Canllawiau

SDLT i Dreth Trafodiadau Tir: arweiniad trosiannol

Cyhoeddwyd 16 March 2018

Trosolwg

Mae cyflwyno Treth Trafodiadau Tir (TTT) yng Nghymru ar 1 Ebrill 2018 yn amodol ar orchymyn yn cael ei wneud gan Drysorlys EM o dan adran 16 o Ddeddf Cymru 2014. Cafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (DTTT) Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2017.

Mae cyfeiriadau at ddeddfwriaeth TTT yn yr arweiniad hwn wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y darpariaethau hyn (gan gynnwys cyfraddau a bandiau TTT), ar gael gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Drwy gydol y canllaw hwn, defnyddir 1 Ebrill 2018 fel y dyddiad y mae’r TTT yn dechrau bod yn gymwys a’r dyddiad y mae Treth Dir y Tollau Stamp (SDLT) yn peidio â bod yn gymwys yng Nghymru. Mae Dydd Sul y Pasg ar 1 Ebrill 2018 ac mae 2 Ebrill 2018 yn ŵyl y banc (Dydd Llun y Pasg).

Cymhwyso SDLT i Gymru

Yn amodol ar y rheolau trosiannol a nodir yn adran 2.

1.1

Pan:

  • mai 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yw’r dyddiad y daw trafodiad tir i rym
  • fo’r trafodiad(au) yn cynnwys buddiant/buddiannau mewn tir yng Nghymru
  • fo’r graddau y mae trafodiad trawsffiniol yn cynnwys buddiant/buddiannau mewn tir yng Nghymru

na fydd y trafodiad:

  • yn cael ei drin fel caffael llog trethadwy gan adran 43 o Ddeddf Cyllid 2003, ac felly ni fydd SDLT yn gymwys
  • yn cael ei gysylltu at ddibenion SDLT o dan adran 108 (Deddf Cyllid 2003) gyda naill ai:
    • trafodiad tir yng Nghymru y mae SDLT yn gymwys iddo
    • trafodiad tir sy’n ymwneud â thir mewn mannau eraill yn y DU
  • yn agored i TTT - a weinyddir gan ACC

Gweler enghreifftiau yn 5.2 a 5.3.

1.2

Pan fo un trafodiad, sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cynnwys caffael tir yng Nghymru a thir mewn mannau eraill yn y DU, caiff ei drin fel pe bai’n ddau (neu’n fwy) o drafodiadau. Er enghraifft:

  • un sy’n ymwneud â thir yng Nghymru i’w gynnwys mewn Ffurflen Dreth TTT i ACC
  • unrhyw drafodiad sy’n ymwneud â thir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon i’w gynnwys mewn Ffurflen Dreth SDLT i Cyllid a Thollau EM (CThEM)
  • unrhyw drafodiad sy’n ymwneud â thir yn yr Alban i’w gynnwys mewn Ffurflen Dreth ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (TTTA) i Gyllid yr Alban (RS)

1.3

Yn yr achosion hyn, dylai’r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad gael ei dosrannu ar sail gyfiawn a rhesymol (adran 9 o DTTT ac adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003).

1.4

Wrth gyflwyno Ffurflen Dreth trafodiadau tir ar gyfer SDLT, mae’n rhaid i chi nodi cod awdurdod lleol dilys ym mhob man lle bo gofyn gwneud hynny. Ar gyfer trafodiadau sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, fel rheol bydd hwn yn god sy’n ymwneud ag awdurdod lleol yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Ar gyfer Ffurflen Dreth TTT sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, mae’n rhaid i chi ddarparu enw’r awdurdod lleol yng Nghymru.

1.5

Dylai codau arbennig gael eu nodi ar Ffurflen Dreth SDLT ar gyfer trafodiadau yng Nghymru a gwmpesir gan y rheolau trosiannol a nodir ym mharagraff 2, ac o dan amgylchiadau penodol eraill, gweler adrannau 19.2, 21.1 a 21.5.

Darllenwch yr enghreifftiau yn 5.1 am y cofnodion sydd eu hangen ar Ffurflenni Treth SDLT a TTT.

Darpariaethau trosiannol

Mae hyn yn ymwneud ag adran 16(5) a (6) o Ddeddf Cymru 2014.

2.1

O dan amgylchiadau eithriadol, bydd SDLT yn parhau i fod yn gymwys i drafodiadau sy’n ymwneud â thir yng Nghymru, neu sy’n cynnwys tir yng Nghymru, pan fo’r dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, a phan fo’r trafodiad yn (A) neu (B):

  • (A) rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo, ac a gyflawnwyd yn sylweddol, ar 17 Rhagfyr 2014 (y diwrnod y cafodd Deddf Cymru 2014 Gydsyniad Brenhinol), neu cyn hynny
  • (B) rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny, ac nid yw’n cael ei eithrio rhag SDLT gan unrhyw un o’r canlynol:

    • unrhyw amrywiad o’r contract (neu aseinio hawliau) o dan y contract ar ôl y dyddiad hwnnw
    • arfer unrhyw opsiwn (hawl i ragbrynu neu hawl debyg) ar ôl y dyddiad hwnnw
    • aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall - sy’n ymwneud â phwnc cyfan y contract, neu ran ohono - ac o ganlyniad i hyn, mae hawl gan berson, heblaw’r prynwr, o dan y contract, i alw am drawsgludiad

2.2

Ni fydd CThEM yn ystyried bod y canlynol yn eithrio’r trafodiad rhag SDLT o dan y rheolau trosiannol:

  • trosglwyddiad i enwebai neu ymddiriedolwr noeth y prynwr o dan y contract

efallai na fydd CThEM yn ystyried bod y canlynol yn eithrio’r trafodiad rhag SDLT o dan y rheolau trosiannol:

  • amrywiad o’r dyddiad cwblhau a bennir yn y contract

2.3

Dylai prynwyr sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth SDLT ar gyfer eu trafodiad, oherwydd bod y rheolau trosiannol ar waith, nodi cod awdurdod lleol 6999, lle bo angen yn Ffurflen Dreth SDLT (gan gynnwys unrhyw Ffurflenni Treth papur atodol). Ni ddylid defnyddio cod awdurdod lleol yng Nghymru. Gweler yr enghreifftiau yn 5.6.

Mae’r tabl ym mharagraff 4 isod yn nodi rhwymedigaethau Ffurflen Dreth ar gyfer trethdalwyr mewn nifer o sefyllfaoedd sy’n ymwneud â’r dyddiad yr ymrwymwyd i’r contract, dyddiad y cyflawniad sylweddol (os yw’n berthnasol) a dyddiad unrhyw amrywiad i’r contract.

Treth Trafodiadau Tir

3.1

Mae’r DTTT yn darparu ar gyfer codi treth ar drafodiadau tir, a elwir yn TTT, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y cysyniadau allweddol sy’n sail i’r dreth.

Bydd trafodiad tir, sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i TTT i’r graddau ei fod yn cynnwys buddiannau mewn tir a leolir yng Nghymru, ar yr amod nad yw caffael buddiannau o’r fath mewn tir yn agored i SDLT o dan y rheolau trosiannol a ddisgrifir yn adrannau 1 a 2.

3.2

Mae arweiniad ynghylch cymhwyso TTT ar gael o ACC.

3.3

Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thrafodiadau penodol a ddechreuodd o dan SDLT, ond sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

Y bwriad yw sicrhau nad yw trafodion o’r fath yn agored i ddwy dreth (SDLT a TTT) ond eu bod yn agored i un o’r trethi. Mae’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth i gyflawni’r diben hwnnw ar gyfer gwahanol fathau o drafodiadau tir, neu drefniadau sy’n ymwneud â thrafodiadau tir, sy’n ymwneud â thir yng Nghymru.

Effaith darpariaethau trosiannol ar drafodiadau tir yng Nghymru

Ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny 17 Rhagfyr 2014 i 31 Mawrth 2018 1 Ebrill 2018 ac ar ôl hynny Tâl Treth
Cyfnewid contractau   Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau a chyflawniad sylweddol   Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a SDLT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau a chyflawniad sylweddol Amrywiad Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a SDLT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau Cyflawniad sylweddol Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a SDLT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau Amrywiad Cwblhau’r trosglwyddiad TTT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau Cyflawniad sylweddol ac amrywiad Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau   Cyflawniad sylweddol a chwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a SDLT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau   Cyflawniad sylweddol ac amrywiad a chwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau
Cyfnewid contractau   Amrywiad a chyflawniad sylweddol a chwblhau’r trosglwyddiad TTT ar gyflawniad sylweddol a’r TTT ar ôl cwblhau
  Cyfnewid contractau Cwblhau’r trosglwyddiad TTT ar ôl cwblhau
  Cyfnewid contractau a chyflawniad sylweddol Cwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau
  Cyfnewid contractau a chyflawniad sylweddol Amrywiad a chwblhau’r trosglwyddiad SDLT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau
  Cyfnewid contractau Cyflawniad sylweddol a chwblhau’r trosglwyddiad TTT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau
  Cyfnewid contractau Cyflawniad sylweddol ac amrywiad a chwblhau’r trosglwyddiad TTT ar gyflawniad sylweddol a TTT ar ôl cwblhau

4.1

Mae tâl SDLT neu TTT ar ôl cwblhau, yn dilyn cyflawniad sylweddol, ond yn gymwys i’r graddau (os o gwbl) y mae swm y dreth sydd i’w codi arno’n fwy na swm y dreth sydd i’w chodi ar y contract a gyflawnwyd yn sylweddol.

4.2

Yn y tabl hwn, ystyr “amrywiad” yw digwyddiad datgymhwyso a ragnodwyd gan adran 16(6) o Ddeddf Cymru 2014, ac mae’n cynnwys aseinio hawliau o dan y contract neu arfer opsiwn (gweler 2.1).

4.3

Ystyr “cwblhau’r trosglwyddiad” yw cwblhau’r trafodiad tir a gynigir rhwng y partïon mewn cydymffurfiad sylweddol â’r contract.

Enghreifftiau

Mae’r holl enghreifftiau yn tybio bod y trafodiad dan sylw yn hysbysadwy o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

5.1

Trafodiadau croes-deitl a thrawsffiniol

Trafodiad croes-deitl

Mae unigolyn yn prynu tŷ wedi’i leoli yn Llanymynech sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Y dyddiad y daw’r trafodiad i rym yw 3 Ebrill 2018. Rhaid i’r unigolyn ddosrannu, yn rhesymol ac yn gyfiawn, y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad rhwng y tir yng Nghymru a’r tir yn Lloegr.

Bydd angen Ffurflen Dreth SDLT ar gyfer y tir yn Lloegr, sy’n dod o dan god 6997 yn hytrach na chod yr Awdurdod Lleol, a bydd angen Ffurflen Dreth TTT ar gyfer y tir yng Nghymru. Mae’n rhaid i Ffurflen Dreth TTT ddefnyddio enw Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Trafodiad trawsffiniol

Mae busnes yn caffael cadwyn o siopau oddi wrth fusnes arall mewn un trafodiad. Mae rhai o’r siopau yng Nghymru a rhai yn Lloegr. Y dyddiad y daw’r trafodiad i rym yw 3 Ebrill 2018.

Rhaid i’r busnes ddosrannu, yn rhesymol ac yn gyfiawn, y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y siopau yng Nghymru a’r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y siopau yn Lloegr. Mae caffael y siopau yng Nghymru yn agored i TTT, a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth neu Ffurflenni Treth i ACC, gan ddefnyddio enw’r Awdurdod Lleol perthnasol yng Nghymru. Mae caffael y siopau yn Lloegr yn agored i SDLT, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth neu Ffurflenni Treth i CThEM, gan nodi cod 6997 yn hytrach nag enw’r Awdurdod Lleol.

5.2

Trafodiadau cysylltiedig yng Nghymru a Lloegr

Mae ‘Cwmni A’ yn caffael dau adeilad swyddfa oddi wrth ‘Cwmni B’ a’i is-gwmni, ‘Cwmni C’, ar yr un dyddiad. Mae un o’r adeiladau ym Mryste a’r llall yng Nghaerdydd. Y dyddiad y daw’r trafodiad i rym yw 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

Mae caffael yr adeilad yng Nghaerdydd yn agored i TTT a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth (neu Ffurflenni Treth) i ACC. Mae caffael yr adeilad ym Mryste yn agored i SDLT ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i CThEM. Nid yw’r ddau drafodiad yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion SDLT neu TTT.

5.3

Trafodiadau cysylltiedig yng Nghymru

Mae’r un cwmni hefyd yn trafod caffael dau adeilad swyddfa yn Abertawe oddi wrth ‘Cwmni B’. Cychwynnwyd trafodaethau ym mis Awst 2016. Cwblheir caffaeliad yr adeilad cyntaf cyn 1 Ebrill 2018 ond mae trafodaethau ar gyfer caffael yr ail adeilad yn dod i ben yn ddiweddarach. Caiff caffaeliad yr adeilad hwn ei gwblhau mewn trafodiad ar wahân ar 1 Ebrill 2018.

Mae’r caffaeliad cyntaf yn agored i SDLT a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer hwn i CThEM. Mae’r ail gaffaeliad yn agored i TTT a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC. Nid yw’r ddau drafodiad yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion SDLT neu TTT (er y gallai’r trafodiadau yng Nghymru fod yn gysylltiedig, a gallai’r rhai yn Lloegr fod yn gysylltiedig â’r trafodiadau yn yr enghraifft Trafodiadau cysylltiedig).

5.4

Rheolau trosiannol 1

Llofnodir contractau ar gyfer prynu tŷ ar 5 Ionawr 2018. Y dyddiad y daw’r trafodiad i rym (y dyddiad cwblhau) yw 3 Ebrill 2018.

Nid yw’r pryniant yn agored i SDLT gan fod y dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Nid yw’r rheolau trosiannol yn adran 16(5) a (6) o Ddeddf Cymru 2014 yn gymwys oherwydd nad ymrwymwyd i’r contract (ni chafodd contractau eu cyfnewid) ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny (y dyddiad y cafodd Deddf Cymru Gydsyniad Brenhinol). Felly, mae’r pryniant yn agored i TTT a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC.

5.5

Rheolau trosiannol 2

Cyfnewidir contractau ar gyfer prynu bloc o fflatiau cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar 1 Mehefin 2014. Cytunir ar 30 Hydref 2015 fel y dyddiad cwblhau. Mae oedi gyda’r gwaith adeiladu yn golygu na fydd y gwaith yn cael ei gwblhau tan ar ôl 1 Ebrill 2018.

Mae’r trafodiad yn agored i SDLT gan ei fod yn dod o dan y rheolau trosiannol. Ni chaiff y dyddiad cwblhau sydd wedi’i oedi ei drin fel amrywiad o’r contract a fyddai’n eithrio’r trafodiad rhag effaith y rheolau hynny yn rhinwedd adran 16(6) o Ddeddf Cymru.

5.6

Rheolau trosiannol 3

Cytunir ar brydles ddibreswyl rhent yn unig dan gontract llafar, ac fe’i cyflawnir yn sylweddol erbyn y taliad rhent blynyddol cyntaf ar 1 Medi 2014 (cyn i Ddeddf Cymru gael Cydsyniad Brenhinol). Mae paragraff 12A(2) o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003 yn trin y cytundeb fel achos o roi prydles, gan ddechrau gyda dyddiad y cyflawniad sylweddol.

Mae’r brydles yn dal i fod yn agored i SDLT ar 1 Ebrill 2018, ac ar ôl hynny, cyhyd â’i bod yn parhau o flwyddyn i flwyddyn, neu hyd nes y rhoddir y brydles, a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth os daw SDLT yn daladwy neu os daw treth ychwanegol yn ddyledus (paragraff 4 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Pan roddir y brydles, neu pan gaiff prydles olynol ei thrin fel pe bai wedi’i rhoi, ar ôl 1 Ebrill 2018, bydd y trafodiadau hyn yn agored i TTT ac nid i SDLT.

Darpariaethau penodol

Nodiadau

Mae’r arweiniad canlynol yn gymwys i’r graddau y mae’r trafodiad tir yn ymwneud â thir yng Nghymru. Bydd rheolau presennol SDLT yn parhau i fod yn gymwys i’r graddau y mae’r trafodiad tir yn ymwneud â thir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Lle bo angen, rhaid dosrannu’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad ar sail gyfiawn a rhesymol.

Ym mhob achos, mae cyfeiriadau at:

  • trafodiad tir pan fo’r dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018, yn cynnwys trafodiad sy’n parhau i fod yn agored i SDLT yn rhinwedd y darpariaethau trosiannol yn adran 16(5) a (6) o Ddeddf Cymru 2014
  • trafodiad tir pan fo’r dyddiad dod i rym ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny, yn eithrio trafodiad o’r fath

Trawsgludiad i drydydd parti

Mae hyn yn ymwneud ag adran 44A o Ddeddf Cyllid 2003.

6.1

Mae adran 44A yn gymwys pan yr ymrwymwyd i gontract (y contract cyntaf), ac oddi tano y mae buddiant trethadwy mewn tir yn cael ei drawsgludo gan un parti i’r contract, sef ‘A’, ar gais un arall, sef ‘B’, naill ai i ‘B’ neu i drydydd person, sef ‘C’, nad yw’n barti i’r contract.

6.2

Os cyflawnir y contract cyntaf yn sylweddol ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny (y diwrnod y cafodd Deddf Cymru Gydsyniad Brenhinol), bydd rhwymedigaeth y cyfeirir ati yn adran 44A(6)(b), a chontract rhwng B ac C y cyfeirir ato yn adran 44A(7), yn agored i SDLT, hyd yn oed os yw dyddiad dod i rym y trafodiad dan sylw ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

6.3

Os ymrwymwyd i’r contract cyntaf, ond nid ydyw wedi’i gyflawni’n sylweddol ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny, bydd rhwymedigaeth y cyfeirir ati yn adran 44A(6)(b) a chontract rhwng ‘B’ ac ‘C’ y cyfeirir ati yn adran 44A(7) yn agored i SDLT os yw dyddiad dod i rym y trafodiad dan sylw ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac nid yw un o’r gwaharddiadau yn adran 16(6) o Ddeddf Cymru 2014 yn gymwys iddo. Os bydd unrhyw rai o’r gwaharddiadau’n gymwys, yna bydd y trafodiad yn agored i TTT.

6.4

Os ymrwymir i’r contract cyntaf ar ôl 17 Rhagfyr 2014, ni fydd rhwymedigaeth y cyfeirir ati yn adran 44A(6)(b) a chontract rhwng ‘B’ ac ‘C’ y cyfeirir ato yn adran 44A(7) yn agored i SDLT os yw dyddiad dod i rym y trafodiad dan sylw ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Bydd y contract rhwng ‘B’ ac ‘C’ yn agored i TTT a bydd rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC.

Trafodiadau cyn cwblhau

Mae hyn yn ymwneud ag adran 45 ac Atodlen 2A i Ddeddf Cyllid 2003.

7.1

Mae adran 45 ac Atodlen 2A i Ddeddf Cyllid 2003 yn gymwys pan fo:

  • contract i’w gwblhau gan drawsgludiad cyn iddo gael ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau
  • prynwr o dan y contract hwnnw’n ymrwymo i gytundeb pellach ac, o’i ganlyniad, mae gan berson arall hawl i alw am drawsgludiad o’r holl gontract gwreiddiol, neu ran ohono

Gall cytundeb o’r fath fod ar ffurf aseinio hawliau o dan y contract, is-werthiant, neu drafodiad annibynnol arall.

7.2

Os caiff achos o aseinio neu’r trafodiad annibynnol ei gwblhau neu ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ni fydd cwblhau’r aseiniad neu’r trafodiad annibynnol, na thrafodiad neu drafodiad tybiannol yr ymrwymir iddo gan y trosglwyddwr, yn agored i SDLT; yn hytrach, byddant yn agored i TTT.

7.3

Oni bai bod y contract gwreiddiol wedi’i gyflawni’n sylweddol ar 17 Rhagfyr 2014, neu cyn hynny, ni fydd y rheolau trosiannol yn adran 16(5) a (6) o Ddeddf Cymru 2014 yn gymwys o dan yr amgylchiadau hyn gan fydd yr achos o aseinio hawliau neu’r trafodiad annibynnol yn eithrio’r trafodiad yn rhinwedd adran 16(6).

7.4

Mae Atodlen 2 i Ddeddf TTT yn darparu rheolau sy’n ymwneud â thrafodiadau cyn cwblhau, a fydd yn gweithredu yn yr un modd â’r rheolau hynny sydd mewn grym ar hyn o bryd, ar ddyddiad cyhoeddi’r arweiniad hwn ar gyfer SDLT. Mae unrhyw ryddhad a all fod yn gymwys i’r achos o aseinio hawliau, neu is-werthiant neu drafodiad annibynnol arall, i’w weld ym mharagraffau 18 ac 19 o’r Atodlen honno.

Opsiynau

Mae hyn yn ymwneud ag adran 46 o Ddeddf Cyllid 2003.

8.1

Mae caffael opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir (neu hawl i ragbrynu sy’n atal y grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir, neu’n cyfyngu ar hawl y grantwr i ymrwymo i drafodiad tir) yn cael ei drin fel trafodiad tir sydd ar wahân i’r arfer o’r opsiwn neu’r hawl.

8.2

Os caffaelir opsiwn (neu hawl) cyn 1 Ebrill 2018, nid yw’r arfer o’r opsiwn neu’r hawl ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i SDLT, waeth p’un a yw’r achos o roi ac arfer yn gysylltiedig ai peidio. Bydd yr arfer o’r opsiwn yn agored i TTT. Ni fydd y trafodiad tir ar gyfer rhoi’r opsiwn (yn agored i SDLT) a’r arfer o’r opsiwn (yn agored i TTT) yn gysylltiedig â thrafodiadau.

8.3

Os caffaelir opsiwn (neu hawl) ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, bydd yn agored i TTT, a bydd yn rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth mewn perthynas â’r trafodiad tir hwnnw i ACC. Bydd yr arfer o’r opsiwn hefyd yn agored i TTT a bydd yn rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC. Mae caffael yr opsiwn neu’r hawl, a’r arfer o’r opsiwn, yn drafodiadau tir ar wahân. Fodd bynnag, gallent fod yn gysylltiedig â thrafodion at ddibenion TTT.

Cyfnewidiadau

Mae hyn yn ymwneud ag adran 47 o Ddeddf Cyllid 2003.

9.1

At ddibenion SDLT, caiff cyfnewidiad ei drin fel dau drafodiad ar wahân, bob un yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ystyried y llall. Pan fo unrhyw un o’r buddiannau a drosglwyddir yn fuddiant mawr mewn tir, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob trafodiad yw gwerth y buddiant a gaffaelwyd ar y farchnad (paragraff 5, Atodlen 4 o Ddeddf Cyllid 2003).

9.2

Mae’r rheolau cyfnewid yn adran 47 o Ddeddf Cyllid 2003 ond yn gymwys pan fo’r ddau drafodiad yn agored i SDLT. Pan fo tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn cael ei gyfnewid am dir yng Nghymru ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, dim ond caffaeliad y tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon sy’n agored i SDLT, ac (gan nad yw caffael y tir yng Nghymru yn drafodiad tir at ddibenion SDLT) ni fydd y rheolau cyfnewid a gynhwysir yn adran 47 o Ddeddf Cyllid 2003 yn gymwys i’r trafodiad.

9.3

Mae’r un egwyddorion yn gymwys pan fo trosglwyddiad tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn digwydd cyn 1 Ebrill 2018, a bydd trosglwyddiad y tir yng Nghymru yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

9.4

Yn yr achosion hyn, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trosglwyddo tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn ôl y rheolau ar gyfer prisio cydnabyddiaeth anariannol. (nid y rheolau cyfnewid ym mharagraff 5 o Atodlen 4). Mae’n debygol mai’r gydnabyddiaeth drethadwy fydd gwerth y buddiant a waredir ar y farchnad, yn ogystal ag unrhyw daliad ecwiti neu gydnabyddiaeth arall a roddir, lle y bo’n berthnasol.

9.5

Pan fo tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cael ei gyfnewid ar gyfer tir yng Nghymru, bydd caffaeliad y tir yng Nghymru yn agored i TTT ac, os yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy, bydd yn rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC. At ddibenion y trafodiad tir yng Nghymru, mae Deddf TTT yn gymwys, ac mae’n debygol y bydd y gydnabyddiaeth drethadwy yn seiliedig ar werth yr eiddo a waredir ar y farchnad yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, yn ogystal ag unrhyw gydnabyddiaeth arall a roddir.

9.6

Os yw dwy ochr y cyfnewidiad yn cynnwys tir yng Nghymru, ac mae rhan gyntaf y cyfnewidiad cyn 1 Ebrill 2018 a’r ail ran ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yna bydd y rhan gyntaf yn agored i SDLT a bydd rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i CThEM. Bydd yr ail ran yn agored i TTT a bydd rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth i ACC. Ar gyfer dwy ran y ‘cyfnewidiad’, y rheolau a fydd yn gymwys ar gyfer pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion SDLT a TTT fydd y rhai yn Atodlen 4 o Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 4 i Ddeddf TTT 2017 (ac eithrio paragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid 2003 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf TTT 2017).

9.7

Os bydd cyfnewidiad yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac mae’r tir sydd ynghlwm wrth ddwy ran y cyfnewidiad yng Nghymru, yna mae’r rheolau cyfnewid ym mharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf TTT yn gymwys ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflenni Treth i ACC.

9.8

Pan fo trosglwyddiad tir yng Nghymru yn digwydd cyn 1 Ebrill 2018, a bod trosglwyddiad y tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, bydd y ddau drafodiad yn agored i SDLT. Bydd y rheolau cyfnewid yn adran 47 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid 2003 yn gymwys. Y rheswm am hyn yw bod y ddau drafodiad yn dal i fod yn ddau drafodiad tir at ddibenion Deddf Cyllid 2003.

Cydnabyddiaeth ddibynnol, cydnabyddiaeth ansicr neu gydnabyddiaeth heb ei chanfod

Mae hyn yn ymwneud ag adran 51 o Ddeddf Cyllid 2003.

10.1

Mae’r darpariaethau ar gyfer cydnabyddiaeth ddibynnol, cydnabyddiaeth ansicr neu gydnabyddiaeth heb ei chanfod, gan gynnwys y darpariaethau ar gyfer addasu pan fo cydnabyddiaeth ddibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod (adran 80 o Ddeddf Cyllid 2003) a cheisiadau i ohirio taliad (adran 90 o Ddeddf Cyllid 2003), yn parhau i fod heb eu newid ar gyfer trafodiadau yng Nghymru sy’n agored i SDLT. Mae hyn yn golygu y gallai taliadau ychwanegol SDLT fod yn ddyledus i CThEM ar 1 Ebrill 2018 pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod.

10.2

Ar gyfer trafodiadau tir sy’n agored i TTT, mae’r darpariaethau ar gyfer cydnabyddiaeth ddibynnol, cydnabyddiaeth ansicr neu gydnabyddiaeth heb ei chanfod, gan gynnwys pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod yn adrannau 18, 19, 20, 47 a 48 o Ddeddf TTT. Mae hefyd yn bosibl gwneud cais i ACC i ohirio taliad o dan y rheolau a gynhwysir yn adrannau 58 i 63 o Ddeddf TTT.

Trefniadau gwerthu ac adlesu

Mae hyn yn ymwneud ag adran 57A o Ddeddf Cyllid 2003.

11.1

Yn destun amodau, mae’r elfen adlesu o drefniant gwerthu ac adlesu wedi’i heithrio rhag SDLT.

11.2

Pan fo gwerthiant tir yng Nghymru yn digwydd cyn 1 Ebrill 2018 a bod yr adlesu’n digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, bydd yr elfen werthu yn agored i SDLT ond ni fydd yr elfen adlesu’n agored i SDLT. Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr elfen werthu fydd gwerth yr adles ar y farchnad ac unrhyw gydnabyddiaeth arall a roddir am y gwerthiant mewn arian neu ei gyfwerth mewn arian. Mae Atodlen 9 i Ddeddf TTT yn gwneud rhyddhad gwerthu ac adlesu ar gael o dan TTT, felly bydd unrhyw achos o adlesu ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cael ei ryddhau rhag TTT er gwaethaf y ffaith bod y gwerthiant wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2018.

Rhyddhad anheddau lluosog

Mae hyn yn ymwneud ag adran 58D Atodlen 6B i Ddeddf Cyllid 2003.

12.1

Pan fo trafodiad (neu drafodiadau cysylltiedig) yn cynnwys buddiannau mewn anheddau lluosog sydd wedi’u lleoli yn:

  • Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • mewn mannau eraill yn y DU

cyfrifir rhyddhad anheddau lluosog (MDR) yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth a roddir a nifer yr anheddau sy’n agored i SDLT.

12.2

Enghraifft

Mae person yn prynu 6 o dai newydd oddi wrth yr un datblygwr mewn un trafodiad ar 1 Awst 2018. Mae 3 o’r tai ar ddatblygiad ym Manceinion ac mae’r 3 arall ar ddatblygiad yn Wrecsam. Mae’r tai yn costio £250,000 yr un.

Dim ond caffaeliad y 3 thŷ ym Manceinion sy’n agored i SDLT. Os gwneir cais am MDR, “cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau” at y diben hwn yw £750,000, a 3 yw nifer yr anheddau a ystyrir (cyfanswm yr anheddau).

Bydd caffaeliad y 3 thŷ yn Wrecsam yn agored i TTT. Mae rhyddhad anheddau lluosog ar gael o dan TTT, ac fe’i nodir yn Atodlen 13 i Ddeddf TTT, sy’n gweithredu mewn ffordd debyg i ryddhad SDLT.

Pan wneir cais am MDR mewn perthynas â thrafodiad SDLT (neu drafodion cysylltiedig), sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018 ac sy’n cynnwys buddiant neu fuddiannau mewn anheddau yng Nghymru, bydd darpariaethau paragraff 6 o Atodlen 6B (addasiad ar gyfer newid mewn amgylchiadau) yn parhau i fod yn gymwys i’r trafodiad, hyd yn oed os bydd y digwyddiad sy’n arwain at yr addasiad yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

Rhyddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael

Mae hyn yn ymwneud ag adran 62 Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid 2003.

13.1

Pan wneir cais am ryddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael mewn perthynas â thrafodiad SDLT sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018 ac sy’n cynnwys buddiant neu fuddiannau mewn tir yng Nghymru, bydd y darpariaethau perthnasol ar gyfer tynnu rhyddhad yn ôl yn Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid 2003 yn gymwys hyd yn oed pan fo’r digwyddiad sy’n arwain at dynnu’n ôl yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Yn yr achos hwn, rhaid anfon Ffurflen Dreth arall drwy lythyr i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham, yn unol â SDLTM50400, a rhaid i unrhyw daliad SDLT gael ei wneud i CThEM.

Mae rhyddhad grŵp ar gael o dan TTT a darperir ar ei gyfer yn Atodlen 16 i Ddeddf TTT. Mae rhyddhad ailgynllunio a rhyddhad caffael hefyd ar gael o dan TTT, ac fe’u darperir yn Atodlen 17 i’r Ddeddf TTT. Mae dau ryddhad TTT yn gweithredu mewn modd tebyg i ryddhad SDLT.

Rhyddhad elusennau

Mae hyn yn ymwneud ag adran 68 Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid 2003.

14.1

Pan wneir cais am ryddhad elusennau mewn perthynas â thrafodiad SDLT, sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018 ac sy’n cynnwys buddiant neu fuddiannau mewn tir yng Nghymru, bydd y darpariaethau perthnasol ar gyfer tynnu rhyddhad yn ôl yn Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid 2003 yn gymwys hyd yn oed pan fo’r digwyddiad sy’n arwain at dynnu’n ôl yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Yn yr achos hwn, rhaid anfon Ffurflen Dreth arall drwy lythyr i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham, yn unol â SDLTM50400, a rhaid i unrhyw daliad SDLT gael ei wneud i CThEM.

Mae rhyddhad elusennau ar gael o dan TTT, a darperir ar ei gyfer yn Atodlen 18 i Ddeddf TTT, sy’n gweithredu mewn ffordd debyg i ryddhad SDLT.

Rhyddhad i brynwyr tro cyntaf

Mae hyn yn ymwneud ag adran 57B ac Atodlen 6ZA i Ddeddf Cyllid 2003.

15.1

O 22 Tachwedd 2017 ymlaen, mae pobl sy’n prynu annedd am y tro cyntaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gallu gwneud cais am ryddhad rhag SDLT pan nad yw pris prynu’r eiddo yn fwy na £500,000 a bod y prynwr yn bwriadu meddiannu’r eiddo fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Nid oes unrhyw SDLT yn ddyledus ar £300,000 cyntaf y pris prynu a 5% ar y gweddill.

Nid yw prynwr sy’n berchen ar, neu sydd wedi bod yn berchen ar, annedd yng Nghymru, yr Alban neu rywle arall yn flaenorol, yn brynwr tro cyntaf. Am ragor o fanylion gweler SDLT: Rhyddhad i brynwyr tro cyntaf.

15.2

Pan ymrwymwyd i gontractau cyn 22 Tachwedd 2017, neu ar ôl hynny, er mwyn prynu annedd yng Nghymru os:

  • yw’r cwblhau’n digwydd cyn 1 Ebrill 2018, gellir gwneud cais am ryddhad cyn belled â bod yr amodau ar gyfer rhyddhad yn cael eu bodloni
  • na fydd cwblhau yn digwydd tan 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, bydd y pryniant yn agored i TTT - nid oes rhyddhad prynwyr tro cyntaf yng Nghymru

Cyfradd uwch ar gyfer eiddo ychwanegol a thrafodiadau eiddo preswyl ar gyfraddau uwch

Mae hyn yn ymwneud ag Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 5 i Ddeddf TTT 2017.

16.1

Gallai prynwr sydd eisoes yn berchen ar annedd yng Nghymru, yr Alban neu rywle arall fod yn agored i’r cyfraddau uwch.

Nid yw cyfraddau uwch SDLT yn gymwys pan fo prynwr yn disodli’i brif breswylfa (paragraff 3(5) a (7). Mae’r cyfraddau uwch yn gymwys pan fo’r brif breswylfa ‘newydd’ wedi’i phrynu cyn i’r ‘hen’ un gael ei gwerthu, er y gellir adennill yr elfen cyfraddau uwch os yw’r hen brif breswylfa yn cael ei gwerthu cyn pen 3 blynedd o brynu’r brif breswylfa newydd.

Pan fo prif breswylfa ‘newydd’ yn agored i gyfraddau uwch SDLT a bod gwerthiant yr ‘hen’ brif breswylfa yng Nghymru yn digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, gall yr elfen cyfraddau uwch dal i gael ei hadennill oddi wrth CThEM cyn belled â’i bod yn cael ei gwerthu cyn pen 3 blynedd o brynu’r un newydd.

16.2

Mae paragraffau 8 ac 17 o Atodlen 5 i Ddeddf TTT yn darparu nad yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pan mai bwriad yr annedd a gaffaelir yw disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, a bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

16.3

Mae un o’r amodau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r brif breswylfa gael ei disodli cyn pen 3 blynedd i’r prynwr waredu’i brif breswylfa wreiddiol. Fodd bynnag, mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer rheol drosiannol pan fo gan y trafodiad disodli’r brif breswylfa ddyddiad dod i rym, sef 26 Tachwedd 2018 neu’n gynharach.

16.4

Yn yr achosion hyn, mae rheoliad 12 yn gwneud addasiadau penodol i’r rheolau a ragnodir gan baragraffau 8 ac 17. Effaith yr addasiadau hyn yw datgymhwyso’r ffenestr o 3 blynedd y bu’n rhaid gwerthu prif breswylfa flaenorol ynddi cyn prynu prif breswylfa newydd. Yn y trafodion hyn (ac yn amodol ar fodloni amodau eraill), bydd yr eithriad disodli prif breswylfa yn gymwys, a bydd y trafodiad yn drethadwy ar brif gyfraddau TTT, nid y cyfraddau sy’n gymwys i drafodion eiddo preswyl cyfraddau uwch.

16.5

Enghraifft

Gwerthodd Mr a Mrs A eu prif breswylfa ar 1 Mawrth 2015 gan eu bod yn mynd dramor i weithio. Maen nhw’n dewis rhentu cartref tra eu bod nhw dramor. Maen nhw hefyd yn berchen ar eiddo prynu i osod. Ar 1 Medi 2018, maen nhw’n dychwelyd i Gymru ac ar 20 Tachwedd 2018 maen nhw’n prynu annedd a fydd yn brif breswylfa newydd iddynt. Ni fydd y cyfraddau preswyl uwch yn gymwys i’r trafodiad hwn gan mai bwriad yr annedd a gaffaelir gan Mr a Mrs A yw disodli eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa, ac mae dyddiad dod i rym y trafodiad yn digwydd ar 26 Tachwedd 2018, neu cyn hynny. Fodd bynnag, os bydd dyddiad dod i rym y trafodiad yn digwydd ar 27 Tachwedd 2018, neu’n hwyrach, yna bydd y cyfraddau preswyl uwch yn gymwys i’r trafodiad gan fydd yr amod sy’n ei wneud yn ofynnol i waredu’r brif breswylfa flaenorol cyn pen 3 blynedd yn gymwys, ac ni fyddant yn bodloni’r amod hwnnw.

Prydlesi perchnogaeth ar y cyd

Mae hyn yn ymwneud ag adran 70 Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid 2003.

17.1

Pan fo achos o roi prydles perchenogaeth ar y cyd yn drafodiad SDLT (ac nid oes dewis ar gyfer gwerth ar y farchnad wedi’i wneud), mae unrhyw drafodiad cynyddu perchentyaeth wedi’i eithrio rhag SDLT pan nad yw cyfanswm cyfran y prydlesai yn yr annedd yn fwy nag 80%.

17.2

Pan fo achos o roi prydles perchenogaeth ar y cyd yn drafodiad SDLT yng Nghymru (cyn 1 Ebrill 2018), bydd unrhyw drafodiad cynyddu perchentyaeth sy’n mynd â chyfanswm cyfran y prydlesai yn yr annedd dros 80%, neu gaffaeliad y rifersiwn, yn agored i SDLT. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os yw dyddiad dod i rym y trafodiad cynyddu perchentyaeth ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Mae hyn fel bod pryniant o dan drefniant o’r fath, a ddechreuodd pan oedd SDLT mewn grym, yn agored i reolau SDLT drwy gydol y cyfnod y mae’r trefniant mewn grym.

Ariannu eiddo drwy ddull amgen

Mae hyn yn ymwneud ag adrannau 71A a 73 o Ddeddf Cyllid 2003.

18.1

Mae adrannau 71 o Ddeddf Cyllid 2003 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo pryniant wedi’i ariannu gan drefniant ariannu eiddo drwy ddull amgen, gan sicrhau bod yr SDLT sy’n daladwy ar drafodiad o’r fath yn unol â’r hyn sy’n daladwy ar bryniant a ariennir gan forgais gyda llog.

18.2

Mae rhyddhad ariannu eiddo drwy ddull amgen ar gael hefyd o dan TTT, a darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf TTT. Er mwyn sicrhau nad yw parti sy’n ymrwymo i drafodiad tir o dan drefniant ariannu eiddo drwy ddull amgen cyn 1 Ebrill 2018 dan anfantais oherwydd y trawsnewid i TTT yng Nghymru, mae Rheoliad 5 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu na fydd unrhyw drafodiad pellach a ddisgrifir yn adran 71A(4) o Ddeddf Cyllid 2003 yn agored i TTT.

18.3

Er enghraifft, os yw’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad yn digwydd o dan SDLT, hynny yw cyn 1 Ebrill 2018, a’u bod yn bodloni’r amodau ar gyfer gwneud cais am ryddhad SDLT, yna bydd unrhyw drafodiadau dilynol sy’n rhan o’r trefniant ariannu amgen hwnnw, sy’n digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn gymwys i gael rhyddhad o dan reolau TTT, a bydd yn rhaid cyflwyno Ffurflenni Treth i ACC.

Bondiau buddsoddi drwy ddull ariannu amgen

Mae hyn yn ymwneud ag adran 73C o Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 61 i Ddeddf Cyllid 2009.

19.1

Bydd trafodiad tir sy’n ymwneud â thir yng Nghymru, sy’n ‘drafodiad cyntaf’ at ddibenion paragraff 6 o Atodlen 61 i Ddeddf Cyllid 2009, wedi’i eithrio rhag SDLT os yw dyddiad dod i rym y trafodiad cyn 1 Ebrill 2018, a bod yr amodau ar gyfer rhyddhad yn cael eu bodloni. Yn yr achos hwn, bydd SDLT yn daladwy o dan baragraff 7(3) o Atodlen 61 os caiff rhyddhad ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, hyd yn oed os caiff ei dynnu’n ôl ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

19.2

Bydd trafodiad tir sy’n ymwneud â thir yng Nghymru, sy’n ‘ail drafodiad’ at ddibenion paragraff 8 o Atodlen 61, yn cael ei eithrio rhag SDLT os yw dyddiad dod i rym y trafodiad cyn 1 Ebrill 2018, a bod amodau yn y paragraff hwnnw’n cael eu bodloni.

19.3

Yn y naill achos neu’r llall, ni fydd y trafodiad yn agored i SDLT os yw’r dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

19.4

Mae rhyddhad ar gyfer bondiau buddsoddi drwy ddull ariannu amgen hefyd ar gael o dan TTT, a darperir ar ei gyfer yn Atodlen 11 i Ddeddf TTT. Er mwyn sicrhau nad yw parti sy’n ymrwymo i drafodiad tir mewn cysylltiad â bond drwy ddull ariannu amgen cyn 1 Ebrill 2018 dan anfantais oherwydd y trawsnewid o SDLT i TTT yng Nghymru, mae rheoliad 6 o Dreth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu na fydd yr ail drafodiad at ddibenion paragraff 8 o Atodlen 61 i Ddeddf Cyllid 2009 yn agored i dreth TTT pan fo’r amodau ym mharagraff 8(1)(a) a (b) o Atodlen 61 i Ddeddf Cyllid 2009 wedi’u bodloni.

Gwrth-Arbed

Mae hyn yn ymwneud ag adran 75A o Ddeddf Cyllid 2003.

20.1

Mae darpariaethau adran 75A yn gymwys i waredu a chaffael buddiant trethadwy mewn tir yng Nghymru pan fo dyddiad dod i rym y trafodiad tybiannol (adran 75 (6)) cyn 1 Ebrill 2018.

20.2

Yn ogystal â’r Rheol Wrth-Arbed Gyffredinol (GAAR) a gyflwynwyd i Ddeddf Casglu a Rheoli Treth (Cymru) 2016 gan Ddeddf TTT, mae adran 31 o Ddeddf TTT yn cynnwys Rheol Wrth-Arbed wedi’i Thargedu (TAAR) sy’n gwahardd cais am ryddhad rhag TTT pan fo’r trafodiad yn drefniant arbed treth, neu’n rhan o drefniant o’r fath.

Trafodion cysylltiedig diweddarach

Mae hyn yn ymwneud ag adran 81A o Ddeddf Cyllid 2003.

21.1

Pan fo gan drafodiad tir sy’n ymwneud â thir yng Nghymru ddyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018 (ond nid yw’n hysbysadwy at ddibenion SDLT), a bod y trafodiad yn dod yn hysbysadwy ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, oherwydd trafodiad SDLT diweddarach sy’n gysylltiedig ag ef, mae’r trafodiad cynharach yn dal i fod yn agored i SDLT a rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth yn unol ag adran 81A o Ddeddf Cyllid 2003.

21.2

Er enghraifft, mae prynwr yn caffael cae yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2018 (y trafodiad cyntaf). Mae’r gydnabyddiaeth (£35,000) a roddwyd ar gyfer y cae yn is na’r swm hysbysu ar gyfer SDLT. Mae caffael y cae yng Nghymru yn rhan o gyfres o drafodiadau.

Yr ail drafodiad, a’r trafodiad terfynol, yw prynu cae sydd yn Lloegr yn unig ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Mae’r ail drafodiad am £250,000.

Mae’r ddau drafodiad yn parhau i fod yn gysylltiedig at ddibenion SDLT gan fod y trafodiad cyntaf (yng Nghymru) wedi digwydd cyn i TTT ddod i rym. Mae angen Ffurflen Dreth arall, o dan adran 81A o Ddeddf Cyllid 2003, ar gyfer y trafodiad cyntaf.

21.3

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth bapur (SDLT1) i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham gyda llythyr eglurhaol. Gweler SDLTM50350, paragraff 3. Rhaid i’r dyddiad dod i rym a nodir ym Mlwch 4 fod y dyddiad dod i rym ar gyfer y trafodiad cysylltiedig diweddarach. Yn yr achos hwn, rhaid cofnodi’r cod ALl arbennig, sef 6998, (nid cod ALl yng Nghymru), yn y Ffurflen Dreth.

21.4

Os yw’r trafodiad cynharach wedi’i hysbysu ond bod treth neu ragor o dreth yn dod yn ddyledus o ganlyniad i’r trafodiad cysylltiedig diweddarach, yna mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth arall drwy lythyr i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham yn unol â SDLTM50350, paragraffau 1 a 2.

Partneriaethau

Mae hyn yn ymwneud ag adran 104 ac Atodlen 15 i Ddeddf Cyllid 2003.

22.1

Ni fydd trosglwyddo buddiant partneriaeth, sy’n cael ei drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 17 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyllid 2003, yn agored i SDLT, i’r graddau bod trosglwyddo tir i’r bartneriaeth y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw yn cynnwys tir yng Nghymru, a bod dyddiad dod i rym y trafodiad tir tybiannol diweddarach ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hyny. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os trosglwyddwyd y tir i’r bartneriaeth cyn y dyddiad hwnnw.

22.2

Mae Rheoliad 7 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu y bydd unrhyw drosglwyddiad partneriaeth o dan baragraff 17(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cyllid 2003 sy’n digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i dreth TTT.

22.3

Ni fydd ‘digwyddiad cymhwyso’ (er enghraifft, tynnu arian yn ôl o’r bartneriaeth) sy’n methu â chael ei drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 17A o Atodlen 15 i Ddeddf Cyllid 2003, yn agored i SDLT, i’r graddau y bydd trosglwyddo tir i’r bartneriaeth y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw’n cynnwys tir yng Nghymru, pan fo dyddiad dod i rym y trafodiad tybiedig diweddarach ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os trosglwyddwyd y tir i’r bartneriaeth cyn y dyddiad hwnnw.

22.4

Mae Rheoliad 8 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu y bydd digwyddiad cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff 17A(2) o Atodlen 15 i Ddeddf Cyllid 2003 sy’n cael ei gynnal ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i TTT.

Prydlesi

Mae hyn yn ymwneud ag adran 120 ac Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003.

23.1

Prydlesi sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol (paragraff 3 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Mae Paragraff 3 yn darparu, pan fo prydles yn parhau ar ôl cyfnod penodol, ei bod yn cael ei thrin fel prydles am y cyfnod penodol yn ogystal ag un flwyddyn (ac yn y blaen). Pan fo treth, neu ragor o dreth, o ganlyniad, yn dod yn ddyledus, bydd yn rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth, neu Ffurflen Dreth bellach, cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y cyfnod o flwyddyn sydd dan sylw (gweler paragraff 3(4)).

Pan roddir prydles o dir yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2018, ac yn unol â’r ddarpariaeth hon mae treth, neu ragor o dreth, yn dod yn ddyledus ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny, mae’r brydles yn dal i fod yn agored i SDLT.

Os, o ganlyniad i’r paragraff hwn, y bydd rhoi’r brydles yn dod yn hysbysadwy am y tro cyntaf, bydd rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth yn y ffordd arferol (gweler SDLTM12050, paragraff 1). Rhaid nodi diwrnod olaf y cyfnod o flwyddyn sy’n arwain at y gofyniad i hysbysu (nid y dyddiad y rhoddwyd y brydles) ym Mlwch 4. Yn yr achos hwn, rhaid cofnodi’r cod ALl arbennig, sef 6998, (nid cod ALl yng Nghymru), yn y Ffurflen Dreth..

Os yw’r achos o roi prydles wedi’i hysbysu eisoes a bod treth ychwanegol yn dod yn ddyledus, dylid gwneud hysbysiad drwy lythyr i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham (gweler SDLTM12050, paragraff 2).

23.2

Prydlesi am gyfnod amhenodol (paragraff 4 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Mae prydles am gyfnod amhenodol (er enghraifft, prydles am oes, gweler SDLTM18715) yn cael ei thrin yn y lle cyntaf fel pe bai’n brydles am gyfnod penodol o flwyddyn. Os yw’r brydles yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, caiff ei thrin fel prydles am gyfnod penodol o ddwy flynedd, ac yn y blaen.

Bydd prydles o dir yng Nghymru am gyfnod amhenodol a roddir cyn 1 Ebrill 2018, yn parhau i fod yn agored i SDLT hyd yn oed os yw’n parhau ar ôl diwedd cyfnod o’r fath ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

23.3

Prydlesi cysylltiedig olynol (paragraff 5 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Nid yw darpariaethau paragraff 5 yn gymwys mewn perthynas â phrydles tir olynol yng Nghymru a roddir ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, oherwydd yn yr achos hwn nid yw’r brydles olynol a roddir yn agored i SDLT, ac ni ellir ei chysylltu ag unrhyw drafodiad sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018. Pan roddir prydles sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hyny, bydd yn agored i TTT o dan Atodlen 6 i Ddeddf TTT.

23.4

Addasiad pan fo rhent yn peidio â bod heb ei ganfod (paragraff 8 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Pan roddir prydles o dir yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2018 ac, yn unol â’r ddarpariaeth hon, bod treth, neu ragor o dreth, yn dod yn ddyledus ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny, mae’r brydles yn dal i fod yn agored i SDLT. Os yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy, rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth neu Ffurflen Dreth bellach cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y brydles neu, os yn gynharach, y dyddiad y mae swm y rhent sy’n daladwy yn y pum mlynedd gyntaf yn peidio â bod heb ei ganfod (gweler paragraff 8 (4)).

Os, o ganlyniad i’r paragraff hwn, y bydd y brydles yn dod yn hysbysadwy am y tro cyntaf, rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth yn y ffordd arferol. Rhaid nodi’r dyddiad a bennir gan baragraff 8(1) (nid y dyddiad y rhoddwyd y brydles) ym Mlwch 4. Yn yr achos hwn, rhaid cofnodi’r cod ALl arbennig, sef 6998, (nid cod ALl yng Nghymru), yn y Ffurflen Dreth.

Os yw’r achos o roi’r brydles wedi’i hysbysu eisoes a bod treth ychwanegol yn dod yn ddyledus, dylid gwneud hysbysiad drwy lythyr i Swyddfa Trethi Stamp Birmingham. Gweler SDLTM18525.

23.5

Rhyddhad gorgyffwrdd (paragraff 9 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Pan fydd prydles o dir yng Nghymru a roddir cyn 1 Ebrill 2018 yn cael ei hildio neu ei therfynu, a rhoddir prydles newydd yn ei lle ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny, ni fydd y brydles newydd yn agored i SDLT.

Bydd y brydles newydd yn agored i TTT o dan Atodlen 6 i Ddeddf TTT. Mae paragraff 7 o Atodlen 6 i DTTT yn gwneud darpariaeth i ostwng TTT sy’n daladwy pan fo prydles newydd wedi’i rhoi yn lle hen brydles o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 7(1) o Atodlen 6.

Er mwyn sicrhau nad yw parti sy’n ymrwymo i brydles newydd, pan oedd gan yr hen brydles ddyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018, dan anfantais oherwydd y newid o SDLT i TTT, mae rheoliad 9 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu, pan fo hen brydles yn cael ei rhoi cyn 1 Ebrill 2018, bydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y brydles newydd yn cael ei gostwng i adlewyrchu’r rhent a fyddai wedi bod yn daladwy o dan yr hen brydles (ond nid i swm negyddol).

23.6

Prydlesi ôl-ddyddiedig a roddwyd i denantiaid sy’n dal drosodd (paragraff 9A o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Ni fydd rhoi prydles tir yng Nghymru, pan fo’r dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i SDLT hyd yn oed pan fo cyfnod y brydles yn cael ei fynegi i’w ddechrau cyn 1 Ebrill 2018.

Bydd rhoi prydles newydd o dir yng Nghymru, pan fo’r dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn agored i TTT o dan Atodlen 6 i Ddeddf TTT.

23.7

Aseinio prydles ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, pan roddwyd prydles cyn 1 Ebrill 2018.

Pan ymrwymir i brydles o dir yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2018, ac fe’i haseinir ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, gallai’r aseiniad fod yn agored i TTT os oes premiwm neu gydnabyddiaeth heblaw am rent am yr aseiniad.

23.8

Aseinio prydles wedi’i drin fel rhoi prydles (paragraff 11 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003).

Pan roddir prydles o dir yng Nghymru cyn 1 Ebrill 2018, ni fydd aseiniad o’r brydles ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny, yn agored i SDLT, ac ni fydd darpariaethau paragraff 11 yn gymwys i drin yr aseiniad hwnnw fel rhoi prydles at ddibenion SDLT.

Mae Rheoliad 10 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu, pan roddwyd prydles cyn 1 Ebrill 2018, ac fe gafodd ryddhad neu eithriad rhag SDLT, caiff ei thrin fel rhoi prydles newydd at ddibenion TTT.

23.9

Amrywiadau o brydlesi (Caiff cynydd mewn rhent ei drin fel rhoi prydles newydd) (paragraff 13 o Atodlen 17A i Ddeddf Cyllid 2003). Caiff cynydd mewn cyfnod y brydles neu estyniad i’r adeiladau ei drin fel rhoi prydles newydd.

Ni fydd amrywiad o brydles tir yng Nghymru, sy’n dod o dan delerau paragraff 13, yn cael ei drin fel rhoi prydles at ddibenion SDLT pan fyddai dyddiad dod i rym rhoi prydles o’r fath ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny.

Mae Rheoliad 11 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn darparu y bydd amrywiad o brydles tir yng Nghymru sy’n cynnwys cynyddu rhent, sy’n digwydd ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, yn cael ei drin fel rhoi prydles newydd at ddibenion TTT.

Felly, mae’r rheoliad yn ei gwneud hi’n glir bod digwyddiad o’r fath i gael ei drin at ddibenion TTT fel rhoi prydles newydd, ac felly’n agored i TTT, nid i SDLT. Fodd bynnag, oherwydd y bydd SDLT eisoes wedi cael ei chodi ar y rhent hyd at ddyddiad rhoi’r brydles newydd, dim ond ar unrhyw gynnydd mewn rhent y codir TTT.