Archwilio Rheoleiddiol
Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2011
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Archwilio Rheoleiddiol
Rhan o’n swydd ni yw gwerthuso pa mor effeithiol yw’r system rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I wneud hyn, rydym yn cynllunio ac yn cynnal rhaglenni archwilio ym mhob gwlad.
Mae’r rheolaethau swyddogol a archwilir yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau o gynhyrchu cynradd ar ffermydd, wyau, llaeth, lladd-dai, ffatrïoedd torri, bwyd anifeiliaid, pysgod cregyn a chynhyrchion pysgodfeydd, yn ogystal â’r sector manwerthu fel archfarchnadoedd, cigyddion, bwytai.
Caiff y system rheolaethau swyddogol ei gweithredu gan swyddogion gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid mewn awdurdodau cymwys gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, yr ASB ei hun, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gontractau neu gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.
Archwiliadau â Ffowcs a rennir
Mae archwiliadau â ffocws yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar waith gorfodi awdurdodau lleol.
Siarter Archwilio Rheoleiddiol
Mae archwiliadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o awdurdodau cymwys yn rhoi sicrwydd bod y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y DU a chanllawiau swyddogol.
Mae awdurdodau cymwys yn cynnwys yr ASB, awdurdodau lleol, a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau cymwys drwy Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (ceir deddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr).
Mae ein harchwiliadau wedi’u llunio i wirio bod trefniadau a gynlluniwyd yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac i asesu a yw’r trefniadau hynny’n addas i gyflawni amcanion y gofynion a’r canllawiau cyfreithiol perthnasol. Mae ein Llawlyfr Archwilio Rheoleiddiol yn rhoi manylion am sut rydym yn cynnal yr archwiliadau hyn.
Nodau swyddogaeth archwilio rheoleiddiol yr ASB yw:
- helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy hybu trefniadau effeithiol ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd
- cynnal a gwella hyder defnyddwyr yn y system a ddefnyddir ar gyfer rheolaethau swyddogol
- cynorthwyo i nodi a lledaenu arferion da er mwyn hybu cysondeb
- darparu gwybodaeth i helpu i lunio polisi’r ASB
- hyrwyddo cydymffurfiaeth â chanllawiau canolog neu Godau Ymarfer
- darparu modd o nodi tanberfformiad o ran gwaith awdurdodau cymwys o ddarparu gwasanaethau ym maes cyfraith bwyd
- hyrwyddo archwilio rhwng awdurdodau ac adolygiadau gan gymheiriaid
- nodi gwelliannau parhaus
Egwyddorion:
- Rhaid dewis pob rhaglen archwilio yn seiliedig ar broses gynllunio ddogfenedig sy’n seiliedig ar risg.
- Rhaid i bob rhaglen archwilio gynnwys amcanion clir.
- Rhaid i bob cynllun rhaglen archwilio sicrhau bod gan y tîm archwilio y cymhwysedd technegol priodol/penodol i gyflawni amcanion y rhaglen archwilio.
- Bydd y tîm archwilio’n cymhwyso egwyddorion gwelliant parhaus at bob rhan o’r system archwilio.
- Bydd y tîm archwilio’n rhagweithiol wrth ddarparu eglurder i awdurdodau cymwys (y sawl a archwilir) gan gynnwys cyfathrebu cyn pob archwiliad, a rhoi adborth yn ystod ac ar ôl yr archwiliadau.
- Bydd pawb sy’n destun archwiliad yn cael adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi canfyddiadau’r archwiliad yn glir.
- Bydd gan y sawl a archwilir, trwy argymhellion a wneir yn yr adroddiad archwilio, ddealltwriaeth glir o’r gwelliannau sydd eu hangen a dyddiadau a gytunwyd ar gyfer rhoi’r gwelliannau ar waith trwy’r cynllun gweithredu a nodir yn eu hadroddiad archwilio.
- Bydd y sawl a archwilir yn cael cyfle i roi adborth ysgrifenedig ar ôl archwiliad a fydd yn cael ei gofnodi a’i adolygu’n annibynnol.