Strategaeth interim PecynUK
Cyhoeddwyd 27 Mehefin 2025
1. Crynodeb Gweithredol
Strategaeth interim yw hon: bydd strategaeth hirdymor yn cael ei lansio yn nes ymlaen yn 2025 i gynnwys
- Strwythurau a threfniadau hirdymor
- Datblygiadau mewn amcanion polisi ledled y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf, er enghraifft, penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) erbyn mis Mawrth 2026
Gweledigaeth
Lleihau pecynwaith diangen a chynyddu cylcholrwydd deunyddiau pecynwaith.
Diben
Amcan Gweinyddwr y Cynllun (PecynUK) yw gweithio ar draws pob un o’r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig i roi Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (Rheoliadau Pecynwaith 2024) ar waith [footnote 1].
Yn unol â Rheoliadau Pecynwaith 2024, mae’r strategaeth hon wedi’i datblygu mewn cydweithrediad â phedair Gwlad y Deyrnas Unedig. Hefyd, mae PecynUK wedi gweithio gyda Grŵp Llywio dros dro Gweinyddwr y Cynllun[footnote 2].
Strategaeth interim yw hon ac mae’n nodi’r canlyniadau y mae PecynUK yn ceisio’u cyflawni trwy amlinellu nodau strategol PecynUK yn y blynyddoedd nesaf yn ystod ei gyfnod sefydlu, gan osod y sylfeini ar gyfer datblygu gweledigaeth a dull hirdymor PecynUK. Mae’ n nodi sut y bydd sefydlu PecynUK yn cyfrannu at economi cylchol trwy ysgogi defnyddio pecynwaith sy’n amgylcheddol gynaliadwy a galluogi rheolaeth effeithlon ac effeithiol ar becynwaith trwy wasanaethau gwastraff yr awdurdodau lleol.
Mae dull PecynUK hefyd yn pwysleisio cydweithio â rhanddeiliaid gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd trwy’r broses i gyd. Hefyd, mae’r strategaeth yn manylu ar ein hymrwymiad i fesur y broses o gyflawni’r nodau strategol hyn a’r effeithiau amgylcheddol a chyflwyno adroddiadau ar y rhain, yn gyson â pholisïau a rennir ledled y Deyrnas Unedig ac ar lefel y gwledydd. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i adolygu a diweddaru’r strategaeth lawn bob pum mlynedd i sicrhau ei bod yn dal yn berthnasol ac effeithiol.
Nod y strategaeth yw cyflawni’r manteision amgylcheddol a nodir yn y datganiad polisi ar y cyd [footnote 3] trwy nodau strategol sy’n canolbwyntio ar ddeunyddiau pecynwaith, dulliau prosesu, a thrwy ddylanwadu ar ymddygiad dinasyddion, gan gydweithio â phob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig a rhanddeiliaid yn y diwydiant. Rhywbeth sy’n allweddol i’r dull yma yw mecanweithiau fel modiwleiddio ffioedd, a meithrin cydweithredu ar draws y gadwyn werth, dan oruchwyliaeth model llywodraethu strwythuredig sy’n cynnwys pwyllgorau Gweinidogion a phwyllgorau technegol ymgynghorol.
Cefndir
Bydd polisi pEPR (Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith) y Deyrnas Unedig, ynghyd â diwygiadau allweddol eraill yn y system lawn, yn trawsnewid y gadwyn werth pecynwaith trwy wneud i gynhyrchwyr dalu cost lawn rheoli eu gwastraff pecynwaith.
Bydd hyn yn gyrru newid tuag at ddeunydd pecynwaith ailgylchadwy, ailddefnyddiadwy a chyn lleied ohono ag y bo modd. Bydd cynhyrchwyr yn ffafrio dyluniad deunyddiau symlach, pecynwaith cyfrifol ac yn osgoi pecynwaith anodd ei ailgylchu er mwyn lleihau costau cydymffurfio.
Bydd brandiau, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr pecynwaith yn ymateb â deunyddiau a dyluniadau mwy cynaliadwy. Gallai manwerthwyr roi’r flaenoriaeth i gynhyrchion â phecynwaith sy’n creu llai o effaith, ac ymhen amser bydd labeli cliriach yn helpu defnyddwyr i ailgylchu’n gywir.
Bydd y polisi hefyd yn ariannu gwasanaethau ailbrosesu ac ailgylchu mwy effeithlon ac effeithiol ar draws yr awdurdodau lleol, gan hybu cyfraddau ailgylchu uwch a lleihau halogiad. Trwy gysoni cyfrifoldeb ariannol ag effaith amgylcheddol, mae pEPR yn hybu economi cylchol – gan dorri gwastraff, lleihau allyriadau, a chadw deunyddiau ar waith am gyfnod hirach.
Mae PecynUK yn cyflawni’r canlynol ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig:
- Cyfraddau ffioedd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) ar gyfer deunyddiau pecynwaith cartrefi
- Casglu ffioedd gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth sy’n cyflenwi pecynwaith cartrefi i’r farchnad
- Taliadau i’r awdurdodau lleol i dalu cost effeithlon ac effeithiol rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi gan gymell cynnydd ym maint ac ansawdd yr ailgylchu yr un pryd
- Ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus a gwybodaeth i sbarduno gwell ymddygiad
Wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn, byddwn yn gweithredu cynllun sy’n datblygu’r economi cylchol ac yn darparu gwerth da am arian i gynhyrchwyr yr un pryd â sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau ailgylchu a gwaredu effeithlon ac effeithiol. Bydd PecynUK hefyd yn ceisio dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr, mewn cydweithrediad â phartneriaid, trwy gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus a gwybodaeth effeithiol sy’n annog pobl i waredu gwastraff pecynwaith yn gywir.
Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliadau Pecynwaith 2024, rhaid i PecynUK weithredu yn unol â’r angen i hwyluso’r dasg o gyflawni’r manteision amgylcheddol a nodir yn natganiad polisi’r pedair gwlad. Y manteision amgylcheddol hyn yw:
- Defnyddio pecynwaith amgylcheddol gynaliadwy
- Atal deunydd pecynwaith rhag dod yn wastraff
- Cynnydd yn yr ailddefnyddio ar becynwaith a fformatau pecynwaith y gellir eu hailddefnyddio
- Cynnydd yn nifer ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy’n cael eu hailgylchu.
- Cynnydd yn y defnydd o ddeunydd wedi’i ailgylchu mewn pecynwaith newydd
- Gostyngiad yn y deunydd pecynwaith a roddir ar y farchnad
Mae pedair gwlad y Deyrnas Unedig o’r farn bod cyflawni’r canlyniadau hyn, trwy PecynUK, yn ganolog i gefnogi’r trawsnewid i economi cylchol, gan gynyddu’r effeithlonrwydd carbon sy’n gysylltiedig â chylch bywyd deunyddiau pecynwaith i’r eithaf yr un pryd.
2. Nodau blwyddyn 1
Mae’r nodau canlynol wedi’u nodi i’w cyflawni ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth.
Cyflawni’r canlyniadau allweddol a amlinellir yn y datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith
- Datganiad ar ffioedd sylfaenol cynhyrchwyr a modiwleiddio
- Rheolaeth effeithlon ac effeithiol yr awdurdodau lleol ar wastraff deunydd pecynwaith
- Ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus
- Mesur cynnydd ac adrodd arno
Penodi sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr
Bydd PecynUK yn penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni sawl swyddogaeth allweddol ar ei ran. Er y bydd y PRO yn datblygu ei strategaeth ei hun, fe fydd yn dal yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol PecynUK.
Penodi uwch staff
Bydd penodiadau allweddol yn eu lle i arwain sefydliad PecynUK, sef y Prif Swyddog Gweithredol, y Prif Swyddog Strategaeth a’r Prif Swyddog Gweithredu.
Pwyllgorau llywodraethu a phwyllgorau technegol
Mae fframwaith llywodraethu pedair gwlad ar gyfer PecynUK wedi’i ddatblygu i oruchwylio holl weithgareddau PecynUK. Mae’r strwythur llywodraethu hwn yn cynnwys Bwrdd Llywio o Weinidogion o’r Pedair Gwlad (FNMSB), Pwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo) a Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Gweinyddwr y Cynllun (SA ARAC). Bydd pob un o’r cyrff hyn yn sicrhau rôl gyfartal i bob un o’r pedair gwlad ym mhenderfyniadau PecynUK.
Bydd SA ExCo hefyd yn cael ei gefnogi wrth wneud penderfyniadau gan gyrff cynghori o arbenigwyr sy’n cynrychioli’r gadwyn werth pecynwaith, gan gynnwys Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun a fydd yn cynghori ar ystyriaethau strategol cyflawni’r cynllun, a chyrff cynghori penodol a fydd yn canolbwyntio ar Fethodoleg Asesu Ailgylchu, Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd, a Chyfathrebu a Newid Ymddygiad.
Methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM)
Cydweithio â’r diwydiant i ddefnyddio modiwleiddio, ffioedd pEPR a’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) i hybu’r defnydd o ddeunydd pecynwaith mwy cynaliadwy a sbarduno newid yn y gadwyn werth pecynwaith, gan sicrhau bod digon o le ar gyfer arloesi mewn pecynwaith yr un pryd.
Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E)
Cyflawni cynlluniau peilot y Broses Camau Gwella (IAP) ar draws y pedair gwlad i wella a mireinio prosesau’r dyfodol. Amcan y cynllun peilot yw deall sut y bydd yr IAP yn gweithio yn ymarferol. Hoffai PecynUK sicrhau bod yr IAP yn gweithio gyda pholisïau perfformiad gwastraff a phrosesau llywodraethu presennol pob un o’r gwledydd. Mae canlyniadau’r cynllun peilot yn cynnwys achos amlinellol strategol, camau gwella penodol a gwybodaeth am fetrigau’r awdurdodau lleol.
Gweithio’n agos ar draws y pedair gwlad hefyd i ddod ag asesiadau E&E 2028 ymlaen o bosibl.
Bydd rhagor o ymgysylltu â’r diwydiant ar fesurau a metrigau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn gynnar yn 2026, yn dilyn ymgysylltu cychwynnol a datblygu polisi yn ystod hydref 2025.
Cysoni â pholisïau a strategaethau’r Llywodraethau Datganoledig
Bydd strategaeth PecynUK yn cymryd i ystyriaeth ddiwygiadau, polisïau a deddfwriaeth ar yr economi cylchol ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig i sicrhau eu bod yn gyson â’i gilydd.
3. Strategaeth hirdymor ar un tudalen
Gweledigaeth
Lleihau pecynwaith diangen a chynyddu cylcholrwydd deunyddiau pecynwaith
Diben
Diben PecynUK yw gweithio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig i gynyddu cynaliadwyedd pecynwaith a lleihau ei effaith amgylcheddol. Bydd PecynUK yn gweithredu mewn modd effeithiol ac effeithlon i gyflawni’r canlyniadau hyn.
Pileri’r canlyniadau
- Deunyddiau pecynwaith: Sefydlu marchnad pecynwaith gynaliadwy sy’n lleihau pecynwaith diangen, sy’n sicrhau ailgylchadwyedd, ac sy’n gyson â safonau a manylebau’r farchnad
- Casglu a rheoli pecynwaith yn well: Optimeiddio’r gadwyn werth gyfan i weithredu fel system integredig, effeithiol sy’n cyflawni’r effeithlonrwydd mwyaf posibl ym mhob cam
- Ymddygiad pobl a systemau: Meithrin diwylliant o gydweithredu ar draws y gadwyn werth er mwyn sbarduno newid ymddygiad systemig, gan rymuso dinasyddion i leihau’r defnydd ar becynwaith a gwella’r broses o wahanu gwastraffoedd
Nodau strategol
- Deunyddiau pecynwaith:
- 1.1: Optimeiddio’r defnydd ar becynwaith
- 1.2: Ehangu’r defnydd ar becynwaith ail-lenwi ac ailddefnyddio
- 1.3: Gwneud pecynwaith yn hawdd i’w ailgylchu
2/. Casglu a rheoli pecynwaith yn well:
2.1: Casglu mwy o becynwaith
2.2: Didoli deunyddiau’n well i’w hailgylchu, eu hailddefnyddio a’u hail-lenwi
2.3: Prosesu’n effeithlon
3. Ymddygiad pobl a systemau:
- 3.1: Annog dinasyddion i ddefnyddio llai o becynwaith a didoli a gwahanu’n well
- 3.2: Cynyddu atebolrwydd ar draws y gadwyn werth
Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
- Categoreiddio RAM yn dod yn fwyfwy gwyrdd
- Gwell gwerth am arian i’r cynhyrchwyr
- Cywirdeb a phrydlondeb adroddiadau’r cynhyrchwyr yn fwy na 95% erbyn 2030
- Cyfanswm tunelledd y pecynwaith cartrefi a roddir ar y farchnad yn gostwng
- Rheolaeth wastraff yr awdurdodau lleol yn dod yn fwy effeithiol
- Cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu pecynwaith ar draws pob un o’r pedair gwlad