Adolygiadau Ar-lein: gadael i'ch cwsmeriaid weld y darlun go iawn
Diweddarwyd 4 Mawrth 2016

Yn 2016, cymerodd CMA gamau yn erbyn cwmni marchnata ar-lein oedd yn cyhoeddi adolygiadau fug ar ran ei gleientiaid.
Fe ysgrifennodd y cwmni adolygiadau fug ar ran busnesau bach o amrywiaeth eang o sectorau a’u cyhoeddi ar wahanol wefannau.
Mae adolygiadau ar-lein yn chwarae rhan bwysig wrth helpu cwsmeriaid posibl i benderfynu a ydynt am brynu cynnyrch neu wasanaeth. Gallai ysgrifennu neu gomisiynu adolygiadau fug arwain at achos sifl neu droseddol. Wedi ei ganfod, gall hefyd niweidio delwedd y brand ac erydu ymddiriedaeth cwsmeriaid mewn adolygiadau a safeoedd adolygu.
1. Beth sydd angen i chi wneud os ydych chi’n fusnes y mae eich cynnyrch yn cael eu hadolygu?
-
Peidiwch ag esgus bod yn gwsmer ac ysgrifennu adolygiadau am eich cynnyrch neu gynnyrch busnesau eraill
-
Peidiwch â chomisiynu trydydd parti i ysgrifennu adolygiadau fug – efallai y byddwch yn atebol am eu gweithredoedd
-
Os ydych chi’n gweithio gyda thrydydd parti – fel asiantaeth PR, marchnata neu SEO – gwnewch yn siŵr eu bod yn dilyn y rheolau
-
Peidiwch â chynnig ysgogiadau – arian na rhoddion – i gwsmeriaid i ysgrifennu adolygiadau positif ynghylch eich busnes
2. Beth sydd angen i chi ei wneud os ydych yn gwmni PR, marchnata neu Optimeiddio Chwilotwyr Gwe (SEO) yn gweithio ar ran rhywun arall?
-
Peidiwch ag ysgrifennu na threfnu adolygiadau fug ar ran eich cleientiaid – rydych chi a’ch cleient mewn perygl o dorri’r gyfraith
-
Sicrhewch fod staf wedi cael hyforddiant digonol a bod eich contractau, polisïau mewnol, pamfedi corforaethol a deunyddiau cysylltiedig eraill yn adlewyrchu gofynion y gyfraith
-
Hysbyswch eich cleientiaid bod adolygiadau fug yn erbyn y gyfraith
3. Pam mae hyn yn bwysig?
Amcangyfrifa ein hymchwil fod dros hanner oedolion yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio adolygiadau ar-lein.
Gallai busnesau sy’n camarwain cwsmeriaid fod yn gweithredu’n groes i’r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
4. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?
- Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr
- Business Companion
- Gweler holl waith diweddar y CMA ar adolygiadau ac ardystiadauar-lein yma
- Os bydd adolygiadau yr ydych yn eu hysgrifennuyn camarwain cwsmeriaid, gallech fod yn torri’r gyfraith.
- Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.