Canllawiau

Rhaglen i syrfewyr sy’n dychwelyd i’r maes

Diweddarwyd 26 Chwefror 2026

Mae rhaglen ddychwelyd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi’i hanelu at syrfewyr siartredig sydd wedi treulio amser i ffwrdd o’r proffesiwn.

Mae’r rhaglen yn benodiad cyfnod penodol o 9 mis gyda’r nod o ddod â syrfewyr cymwys sydd heb fod yn weithgar yn y proffesiwn (er enghraifft, maen nhw heb wneud gwaith prisio neu maen nhw wedi newid gyrfa neu wedi cael saib o’r gwaith) yn ôl i rolau o fewn y proffesiwn syrfeio. Mae’r cyfnod hwn o 9 mis yn gyfle i ddiweddaru eu gwybodaeth broffesiynol ac uwchsgilio.

Fel rhan o’r contract 9 mis, byddwn yn darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau er mwyn i’r rheiny sy’n dychwelyd i’r maes fagu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ymgeisio am un o’r swyddi parhaol fel syrfëwr siartredig SEO. Fesul dipyn ar ôl cwblhau proses gynefino gynhwysfawr, bydd y rheiny sy’n dychwelyd i’r maes yn dod i adnabod pob agwedd ar y proffesiwn.

Mae’r ystod o waith rydym yn eu gwneud heb ei ail. Bydd y cyfrifoldebau arferol yn cynnwys rheoli llwythi achosion, cynnal prisiadau, darparu cyngor technegol a chynrychioli’r VOA yn y Tribiwnlys Prisio. Rydym hefyd yn cynnig cyfle i weithio ar eiddo proffil uchel ac anarferol.

Bydd pawb sy’n ymuno â ni yn cael cymorth pwrpasol gan fentor, a bydd rhai o’r gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol yn eu diwydiant ar gael i rannu eu harbenigedd.

Mae hyfforddi a datblygu yn nodweddion allweddol i’r rhaglen. Bydd y rheiny sy’n dychwelyd yn cael cyfle i fynychu sesiynau hyfforddi grŵp ar ystod o bynciau, fel sgiliau TG a meithrin gwydnwch.

Cymhwystra

Rydym yn croesawu ceisiadau o unrhyw syrfëwr siartredig sydd wedi bod y tu allan i’r proffesiwn am o leiaf dwy flynedd.

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod â phrofiad o brisio eiddo a meddu ar gymhwyster MRICS/FRICS neu IRRV (Anrhydedd) mewn llwybrau prisio neu’r llwybrau eiddo tirol.

Manyleb y person

Rydym yn gofyn am dystiolaeth o’r canlynol ar eich ffurflen gais:

  • y gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli pobl eraill i wireddu canlyniadau, gan gynnwys rhannu’ch gwybodaeth broffesiynol i helpu pobl eraill i ddatblygu
  • sgiliau cyfathrebu ardderchog, gyda’r gallu i ddelio ag ystod eang o gwsmeriaid a rhanddeiliaid
  • sgiliau dadansoddi a barnu cryf, wrth ddehongli ystod o dystiolaeth er mwyn rhoi cyngor perthnasol
  • ymrwymiad personol a phroffesiynol i’ch datblygiad parhaus

Lleoliadau

Rydym yn rhagweld y bydd cyfleoedd ar gael yn y lleoliadau canlynol:

Abertawe, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caerfyrddin, Caergrawnt, Caerhirfryn, Caerwysg, Canary Wharf, Colchester, Croydon, Durham, Eastbourne, Folkestone, Hull, Leeds, Lerpwl (Bootle), Manceinion, Newcastle, Norwich, Nottingham, Plymouth, Preston, Rhydychen (Abingdon), Sheffield, Southampton, St. Austell, Stoke, Wembley.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael eich lleoli yn y lleoliad sydd orau gennych. Fodd bynnag, oherwydd galw busnes a lleoliad ein syrfewyr, ni allwn roi sicrwydd y bydd pob swyddfa’r VOA sydd wedi’u rhestru ar gael.

Byddwn yn trafod lleoliadau posibl gennych yn ystod y broses ddethol.

Cyflog

Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw:

  • £48,886 (yn genedlaethol)
  • £53,251 (yn Llundain)

Yn ogystal â’ch cyflog o £48,866, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrannu tuag at eich aelodaeth o gynllun Pensiwn Buddion Diffiniedig y Gwasanaeth Sifil. Dysgwch am y buddion y mae Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu rhoi.

Buddion

Bydd y rôl hon o dan Delerau ac Amodau CThEF: Telerau ac amodau yn CThEF - GOV.UK

Byddwch yn ymuno â’r adran wrth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) symud i mewn at CThEF. Am y rheswm yma, bydd y rôl yn dechrau ar delerau ac amodau’r VOA am gyfnod pontio dros dro. Ar ôl hyn, bydd eich cyflogaeth yn symud i delerau ac amodau CThEF.  

Rydym yn cynnig buddion gwych yn y VOA, gan gynnwys cyflog deniadol, pensiwn y Gwasanaeth Sifil, a buddiannau ariannol eraill. Lle bo’n briodol, rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, a nifer hael o wyliau i’w defnyddio ar gyfer eich gwyliau. Mae gennym swyddfeydd modern, agored mewn lleoliadau cyfleus ledled Cymru a Lloegr, a fydd yn eich galluogi i weithio ar sail patrwm hybrid. Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbennig ar gyfer unrhyw amgylchiadau annisgwyl, gydag absenoldeb gofal a chymorth yn ystod argyfyngau domestig.

Buddion y gweithle

Rydym yn cynnig buddion gwych yn y VOA, gan gynnwys cyflog deniadol, pensiwn y Gwasanaeth Sifil, a buddiannau ariannol eraill.

Polisi gweithio hyblyg

Rydym yn cynnig polisi gweithio hyblyg, gweithio rhan-amser a gweithio yn ystod tymor yr ysgol, sy’n eich galluogi chi i gydbwyso eich gwaith â’ch ymrwymiadau personol.  Mae’r VOA hefyd yn gweithredu system gweithio hybrid – bydd eich rôl yn gyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Gwyliau

Rydym yn cynnig lwfans gwyliau, sy’n dechrau gyda 25 diwrnod ac yn codi i 30 diwrnod ar ôl cyfanswm o 5 mlynedd o wasanaeth. Byddwch hefyd yn cael 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus ac 1 diwrnod braint.

Pensiwn

Cynllun pensiwn hael iawn, â chyfraniadau isel gan y cyflogai. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y cysylltiad canlynol: Pensiwn y Gwasanaeth Sifil 

Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd

Mae hyn yn cynnwys cyfnodau mamolaeth, mabwysiadau neu absenoldeb ar y cyd i rieni hyd at 26 wythnos o gyflog llawn, yna 13 wythnos o dâl statudol a 13 wythnos arall heb dâl yn ôl eich disgresiwn. Rydym hefyd yn cynnig tâl tadolaeth am 4 wythnos ar gyflog llawn. 

Cymorth personol 

Rydym yn cynnig absenoldeb arbennig helaeth i helpu i gydbwyso eich ymrwymiadau bywyd a gwaith ac rydym yn gweithio gyda darparwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a llesiant cynhwysfawr ar gyfer iechyd meddyliol ac iechyd corfforol.  

Cyfleoedd hyfforddi a datblygu

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwych o ran datblygiad proffesiynol a phersonol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad fel y gallwch dyfu’n barhaus yn eich rôl.  

Buddion ar wahân i’r cyflog

Rydym yn cynnig buddion hael ar gyfer ein cydweithwyr i’w mwynhau, fel cynllun Beicio i’r Gwaith gwerth hyd at £4,000, cynllun gostyngiad i gyflogai sydd ar gael i’w ddefnyddio mewn ystod eang o fanwerthwyr, gostyngiad campfa a mwy.

Sut i wneud cais

Byddwn yn adolygu’r ceisiadau ar sail barhaus. Os oes diddordeb gennych yn y cyfle hwn, anfonwch e-bost at returningsurveyorsprogramme@voa.gov.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • CV sy’n nodi hanes eich gyrfa, eich cyfrifoldebau a’ch cyflawniadau (oherwydd natur y rhaglen, rydym yn disgwyl y bydd bylchau yn eich CV)
  • llythyr eglurhaol, hyd at 750 gair, yn nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a manyleb y person, a pham hoffech y cyfle hwn a beth allwch ei gynnig i’r VOA
  • hyd at 3 lleoliad dewisol, wedi’i restru yn ôl blaenoriaeth

Camau nesaf

Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a manyleb y person yn cael eu gwahodd i drafod eu CV a’u cymell am ymgeisio am y rhaglen mewn mwy o fanylder. 

Bydd y cyfweliad yn anffurfiol, ond bydd yn cael ei sgorio. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi yn ddiweddarach. 

Bydd yr holl gyfweliadau yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams.

Gwybodaeth bellach

Byddwch yn ymuno â’r adran wrth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) symud i mewn at CThEF. Am y rheswm yma, bydd y rôl yn dechrau ar delerau ac amodau’r VOA am gyfnod pontio dros dro. Ar ôl hyn, bydd eich cyflogaeth yn symud i Delerau ac Amodau CThEF.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen neu feini prawf cymhwystra, anfonwch e-bost at returningsurveyorsprogramme@voa.gov.uk.

Tystebau syrfëwr

Penny Walsh

Penny Welsh yw’r Arweinydd Prisio yn ein tîm Cyfleustodau, Telegyfathrebu a Thrafnidiaeth. Mae hi’n esbonio yma am sut mae ein polisïau gweithio hyblyg wedi’u cefnogi hi trwy gydol ei gyrfa.

“Dechreuais fy ngyrfa yn y VOA ar ôl graddio dros 30 mlynedd yn ôl, cyn symud i bractis preifat er mwyn ehangu ar fy mhrofiad.

“Ar ôl dechrau teulu, fe benderfynais yn 2002 i ddychwelyd i’r VOA. Roedd gweithio hyblyg yn golygu fy mod i’n gallu cydbwyso cael teulu ifanc ochr yn ochr ag ymrwymiadau fy nhyrfa.

“Gweithiais mewn sawl tîm, yn cwmpasu ystod eang o fathau o eiddo, cyn arbenigo mewn prisiadau amaethyddol.

“Yn 2018, oherwydd profedigaeth annisgwyl yn y teulu, roeddwn i’n gallu manteisio ar fuddiant arall o weithio i’r VOA a chymerais seibiant gyrfa am 3 blynedd.

“Roedd y sicrwydd o wybod y byddwn i’n gallu dychwelyd i’r VOA yn rhoi cymaint o dawelwch meddwl i mi yn ystod cyfnod pan oedd popeth arall yn fy mywyd mor ansicr.

“Yn y pen draw, roeddwn i’n barod i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl. Roedd y VOA yn hynod hyblyg ac, er gwaethaf pwysau’r pandemig, ges i groeso cynnes yn ôl ym mis Gorffennaf 2020.

“Gwnaeth y pandemig fy atal rhag dychwelyd i’m rôl flaenorol, felly ges i gyfle i fynd ar secondiad gyda thîm newydd. Ces i hyfforddiant trylwyr ar gyfer fy rôl newydd a ffynnais mewn amgylchedd newydd. O ganlyniad, gofynnais i’r VOA fy noddi i astudio Diploma Graddio RICS.

“Gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr, llwyddais yn fy niploma yn 2023. Yn y diwedd, roedd yr wybodaeth fanwl a’r ddealltwriaeth o drethiant lleol ges i wedi fy arwain at ymuno ag un o dimau ardrethu arbenigol y VOA fel arweinydd prisio.

“Mae’r VOA wedi rhoi cymaint o hyblygrwydd a chefnogaeth i mi er mwyn i mi gyflawni fy mhotensial.”

Ellen Atkin

Pennaeth Llywodraeth Leol a Datganoledig yw Ellen Atkin. Mae hi’n sôn am ddatblygiad ei gyrfa yn y VOA.

“Ymunais â’r VOA ar ôl gweithio i lywodraeth leol a’r sector preifat. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y sefydliad pan gyrhaeddais 12 mlynedd yn ôl, ond newidiodd hynny’n gyflym.

“Dechreuais weithio yn y maes ardrethi busnes cyn symud ymlaen i Wasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS), sef cangen eiddo arbenigol y VOA.

“Un o’r pethau gwych am weithio yn y VOA yw’r amrywiaeth o waith y gallwch ei wneud. Yn ystod fy ngyrfa, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar nifer o gynlluniau datblygu ac adfywio proffil uchel ledled Swydd Efrog a Gogledd-ddwyrain Lloegr.

“Ym mis Tachwedd 2020, des i’n arweinydd tîm yn DVS. Yma, gwnes i ragor o waith rheoli, fel monitro perfformiad gweithredol ac ystyried materion amserlennu a chyllidebu. Ar yr ochr brisio, parheais i weithio ar brosiectau cymhleth, heriol a thechnegol, a darparu cyngor ymgynghorol i amrywiaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.

“Ddwy flynedd yn ôl, ges i rôl dros dro fel pennaeth uned DVS. Rhoddodd hyn gyfrifoldeb ar y cyd i mi dros tua 350 o bobl, a helpais i i arwain strategaeth genedlaethol a rhanbarthol DVS ar gyfer 2022–23.

“Y llynedd, des i’n bennaeth llywodraeth leol a datganoledig yn DVS. Yn fy rôl newydd, rwy’n awyddus i ddatblygu sgiliau’r VOA ym maes prisio’r amgylchedd adeiledig cynaliadwy.

“I gefnogi’r nod hwn, y llynedd rhoddodd y VOA y cyfle i mi ddychwelyd i’r brifysgol i astudio gradd meistr yn y maes hwn.

“Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth y mae’r VOA wedi’i wneud drosta i dros y 12 mlynedd diwethaf. Gyda’u cefnogaeth a’u buddsoddiad, rwyf wedi gallu tyfu a datblygu fel syrfëwr ac arweinydd.

“Mae’r amrywiol raglenni hyfforddi, cyfleoedd mentora a phrosiectau datblygu wedi gwella fy ngalluoedd, a hefyd wedi fy helpu i gyfrannu’n fwy effeithiol at nodau’r sefydliad.

“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y pwyslais ar ddysgu parhaus a datblygiad personol. Mae hyn wedi bod o fudd i mi’n broffesiynol, ond hefyd wedi cyfoethogi fy mhrofiad cyffredinol yn y gwaith yn sylweddol.

Gareth Palmer

Gareth Palmer yw Cyfarwyddwr Prosiect NCA, ac mae’n gweithio yng Ngwasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS). Mae’n amlinellu sut y cefnogodd y VOA ef pan ddechreuodd deulu.

“Dechreuodd fy mywyd yn y VOA yn 2013, pan ymunais i fel syrfëwr graddedig. Ar ôl cymhwyso, gweithiais i fel uwch-syrfëwr yn DVS cyn cael cynnig dyrchafiad dros dro dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

“Wrth i fy nghydweithiwr ddychwelyd, cafodd fy merch gyntaf, Maisie, ei geni. Ces i 2 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl, a chymerodd fy ngwraig 7 mis o Absenoldeb Mamolaeth. Cymerais i’r 5 mis oedd yn weddill fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni.

“Treulio 5 mis cyfan gyda fy merch (er iddo fod yn ystod y cyfnod clo) oedd y penderfyniad gorau y gallwn fod wedi’i wneud, ac un y byddwn yn ei argymell i unrhyw dad arall.

“Pan ddychwelais i’r gwaith, ces i ddyrchafiad dros dro bron yn syth. Roedd hyn eto dros gyfnod absenoldeb mamolaeth cydweithiwr.

“Roedd y rôl hon yn wych, a helpodd y profiad hwn i mi sicrhau swydd barhaol arall ar yr un radd. Llwyddodd fy nghydweithiwr i gael dyrchafiad ar ôl dychwelyd o’r cyfnod mamolaeth, ac fe ddaeth hi’n rheolwr i mi.

“Ym mis Chwefror 2022, cafodd fy ail ferch, Annabelle, ei geni. Roedd y VOA wedi newid ei bolisi felly ces i 4 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl. Roedd yr amser ychwanegol i ffwrdd i ofalu am fy nheulu yn amhrisiadwy.

“Cymerais Absenoldeb ar y Cyd i Rieni eto pan anwyd Annabelle. Rhannon ni 5 mis hyfryd gyda’n gilydd, gan fynd i ddosbarthiadau babanod a threulio diwrnodau yn y ddinas.

“Dychwelais i’r gwaith ym mis Tachwedd 2022, a chynigiwyd dyrchafiad dros dro arall i mi’n fuan wedyn. Rwy’n dal yma ac yn ei fwynhau’n fawr.

“Mae’r VOA wedi bod yn anhygoel drwy gydol fy nhaith. Dydy cymryd Absenoldeb ar y Cyd i Rieni erioed wedi fy nal yn ôl, ac rwyf wedi cael cyfleoedd gwych i ddirprwyo ar gyfer cydweithwyr sydd hefyd yn dechrau eu teuluoedd eu hunain.

“Gall gweithio’n llawn amser gyda 2 o blant ifanc fod yn heriol, ond mae oriau hyblyg y VOA, ei bolisi gweithio hybrid a’i lwfans gwyliau blynyddol yn help mawr.”