Corporate report

Adroddiad Blynyddol 2024 - 2025

Published 29 September 2025

Applies to Wales

1. Cyflwyniad

Ar y 25 Gorffennaf 2016 cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfiad dan adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig (“SLC”).

Dywed Safon Rhif 164 yr Hysbysiad Cydymffurfiad:

  • Rhaid i chi gynhyrchu adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r ffordd yr ydych chi wedi cydymffurfio â’r safonau gweithredol ble y mae dyletswydd arnoch chi i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2)       Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys y wybodaeth a ganlyn (ble fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— 

(a) nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (ar sail y cofnodion a gadwoch yn unol â safon 145); (b) nifer yr aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi y gwnaethoch chi eu cynnig yn Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146); (c) os cafodd fersiwn Gymraeg o gwrs ei gynnig gennych chi yn ystod y flwyddyn honno, canran cyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail y cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146);

(ch)     nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn — 

(i)        bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,

(ii)       bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,

(iii)      bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu

(iv)      nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion yr ydych chi wedi’u cadw yn unol â safon 148);

(d)       nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. 

(3) Rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn perthyn iddi.

(4) Rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn perthyn iddi.

(5) Rhaid i chi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)       ar eich gwefan, a

(b)       ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

Mae’r ddogfen hon yn cyfateb i gynhyrchu adroddiad blynyddol SLC i sicrhau ein cydymffurfiad gyda Safon Rhif 164 ac yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2024/25 (y “BA”). 

2. Categorïau Gwybodaeth

2.1 Manylion faint o gyflogeion sydd â sgiliau iaith yn y Gymraeg ar ddiwedd y BA

Dywed Safon Rhif 145 yr Hysbysiad Cydymffurfiad fod yn rhai i’r SLC:

“gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau Cymraeg eich gweithwyr yn unol â safon 123), o nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a, ble y mae gennych y wybodaeth honno, rhaid i chi gadw cofnod o lefel sgil y gweithwyr hynny.”

Dywed Safon Rhif 123: “Rhaid ichi asesu siliau Cymraeg eich cyflogeion”

Ar ddiwedd y BA roedd gan SLC 52 o gyflogeion gyda sgiliau iaith yn y Gymraeg.

2.2 Manylion faint o aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd yn Gymraeg n SLC yn ystod y BA (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146).

Dywed Safon Rhif 124 fod yn rhaid i SLC:

“ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg — (a) recriwtio a chyfweld; (b) rheoli perfformiad; (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu; (d) delio â’r cyhoedd; ac (dd) iechyd a diogelwch.” 

Dywed Safon Rhif 146:

“Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o - (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.”

Yn y BA, 0 aelod o staff gyrsiau hyfforddi SLC a gynigir yn Gymraeg

2.3 Manylion y ganran o gyfanswm y staff a fynychodd fersiwn iaith Gymraeg o un rhyw gyrsiau a gynigodd SLC yn ystod y BA (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146).

Ddim yn berthnasol oherwydd absenoldeb unrhyw gyrsiau hyfforddi a ddarperir gan SLC yn y Gymraeg yn ystod y BA.

2.4 Manylion parthed y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gan SLC yn ystod y BA a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn —

(i)        bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,           

(ii) sgiliau iaith Gymraeg angen eu dysgu ar ôl penodi i’r swydd,

(iii) sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol, neu

(iv) nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion yr ydych chi wedi’u cadw yn unol â safon 148).

Dywed Safon Rhif 148:

“Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn — (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.”

Dywed Safon Rhif 132:

“Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys — (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.”

Yn y BA, hysbysebodd yr SLC y swyddi gwag canlynol a gafodd eu categoreiddio fel swyddible: 

(i) sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol- 0

(ii) sgiliau iaith Gymraeg angen eu dysgu dysgu ar ôl penodi i’r swydd - 0

(iii) sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol - 0

(iv) sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol – 103

2.5 Manylion y nifer o gwynion a dderbyniodd SLC yn ystod y BA parthed cydymffurfiad SLC gyda’r safonau gweithredol a fanylir yn Hysbysiad Cydymffurfiad SLC.

Ni dderbyniodd SLC unrhyw gwynion yn ystod y BA parthed cydymffurfiad SLC gyda’r safonau gweithredol a fanylir yn Hysbysiad Cydymffurfiad SLC.