Darparu darlun cytbwys: gair i gall ar gyfer safleoedd adolygiadau ar-lein
Diweddarwyd 4 Mawrth 2016

Gall adolygiadau ar-lein chwarae rhan bwysig wrth helpu defnyddwyr i wneud y dewisiadau cywir.
Er mwyn cynnal ymddiriedaeth pobl, dylai safleoedd adolygiadau wirio a chyflwyno adolygiadau mewn modd sy’n osgoi ystumio’r darlun cyffredinol a gyflwynir i bobl sy’n eu darllen.
Os yw’ch gwefan yn caniatáu i bobl adolygu cynnyrch neu wasanaethau – eich rhai chi, neu rai rhywun arall – dylech gyhoeddi pob adolygiad dilys, perthnasol a chyfreithlon. Dylech hefyd sicrhau nad yw eich prosesau i gasglu, cymedroli a chyhoeddi adolygiadau yn llesteirio hyn.
1. Pethau i’w gwneud
- esbonio i ddefnyddwyr y safle’r gwahaniaeth rhwng gadael adolygiad a fwriedir i’w gyhoedd a gwneud cwyn i chi
- osgoi oedi afresymol wrth gyhoeddi adolygiadau wedi eu cyflwyno
- gwirio adolygiadau negyddol a phositif gyda’r un lefel o dryloywder, a chael gweithdrefnau i gael gwared ar adolygiadau ffug
- egluro i ddefnyddwyr y safle sut mae adolygiadau wedi eu casglu a gwirio, beth sydd angen iddynt ei wneud i gael cyhoeddi eu hadolygiad, a pham na fydd eu hadolygiad o reidrwydd yn cael ei gyhoeddi
- datgelu unrhyw berthynas fasnachol sydd gennych gyda’r busnesau a restrir yn glir ac amlwg
2. Pethau i’w hosgoi
- casglu adolygiadau gan gwsmeriaid y gwyddoch eu bod yn fodlon yn unig (oni bai bod y rheiny wedi eu labelu’n glir fel ardystiadau), neu gynnig ysgogiadau ar gyfer adolygiadau positif
- ceisio perswadio cwsmeriaid i beidio gadael adolygiad o’u profiad – hyd yn oed os yw eu problem wreiddiol wedi ei datrys
- rhoi’r hawl i fusnesau flocio adolygiadau nad ydynt yn eu hoffi
- ceisio perswadio cwsmeriaid i gyflwyno cwyn i chi, yn hytrach nag adolygiad i’w gyhoeddi
- trin adolygiad negyddol a fwriadwyd i’w gyhoeddi fel cwyn a pheidio ei gyhoeddi
3. Pam mae hyn yn bwysig?
Amcangyfrifa ein hymchwil fod dros hanner oedolion yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio adolygiadau ar-lein.
Os yw’r ffordd yr ydych yn rheoli neu gyflwyno eich adolygiadau yn camarwain defnyddwyr, gallech fod yn gweithredu’n groes i’r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
4. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?
- Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr
- Business Companion
- Gweler gwaith diweddaraf y CMA ar arferion safleoedd
- Mae defnyddwyr safleoedd yn disgwyl i’ch cynnwys adlewyrchu adborth adolygwyr ar eu profiadau yn gywir. Dylai eich prosesau sicrhau bod defnyddwyr yn gweld y darlun llawn.
- Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.