Transparency data

Cylch Gorchwyl: Adolygiad Annibynnol I’r Gwasanaeth A Phrofiad Cyn-Filwyr Lhdt A Wasanaethodd Cyn 2000 (Welsh)

Published 22 June 2022

Cefndir

Hyd at 12 Ionawr 2000, roedd gwaharddiad cyffredinol ar bresenoldeb Cyfunrywiol yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Gallai’r rhai roedd yn gwasanaethu a oedd, neu y canfuwyd eu bod, yn gyfunrywiol wynebu ymchwiliadau ymwthiol ac yn y pen draw gael eu diswyddo neu eu gorfodi fel arall i adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Mae’r Llywodraeth yn derbyn bod y polisi hanesyddol hwn yn anghywir ac mae wedi ymrwymo i weithio i ddeall, cydnabod a lle bo’n briodol mynd i’r afael â’r effaith y mae wedi’i chael ar gyn-filwyr heddiw, yn enwedig mewn perthynas ag aelodau o’r gymuned LHDT.

Diben

Mae Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn wedi gofyn ar y cyd i’r Arglwydd Etherton i ddarparu adroddiad annibynnol i’r Llywodraeth o wasanaeth a phrofiadau cyn-filwyr LHDT a wasanaethodd yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi rhwng 1967 a 2000. Bydd yr adolygiad hwn yn rhoi cyfle i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gael eu clywed a galluogi’r Llywodraeth i gydnabod yn well effaith y polisïau hanesyddol yn ogystal â chydnabod y profiad bywyd o wasanaethu ar gyfer y cyn-filwyr hynny, er mwyn deall eu hanghenion cymorth yn well heddiw.

Amcanion

Bydd yr adolygiad yn ystyried profiadau cyn-filwyr LHDT a’u teuluoedd yng nghyd-destun y gwaharddiad cyn 2000, gan gynnwys:

A. natur diswyddo ac ymadawiadau eraill o’r Lluoedd Arfog;

B. yr effaith a gafodd eu profiad yn y gorffennol yn y Lluoedd Arfog ar eu bywydau dilynol; a

C. effaith y gwaharddiad ar eraill yng nghymuned y Lluoedd Arfog a allai fod wedi cael eu heffeithio, fel y rhai’r canfyddwyd yn anghywir eu bod yn gyfunrywiol.

Bydd yr Adolygiad yn gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth ynghylch sut y gall y Llywodraeth gyflawni eu hymrwymiad yn y Strategaeth Cyn-filwyr, i sicrhau bod gwasanaeth a phrofiad pob cyn-filwr yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi, mewn perthynas â’r gymuned cyn-filwyr LHDT. Dylai unrhyw argymhellion fod yn gymesur, gan ystyried gweithredu.

Cwmpas

Dylai’r Adolygiad archwilio ac ystyried profiad personél LHDT a wasanaethodd rhwng 1967 a 2000. Mae’r cyfnod penodedig hwn yn cynrychioli dechrau dad-droseddoli gweithredoedd cyfunrywiol preifat rhwng dynion dros 21 oed yng Nghymru a Lloegr hyd at godi’r gwaharddiad ar gyfunrywioldeb yng Nghymru a Lloegr yn y Lluoedd Arfog ym mis Ionawr 2000.

Dylai’r adolygiad roi sylwadau ar:

Yr ystod o effeithiau posibl y gallai’r gwaharddiad fod wedi’i chael ar y rhai yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau ar gyfer perthnasoedd yn y dyfodol, cyflogadwyedd neu sefyllfa ariannol;

Sut y gellid gwneud gwasanaethau i gyn-filwyr heddiw yn fwy hygyrch a chynhwysol fel bod cyn-filwyr LHDT, a ddiswyddwyd neu y mae’n ofynnol iddynt fel arall adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu y mae’r gwaharddiad hanesyddol wedi effeithio’n andwyol arnynt fel arall, yn teimlo bod croeso iddynt a bod y gwasanaethau ‘iddyn nhw’;

Sut y gall y Llywodraeth sicrhau bod cyn-filwyr sy’n cael eu diswyddo neu y mae’n ofynnol iddynt fel arall adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol canfyddedig yn cael eu cydnabod a’u derbyn fel aelodau llawn o gymuned y Lluoedd Arfog a bod Llywodraeth EM yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu gwasanaeth; a

Unrhyw ymchwil pellach, neu adolygiad polisi y gallai’r Llywodraeth ei gynnal i ddeall a cheisio lliniaru unrhyw effeithiau, gan gynnwys unrhyw effaith ariannol.

Allan O’r Cwmpas

Ni ddylai’r Adolygiad archwilio ac ystyried profiad personél y lluoedd arfog a wasanaethodd y tu allan i’r cyfnod penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 5, ac ni ddylai’r Adolygiad archwilio ac ystyried profiad personél y lluoedd arfog mewn grwpiau lleiafrifol eraill ychwaith.

Bydd cwmpas yr Adolygiad yn cael ei gyfyngu i edrych ar wasanaeth o fewn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Mater i’r Llywodraeth fydd nodi unrhyw wersi ehangach a allai fod yn berthnasol i feysydd eraill o’r Llywodraeth ac ni ddylai’r adroddiad wneud sylw ar y maes hwn.

Dylai argymhellion ganolbwyntio ar y canlyniad dymunol, gan adael hyblygrwydd i’r Llywodraeth o ran sut i gyflawni hynny drwy newid polisi neu broses. Ni ddylai argymhellion gynnwys newidiadau i lwybrau iawndal ariannol presennol, nac argymell cynlluniau iawndal newydd, nad ydynt wedi’u cyfyngu neu sy’n dyblygu prosesau presennol ar gyfer gwneud iawn.

Nid yw’n ddiben i’r adolygiad hwn i ddwyn unigolion i gyfrif nac i ddosrannu bai unigol am unrhyw gamwedd honedig. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys cyhuddiadau yn erbyn unigolion, boed wedi’u profi neu fel arall.

Llywodraethu

Bydd yr Adolygiad yn cael ei gynnal yn annibynnol ac yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Etherton, gydag ysgrifenyddiaeth fach yn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r Adolygydd Annibynnol wedi’i benodi gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn am gyflawni’r adolygiad hwn ac i bwy y mae’n atebol iddo.

Allbynnau Ac Amseriad

Bydd yr Adolygiad yn cynhyrchu adroddiad gan gynnwys unrhyw argymhellion, a fydd yn cael eu cyflwyno i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn erbyn 25 Mai 2023 a bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r adroddiad a’i hymateb maes o law wedi hynny.

Arwyddwyd gan Gadeirydd yr Adolygiad

Y Gwir Anrh. ARGLWYDD ETHERTON PC, KC