Papur polisi

PecynUK: pennu is-gategorïau deunyddiau o dan reoliad 7 (11)

Diweddarwyd 19 Rhagfyr 2025

Mae’r categorïau i drin pecynwaith a gwastraff at ddibenion y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer pecynwaith yn cael eu pennu yn rheoliad 7(5) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (‘y Rheoliadau’). 

Mae rheoliad 7(11) yn rhoi’r disgresiwn i PecynUK bennu is-gategorïau o’r pecynwaith a’r categorïau a restrir yn rheoliad 7(5).  

Mae PecynUK yn bwriadu defnyddio ei ddisgresiwn i bennu is-gategorïau o fewn y categori pecynwaith ‘plastig’ presennol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau’r rhestr newydd o is-gategorïau (yn unol â’r gofynion cyhoeddi a amlinellir yn rheoliad 7(16)) a fydd yn berthnasol i Flwyddyn 2, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 o’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer pecynwaith (sy’n berthnasol i ffioedd gwaredu 2026 i 2027, 2027 i 2028, a 2028 i 2029 yn y drefn honno).

Ni fydd yr is-gategorïau’n berthnasol i ffioedd gwaredu ym Mlwyddyn 1 (sy’n berthnasol i 2025 i 2026).

Blwyddyn 2: Ffioedd gwaredu 2026 i 2027 

Ym Mlwyddyn 2, mae PecynUK yn bwriadu defnyddio ei ddisgresiwn i bennu dau is-gategori o fewn y categori pecynwaith ‘plastig’ presennol, sef yr is-gategorïau: anhyblyg a hyblyg.

Mae’r is-gategorïau hyn ond yn berthnasol i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n adrodd ar ran cynhyrchwyr mawr.

Bydd yr is-gategorïau hefyd ond yn berthnasol i becynwaith a gyflenwir ym mlwyddyn galendr 2025. Byddant yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35), i roi gwaelodlin i ragweld ffioedd yn y dyfodol.  

Ym Mlwyddyn 2, dyma’r categorïau pecynwaith a gwastraff:

  • alwminiwm
  • deunyddiau cyfansawdd ffeibr carbon
  • gwydr
  • papur a cherdyn
  • plastig
  • dur
  • pren
  • arall

Dyma’r is-gategorïau pecynwaith a gwastraff:

  • plastig – anhyblyg
  • plastig – hyblyg

Yn ymarferol

Ym Mlwyddyn 2, dim ond i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n adrodd ar ran cynhyrchwyr mawr y bydd yr is-gategorïau newydd hyn yn berthnasol.

Yn y flwyddyn hon, bydd yr is-gategorïau’n berthnasol i becynwaith a gyflenwir ym mlwyddyn galendr 2025 ac sy’n berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35)

Ni fydd yr is-gategorïau’n berthnasol i gyfrifoldeb cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu ym Mlwyddyn 2 (2026 i 2027), o dan Ran 5, Pennod 3 y Rheoliadau.

Ni fydd yr is-gategorïau chwaith yn berthnasol i’r rhwymedigaethau ailgylchu o dan reoliad 40 ym Mlwyddyn 2 (2026 i 2027).

Mae’r is-gategorïau’n berthnasol i adrodd ar eitemau’r cartref o becynwaith sy’n aml yn cael eu taflu i’r bin neu sy’n cael eu taflu fel sbwriel fel y mae’n ofynnol adrodd arnynt o dan atodlen 4 paragraff 6 (pecynwaith cartrefi) a pharagraff 10 (pecynwaith sy’n aml yn cael ei daflu i’r bin neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Blwyddyn 3: Ffioedd gwaredu 2027 i 2028 

Ym Mlwyddyn 3 mae PecynUK yn bwriadu defnyddio ei ddisgresiwn i bennu dau is-gategori o fewn y categori pecynwaith ‘plastig’ presennol, sef yr is-gategorïau: anhyblyg a hyblyg.

Bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu.

Ni fydd yr is-gategorïau’n berthnasol i rwymedigaethau cynhyrchwyr ac ailgylchu (o dan reoliad 40).

Ym Mlwyddyn 3, dyma’r categorïau pecynwaith a gwastraff:

  • alwminiwm
  • deunyddiau cyfansawdd ffeibr carbon
  • gwydr
  • papur a cherdyn
  • plastig
  • dur
  • pren
  • arall

Dyma’r is-gategorïau pecynwaith a gwastraff:

  • plastig – anhyblyg
  • plastig – hyblyg

Yn ymarferol

Ym Mlwyddyn 3, dim ond i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n adrodd ar ran cynhyrchwyr mawr y bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol.

Bydd yr is-gategorïau’n berthnasol i becynwaith a gyflenwir ym mlwyddyn galendr 2026 ac sy’n berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35).

Bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n berthnasol i gyfrifoldeb cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu ym Mlwyddyn 3 (2027 i 2028), o dan Ran 5, Pennod 3 y Rheoliadau.

Ni fydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i rwymedigaethau ailgylchu ym mlwyddyn asesu Blwyddyn 3 (2027 i 2028) o dan reoliad 40.

Mae’r is-gategorïau’n berthnasol i adrodd ar eitemau’r cartref o becynwaith sy’n aml yn cael eu taflu i’r bin neu sy’n cael eu taflu fel sbwriel fel y mae’n ofynnol adrodd arnynt o dan atodlen 4 paragraff 6 (pecynwaith cartrefi) a pharagraff 10 (pecynwaith sy’n aml yn cael ei daflu i’r bin neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Blwyddyn 4: Ffioedd gwaredu 2028 i 2029

Ym Mlwyddyn 4, mae PecynUK yn bwriadu defnyddio ei ddisgresiwn i bennu dau is-gategori o fewn y categori pecynwaith ‘plastig’ presennol, sef yr is-gategorïau: anhyblyg a hyblyg.

Bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu.

Ni fydd yr is-gategorïau’n berthnasol i rwymedigaethau cynhyrchwyr ac ailgylchu (o dan reoliad 40).

Ym Mlwyddyn 4, dyma’r categorïau pecynwaith a gwastraff:

  • alwminiwm
  • deunyddiau cyfansawdd ffeibr carbon
  • gwydr
  • papur a cherdyn
  • plastig
  • dur
  • pren
  • arall

Dyma’r is-gategorïau pecynwaith a gwastraff:

  • plastig – anhyblyg
  • plastig – hyblyg

Yn ymarferol

Ym Mlwyddyn 4, dim ond i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n adrodd ar ran cynhyrchwyr mawr y bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol.

Bydd yr is-gategorïau’n berthnasol i becynwaith a gyflenwir ym mlwyddyn galendr 2027 ac sy’n berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud ag adrodd ar ddata (o dan reoliad 35).

Bydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n berthnasol i gyfrifoldeb cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu ym Mlwyddyn 4 (2028 i 2029), o dan Ran 5, Pennod 3 y Rheoliadau.

Ni fydd yr is-gategorïau hyn yn berthnasol i rwymedigaethau ailgylchu ym Mlwyddyn 4 (2028 i 2029) o dan reoliad 40.