Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd OPG: atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus

Rhagor o wybodaeth am bolisi preifatrwydd atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a sut rydym yn casglu a phrosesu eich data.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn cofrestru atwrneiaethau arhosol (LPA) ac atwrneiaethau parhaus (EPA).

Mae LPAs ac EPAs yn caniatáu i bobl ddewis pwy sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro beth rydym yn ei wneud â’r data a gasglwn a sut i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn. Mae’n nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gan yr OPG ac mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • pa bryd fyddwn ni’n gofyn am wybodaeth bersonol (‘ data personol ‘) neu’n dal
    gwybodaeth bersonol amdanoch chi
  • sut y gallwch gael gafael ar gopi o’ch data personol
  • yr hyn y gallwch ei wneud os ydych o’r farn nad yw’r safonau’n cael eu bodloni

Mae siarter gwybodaeth bersonol OPG yn esbonio mwy am eich hawliau ynglŷn â data personol.

Cyhoeddwyd ar 2 March 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 May 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.