Canllawiau

Bwrdd Parôl yn lansio ei Gynllun Iaith Gymraeg 2018-2020

Mae'r Bwrdd Parôl wedi lansio ei Gynllun Iaith Gymraeg 2018-2020, a gymeradwywyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg

Dogfennau

Parole Board Welsh Language Scheme 2021 - 2023

Welsh Language Scheme cover letter 2020

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch info@paroleboard.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg

Bob blwyddyn, mae gofyn i’r Bwrdd Parôl gyflwyno adroddiad monitro i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n esbonio sut yr ydym wedi symud ymlaen yn unol â’n cynllun gweithredu iaith Gymraeg. Cyflwynwyd yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar 2 Gorffennaf 2019.

Trosolwg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi statws cyfartal i’r iaith Gymraeg a’r Saesneg mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae’r ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus i lunio cynllun iaith i esbonio pa wasanaethau y byddant yn eu darparu yn Gymraeg, sut y byddant yn gwneud hynny a phryd.

Mae’r Bwrdd Parôl wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y bydd yn trin yr ieithoedd Saesneg a Chymraeg ar y sail eu bod yn gyfartal, cyn belled ag y bo hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn nodi sut y bydd y Bwrdd yn gweithredu’r egwyddor honno yn y gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mabwysiadwyd y Cynllun gan Bwyllgor Rheoli’r Bwrdd Parôl ac fe’i cymeradwywyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar 10 Awst 2018.

Gellir darllen y cynllun yma:

Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei ymrwymiadau, fel y nodir yn y Cynllun, lluniwyd Cynllun Gweithredu.

Gellir darllen y Cynllun Gweithredu yma:

Un o’r camau gweithredu allweddol yw cael fersiynau Cymraeg o wybodaeth allweddol ar ein tudalennau gwe a bydd hyn wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2018.

Mae’r Bwrdd Parôl wedi cyhoeddi cyflwyniad i Gomisiwn Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru a gellir darllen hwn yma:

Cyhoeddwyd ar 21 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 August 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. Each year the Parole Board is required to submit a monitoring report to the Welsh Language Commissioner setting out how we have progressed against our Welsh language action plan. The report for the year 2018/19 was submitted on 2 July 2019/ Bob blwyddyn, mae gofyn i’r Bwrdd Parôl gyflwyno adroddiad monitro i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n esbonio sut yr ydym wedi symud ymlaen yn unol â’n cynllun gweithredu iaith Gymraeg. Cyflwynwyd yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar 2 Gorffennaf 2019.