Adroddiad corfforaethol

PecynUK: adroddiad blynyddol 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025

Cyhoeddwyd 26 Medi 2025

Mae’n ofynnol i Weinyddwr y Cynllun gyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithgareddau PecynUK yn ystod y flwyddyn ariannol. Datganiad ar y cyd yw hwn gan Bennaeth Dros Dro PecynUK a Phrif Swyddog Gweithredol PecynUK.

Rydym yn cyflwyno adroddiad blynyddol cryno byr ar gyfer blwyddyn ariannol 24-25 gan fod eleni yn ymwneud â sefydlu’r cynllun newydd yn unol â’n rhwymedigaethau deddfwriaethol, a dim ond pan fydd y cynllun yn llwyr weithredol y bydd yr effeithiau’n cael eu mesur. Yn PecynUK, rydym yn gyffrous i fod yn gyrru newid mawr yn y ffordd y mae pecynwaith yn cael ei wneud, ei ddefnyddio a’i ailgylchu ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein cenhadaeth yn syml: adeiladu system becynwaith sy’n glyfar, yn effeithlon ac yn wirioneddol gynaliadwy.

Mae wedi bod yn flwyddyn o gyflawni sylweddol, ac rydym wedi gwneud cynnydd enfawr wrth gyflawni’n rhwymedigaethau statudol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio ar draws pob un o’r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig i leihau effaith amgylcheddol pecynwaith ac adeiladu newid hirdymor gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd yn ein holl weithrediadau yr un pryd.

Rôl graidd Gweinyddwr y Cynllun yw darparu ffioedd a thaliadau. Ym mis Mehefin 2025 cyhoeddwyd ffioedd sylfaenol ar gyfer blwyddyn 1 (2025 i 2026) EPR. Dyma’r ffioedd a fyddai’n cael eu codi gan PecynUK ar gynhyrchwyr pecynwaith atebol. Rhoesom hysbysiad ffurfiol hefyd i’r awdurdodau lleol am eu taliadau disgwyliedig ar gyfer Blwyddyn 1. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn rhoi sicrwydd i fusnesau ac awdurdodau lleol gwblhau eu gwaith paratoi cyn i anfonebau gael eu dyroddi (Hydref 2025) a chyn i daliadau’r awdurdodau lleol gael eu gwneud (Tachwedd 2025).

Isod ceir crynodeb o’n perfformiad o’i gymharu â’n hamcanion strategol a’n canlyniadau arfaethedig yn ystod cyfnod sefydlu PecynUK, gan osod y sylfeini ar gyfer cyflawni ei weledigaeth a’i ymagwedd hirdymor.

Nod 1: cyflawni’r canlyniadau allweddol yng nghyd-ddatganiad y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR)

  • ffioedd sylfaenol i’r cynhyrchwyr a modiwleiddio

  • rheoli gwastraff pecynwaith yn effeithlon ac yn effeithiol gan yr awdurdodau lleol

Cynnydd

Cyhoeddwyd ffioedd sylfaenol y cynhyrchwyr ar gyfer blwyddyn 1 yr EPR dros becynwaith ar 27 Mehefin 2025, Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith: ffioedd sylfaenol - GOV.UK.

Datganiad ar Bolisi Modiwleiddio wedi’i gyhoeddi. Bydd ffioedd modiwlaidd yn cael eu cyflwyno o 2026 ymlaen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith: Ffioedd Gwaredu Modiwlaidd - GOV.UK.

Bydd PecynUK yn cyflawni cynlluniau peilot y Broses Camau Gwella (IAP) ar draws y pedair gwlad i wella a mireinio prosesau’r dyfodol ar gyfer rheoli gwastraff pecynwaith yn effeithlon ac yn effeithiol gan yr awdurdodau lleol. Amcan y cynlluniau peilot yw deall sut y bydd yr IAP yn gweithio’n ymarferol. Mae PecynUK eisiau sicrhau bod yr IAP yn gweithio gyda pholisïau perfformiad gwastraff a phrosesau llywodraethu presennol pob gwlad. Bydd canlyniadau’r cynllun peilot yn cynnwys camau gwella penodol a gwybodaeth am fetrigau’r awdurdodau lleol.

Bydd yna ragor o ymgysylltu â’r diwydiant ar fesurau a metrigau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn gynnar yn 2026, yn dilyn ymgysylltu cychwynnol a datblygu’r polisi yn ystod Hydref 2025.

Mesur y cynnydd ac adrodd arno:

  • Strategaeth PecynUK

  • Cynllun Gweithredol

Cyhoeddwyd Strategaeth interim PecynUK - GOV.UK ym mis Mehefin 2025, gan nodi sut mae’n cyflawni’r nod yn y tymor byr. Disgwylir i fersiwn hirdymor o’r strategaeth gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2025.

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredol 2024-25 ym mis Chwefror. 2025-26 fydd y Cynllun Gweithredol llawn cyntaf y bydd PecynUK yn bodoli..

Nod 2: penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni sawl swyddogaeth allweddol ar ei ran.

Cynnydd

Cynhaliwyd proses Mynegi Diddordeb ym mis Mehefin 2025 a chynhaliwyd gweithgareddau ymgysylltu gyda darpar ymgeiswyr dros yr haf i drafod rhychwant swyddogaethau dirprwyedig y PRO.

Disgwylir lansio’r broses ymgeisio ffurfiol ym mis Hydref 2025, a bwriedir penodi PRO gan PecynUK erbyn mis Mawrth 2026, unwaith y daw’r rheoliadau diwygio i rym.

Nod 3: penodi staff uwch

Penodiadau allweddol ar waith i arwain sefydliad PecynUK, sef y Prif Swyddog Gweithredol, y Prif Swyddog Strategaeth a’r Prif Swyddog Gweithredu.

Cynnydd

Cynhaliwyd proses recriwtio staff uwch a gwnaed penodiadau parhaol i ddwy swydd allweddol – y Prif Swyddog Gweithredol, Jeremy Blake; a’r Prif Swyddog Strategaeth, Esther Carter. Ar hyn o bryd mae rôl y Prif Swyddog Gweithredu yn cael ei dal ar sail interim ac mae gwaith i recriwtio’r penodai parhaol ar y gweill.

Nod 4: gweithredu pwyllgorau llywodraethu a phwyllgorau thechnegol

Gweithredu fframwaith llywodraethu pedair gwlad ar gyfer PecynUK i oruchwylio gweithrediadau holl weithgareddau PecynUK. Mae hyn yn cynnwys Bwrdd Llywio Gweinidogol pedair gwlad (FNMSB), Pwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo) a Phwyllgor cynghori Archwilio a Sicrwydd Risg Gweinyddwr y Cynllun (SA ARAC). Bydd pob un o’r cyrff hyn yn sicrhau rôl gyfartal i bob un o’r pedair gwlad wrth i benderfyniadau PecynUK gael eu gwneud. Bydd pwyllgorau technegol newydd hefyd yn cael eu ffurfio ar gyfer Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM), Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (CBCAG).

Cynnydd

Mae fframwaith llywodraethu PecynUK bellach ar waith gan gynnwys Bwrdd Llywio Gweinidogol pedair gwlad (FNMSB) a Phwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo). Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Pwyllgor cynghori Archwilio a Sicrwydd Risg Gweinyddwr y Cynllun (SA ARAC). Cynrychiolir y pedair gwlad ar bob un o’r cyrff hyn.

Gwahoddwyd datganiadau o ddiddordeb ym mis Chwefror 2025 ar gyfer y tri phwyllgor technegol newydd a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Cynghori Technegol (TAC) RAM ym mis Mehefin 2025. Mae CBCAG a’r TAC Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd wedi’u penodi a byddant yn cyfarfod yn yr hydref. Mae Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun wrthi’n cael ei o ailbenodi adeg ysgrifennu.

Nod 5: cyflwyno Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)

Cydweithio â’r diwydiant i ddefnyddio modiwleiddio, ffioedd pEPR a’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) i hybu defnyddio pecynwaith mwy cynaliadwy a sbarduno newid o fewn y gadwyn werth pecynwaith, gan sicrhau yr un pryd fod digon o le ar gyfer arloesi mewn pecynwaith.

Cynnydd

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd PecynUK Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) v1.1, Methodoleg asesu ailgylchadwyedd: sut i asesu’ch gwastraff pecynwaith - GOV.UK.

Nod 6: cyflawni Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E)

Cyflawni cynlluniau peilot y Broses Camau Gwella (IAP) ar draws y pedair gwlad i wella a mireinio prosesau’r dyfodol i ddeall sut y bydd yr IAP yn gweithio’n ymarferol. Mae canlyniadau’r cynllun  peilot yn cynnwys achos amlinellol strategol, camau gwella penodol a gwybodaeth am fetrigau’r Awdurdodau Lleol.

Gweithio’n agos ar draws y pedair gwlad i ddod  ag amserlenni E&E ymlaen.

Cynnydd

Mae chwe chynllun peilot ‘Proses Camau Gwella’ i’r awdurdodau lleol yn cael eu cyflawni gan chwe sefydliad cymorth rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2025.

  • Cernyw (Ricardo)

  • Tower Hamlets (PA consulting)

  • Fife (SLR)

  • Shetland (Wrap)

  • Western river side (Eunomia)

  • Derry City Strabane (WSP)

Bydd cynllun peilot penodol yn cael ei ddylunio a’i gyflawni gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.

Dogfen gyfarwyddyd IAP i’w chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.

Nod 7: cysoni â pholisïau a strategaethau’r Llywodraethau Datganoledig

Bydd strategaeth PecynUK yn cyd-fynd â diwygiadau, polisïau a rheoliadau economi cylchol y Llywodraethau Datganoledig er mwyn sicrhau cysondeb.

Cynnydd

Amcan PecynUK yw gweithio ar draws y pedair gwlad i roi’r pEPR ar waith. Mae’r pedair gwlad yn cael eu cynrychioli ar bob fforwm llywodraethu gan sicrhau bod pawb yn rhan o wneud y penderfyniadau. Mae’r holl gyhoeddiadau, polisïau a’r strategaeth yn cael eu cynnal ar y cyd ac mae PecynUK yn anelu at greu dull unedig, cydweithredol gyda phob gwlad yn chwarae rhan hanfodol yn ei lwyddiant.

Trosolwg Ariannol

Mae’n ofynnol i PecynUK ddarparu manylion y ffioedd a dalwyd i Weinyddwr y Cynllun a’r symiau a ddosbarthwyd i’r awdurdodau lleol. Hoeliwyd y sylw eleni yn bennaf ar sefydlu’r cynllun newydd yn unol â’n rhwymedigaethau deddfwriaethol. Ychydig iawn o lif ariannol a gafwyd yn y flwyddyn 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 felly gan nad oedd ffioedd gwaredu wedi’u codi ar y cynhyrchwyr, na symiau wedi’u dosbarthu i’r awdurdodau lleol.

Sefydlwyd PecynUK, Gweinyddwr y Cynllun, yn ffurfiol ar 21 Ionawr 2025 ac fe ysgwyddwyd costau cychwynnol gwerth £2.354 miliwn. Bydd y costau cychwynnol hyn yn cael eu hadennill drwy ffioedd y cynhyrchwyr fel rhan o gostau Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer blwyddyn Asesu 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Bydd y trafodiadau isorweddol yn rhan o broses cyfrifyddu ac archwilio safonol pob un o’r llywodraethau.

Rhagolwg i’r dyfodol

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinyddwr y Cynllun ymrwymo i gytundeb gyda chorff cyhoeddus neu gyda chorff yn y sector preifat i’r corff hwnnw gyflawni swyddogaethau dirprwyedig ar ei ran. Gan hynny, rydym yn blaenoriaethu penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni sawl swyddogaeth allweddol i helpu i gyflawni pethau. Er y bydd y PRO yn datblygu ei strategaeth ei hun, bydd yn dal yn cyd-fynd yn agos â chyfeiriad strategol PecynUK

Llofnodwyd,

Dr Margaret Bates, Pennaeth Dros Dro PecynUK a Jeremy Blake, Prif Swyddog Gweithredol PecynUK (o 1 Medi 2025)