Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod am labelu camarweiniol

Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Cymru a Lloegr

Cysylltwch â Safonau Masnach os ydych chi’n meddwl bod y label bwyd yn cynnwys gwybodaeth gamarweiniol neu os ydych chi’n meddwl bod gwybodaeth ar goll, fel:

  • honiadau iechyd
  • cynhwysion
  • pwysau
  • disgrifiad
  • alergenau

Gogledd Iwerddon

Cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol os ydych chi’n meddwl bod y label bwyd yn cynnwys gwybodaeth gamarweiniol neu os ydych chi’n meddwl bod gwybodaeth ar goll, fel:

  • honiadau maeth neu iechyd
  • gwybodaeth orfodol, er enghraifft enw’r bwyd, y cynhwysion a’r wybodaeth am faeth
  • disgrifiadau neu honiadau camarweiniol
  • alergenau

Os yw’r mater yn ymwneud â phwysau a mesurau, cysylltwch â Safonau Masnach.

Yr Alban

Os ydych chi yn yr Alban, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol.