Canllawiau

Ardystiadau Ar-lein: bod yn agored ac onest gyda'ch cynulleidfa

Diweddarwyd 4 March 2016

An illustration of online endorsements.

Mae blogiau, fideos a chyhoeddiadau ar-lein eraill yn dylanwadu ar benderfyniadau prynu pobl. Fe ŵyr busnesau y gall sicrhau ardystiad positif helpu gwerthu eu cynnyrch. Mae cwsmeriaid angen gwybod pryd fydd yr ardystiad maent yn ei ddarllen neu wylio wedi derbyn tâl.

Nid yw’n anghyfreithlon i fusnesau dalu pobl neu gyhoeddiadau i hyrwyddo eu cynnyrch mewn blogiau, vlogiau, trydar neu erthyglau ar-lein eraill - ond mae pobl sy’n cyhoeddi cynnyrch o’r fath, busnesau sydd eisiau cael ardystiad i’w cynnyrch ac unrhyw asiantau cyfryngau sy’n gosod ardystiadau angen sicrhau bod y cwsmer yn gwybod bod yr ardystiad wedi derbyn tâl. Os nad, gallent fod yn torri’r gyfraith.

1. Sut ddylai pobl sy’n cyhoeddi cynnwys ar-lein ei gwneud yn glir eu bod wedi cael tâl i ardystio neu adolygu rhywbeth ar-lein?

Os bydd rhywun sy’n cyhoeddi cynnwys yn derbyn tâl i ardystio rhywbeth, maent angen sicrhau y gellir adnabod y cynnwys yn glir fel rhywbeth maent yn derbyn tâl amdano. Er enghraifft, gallent labelu postiadau neu fideos fel “Erthygl Hysbysebu” neu “Hyrwyddiad Hysbysebu”.

2. Beth ddylai busnesau sy’n cysylltu â sianeli ar-lein i ardystio eu gwasanaeth neu gynnyrch wneud?

Os yw busnes eisiau talu rhywun i ardystio eu gwasanaeth neu gynnyrch arlein, dylent weithio gyda’r bobl sy’n rhedeg y sianel i sicrhau bod y cynnwys a gyhoeddir wedi ei labelu’n glir fel un y talwyd amdano, a helpu sicrhau eu bod yn deall y gallai eu hardystiad gael ei ystyried fel hysbyseb.

3. Beth sydd angen i asiantau PR neu farchnata sy’n ymgysylltu gyda chyhoeddwyr ar-lein ar ran cleient wneud?

Mae cwmnïau sy’n trefnu i gyhoeddi cynnwys ar ran busnes hefyd mewn perygl o dorri’r gyfraith os nad yw’n glir pryd fydd cynnwys wedi ei dalu amdano.

Dylent wneud yn siŵr bod cynnwys o’r fath yn glir ar bob adeg. Er enghraifft, dylent:

  • Ddarparu cyfarwyddiadau clir i’r sawl sy’n cyhoeddi’r cynnwys, ac unrhyw un arall dan sylw, ar sut ddylid nodi cynnwys am dâl
  • Sicrhau bod deunydd hyfforddiant, polisïau mewnol, pamffledi corfforaethol, contractau a deunyddiau cysylltiedig staff yr asiantaeth farchnata yn adlewyrchu gofynion y gyfraith

Mae Codau Hysbysebu’r Deyrnas Unedig yn cynnwys rheolau tebyg i’r diwydiant ar sicrhau bod cyfathrebu marchnata yn hawdd i’w adnabod. Gallwch gael cyngor cyflym, cyfrinachol ar gydymffurfio gyda’r Codau gan y Pwyllgor Arferion Hysbysebu (CAP).

4. Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gwirio blogiau, vlogiau ac ardystiadau ar-lein eraill yn ffordd gynyddol gyffredin i ddefnyddwyr benderfynu pa gynnyrch neu wasanaeth i’w brynu.

Mae tua 6% o ddefnyddwyr yn defnyddio blogiau neu vlogiau cyn prynu rhywbeth.

Os ydych chi’n camarwain defnyddwyr, gallech fod yn torri cyfraith diogelu defnyddwyr. Gallech hefyd fod yn torri rheolau’r diwydiant ar hysbysebu.

5. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

  • Os na nodir ardystiadau y talwyd amdanynt, gallech fod yn torri’r gyfraith.
  • Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.