PackUK: Gofynion asesu ailgylchadwyedd 2025
Cyhoeddwyd 27 Mehefin 2025
Mae cynhyrchwyr deunydd pacio sy’n atebol o dan y Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) (y Rheoliadau) wedi mynegi pryderon sylweddol ynglŷn â’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eu rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd yn ystod H1 2025, gan gynnwys adrodd ar eu Hasesiad Ailgylchadwyedd (RA) ar y dyddiad cau statudol sef 1 Hydref 2025 neu cyn hynny. Mynegwyd y pryderon hyn gan gynhyrchwyr mawr ar draws sawl sector.
Wrth ymateb i’r adborth hwn, tra’n dal i gydnabod ymrwymiad PackUK i gyflwyno’r broses o fodiwleiddio ffioedd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR) o flwyddyn asesu 2026 i 2027, mae pob un o bedwar rheoleiddiwr amgylcheddol y DU (gweler y rhestr isod) wedi cyhoeddi’r Datganiad Sefyllfa Reoleiddiol / Penderfyniad Rheoleiddiol canlynol (RPS):
- Asesiadau ailgylchadwyedd – Asiantaeth yr Amgylchedd (RPS 350)
- Cyfoeth Naturiol Cymru – Penderfyniadau Rheoleiddiol Gwastraff)
Mae’r RPS yn amlinellu sut bydd rheoleiddwyr yn gorfodi rhwymedigaeth cynhyrchwyr i adrodd ar eu hasesiadau ailgylchadwyedd RAM am chwe mis cyntaf 2025 (H1).
Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr atebol asesu a oes modd ailgylchu’r pecynnau cartref a gyflenwir. Yn ogystal â chyflwyno canlyniadau’r asesiadau hynny bob hanner blwyddyn i’r rheoleiddiwr perthnasol:
- Ionawr i Fehefin 2025 (H1) adroddiadau asesu ailgylchadwyedd i’w cyflwyno ar
1 Hydref 2025 neu cyn hynny. - Gorffennaf i Ragfyr 2025 (H2) adroddiadau RA i’w cyflwyno ar 1 Ebrill 2026 neu cyn hynny.
O dan y Rheoliadau, lle nad yw cynhyrchydd wedi darparu digon o wybodaeth am gynaliadwyedd y deunydd pacio, caiff y deunydd pacio hwnnw ei drin fel pe bai’r deunydd pacio lleiaf ailgylchadwy yn y categori deunydd pacio hwnnw – hynny yw, y ffi gwaredu wedi’i modiwleiddio ar gyfer is-gategori RAM COCH. Am y flwyddyn fodiwleiddio gyntaf (2026 i 2027) yn unig, bydd PackUK yn defnyddio adroddiadau cynhyrchwyr ar gyfer RA H2 2025 er mwyn sicrhau digon o wybodaeth ar gyfer blwyddyn adrodd 2025 yn ei chyfanrwydd. Ceir mwy o fanylion am hyn isod.
Mae holl ofynion adrodd eraill cynhyrchwyr, gan gynnwys y gofyniad i adrodd ar blastigau hyblyg a chaled ar wahân o 2025, dal heb newid.
Ffioedd wedi’u Modiwleiddio
Wrth gyfrifo ffioedd wedi’u modiwleiddio ar gyfer blwyddyn asesu 2026 i 2027 yn unig, ar gyfer y cynhyrchwyr hynny sy’n dibynnu ar y RPS ac nad ydynt yn cyflwyno adroddiadau RAM yn ystod H1 2025, bydd PackUK yn trin adroddiad asesu ailgylchadwyedd H2 2025 y cynhyrchydd atebol fel tystiolaeth ddigonol o gynaliadwyedd deunydd pacio’r cynhyrchydd fesul categori o ddeunyddiau ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae’r dull hwn wedi’i ddilysu gan ddadansoddiad PackUK o ddata sy’n bodoli’n barod a thrwy ymgysylltu â’r diwydiant.
Felly, i gynhyrchwyr nad ydynt yn cyflwyno asesiadau ailgylchadwyedd yn ystod H1 2025, bydd ffioedd gwaredu sydd wedi’u modiwleiddio a anfonebir ym mlwyddyn asesu 2026 i 2027 yn cael eu cyfrifo’n wahanol. Yn benodol, byddant yn cael eu cyfrifo drwy allosod sgoriau RAM adroddiad RA H2 2025 a’u cymhwyso yn yr un cyfrannau, fesul categori i ddeunydd pacio yn y cartref y cynhyrchydd a gyflenwyd yn y cyfnod adrodd H1, ar y rhagdybiaeth bod dosbarthiad sgoriau RAM Coch, Oren a Gwyrdd yn gyson o fewn categorïau deunydd pacio yn y cartref a gyflenwyd yn ystod H1 a’r hyn a gyflenwyd yn ystod H2.
Am fanylion llawn ynglŷn â sut a faint y bydd ffioedd gwaredu yn cael eu modiwleiddio ar gyfer blwyddyn asesu 2026 i 2027 a fesul sgôr RAM, gweler y Datganiad Polisi Modiwleiddio a gyhoeddwyd gan PackUK ochr yn ochr â’r datganiad hwn.
Yn benodol, ar gyfer cynhyrchydd nad yw’n cyflwyno asesiadau ailgylchadwyedd yn ystod H1 2025, bydd asesiadau ailgylchadwyedd H2 2025 y cynhyrchydd yn penderfynu a yw PackUK yn:
- cymhwyso cynnydd o 20% i swm ffioedd gwaredu gwastraff deunydd pacio yn y cartref y cynhyrchydd atebol ar gyfer blwyddyn asesu 2026-2027 lle mae adroddiad RA H2 2025 yn dangos bod y deunydd pacio yn y cartref yn llai ailgylchadwy (sgôr RAM Coch);
- gostyngiad canrannol wedi’i gyfrifo i swm ffioedd gwaredu gwastraff deunydd pacio yn y cartref y cynhyrchydd atebol ar gyfer blwyddyn asesu 2026-2027, wedi’i ariannu ac yn seiliedig ar y premiwm a gynhyrchir o’r deunydd pacio RAM Coch a gyflenwyd, lle mae adroddiad RA H2 2025 yn dangos bod y deunyddiau pacio yn y cartref yn fwy ailgylchadwy (sgôr RAM Gwyrdd); neu
- yn cymhwyso dim addasiad i swm ffioedd gwaredu gwastraff deunydd pacio yn y cartref y cynhyrchydd atebol ar gyfer blwyddyn asesu 2026-27 lle mae adroddiad RA H2 2025 yn dangos nad yw’r deunyddiau pacio yn y cartref yn fwy nac yn llai ailgylchadwy (sgôr RAM Oren).
Bydd PackUK yn parhau i weithio gyda phob un o’r pedwar rheoleiddiwr amgylcheddol yn y DU (gweler y rhestr isod) i sicrhau bod y data’n cael ei fonitro’n barhaus i atal a chanfod diffyg cydymffurfiaeth.
Enghraifft
Mae cynhyrchydd atebol X yn adrodd ar y data deunydd pacio yn y cartref canlynol yn ystod H1 2025 ond, gan ddibynnu ar y RPS perthnasol, nid yw’n adrodd ar ganlyniadau RA H1 2025:
- 400 tunnell o bapur neu fwrdd
- 300 tunnell o blastigau hyblyg
- 200 tunnell o blastigau caled
Mae cynhyrchydd atebol ‘X’ yn adrodd ar y data deunydd pacio yn y cartref canlynol yn ystod H2 2025, ynghyd â’i ganlyniadau RA H2 2025:
- 300 tunnell o bapur neu fwrdd, gyda dadansoddiad sgôr RAM o 20% Coch, 30% Oren a 50% Gwyrdd
- 500 tunnell o blastigau hyblyg, gyda dadansoddiad sgôr RAM o 30% Coch, 40% Oren and 30% Gwyrdd
- 100 tunnell o blastigau caled, gyda dadansoddiad sgôr RAM o 40% Coch, 20% Oren and 40% Gwyrdd
Bydd dadansoddiad sgôr RAM H2 y cynhyrchydd atebol ‘X’ yn cael ei gymhwyso gan PackUK i’r holl ddeunydd pacio yn y cartref a gyflenwyd gan ‘X’ yn ystod 2025, h.y. i ddeunydd pacio a gyflenwyd yn H1 yn ogystal â H2. Felly, cyflwyniadau blwyddyn lawn ‘X ‘fydd:
- 700 tunnell o bapur neu fwrdd, pob un yn cael ei drin fel pe bai ganddo ddadansoddiad sgôr RAM o 20% Coch, 30% Oren a 50% Gwyrdd
- 800 tunnell o blastigau hyblyg, pob un yn cael ei drin fel pe bai ganddo ddadansoddiad sgôr RAM o 30% Coch, 40% Oren a 30% Gwyrdd
- 300 tunnell o blastigau caled, pob un yn cael ei drin fel pe bai ganddo ddadansoddiad sgôr RAM o 40% Coch, 20% Oren, 40% Gwyrdd
Os bydd cynhyrchydd atebol yn methu â chyflawni ei rwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd yn ystod H2 2025, mae’r cynhyrchydd yn cyflawni trosedd a gall fod yn destun camau gorfodi. At hynny, bydd PackUK yn trin hyn fel pe na bai’r cynhyrchydd yn darparu digon o wybodaeth i’w alluogi i benderfynu ar raddfa’r cynaliadwyedd ar gyfer ei ddeunydd pacio, yn unol â rheoliad 64(8), a bydd yn cynyddu’r ffi gwaredu gwastraff deunydd pacio ar gyfer yr holl ddeunydd pacio yr effeithiwyd arno o fewn pob categori i fod yn gyfartal â’r ffi gwaredu ar gyfer is-gategori RAM Coch.
Yn yr un modd, os nad yw cynhyrchydd atebol yn cyflenwi deunydd pacio yn y cartref yn ystod H2 2025 ond yn gwneud hynny yn H1 2025 heb gyflawni ei rwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd ar gyfer y deunydd pacio hwnnw, bydd yr holl ddeunydd pacio yn y cartref a gyflenwir yn ystod H1 2025 yn cael ei drin fel pe bai’n Goch o dan y RAM a bydd ffioedd gwaredu gwastraff deunydd pacio yn y cartref y cynhyrchydd ar gyfer 2026-27 yn cael eu modiwleiddio yn unol â hynny.
Rheoleiddwyr Amgylcheddol
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Datganiad Polisi Rheoleiddiol (RPS), cysylltwch â thîm pecynnu eich rheoleiddiwr amgylcheddol:
- yng Nghymru: cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy anfon e-bost i packaging@naturalresourceswales.gov.uk
- yng Nghymru: cysylltwch â’r Asiantaeth Amgylchedd Cymru drwy anfon e-bost i packagingproducers@environment-agency.gov.uk
- yng Ngogledd Iwerddon: cysylltwch ag Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon drwy anfon e-bost i packaging@daera-ni.gov.uk
- yng Nghymru: cysylltwch â SEPA (Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban) drwy anfon e-bost i producer.responsibility@sepa.org.uk