Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod am fusnes bwyd sydd heb ei gofrestru

Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae’n rhaid i bob busnes bwyd gofrestru gyda’i awdurdod lleol. Gallwch chi wirio a yw busnes wedi’i gofrestru trwy chwilio i weld a yw wedi’i restru ar ein gwefan sgoriau hylendid bwyd

Os credwch chi nad yw busnes bwyd wedi’i gofrestru, gallwch chi roi gwybod amdano i dîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli.

Sicrhewch eich bod yn nodi cod post llawn yn y DU ar gyfer y busnes bwyd rydych am roi gwybod amdano, er enghraifft SW1H 9EX. Ni fydd cyfeiriadau â chodau post anghyflawn yn cael eu cydnabod.