Papur polisi

Tandaliadau a gordaliadau TWE

Diweddarwyd 15 December 2014

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

1. Sut mae tandaliadau a gordaliadau yn digwydd

Nod y system TWE yw didynnu’r dreth gywir oddi wrth bobl yn ystod y flwyddyn dreth ac fe’i seilir ar wybodaeth y mae cyflogeion a chyflogwyr yn ei rhoi i ni.

Mae TWE yn didynnu’r dreth gywir oddi wrth tua 85 y cant o bobl. Ond i’r rheiny sy’n symud i mewn ac allan o waith, lle mae eu hincwm yn amrywio, neu y mae ganddynt dreuliau neu fuddiannau, nid yw didyniadau TWE bob amser cyfwerth â’r dreth sy’n ddyledus. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod materion treth y grŵp hwn o drethdalwyr yn gallu newid yn ystod y flwyddyn, ac efallai na fydd y newidiadau’n cael eu hysbysu i ni tan rywbryd ar ôl y digwyddiad. Golyga hyn y bydd tua 15 y cant o drethdalwyr wedi talu gormod neu’n rhy ychydig o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth.

Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth rydym yn gwirio p’un a yw cwsmeriaid o dan y system TWE wedi talu’r dreth gywir. Os bydd gormod neu rhy ychydig o dreth wedi ei thalu, cynhyrchir cyfrifiad treth ar ffurflen P800 a’i hanfon at y cwsmer. Mae hyn yn rhan o broses arferol y system TWE ac mae wedi digwydd pob blwyddyn ers cyflwyno TWE yn 1944. Gelwir y broses yn Cysoni Diwedd Blwyddyn (EoYR).

2. Sut byddwn yn casglu tandaliadau ac yn ad-dalu gordaliadau

Eleni bwriadwn:

  • dechrau’r broses Cysoni Diwedd Blwyddyn ar gyfer 2011-12 y mis hwn (Mai), sydd ddau fis ynghynt na’r llynedd
  • prosesu gordaliadau a thandaliadau gyda’i gilydd, yn hytrach na mewn dwy broses ar wahân, sy’n golygu y cwblheir y broses Cysoni Diwedd Blwyddyn ynghynt

Bydd cwsmeriaid sydd wedi talu gormod o dreth yn 2011-12 yn dechrau derbyn ad-daliadau treth ynghynt. Bydd y cwsmeriaid hynny sydd â mwy o dreth i’w thalu yn dechrau derbyn hysbysiadau bedwar mis ynghynt na’r llynedd, er mwyn eu helpu i gynllunio eu trefniadau ariannol o flaen llaw. Yn y mwyafrif o achosion, byddwn yn casglu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus pan delir cwsmeriaid wrth y ffynhonnell, drwy newid eu cod treth. Gelwir y broses hon yn ‘addasu cod’ a bydd yn digwydd yn ystod 2013-14.

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i gyfrifo faint o dandaliadau a gordaliadau sy’n ddyledus, ond disgwyliwn y bydd rhwng 2.1 miliwn a 3.5 miliwn o gwsmeriaid sydd wedi talu gormod o dreth, a tua 1.2 miliwn ac 1.6 miliwn o gwsmeriaid sydd wedi talu rhy ychydig o dreth. Ni fydd yn rhaid i gwsmeriaid nad ydynt yn cwblhau ffurflenni treth Hunanasesiad ac sydd arnynt llai na £50 dalu unrhyw beth. Mae cwsmeriaid sydd wedi gordalu eu treth yn derbyn ad-daliad sydd ar gyfartaledd yn £379. Mae’r cwsmeriaid hynny sydd wedi talu rhy ychydig yn gorfod ad-dalu diffyg sydd ar gyfartaledd yn £537.

Roedd ychydig o gwsmeriaid yn 2010-11 a gafodd ad-daliad am ordalu treth, ond a ddywedwyd wrthynt ychydig ar ôl hynny eu bod wedi tandalu treth yn yr un flwyddyn. Digwyddodd hyn oherwydd bod eu hamgylchiadau wedi newid yn y cyfamser ac nid oeddwn yn gwybod am y newid cyn i’r broses gysoni ddechrau. O ganlyniad, rydym yn cydweddu’r wybodaeth hon gyda chyfrifon ynghynt eleni, felly gallwn ostwng nifer yr achosion hyn cymaint â phosibl.

3. Helpu’r rheiny sy’n methu fforddio talu

Gwyddom mewn rhai achosion y gallai ad-dalu’r dreth sy’n ddyledus dros gyfnod o 12 mis achosi anawsterau ariannol i rai trethdalwyr. Byddwn mor hyblyg â phosibl fel bod pobl yn gallu gofyn i dalu’r dreth sydd arnynt drwy daenu’r taliadau dros uchafswm o dair blynedd os oes angen iddynt. Dylai trethdalwyr sydd am gael fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud trefniadau Amser i Dalu ffonio’r rhif ffôn a ddangosir ar y llythyr a gânt, a rhoi eu cyfeirnod unigryw. Mae cyfeiriad ar y llythyr hefyd lle y gallant ysgrifennu atom. Ni fyddwn yn codi llog pan fo trethdalwr yn trefnu taliadau gyda ni.

4. Yr hyn rydym yn ei wneud i wella TWE

Gwybodaeth Amser Real ar gyfer TWE yw’r cam nesaf i foderneiddio TWE ac mae’n cael ei weithredu yn unol â’r amserlen. O dan Wybodaeth Amser Real bydd cyflogwyr a darparwyr pensiwn yn dweud wrthym am daliadau TWE ar yr adeg pan gânt eu gwneud - yn hytrach na dweud wrthym drwy’r system diwedd blwyddyn fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Bydd Gwybodaeth Amser Real yn ein caniatáu i gadw cofnodion rhai cwsmeriaid yn fwy cyfoes yn ystod y flwyddyn, oherwydd caiff ei hysbysu i ni ynghynt pan fydd pobl yn newid swyddi neu’n symud i mewn ac allan o waith. Mewn amser bydd Gwybodaeth Amser Real yn sicrhau ein bod yn casglu’r swm cywir o dreth ac Yswiriant Gwladol gan fwy o unigolion yn ystod y flwyddyn dreth, sy’n golygu y bydd llai o gwsmeriaid wedi gordalu neu dandalu ar ddiwedd y flwyddyn. Lansiwyd cynllun peilot Gwybodaeth Amser Real ym mis Ebrill 2012 fel y cam cyntaf tuag at weithredu’r system yn llawn erbyn mis Hydref 2013. Derbyniodd CThEM mwy na 100,000 o gofnodion cwsmeriaid yn llwyddiannus ers i ddeg o gyflogwyr ymuno â’r cynllun peilot yn wirfoddol. Bydd 310 o gynlluniau cyflogwyr ychwanegol yn ymuno â’r cynllun peilot ym misoedd Mai a Mehefin.

5. I ganfod mwy

Ewch i’n gwefan yn www.hmrc.gov.uk/payinghmrc/problems/cantpay.htm.