Diben: PecynUK yn pennu is-gategorïau deunyddiau o dan reoliad 7 (11)
Cyhoeddwyd 22 Hydref 2025
Mae’r categorïau y mae pecynwaith a gwastraff i’w trin fel petaen nhw’n perthyn iddyn nhw at ddibenion y cynllun pEPR wedi’u nodi yn rheoliad 7(5) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (‘y Rheoliadau’).
Mae rheoliad 7(11) yn caniatáu disgresiwn i PecynUK bennu is-gategorïau o’r pecynwaith a’r categorïau a restrir yn rheoliad 7(5).
Mae PecynUK yn bwriadu arfer ei ddisgresiwn i bennu is-gategorïau o fewn categori pecynwaith presennol ‘Plastig’ ac mae’r cyhoeddiad yma yn cadarnhau’r rhestr newydd o is-gategorïau (yn unol â’r gofynion ynglŷn â chyhoeddi a amlinellir yn rheoliad 7(16)) a fydd yn gymwys i Flwyddyn 2 a Blwyddyn 3 o’r cynllun pEPR (sef ffioedd gwaredu 2026/27 a 2027/28 yn y drefn honno). Fydd yr is-gategorïau ddim yn gymwys i ffioedd gwaredu ym Mlwyddyn 1 (sef 2025/26)
Ffioedd gwaredu Blwyddyn 2 – 2026/27
Crynodeb
Ym Mlwyddyn 2, mae PecynUK yn bwriadu arfer ei ddisgresiwn i bennu dau is-gategori o fewn categori pecynwaith presennol ‘Plastig’, sef yr is-gategorïau: Anhyblyg a Hyblyg. Mae’r is-gategorïau yma yn gymwys i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n rhoi gwybod am ddata ar ran cynhyrchwyr mawr yn unig. Bydd yr is-gategorïau hefyd yn gymwys i becynwaith a gyflenwyd ym mlwyddyn galendr 2025 yn unig. Byddan nhw’n berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) a’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â rhoi gwybod am ddata (o dan reoliad 35), er mwyn darparu gwaelodlin ar gyfer darogan ffioedd yn y dyfodol.
Y Categorïau Pecynwaith a Gwastraff Presennol
-
Alwminiwm
-
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr
-
Gwydr
-
Papur/Cerdyn
-
Plastig
-
Dur
-
Pren
-
Arall
Yr Is-gategorïau pecynwaith a gwastraff newydd
-
Plastig - Anhyblyg
-
Plastig – Hyblyg
Cymhwyso
Ym Mlwyddyn 2, bydd yr is-gategorïau newydd yma yn gymwys i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n rhoi gwybod am ddata ar ran cynhyrchwyr mawr yn unig.
Yn y flwyddyn yma, bydd yr is-gategorïau yn gymwys i becynwaith a gyflenwyd ym mlwyddyn galendr 2025 ac maen nhw’n berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) a’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â rhoi gwybod am ddata (o dan reoliad 35).
Fydd yr is-gategorïau ddim yn berthnasol i gyfrifoldeb y cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu ym mlwyddyn asesu 2026/27 h.y. ym Mlwyddyn 2, o dan Ran 5, Pennod 3 o’r Rheoliadau.
Fydd yr is-gategorïau ddim yn berthnasol ychwaith i’r rhwymedigaethau ailgylchu o dan reoliad 40 ym mlwyddyn asesu 2026/2027 h.y. ym Mlwyddyn 2.
Ffioedd gwaredu Blwyddyn 3 – 2027/28
Crynodeb
Yn y flwyddyn yma, mae PecynUK yn bwriadu arfer ei ddisgresiwn i bennu dau is-gategori o fewn categori pecynwaith presennol ‘Plastig’, sef yr is-gategorïau: Anhyblyg a Hyblyg.
Bydd yr is-gategorïau yma yn berthnasol i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â rhoi gwybod am ddata (o dan reoliad 35) ac i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb y cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu.
Fydd yr is-gategorïau ddim yn gymwys i rwymedigaethau cynhyrchwyr ac ailgylchu (o dan reoliad 40).
Categorïau
-
Alwminiwm
-
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr
-
Gwydr
-
Papur/Cerdyn
-
Plastig
-
Dur
-
Pren
-
Arall
Is-gategorïau
Ar gyfer plastig, dau is-gategori:
-
Plastig - Anhyblyg
-
Plastig – Hyblyg
Cymhwyso
Ym Mlwyddyn 3, bydd yr is-gategorïau yma yn gymwys i gynhyrchwyr mawr a chynlluniau cydymffurfio sy’n rhoi gwybod am ddata ar ran cynhyrchwyr mawr yn unig.
Bydd yr is-gategorïau yn gymwys i becynwaith a gyflenwyd ym mlwyddyn galendr 2026 ac maen nhw’n berthnasol i rwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion (o dan reoliad 34) a’r rhwymedigaeth yn y ddarpariaeth sy’n ymwneud â rhoi gwybod am ddata (o dan reoliad 35).
Bydd yr is-gategorïau yma yn gymwys i’r rhwymedigaethau yn y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb y cynhyrchwyr i dalu ffioedd gwaredu ym mlwyddyn asesu 2027/28 h.y. ym Mlwyddyn 3, o dan Ran 5, Pennod 3 o’r Rheoliadau.
Fydd yr is-gategorïau yma ddim yn gymwys i rwymedigaethau ailgylchu ym mlwyddyn asesu 2027/28 h.y. ym Mlwyddyn 3 o dan reoliad 40.