Deunydd hyrwyddo

Gwybodaeth am ymgyrch rheoliadau hygyrchedd y Swyddfa Digidol a Data Ganolog ar gyfer addysg

Diweddarwyd 20 April 2021

1. Gwneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch

Mae rheoliadau newydd yn golygu bod gan sefydliadau sector cyhoeddus ddyletswydd cyfreithiol i ddiwallu gofynion hygyrchedd ar gyfer gwefannau ac apiau symudol. Daeth y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 yn gyfraith y DU ym Medi 2018 ac maen nhw’n anelu at wneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y rheiny ag anableddau.

Mae tri dyddiad cydymffurfio allweddol ar gyfer y rheoliadau:

  • 23 Medi 2019
  • 23 Medi 2020
  • 23 Mehefin 2021

Y dyddiad cau cyntaf i fodloni’r rheoliadau oedd 23 Medi 2019 ac mae’n effeithio ar wefannau ‘newydd’. Mae hyn yn golygu y dylai sefydliadau sector cyhoeddus fod wedi gwirio hygyrchedd gwefannau a gyhoeddwyd ar neu wedi 23 Medi 2018 a chyhoeddi datganiad hygyrchedd cyfredol.

Mae’n rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus hefyd sicrhau bod yr holl wefannau sy’n cael eu lansio yn y dyfodol yn bodloni gofynion hygyrchedd a bod ganddynt ddatganiad hygyrchedd.

Mae gan sefydliadau sector cyhoeddus hyd 23 Medi 2020 i wneud gwefannau hŷn yn hygyrch a chyhoeddi datganiad hygyrchedd. Mae’n rhaid i apiau symudol fodloni gofynion hygyrchedd erbyn 23 Mehefin 2021. Rhaid i unrhyw fewnrwydi, allrwydi neu wefannau sy’n wynebu cyflogwyr sy’n cael eu cyhoeddi neu sy’n mynd trwy newid sylweddol ar neu ar ôl 23 Medi 2019 i fodloni’r gofynion hefyd.

2. Beth mae’n rhaid i sefydliadau ei wneud:

Mae pedwar cam y mae’n rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau:

  1. Deall sut fydd y rheoliadau yn effeithio arnynt
  2. Gwirio hygyrchedd eu gwefannau
  3. Gwneud cynllun i gywiro unrhyw broblemau a ganfyddant
  4. Cyhoeddi datganiad hygyrchedd

3. Sut fydd hyn yn effeithio ar ysgolion, addysg uwch ac addysg bellach

Meithrinfeydd, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth Mae eithriad rhannol i ysgolion a meithrinfeydd*. Fodd bynnag, Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod swyddogaethau gweinyddol ar-lein hanfodol yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Nid yw ‘cynnwys hanfodol ar-lein’ wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol, ond gallai olygu cynnwys y mae angen i’r cyhoedd (h.y. disgyblion a rhieni) ei ddefnyddio i gyrchu gwasanaethau ysgol/meithrinfa.

Nid yw ‘cynnwys hanfodol ar-lein’ wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol, ond gallai olygu cynnwys y mae angen i’r cyhoedd (h.y. disgyblion a rhieni) ei ddefnyddio i gyrchu gwasanaethau ysgol/meithrinfa.

Ystyrir bod y mwyafrif o ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach o fewn y cwmpas ar gyfer y rheoliadau, oherwydd eu dibyniaeth ar gyllid y llywodraeth. Fodd bynnag, mae trefniadau cyllido yn y sector hwn yn wahanol, felly dylai sefydliadau geisio cyngor cyfreithiol os ydynt yn ansicr ynghylch eu sefyllfa.

4. Sut y gallwch chi helpu

Mae y Swyddfa Digidol a Data Ganolog (CDDO) wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gynorthwyo sefydliadau sector cyhoeddus i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, sydd ar gael ar. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth sicrhau bod eich cynulleidfaoedd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a lle gallant gael cyfarwyddyd, wrth rannu deunyddiau ymgyrchu a chyfeirio at wefan yr ymgyrch.

Defnyddio’r hashnod #AccessibilityRegulations yn eich postiadau cyfryngau cymdeithasol fel y gallwn olrhain cyrhaeddiad anfon negeseuon.

Lawrlwytho asedau ymgyrchu.

5. Rhagor o gefnogaeth

Er y bydd GDS yn parhau i gynnig cyfarwyddyd i gyrff sector cyhoeddus, mae’n rhaid i sefydliadau ddehongli’r rheoliadau a chyfarwyddyd eu hunain, gan geisio cyngor cyfreithiol yn ôl y gofyn. Mae nifer hefyd o grwpiau cymuned hygyrchedd ar gyfer rhannu gwybodaeth.

Mae sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn profi defnyddwyr yn gallu cofrestru eu diddordeb drwy e-bostio: accessibility-user-research@digital.cabinet-office.gov.uk.

Darllenwch y rheoliadau llawn.

Am gymorth ymgyrchu, e-bostiwch nancy.hull@digital.cabinet-office.gov.uk