Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau mwg

Cyhoeddwyd 29 Rhagfyr 2020

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae cyflasynnau mwg yn cael eu hychwanegu at fwydydd, fel cig neu gaws, i roi blas ‘mwg’ iddyn nhw, fel dewis arall yn lle mygu traddodiadol. Gellir eu hychwanegu hefyd at fwydydd nad ydyn nhw’n cael eu mygu’n draddodiadol, fel cawliau, sawsiau neu ddanteithion (confectionery). Mewn rhai achosion, defnyddir cyflasynnau mwg ar lefelau isel iawn i ychwanegu mymryn o flas penodol yn unig ac nid y blas myglyd llawn.

Mae angen awdurdodi cyflasynnau mwg cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae Rheoliad a gymathwyd 2065/2003 yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y mathau hyn o gyflasynnau.

Mae cyflasynnau mwg yn cael eu rheoli o dan ddeddfwriaeth wahanol i gyflasynnau eraill, ac felly mae amseriadau gwahanol yn berthnasol ar gyfer y broses dadansoddi risg a gofynion data gwahanol ar gyfer ceisiadau. Mae awdurdodiadau yn benodol i ymgeiswyr.

Cofrestr o gyflasynnau mwg

Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi cyflasynnau mwg fel y’u pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr o gynhyrchion crai cyflasynnau mwg yn nodi rhestr o gyflasynnau mwg y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi cyflasyn mwg ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.

Dylai eich cais gynnwys:

  • crynodeb cyffredinol o’r cais
  • data gweinyddol (rhan 1)
  • data technegol (rhan 2)
  • data gwenwynegol (rhan 3)
  • cyfeiriadau ac adroddiadau (rhan 4) 

Canllawiau manwl

Ceisio cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu’r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.