Rhoi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd fel busnes
Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae manylion cyfeiriad eich busnes yn anghywir
Os yw enw neu gyfeiriad eich busnes a gedwir yn ein gwasanaeth sgoriau hylendid bwyd yn anghywir, cysylltwch â’r awdurdod lleol a roddodd y sgôr i chi a gofynnwch iddo wneud y newidiadau angenrheidiol.
Mae eich sgôr yn wahanol i’r sgôr a roddwyd yn yr arolygiad diwethaf
Gall fod ychydig o oedi tra bydd yr awdurdod lleol yn diweddaru’r wefan sgoriau hylendid bwyd.
Mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho sgoriau o leiaf bob 28 diwrnod. Bydd manylion busnesau sy’n cael sgôr o ‘5 – da iawn’ – yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd eich awdurdod lleol yn uwchlwytho’r wybodaeth. Caiff manylion busnesau sy’n cael sgôr o ‘0 i 4’ eu cyhoeddi rhwng 3 a 5 wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad i ganiatáu cyflwyno apêl (gallwch chi ofyn i sgôr gael ei chyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio).
Os nad yw eich sgôr yn gywir o hyd ar ôl y cyfnod hwn, ewch ati i gysylltu â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Ni allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr, cofiwch geisio chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Os yw eich busnes wedi’i gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad preifat (er enghraifft arlwywyr cartref), dim ond rhan gyntaf y cod post sy’n cael ei chyhoeddi.
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr, dylech chi gysylltu â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Rydych chi am apelio yn erbyn eich sgôr
Ewch ati i ddysgu sut y gallwch chi apelio yn erbyn eich sgôr
Rydych chi am gael sgôr hylendid bwyd ar gyfer eich busnes
I gael sgôr hylendid bwyd, mae angen i chi gofrestru eich busnes gyda’ch awdurdod lleol. Ar ôl cofrestru, caiff eich safle ei arolygu a bydd sgôr yn cael ei dyrannu i chi gan eich awdurdod lleol.