i’r DU fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth fyd-eang y mae 2021 yn eu darparu. Eleni, mae’r DU yn cymryd rhan flaenllaw yn y G7, yn COP26 ac yn COP15. Yn y fforymau hyn, gall y DU ddangos arweiniad o ran datrys yr argyfwng hinsawdd a hefyd ar faterion lles anifeiliaid, hawliau llafur, masnachu moesegol a gwrthsefyll ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Rydym yn rhoi awgrymiadau ymarferol ynghylch sut y gellid cyflawni hyn. Dylai dull y DU mewn fforymau rhyngwladol fod yn fwy beiddgar a chael ei danddatgan yn llai a dylem ddefnyddio ein pobl orau yn y lleoliadau hyn. Dylem ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer atebion sy’n fuddiol i’r ddwy ochr gyda gwledydd sy’n datblygu. Dylem feithrin cefnogaeth ar gyfer dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a gweithio o fewn normau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, tra ydym yn cydnabod lle mae angen i ni herio’r sefyllfa sydd ohoni.

Yn drydydd, dylai Llywodraeth y DU barhau i gryfhau ei dull o drafod Cytundebau Masnach Rydd (FTAs). Rydym yn cydnabod i’n timau negodi yn y DU drafod a chyflwyno cytundebau masnach newydd a chytundebau parhad ar gyflymder digynsail. Nodwyd gennym rai arferion cadarnhaol a gynhwysir yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu UE-DU a ddylai lywio ein huchelgeisiau ar gyfer FTAs gyda phartneriaid masnachu eraill. Wrth wneud hynny, nid ydym wedi tanystyried yr heriau sydd ynghlwm â chyrraedd cytundebau masnach blaengar, ac nid ydym yn bwriadu rhwymo dwylo ein trafodwyr yn ddiangen.

Mae angen i Lywodraeth y DU barhau â’i gwaith i ddatblygu dulliau effeithiol o graffu a dadansoddi FTAs. Dylai asesiadau effaith gynnwys dadansoddiad ansoddol o effeithiau pan fydd prinder mesurau meintiol, gan gynnwys mewn perthynas â’r amgylchedd a lles anifeiliaid. Dylai mandadau ar gyfer FTAs adlewyrchu ymgynghori ac ymgysylltu eang, gan gynnwys gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae angen i ni gryfhau prosesau ar gyfer archwilio, sicrwydd ac ardystio sy’n seiliedig ar risg.

Yn bedwerydd, dylai Llywodraeth y DU roi mwy o egni ac adnoddau i allforio, mynediad i’r farchnad a marchnata. Mae’r rhain yn rhagofynion hanfodol ar gyfer cynyddu allforion bwyd-amaeth y DU y tu hwnt i drafod cytundebau masnach.

Gwyddom fod ‘cynnig’ bwyd y DU yn un o ansawdd, o olrheinedd, o dreftadaeth, o ddiogelwch ac o safonau amgylcheddol ac o les uchel. Dylai dull cryfach newydd o allforio nodi’n systematig gynnig a chyfleoedd domestig y DU dramor a thargedu adnoddau yn unol â’r rheiny. Dylai fanteisio ar rwydwaith tramor llywodraeth y DU i ddenu diddordeb newydd yn nhechnoleg bwyd-amaeth y DU.

Gall y Llywodraeth ddefnyddio ei dylanwad gwleidyddol i agor drysau; gall busnesau adeiladu’r cadwyni cyflenwi a’r rhwydweithiau i fasnachu. Bydd cydweithio rhwng y llywodraeth a diwydiant, ar draws y DU gyfan, yn ein galluogi i gynyddu i’r eithaf bob cyfle a gaiff ein sector bwyd-amaeth I allforio. Ein huchelgais yw gwneud ein heffaith gyfunol yn fwy na swm yr hyn y gellid ei gyflawni ar wahân.

Yn bumed, dylai Llywodraeth y DU alinio ei pholisïau masnach, cymorth a hinsawdd sy’n ymwneud â bwyd- amaeth. Mae’n rhaid i’r polisïau hyn gydweithio i gryfhau ein perthynas â gwledydd sy’n datblygu dros amser, i amrywio ein cyflenwad bwyd, i gefnogi ein nodau diogeledd bwyd ac i gefnogi ffyniant economaidd y gwledydd hynny. Wrth adolygu’r polisïau hyn, dylai Llywodraeth y DU fanteisio ar ymgysylltiad strwythuredig â llywodraethau, busnesau bwyd-amaeth ac elusennau mewn gwledydd sy’n datblygu ac â busnesau bwyd-amaeth yn y DU sydd â diddordebau mewn gwledydd sy’n datblygu.

I grynhoi, mae’n rhaid i bolisi masnach y DU fod yn uchelgeisiol ac mae angen i’r cytundebau sy’n cael eu trafod fynd i’r afael â materion y genhedlaeth nesaf, nid y genhedlaeth hon yn unig. Mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar enillion tymor hir, nid ar hwylustod tymor byr. Mae angen i’r llywodraeth a busnes addasu, gan ddysgu’r gwersi o bandemig COVID-19 ac adlewyrchu’r newid ym mlaenoriaethau defnyddwyr a geir rhwng cenedlaethau.

Nid oes gennym yr amser i ohirio’r newidiadau hyn. Rydym wedi cynnig egwyddorion clir i arwain Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i’r DU symud ymlaen yn hyderus gyda strategaeth glir, sy’n cael ei gweithredu’n dda. Dylai hyn gael ei ategu gan ymrwymiad i system fwyd a ffermio deg a diogel i bawb, heb unrhyw ras i’r gwaelod na chefnu ar safonau. Dylai hefyd fod uchelgais gref i’r DU chwarae rhan flaenllaw mewn materion amaethyddol rhyngwladol a materion bwyd ac effaith economaidd gadarnhaol lle mae pawb yn teimlo budd o fasnach.

Rydym yn gweld cyfleoedd i bawb ac rydym yn optimistaidd ynghylch dyfodol y DU fel gwladwriaeth fasnachu annibynnol.

Argymhellion

Argymhelliad 1:

Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu strategaeth fasnach bwyd-amaeth feiddgar ac uchelgeisiol. Byddai hyn yn galluogi dull cydlynol o ymdrin â’r sector ar draws Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ac yn darparu fframwaith o flaenoriaethau ar gyfer trafodaethau masnach yn y dyfodol. Dylai fod yn seiliedig ar ddull rhyddfrydoli tuag at bolisi masnach, gan ganolbwyntio ar ddod â chyfleoedd newydd i fusnesau yn y DU, ar yr amod ei fod yn diogelu safonau pwysig. Dylid ei fframio’n dda yng nghyd-destun strategaeth fwyd ehangach y DU.

Argymhelliad 2

Dylai fod gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol i arwain ar fasnach bwyd-amaeth, a fyddai’n sicrhau cydlyniad polisi ar draws llywodraeth y DU. Byddai’r gweinidog yn arwain o ran pwyso am godi safonau byd-eang ar yr amgylchedd, lles anifeiliaid a masnach foesegol mewn fforymau rhyngwladol.

Argymhelliad 3:

Mae newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill o’r pwys mwyaf fel bod rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn rhan annatod o’i pholisi masnach a’i thrafodaethau. Dylai hyrwyddo’r materion hyn mewn fforymau rhyngwladol, yn enwedig y COP26. Dylai gefnogi creu fframwaith safonau byd-eang ar gyfer yr amgylchedd a metrigau clir ar gyfer mesur cynaliadwyedd amgylcheddol, tra’n sefydlu cyfres gyfatebol o safonau cenedlaethol manwl gywir. Gallai Codex Planetarius yr WWF fod yn fodel i adeiladu’r uchelgeisiau hyn.

Argymhelliad 4:

Dylai’r DU fanteisio ar ei chryfderau o ran lles anifeiliaid i ddangos arweinyddiaeth yn y byd wrth ei ymgorffori mewn polisi masnach. Dylai llywodraeth y DU chwarae rôl arweiniol mewn fforymau rhyngwladol, i godi safonau lles anifeiliaid ledled y byd. Dylai wneud hyn drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau arbenigol ac arbenigwyr a all roi cyngor annibynnol i’r llywodraeth. Yna, dylai ddatblygu perthnasau rhyngwladol a chyflwyno cynigion sy’n cael eu llunio’n ofalus, sy’n argyhoeddiadol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Argymhelliad 5:

Mae’n bwysig mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn unol â Chynllun Gweithredu Byd-eang yr WHO. Dylai llywodraeth y DU gymhwyso’r dull a gymerwyd yng Nghytundeb Cydweithredu UE-DU, ym mhob trafodaeth ynghylch masnach yn y dyfodol. Dylai hefyd fabwysiadu safiad cryf ar AMR mewn fforymau amlochrog ac yn Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddarach yn 2021.

Argymhelliad 6:

Dylai Llywodraeth y DU ymateb i’r newid amlwg yn agweddau’r cyhoedd tuag at fasnachu moesegol a nodi ei huchelgeisiau ar gyfer y sector bwyd-amaeth, i fod yn esiampl i sectorau eraill. Dylai gynnal asesiad o arferion gorfodi dramor, er mwyn rhoi perfformiad cerdyn sgorio rheolaidd ar wledydd sy’n allforio. Dylai geisio cynnwys pennod lafur a darpariaethau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ym mhob un o’r FTAs. Yn olaf, dylai sicrhau bod y DU yn arwain drwy esiampl ym Mhrydain. Bydd hyn yn cynnwys gwella cefnogaeth i Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur y DU. Mae hefyd yn golygu galw ar ddiwydiant y DU i sicrhau bod cyflogau ac amodau teg yn cael eu darparu ar gyfer gweithwyr tymhorol.

Argymhelliad 7:

Dylai llywodraeth y DU geisio adeiladu cynghreiriau byd-eang i hyrwyddo a diogelu hawliau llafur gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi allweddol. Mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai’r DU ganolbwyntio’n gyntaf ar gadwyni cyflenwi ar gyfer bananas, reis, coco, coffi a the. Dylai weithio o fewn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), fel aelod sefydlol, i bwyso am i 8 Confensiwn sylfaenol yr ILO ddod yn asesiad o berfformiad ar hawliau llafur sy’n gysylltiedig â masnach, yn hytrach nag yn ymarfer cofrestru.

Argymhelliad 8:

Dylai Llywodraeth y DU fabwysiadu ymagwedd uchelgeisiol tuag at ryddfrydoli cyfundrefn tariff mewnforio’r DU, ar gyfer gwledydd sy’n gallu bodloni’r safonau uchel o gynhyrchu bwyd a ddisgwylir gan gynhyrchwyr y DU. Dylai weithio gyda phartneriaid masnachu o fewn trafodaethau Cytundebau Masnach Rydd yn y dyfodol i ostwng tariffau a chwotâu i sero lle dangosir cywerthedd ar gyfer y safonau hyn. Mae’n rhaid i’r safonau hyn gael eu halinio â safonau byd-eang craidd, a dylai Llywodraeth y DU gymryd rhan weithredol wrth gryfhau safonau drwy fforymau rhyngwladol.

Argymhelliad 9:

Dylai llywodraeth y DU gryfhau’r asesiad o effaith polisïau a chytundebau masnach drwy wella asesiad ansoddol ar iechyd, lles, bioddiogeledd a’r amgylchedd. Dylai modelu mewn asesiadau fynd y tu hwnt i lif masnach a mynd i’r afael â chanlyniadau ehangach megis effaith ar brisiau bwyd y DU. Dylai asesu cytundebau masnach â gwledydd sy’n datblygu asesu twf a datblyglad y wlad bartner, yn ogystal â r DU.

Argymhelliad 10:

Dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod ymgynghori ac ymgysylltu ar FTAs, o’r camau cynnar o sefydlu cytundeb arfaethedig a thrwy gydol y trafodaethau, yn dryloyw, yn drwyadl ac yn fanylach nag y maent ar hyn o bryd, er yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd

Argymhelliad 11:

Er mwyn sicrhau bod polisi masnach yn y dyfodol yn ysgogi ac yn meithrin ymddiriedaeth gyda phartneriaid masnachu, dylai llywodraeth y DU weithredu proses archwilio, sicrwydd ac ardystio gadarn sy’n seiliedig ar risg. Gallai hyn gynnwys rhwydwaith Masnachwyr Yr Ymddiriedir Ynddynt trwy gydol yr holl broses i leihau gwiriadau wrth ffiniau gan awdurdodau mewn gwledydd sy’n allforio ar lwythi wedi’u selio. Dylai’r DU archwilio’n llawn y defnydd o SMART yn ogystal â thechnoleg ddiweddar fel cadwyn blociau i leihau pwyntiau tensiwn ar y ffin ac ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan. Dylid cynnal asesiadau risg bwyd-amaeth yn y dyfodol mewn ffordd dryloyw, sy’n cynnwys cyhoeddi’r canfyddiadau, ar lefel nwyddau a gwladwriaeth.

Argymhelliad 12:

Dylai Llywodraeth y DU weithio gyda’r diwydiant i gynyddu buddsoddiad mewn gwybodaeth am farchnadoedd tramor a dealltwriaeth ohonynt. Dylai gynnal mapio systematig o fanteision cystadleuol y sector. Dylai adolygu sut y gallai annog mewnfuddsoddi a fyddai’n helpu i ehangu gallu masnachu’r DU. Dylid canolbwyntio’n benodol ar gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig sy’n canolbwyntio ar fwyd amaeth.

Argymhelliad 13:

Dylai Llywodraeth y DU gefnogi a chymryd rhan mewn Cyngor Allforio Bwyd a Diod newydd, a fyddai’n dwyn ynghyd arweinwyr allforio Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ym meysydd diwydiant a llywodraeth, gyda’r cadeirydd yn cylchdroi. Byddai’r Cyngor yn galluogi cydweithio ledled y DU, rhannu gwybodaeth ac adnoddau, cefnogi allforwyr a thrafodaethau mynediad i’r farchnad, a manteisio i’r eithaf ar y manteision o gydweithio wrth barchu’r dulliau gwahanol mewn gwahanol rannau o’r DU.

Argymhelliad 14:

Dylai Llywodraeth y DU weithio gyda’r Cyngor Sector Bwyd a Diod ynghylch cais y diwydiant am sefyldu corff allforio bwyd-amaeth arbenigol ar gyfer Lloegr. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth fasnach un-stop, er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddi lwyddo. Dylai’r Llywodraeth ddarparu cyllid ychwanegol cysylltiedig ar gyfer sefydliadau cenedlaethol presennol sy’n allforio bwyd a diod.

Argymhelliad 15:

Dylai llywodraeth y DU gynyddu cyflymder yr ymdrechion i ddileu rhwystrau mynediad i’r farchnad, drwy drafodaethau ynghylch FTA a diplomyddiaeth ehangach. Dylai weithio gyda’r sector bwyd-amaeth i benderfynu a ddylid rhoi cylch gwaith ehangach i Bartneriaeth Ardystio Allforion y DU (UKECP), sy’n cyfrannu at drafodaethau mynediad i’r farchnad a pharhad, ar gyfer dofednod, cynnyrch ffres a grawnfwydydd.

Argymhelliad 16:

Dylai Llywodraeth y DU gynyddu ei hadnoddau tramor yn gyflym, drwy ehangu ei rhwydwaith o arbenigwyr bwyd-amaeth mewn llysgenadaethau mewn marchnadoedd targed. Byddai’r arbenigwyr hyn yn rhan o’r rhwydwaith o staff masnach sy’n adrodd i Gomisiynwyr Masnach Ei Mawrhydi. Dylid gwneud hyn ar y cyd â sefydliadau allweddol yn y sector a’ chyda eu cefnogaeth. Dylai’r arbenigwyr hyn ganolbwyntio ar fynediad i’r farchnad ac ar agor cyfleoedd masnachu.

Argymhelliad 17:

Dylai Llywodraeth y DU adolygu gweithgareddau marchnata a hyrwyddo ar gyfer allforion bwyd-amaeth, yn enwedig o dan faner yr ymgyrch GREAT. Dylai ganolbwyntio mwy ar ddatblygu ymgyrchoedd sy’n sensitif i anghenion gwledydd a rhanbarthau’r DU a hybu nwyddau sy’n berthnasol i farchnadoedd tramor penodol. Gellid gwneud hyn drwy’r Cyngor Allforio newydd arfaethedig ar y cyd â’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Argymhelliad 18:

Dylai Llywodraeth y DU adolygu’r cynllun caffael cyhoeddus presennol ar gyfer bwyd. Yn ogystal â sicrhau gwerth am arian ac am ddiwallu gofynion maeth, dylai wneud y gorau o’r cyfle i gyrchu bwyd o’r DU, ei gael mewn modd cynaliadwy a gwella tryloywder y broses a ddefnyddir i’w gael.

Argymhelliad 19:

Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU a’r diwydiant bwyd gydweithio i wella gwybodaeth am y wlad tarddiad yn y cadwyni bwyd rhydd, yn y gwasanaeth bwyd a chadwyni cyflenwi o fewn y wladwriaeth. Bydd hyn yn ymateb i awydd defnyddwyr i gael mwy o hyder a thryloywder yn y cadwyni cyflenwi hynny. Dylai hyn ffurfio rhan o agenda ehangach i gefnogi’r cadwyni cyflenwi hyn wrth io’r wlad adfer ar ôl pandemig COVID-19.

Argymhelliad 20:

Dylai Llywodraeth y DU gynnal ymgysylltiad strwythuredig â llywodraethau, busnesau bwyd- amaeth ac elusennau mewn gwledydd sy’n datblygu ac â busnesau bwyd-amaeth yn y DU sydd â diddordebau mewn gwledydd sy’n datblygu. Dylai fanteisio ar yr ymgysylltiad hwn er mwyn hwyluso’r gwaith o feithrin perthnasoedd a gwell dealltwriaeth ynghylch ble y byddai buddsoddiad y DU yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol. Dylai hefyd fod yn sail i gydweithio agosach rhwng y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), y DIT a Defra ar bolisi masnach bwyd-amaeth, rheoleiddio a gweithgarwch arall.

Argymhelliad 21:

Dylai Llywodraeth y DU alinio ei pholisïau ynghylch masnach, cymorth a’r hinsawdd sy’n ymwneud â bwyd-amaeth. Dylai timau ar draws y llywodraeth sefydlu rhaglenni clir a phenodol i sicrhau eu bod yn cydweithio ar hyn ac yn alinio cyllidebau a blaenoriaethau. Dylid darparu cymorth penodol i fusnesau llai a chynhyrchwyr tlotach. Dylai eu helpu i wella’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Dylai eu helpu i fodloni safonau mewn marchnadoedd allforio fel y byddant yn gallu cael gwell mynediad at fanteision masnach fyd-eang. Dylai hefyd gael ei dargedu tuag at eu helpu i symud i faes ‘gwerth ychwanegol’ a geir o brosesu a phecynnu eu nwyddau crai eu hunain, a fydd yn creu twf economaidd parhaol.

Argymhelliad 22:

Dylai Llywodraeth y DU fabwysiadu dull mwy beiddgar, mwy hyderus a mwy amlwg o weithio gyda gwledydd o’r un meddylfryd neu mewn trafodaethau lluosog neu amlochrog. Dylai gymhwyso hyn i ddylanwadu ar ddiwygiadau angenrheidiol i reolau rhyngwladol masnach a safonau. Dylai’r amcanion hyn gael eu hymgorffori mewn strategaeth gyffredin fel y gellir eu defnyddio yn yr holl drafodaethau a fforymau amlochrog perthnasol. Dylid cydnabod a chefnogi gweithgareddau rhyngwladol sefydliadau anllywodraethol (cyrff anllywodraethol) pan fyddant yn rhannu’r un weledigaeth.