Rhoi gwybod i awdurdodau am fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel
Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’n hanfodol rhoi gwybod i awdurdodau ym Mhrydain Fawr ymlaen llaw cyn i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gyrraedd o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd y tu allan i’r UE. Yr unig eithriad yw mewnforion o Weriniaeth Iwerddon.
Rhaid i fewnforwyr ac asiantau mewnforio ddefnyddio’r system mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) ar-lein i wneud hyn.
Mae rhoi gwybod ymlaen llaw yn hanfodol oherwydd y canlynol:
- mae’n helpu i symleiddio’r broses samplu, fel rhan o gwaith gwirio nwyddau penodol ar y ffin ar sail risg
- mae’n gwella gallu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac awdurdodau lleol mewndirol i olrhain nwyddau, pe baent yn gysylltiedig â digwyddiad diogelwch bwyd
- mae’n darparu gwybodaeth bwysig am gydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr
Mae Cynllun Gweithredu’r Ffin yn disgrifio’r holl reolaethau y mae’r ASB yn eu cynnal ar y ffin, gan gynnwys rhoi gwybod ymlaen llaw.
Gogledd Iwerddon
Dylai mewnforwyr sy’n symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys yr holl gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, i Ogledd Iwerddon gysylltu â’r awdurdodau cymwys yn y Safle Rheoli Ffiniau priodol i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mewnforio.