Ffurflen

Rhoi gwybod i CThEF am blentyn sy’n cael gofal gan awdurdod lleol

Defnyddiwch ffurflen CH193 i roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am blentyn sy’n cael gofal gan awdurdod lleol am 8 wythnos neu fwy.

Dogfennau

Rhowch wybod i CThEF ar-lein

Manylion

Fel awdurdod lleol, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted ag y byddwch yn gwybod y bydd plentyn yn cael gofal gennych, am 8 wythnos neu fwy. Mae’n rhaid i chi wneud hyn drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • yr enwau a roddwyd i’r plentyn ac unrhyw enwau eraill y mae’r plentyn yn cael ei adnabod ganddynt
  • y dyddiad y gwnaeth y plentyn ddechrau cael gofal gan yr awdurdod lleol
  • manylion cyswllt y gweithiwr cymdeithasol, y locwm, y gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd neu’r clerc sy’n gysylltiedig â’r plentyn

Sut i ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • mewngofnodi i wneud cais ar-lein — os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Budd-dal Plant ar gyfer plant sydd yn yr ysbyty neu mewn gofal
Arweiniad ar Fudd-dal Plant pan fydd plentyn yn mynd i ofal, ofal preswyl neu’r ysbyty.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Ebrill 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to include a new online form and a Welsh translation.

  2. The email form CH193 has been replaced with an online service.

  3. An online forms service is now available.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon