Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2025 i 2026: adroddiad perfformiad
Diweddarwyd 19 Awst 2026
1. Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2025 i 2026
Am y cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.
Cyflwynwyd i Senedd y DU yn unol ag Adran 60(6) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.
Cyflwynwyd y cyfrifon gerbron Senedd y DU yn unol â pharagraff 15(4) Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.
Gorchmynnwyd argraffu’r ddogfen gan Dŷ’r Cyffredin ar 14 Gorffennaf 2026.
Ar 28 Tachwedd 2024, cafodd yr Awdurdod Glo enw gweithredol newydd, sef yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, i adlewyrchu ei rôl esblygol o ran rheoli gwaddol diwydiant mwyngloddio’r DU.
Yr Awdurdod Glo yw enw cyfreithiol y sefydliad o hyd, nes y bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei chreu i gadarnhau’r newid.
Dylid dehongli cyfeiriadau at yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fel cyfeiriadau at yr Awdurdod Glo.
HC 272
© Hawlfraint y Goron 2026
Trwyddedir y cyhoeddiad hwn dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle y nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/.
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth dan hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw i’w defnyddio.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn:
Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, 200 Lichfield Lane, Mansfield, Swydd Nottingham, NG18 4RG
Ffôn: 0345 762 6848 E-bost: customerservice@miningremediation.gov.uk
ISBN 978-1-5286-6435-6
E03595078 07/26
2. Adroddiad perfformiad
2.1 Ein llywodraethiant
Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am bennu ein cyfeiriad strategol a’n dal ni i gyfrif.
Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd.
Mae gan ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.
Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net.
Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a chaiff rhai ohonynt eu penodi i’r bwrdd wedyn, hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net.
2.2 Trosolwg
Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn gorff cyhoeddus anadrannol ac yn sefydliad partner i’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ).
Ein cenhadaeth
Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Ein pwrpas
- rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt
- rydym yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd
- rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
- rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i’r trethdalwr
Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.
Rydym yn gweithio gydag adrannau ar draws llywodraeth y DU i gyflawni cenadaethau llywodraeth y DU, gan gynnwys rhoi hwb i dwf economaidd, gwneud Prydain yn uwchbŵer ynni glân a chwalu rhwystrau i gyfleoedd.
Rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach llywodraethau Cymru a’r Alban.
Drwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cefnogi nhw a’n partneriaid i greu gwledydd mwy diogel, glân a gwyrdd i bob un ohonom.
Ein gwerthoedd
Dibynadwy
- rydym yn gweithredu’n ddidwyll
- rydym yn agored ac yn dryloyw
- rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau
Cynhwysol
- rydym yn hyrwyddo diwylliant o barch at ein gilydd
- rydym yn cydnabod bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud yn gryfach
- rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth
Blaengar
- mae gennym feddwl agored ac arloesol
- rydym yn cydnabod y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol
- rydyn ni’n gwrando ac yn dysgu
2.3 Y gwaith rydyn ni’n ei wneud
Yn ystod 2025 i 2026, ar draws y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu:
Rydym wedi cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt
12,095 archwiliad o fynedfeydd mwyngloddiau wedi’u cynnal
800 o beryglon mwyngloddio, hawliadau ymsuddiant a galwadau brys wedi’u harchwilio a’u hasesu
1,118 o archwiliadau ar domenni sborion (tipiau) sy’n eiddo i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a’n partneriaid, wedi’u cynnal
Fe wnaethom ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
106,976 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno
1,574 o drwyddedau i groestorri glo wedi’u rhoi
8,045 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio wedi’u rhoi
Rydym wedi gwarchod a gwella’r amgylchedd
232 biliwn litr o gapasiti i drin dŵr mwynglawdd wedi’i greu neu ei gynnal
3,712 tunnello haearn wedi’i atal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
83%o’n safleoedd gweithredol perthnasol wedi cwblhau arolygon cynefinoedd
Rydym wedi creu gwerth a lleihau’r gost i’r trethdalwr
£13 milliono incwm wedi ei gynhyrchu drwy ein gwasanaethau cynghori
£395,000wedi’i gynhyrchu drwy werthu sgil-gynhyrchion
£157,400 wedi’i arbed drwy safleoedd ein cynllun solar
2.4 Rhagair y Cadeirydd gan Jeff Halliwell
Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein hadroddiad a’n cyfrifon blynyddol ar gyfer 2025 i 2026 sy’n crynhoi blwyddyn arall o gyflawni cadarn.
Rydym wedi galluogi twf a datblygiad diogel ymhellach ac wedi sicrhau ymateb brys effeithiol i ddiogelu bywyd, eiddo, dŵr yfed a’r amgylchedd drwy flwyddyn o dywydd eithafol sydd wedi arwain at heriau ychwanegol i’n gwaith.
Ar ben hynny, rydym wedi datblygu rhagor o welliannau ac arbedion effeithlonrwydd digidol, deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg ac wedi galluogi darparu gwres, sgil-gynhyrchion a gwasanaethau dŵr mwynglawdd mwy arloesol.
Mae hyn i gyd yn dangos cynnydd parhaus tuag at uchelgeisiau ein gweledigaeth ar gyfer 2032.
Mae cymaint o’n gwaith yn cefnogi twf a datblygiad economaidd diogel ar draws ardaloedd mwyngloddio yn ogystal â blaenoriaethau ehangach y llywodraeth ar draws y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu.
Gallwch weld rhagor o fanylion yn ein hastudiaeth achos am ein gwaith i gefnogi twf, datblygiad a chyfleoedd diogel, gan gynnwys ein gwaith i gefnogi National Grid gydag Uwchraddio’r Grid Cenedlaethol yn gymesur ac yn effeithiol, prosiect a fydd yn cryfhau’r rhwydwaith trawsyrru ac yn cefnogi llif trydan carbon isel o ogledd Lloegr i ganolbarth Lloegr.
Mae hyn yn cefnogi blaenoriaethau’r llywodraeth ar gyfer datgarboneiddio a diogeledd ynni.
Eleni, rydym hefyd wedi gweithio gyda gweinidogion a swyddogion yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a’r Adran Busnes a Masnach i gefnogi Deddf Cynllunio a Seilwaith 2025 a blaenoriaethau rheoleiddio doethach drwy ein dull cymesur o weithio gyda datblygwyr a galluogi datblygiadau mewn ardaloedd sydd â gwaddol mwyngloddio cymhleth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi galluogi 568,815 hectar o adfywio a datblygu diogel i gymunedau lleol drwy ein gwaith.
Yn ystod 2025 i 2026, rydym wedi delio â nifer o ddigwyddiadau sylweddol, o danau i lifogydd, tir yn cwympo ac yn ymsuddo a llawer iawn o ddŵr drwy ein cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, sydd wedi gofyn am lefelau digynsail o bwmpio a rheoli mewn rhai rhannau o’r wlad.
Rydym ar reng flaen effeithiau hinsawdd sy’n newid ac rydym yn cydnabod ein bod wedi bod yn addasu ein dulliau gweithredu i reoli’r pwysau ychwanegol hyn ers peth amser.
Yn 2026, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd, sy’n adlewyrchu’n fanylach ac yn dangos y camau a’r addasiadau ychwanegol y bydd angen i ni eu gwneud yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym yn parhau i weithio gydag empathi i’w cefnogi ym mhob ffordd y gallwn.
Eleni, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran asesu risg ac ystyried opsiynau i reoli natur yr adferiad dŵr mwynglawdd yn y ‘mwyngloddiau mawr’ yn Lloegr a gaeodd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.
Rwy’n ddiolchgar am waith ymroddedig timau ar draws yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio sy’n gweithio 24/7 i ddatrys problemau cymhleth, ystyried anghenion y gymuned a chadw pobl ledled Prydain Fawr yn ddiogel pan fo angen.
Ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethom lansio ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2025 i 2028.
Mae hyn yn adeiladu ar bopeth a gyflawnwyd drwy ein cynllun 2022 i 2025 ar yr un pryd â sicrhau cynnydd parhaus tuag at uchelgeisiau ein gweledigaeth 2032.
Rhaid i’r ‘cynllun canol’ o weledigaeth 10 mlynedd fod yn bwerdy ac rydym wedi sicrhau ein bod yn cyflawni ac yn dal ati i gyflawni yn ystod 2025 i 2026.
Eleni, rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiynau newydd o’n cynllun cynhwysiant a’n cynllun iechyd, diogelwch a llesiant sy’n dangos y cynnydd a wnaethom yn ystod y cyfnod blaenorol yn ogystal â chynlluniau a thargedau clir ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Rydym wedi gwneud rhagor o gynnydd gydag arloesi drwy sbarduno gwelliant parhaus drwy ein gwaith a’n gwasanaethau statudol i eraill a galluogi datblygu cynlluniau gwres dŵr mwyngloddiau ymhellach a defnyddio sgil-gynhyrchion.
Rydym wedi parhau i ystyried y gwerth amgylcheddol a chymdeithasol y gallwn ei ddarparu ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr a sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud y gorau o’r hyn y gellir ei gyflawni.
Mae ein dull o ddarparu’n effeithlon yn cynnwys croesawu technoleg newydd, deallusrwydd artiffisial a darpariaeth ddigidol i sbarduno cynhyrchiant, effeithiolrwydd a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid, gan sicrhau bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb a gwasanaethau ffôn yn parhau i fod yn effeithlon ac yn hygyrch i’r rhai sy’n eu ffafrio.
Rydym wedi gwneud cynnydd cryf sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn erbyn ein blaenoriaethau deallusrwydd artiffisial ac wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid i rannu cynnydd a dysgu.
Mae ein dull gweithredu yn ystyried ‘cynhyrchiant i bawb’, ‘darpariaeth rheng flaen’ a ‘llwyddiannau mawr’, gan sicrhau bod digon o oruchwyliaeth ddynol a gonestrwydd bob amser ynghylch lle mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei ddefnyddio.
Gallwch ddarllen mwy am ein cynnydd a’n gwaith gyda Chanolfan Hartree ac IBM i gynyddu gwerth archif lofaol Prydain Fawr mewn astudiaeth achos.
Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda swyddogion a gweinidogion yn yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) sy’n ein noddi, yn ogystal ag amrywiaeth o adrannau llywodraeth y DU a llywodraethau Cymru a’r Alban.
Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn ein hastudiaethau achos sy’n cynnwys amrywiaeth o enghreifftiau o’n gwaith yn ogystal ag ystadegau penodol ar gyfer pob gwlad.
Rydym yn ddiolchgar i’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid ar draws pob un o’r 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu sy’n ein helpu i gyflawni canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Rydym wedi croesawu nifer o weinidogion, swyddogion, Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd yr Alban ac Aelodau o Senedd Cymru ar ymweliadau safle ac roeddem yn falch iawn o groesawu Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, i’n Canolfan Treftadaeth Mwyngloddiau ym mis Rhagfyr.
Rydym yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd i feincnodi ein hunain a dysgu o arferion gorau mewn mannau eraill. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal ein Hachrediad Nod Gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid ac wedi ennill neu gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau canlynol:
-
cyrraedd rownd derfynol y categori ynni a’r amgylchedd yng Ngwobrau Cydweithio i Arloesi (C2I) am ein gwaith ar gynllun gwres dŵr mwynglawdd Lindsay gyda Thermal Earth
-
cymeradwyaeth uchel yn y categori cynaliadwyedd, Gwobrau MCA (Cymdeithas Ymgynghoriaethau Rheoli) am ein gwaith gyda Deloitte ar ochr economaidd a masnachol ein cyfleoedd o ran gwres dŵr mwyngloddiau.
-
Cyrraedd rownd derfynol y Wobr Peiriannydd am ein gwaith ‘Cadre’ gyda’r Arolwg Ordnans ar y Prosiect Gwres Dŵr Mwyngloddiau. Mae’r mapio rhyngweithiol bellach yn cael ei ddefnyddio’n eang ac mae’n galluogi mwy o ymgysylltu â llywodraeth genedlaethol a lleol ynghylch ynni geothermol.
Cyflawnwyd y rhan fwyaf o’r gwobrau hyn mewn partneriaeth, sy’n arbennig o dda.
Rwy’n falch iawn o sut mae ein henw newydd wedi parhau i wreiddio ers iddo gael ei lansio ym mis Tachwedd 2024.
Mae’r sefydliad wir yn teimlo fel yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ac mae’r newid wedi ein helpu i weithio ar draws ehangder ein cylch gwaith yn ogystal â chryfhau recriwtio, gweithio gyda phartneriaid a darparu gwasanaethau.
Edrychwn ymlaen at newid yr enw mewn deddfwriaeth pan fydd cyfle.
Rydym yn parhau i wynebu amrywiaeth o achosion cyfreithiol, tribiwnlysoedd tir a chyflafareddu cymhleth yn ymwneud â’n gwaith.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi llywodraeth y DU i amddiffyn hawliad masnach ryngwladol sy’n ymwneud yn rhannol â’n dyletswyddau trwyddedu glo dan y profion penodol a nodir yn Neddf y Diwydiant Glo 1994, a pharhau i gefnogi a chyfrannu at y broses cyn-cwest barhaus i drychineb glofa Gleision 2011. Yr ydym yn parhau i feddwl am deuluoedd y glowyr a gollwyd yn y drasiedi hon.
Ni allem gyflawni unrhyw ran o hyn heb ein pobl frwdfrydig, arbenigol ac ymroddedig.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi, gwerthfawrogi a datblygu ein pobl a chymryd camau i alluogi llesiant a chynhwysiant ar draws yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.
Mae hyn yn sicrhau ein bod wir yn lle gwych i weithio ynddo a’n bod yn gallu parhau i ddenu’r dalent sydd ei hangen arnom i fynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n ein hwynebu a darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau ar draws ardaloedd mwyngloddio Prydain Fawr.
Wrth ddarllen ein cyfrifon, byddwch yn sylwi bod cydbwysedd ein darpariaethau, sy’n adlewyrchu cost datrys effeithiau’r cloddio glo yn y gorffennol, wedi newid eto eleni, gan ostwng £0.1 biliwn o £1.7 biliwn i £1.6 biliwn ym mis Mawrth 2026.
Cyfrifir y balans hwn drwy gymhwyso rhagdybiaethau Trysorlys EM ar werth am arian ar wahanol bwyntiau mewn amser yn y dyfodol, i ragolwg o lif arian ar brisiau heddiw.
Mae ein rhagolwg o’r llifoedd arian gwaelodol hyn wedi cynyddu £0.1 biliwn i £4.2 biliwn, yn bennaf gan adlewyrchu cynnydd yng nghost adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, a’r duedd barhaus dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth.
Rydym yn disgwyl y bydd effeithiau addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r darpariaethau dros amser wrth i ni wneud mwy o ymchwil.
Rydym hefyd yn ymwybodol o oblygiadau posibl y gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i ddeall yn well effaith adfer dŵr halwynog yn Lloegr.
Rydym yn parhau i chwilio am arbedion effeithlonrwydd, dysgu a phartneriaeth i wrthbwyso costau a lleihau’r effeithiau hyn lle bynnag y bo modd ochr yn ochr ag arloesi a defnyddio technoleg.
Mae’r cynnydd gweithredol sydd wedi’i gynnwys eleni yn fach o’i gymharu â’r newidiadau i gyfraddau disgownt Trysorlys EM sy’n lleihau’r ddarpariaeth ariannol gan £0.2 biliwn.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adolygiad ariannol a nodyn 12.3 i’r cyfrifon.
Yn dilyn ein hadolygiad cynhwysfawr o effeithiolrwydd y bwrdd allanol yn 2024, cynhaliodd y bwrdd adolygiad mewnol o effeithiolrwydd y bwrdd yn 2025 yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet.
Roedd hyn yn cadarnhau bod yr hyn a ddysgwyd o adolygiad 2024 wedi cael ei wreiddio ac wedi nodi rhai mân newidiadau i gynllunio ymlaen llaw a llywodraethiant, gan gynnwys siapio trafodaethau’n gynharach a defnydd hyblyg o alwadau’r bwrdd am faterion amserol.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda’r Sefydliad Llywodraethu Da yn ystod y flwyddyn i sicrhau ein bod yn parhau i ddysgu a gwella.
Diolch i’r bwrdd am arwain y sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf.
Hoffwn ddiolch i Carys Mills am ei chyfraniadau rhagorol o dan raglen Prentis Ystafell y Bwrdd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2025, ac rwy’n gobeithio bod yn rhan o raglenni yn y dyfodol sy’n ychwanegu gwerth sylweddol.
Ar ôl 8 mlynedd o arweinyddiaeth ragorol dan arweiniad gwerthoedd, rydyn ni’n ffarwelio â Lisa Pinney, ein Prif Swyddog Gweithredol, eleni wrth iddi symud ymlaen i arwain yr Asiantaeth Gwaith Teg newydd ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi ar gyfer ei rôl yn y dyfodol.
Mae Lisa wedi trawsnewid yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio o ran maint, diwylliant, uchelgais a dull gweithredu ac mae wedi cyfrannu’n wirioneddol at ein cenhadaeth o greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Gwn ein bod mewn lle cryf i ddatblygu ein cynnydd ac mae’n deyrnged i’r sefydliad a’r timau y mae Lisa wedi’u creu y bydd ein gwaith a’n huchelgeisiau’n parhau.
Rwy’n ddiolchgar i Paul Frammingham am gytuno i gamu i rôl y Prif Swyddog Gweithredol a’r Swyddog Cyfrifyddu dros dro o 7 Ebrill ymlaen.
Bydd y bwrdd yn cadarnhau penodiad ein Prif Weithredwr newydd yn ddiweddarach eleni.
Diolch i bawb am eich cyfraniad eleni. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a’r sefydliad ehangach yn y flwyddyn sydd i ddod.
2.5 Adroddiad y Prif Weithredwr gan Paul Frammingham
Mae 2025 i 2026 wedi bod yn flwyddyn o gyflawni cadarn yn erbyn ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2025 i 2028.
Rydym wedi gwneud cynnydd clir ym mhob un o’r 5 thema ein cynllun busnes a thuag at uchelgeisiau ein gweledigaeth 10 mlynedd hyd at 2032.
Rydym wedi arwain neu gefnogi ymateb brys mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr, sylweddol a rhai arferol gyda ffocws cryf ar gefnogi’r cwsmeriaid a’r cymunedau yr effeithir arnynt ac rydym unwaith eto wedi gweld yn uniongyrchol effeithiau tywydd eithafol a hinsawdd sy’n newid ar ein gwaith.
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwerth amgylcheddol a chymdeithasol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr ym mhopeth a wnawn.
Yn ystod 2025 i 2026, ydym wedi cynnal a gweithredu ein 82 cynllun trin dŵr mwyngloddiau, fel y gallwn drin 232 biliwn litr o ddŵr mwynglawdd er mwyn atal llygru dŵr yfed, afonydd a’r môr.
Rydym wedi cymryd camau pellach i asesu risg y dalgylchoedd dŵr mwynglawdd sy’n ymwneud â’r mwyngloddiau mwyaf yn Lloegr, wedi datblygu cynlluniau i liniaru’r cynnydd a ragwelir yn eu dŵr mwynglawdd dros y blynyddoedd nesaf ac wedi gwneud gwaith ymchwil a datblygu gyda phartneriaid i ddeall a datblygu opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn cefnogi’r twf a’r cymhlethdod parhaus hwn, rydym wedi rhoi dull portffolio newydd o weithio Yn ei le sy’n manteisio i’r eithaf ar yr hyblygrwydd a’r gwerth y gallwn eu darparu ar draws ein rhaglenni gwaith.
Rydyn ni wedi symud ymlaen â 6 chynllun arall i’r cam dylunio a/neu adeiladu, gyda mwy o gynlluniau ar y gweill ar gyfer y dyfodol wrth i’r gwaith monitro ddangos bod eu hangen.
Mae hyn ar gyfer glo ac ar gyfer metelau, lle rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru i sicrhau gwelliannau amlwg i ansawdd dŵr drwy atal llygredd mwyngloddiau metel.
Eleni, fe wnaethom hefyd ddechrau gweithio mewn partneriaeth yn yr Alban gydag Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) a Chyngor Dumfries a Galloway i wella ansawdd dŵr o fwyngloddiau metel hanesyddol. Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith i fynd i’r afael â llygredd dŵr mwyngloddiau yn ein hastudiaeth achos.
Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid brys ledled Prydain Fawr. Eleni, fe wnaethom ymateb i 603 o beryglon ar yr wyneb a gofnodwyd, 142 o hawliadau ymsuddiant a 55 o alwadau brys ychwanegol.
Rydym hefyd wedi darparu 368 awr o hyfforddiant ac ymgysylltu â’r 31 o fforymau gwydnwch lleol a phartneriaethau gwydnwch rhanbarthol sy’n cwmpasu maes glo Prydain i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud a chynghori ar risgiau, peryglon ac ymatebion. Gallwch ddarllen mwy yn ein hastudiaeth achos.
Rydym yn cydnabod y gall unrhyw ddigwyddiad sy’n effeithio ar gartrefi neu ardaloedd lleol beri gofid mawr. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth empathig, cefnogol a llawn gwybodaeth i’n cwsmeriaid a’n cymunedau ac i ddysgu’n gyflym lle gallwn wneud yn well.
Rydym wedi parhau â’n gwaith i Lywodraeth Cymru fel rhan o’u tasglu tomennydd glo i sicrhau bod pob safle risg uwch wedi cael ei archwilio’n rheolaidd a gwaith cynnal a chadw wedi cael ei flaenoriaethu.
Rhwng 2025 a 2026, fe wnaethom gynnal 1,118 o archwiliadau ar domennydd ledled Prydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys y 41 o domennydd rydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli’n uniongyrchol yng Nghymru a Lloegr a’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi cyrff cyhoeddus a thirfeddianwyr eraill.
Fe wnaethom gefnogi Llywodraeth Cymru gyda Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 a chreu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r awdurdod newydd yn y flwyddyn i ddod.
Fel y soniodd Jeff, yr ydym wedi gweld effaith sylweddol tywydd eithafol a hinsawdd sy’n newid ar ein gwaith eto eleni.
Mae ein timau wedi parhau i addasu a lliniaru’r digwyddiadau hyn i gefnogi ac amddiffyn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i hyn ac rwy’n ddiolchgar i’r holl bartneriaid, rhanddeiliaid a chontractwyr sydd wedi cefnogi ein gwaith. Rydym hefyd wedi gwneud rhagor o waith ar ystyried y risgiau a’r addasiadau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd y bydd angen i ni barhau i’w gwneud a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun addasu i’r hinsawdd yn 2026.
Rydym wedi parhau i ddarparu gwaith rheng flaen ac ymateb i argyfwng effeithlon ac effeithiol ac i gynnwys cyfleoedd o ran deallusrwydd artiffisial, digidol a thechnoleg yn ein gwaith.
Dyma ambell enghraifft:
- galluogi mabwysiadu Copilot yn gyflym drwy hyfforddiant wedi’i dargedu a dysgu ar y cyd
- sicrhau manteision cynnar o ran cynhyrchiant wrth gyflawni prosiectau, rheoli tasgau a chyfathrebu ysgrifenedig
- llifoedd gwaith deallusrwydd artiffisial datblygedig gyda Chanolfan Hartree i echdynnu data strwythuredig o gynlluniau mwyngloddiau hanesyddol, gan gynyddu defnyddioldeb a gwerth gweithredol ein hasedau data craidd
- buddsoddwyd mewn data a galluoedd arsylwi’r ddaear i wella’r broses o ganfod symudiadau tir yn gynnar, gan gynorthwyo’r gwaith o ganfod risgiau’n gyflymach ac ymatebion mwy amserol wedi’u targedu
Byddwn yn parhau i ddysgu a gweithio gydag eraill i gynyddu ein heffeithiolrwydd a’r cyfleoedd o’n data a’n gwybodaeth yn y flwyddyn i ddod.
Mae hyn yn hanfodol i’n helpu i reoli risg yn effeithiol a pharhau i sicrhau bod gwerth am arian, cyflawni canlyniadau niferus a galluogi twf yn rhan annatod o bob penderfyniad a wnawn.
Rydym wedi gwneud rhagor o gynnydd o ran galluogi cynlluniau gwres dŵr mwyngloddiau. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Deloitte i ddadansoddi potensial gwres dŵr mwyngloddiau, a ddefnyddir mewn rhwydweithiau gwresogi a gofodau mawr, fel warysau, fel ffynhonnell wres prif ffrwd ar gyfer cartrefi a busnesau ym Mhrydain.
Eleni, mae’r cynllun gwres cyntaf yng Nghymru wedi mynd yn fyw yn ein safle trin dŵr mwynglawdd Lindsay (Sir Gaerfyrddin, De Cymru).
Rydym hefyd wedi gweld cynlluniau ym Seaham Garden Village (Swydd Durham, Lloegr) a Chanolfan Hamdden ac Uned Gofal Sylfaenol Blaydon (Gateshead) yn gwneud cynnydd pendant.
Mae rhwydwaith gwres dŵr mwynglawdd Gateshead (Gogledd Ddwyrain Lloegr) yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned, gan gynyddu o ran maint i ddarparu gwres i dros 645 o gartrefi a 24 o adeiladau mawr, gan gynnwys y Glasshouse a’r Baltic Arts Centre, gyda chynlluniau i ymestyn i ganol y dref, Ysbyty’r Frenhines Elizabeth a miloedd yn rhagor o gartrefi, ysgolion a safleoedd gofal iechyd.
Mae llif ehangach o gynlluniau ac astudiaethau dichonoldeb yn mynd rhagddynt ym mhob un o’r 3 gwlad.
Roeddem yn falch o gefnogi GIG yr Alban a GIG Cymru i sgrinio ar draws eu hystadau ac rydym yn parhau i gefnogi DESNZ a’r dinasoedd sydd wedi’u cynnwys mewn parthau rhwydweithiau gwresogi.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i ddatblygu cyfleoedd posibl.
Yn Lloegr, mae ein Labordy Byw Gwres Dŵr Mwynglawdd Gateshead yn cynnwys cyfres o dyllau turio monitro a dyma’r unig le yn y byd lle gellir casglu gwybodaeth am gynlluniau gwres dŵr mwynglawdd gweithredol niferus.
Mae’r data mynediad agored yn darparu tystiolaeth i weithredwyr, datblygwyr, rheoleiddwyr a buddsoddwyr er mwyn deall yn well sut y gellir defnyddio cynlluniau gwres dŵr mwyngloddiau yn gynaliadwy.
Mae darparu gwerth am arian, galluogi gwerth a chynhyrchu incwm i wrthbwyso costau i’r trethdalwr yn parhau i fod yn hanfodol. Eleni, cynhyrchwyd £13 miliwn o incwm drwy ein gwasanaethau cynghori a £395,000 drwy werthu sgil-gynhyrchion.
Rydym wedi parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, datblygwyr a busnesau i gynorthwyo a chyflawni twf mewn cymunedau.
Roedd y gwaith hwn yn 2025 a 2026 yn golygu bod modd datblygu 568,815 hectar yn ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer cartrefi lleol, busnesau a diwydiant.
Gwnaethom barhau i gefnogi hyder ym marchnad dai’r meysydd glo drwy ein gwaith gyda benthycwyr ariannol, yswirwyr a gyda thrigolion lleol yn prynu ac yn gwerthu cartrefi.
Eleni, fe wnaethom ddarparu 106,976 o adroddiadau mwyngloddio a darparu’r data i 7 ailwerthwr preifat, gan gefnogi busnes a menter.
Gallwch weld ein cynnydd penodol yn erbyn ein cynllun busnes yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn, sy’n dangos yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni, yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a lle rydyn ni wedi gorfod ailflaenoriaethu neu addasu ein dull gweithredu i adlewyrchu gwaith digwyddiadau ychwanegol neu ffordd well o sicrhau canlyniad.
Fe welwch fod newidiadau i raglenni gweithredol ar waith cynnal a chadw yng ngwelyau ein cynllun trin dŵr mwynglawdd wedi effeithio ar ein cyfradd ailgylchu ocr eleni.
Mae hon yn enghraifft allweddol o ble rydym wedi dysgu a bydd yn fwy cydgysylltiedig wrth i ni wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i fod yn Brif Swyddog Gweithredol dros dro pan gamodd Lisa Pinney i lawr ym mis Ebrill i ddechrau ei rôl newydd yn yr Asiantaeth Gwaith Teg.
Hoffwn ddiolch i’r bwrdd, y tîm gweithredol a chydweithwyr ar draws yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio am eu cefnogaeth ac i Lisa am ei gwaith a’i chymorth rhan-amser yn y cefndir rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Pobl yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio sy’n gwneud y sefydliad yn lle gwych i weithio ynddo a’u hymroddiad, eu harbenigedd a’u ffocws ar gwsmeriaid sy’n ein galluogi i reoli’r heriau cymhleth sy’n ein hwynebu a gweld cyfleoedd o’r asedau hanesyddol, ein data a’n gwybodaeth.
I gefnogi hyn, byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddenu a chadw pobl wych i allu cyflawni ar draws ein cylch gwaith eang. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn datblygu, yn helpu ein cydweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn cael ein harwain gan werthoedd, ac yn ystyried sut rydym yn gweithio yn ogystal â’r hyn sydd angen i ni ei gyflawni.
Diolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gyd yn y flwyddyn i ddod.
Paul Frammingham, Prif Weithredwr
3. Astudiaeth achos: ein gwaith i gefnogi twf, datblygiad a chyfleoedd diogel
Gan weithio gyda phartneriaid ledled Prydain Fawr, rydym yn sicrhau ailddatblygu diogel a chynaliadwy, gan gefnogi nodau cenedlaethol ar gyfer ynni glanach, trafnidiaeth effeithlon a seilwaith lleol gwell.
Mae ein gwaith o ran caniatadau a thrwyddedu yn helpu sefydliadau, fel darparwyr trafnidiaeth, cyflenwyr dŵr a chynghorau lleol, i fwrw ymlaen â phrosiectau seilwaith mawr lle mae’r rhain yn croestorri â gweithfeydd glo a mwyngloddio hanesyddol.
Er enghraifft, mae ein gwaith gyda National Grid ar Uwchraddio’r Grid Cenedlaethol – rhaglen foderneiddio fawr o’r rhwydwaith trawsyrru trydan ledled Cymru a Lloegr – yn ychwanegu gwerth drwy sicrhau bod llwybrau diogel yn cael eu cynllunio ar gyfer llinellau trawsyrru newydd, gan leihau risgiau a lleihau oedi i gynnydd y prosiect.
Rhoesom 26 o drwyddedau ar gyfer gwaith a allai darfu ar neu fynd i mewn i wythiennau glo neu fwyngloddiau ar gyfer y cysylltiad 60km uwchben rhwng Chesterfield a Willington yng Nghanolbarth Lloegr.
Byddwn yn parhau i weithio’n rhagweithiol i gefnogi Uwchraddio’r Grid Cenedlaethol, gan helpu National Grid i sicrhau system ynni gwydn sy’n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer y tymor hir.
Mae ein cydweithrediad â Severn Trent Water Ltd yn cefnogi eu buddsoddiad o £25 miliwn i greu cyflenwad dŵr dibynadwy i gymunedau ar draws Stoke-on-Trent.
Mae’r prosiect yn cynnwys newid pibellau dŵr sy’n heneiddio a gosod prif bibellau newydd ac mae llawer o’r gwaith yn digwydd mewn ardaloedd lle gellir dod ar draws glo bas.
Rydym yn eu galluogi i gloddio’n ddiogel a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â glo bas a sicrhau bod rheolaethau priodol yn parhau ar waith i ddiogelu’r cyhoedd.
Rhoesom gytundeb glo achlysurol ar gyfer holl waith y prosiect er mwyn caniatáu rhywfaint o gloddio lle deuir ar draws glo, gan sicrhau ei fod yn cael ei dynnu’n ddiogel a’i reoli yn unol â rheoliadau.
Mae’r cytundeb yn cefnogi Severn Trent Water Ltd i ymateb yn hyblyg i amodau’r tir a rhoi’r atebion mwyaf effeithiol ar waith.
Er mwyn cefnogi’r prosiect cymhleth hwn ymhellach, fe wnaethom sefydlu un pwynt cyswllt ar gyfer Severn Trent Water Ltd, gofynion ymgeisio symlach a phrosesau symlach.
Mae Uwchraddio Llwybr TransPennine Network Rail – rhaglen fawr o welliannau rheilffordd rhwng Manceinion, Huddersfield, Leeds ac Efrog –yn cynnwys ardaloedd sydd â glo bas a chloddio hanesyddol, sy’n heriol i’w rheoli ochr yn ochr â gosod seilwaith trydanol mawr newydd.
Rydym yn cefnogi datblygiadau diogel ac effeithiol yn yr ardaloedd hyn drwy gyhoeddi nifer o gytundebau glo achlysurol, sy’n golygu bod modd cloddio 1,958 tunnell o lo.
Lle daethpwyd ar draws nodweddion mwyngloddio heb eu cofnodi, rydym wedi rhoi cytundebau newydd ar waith i sicrhau bod datblygiadau diogel yn parhau.
Bydd ein cefnogaeth i’r prosiect National Rail hwn yn parhau gan y rhagwelir y bydd angen cloddio 15,200 tunnell arall o lo mewn camau yn y dyfodol.
Bu ein tîm trwyddedu gwres mwyngloddiau yn gweithio gyda rheoleiddwyr amgylcheddol a phartneriaid i sefydlu cytundeb hirdymor gyda Gateshead Energy Company ar gyfer eu prosiect gwres dŵr mwynglawdd parhaus.
Mae’r cytundeb yn darparu mynediad at waith mwyngloddio tan 2043, ac mae ei hyd yn adlewyrchu cryfder ein gwaith partneriaeth i reoli risgiau’n effeithiol, cytuno ar baramedrau gweithredu a chreu cynllun monitro sy’n rhoi’r sicrwydd angenrheidiol.
Mae’r cytundeb yn meithrin hyder mewn prosiectau gwres dŵr mwyngloddiau ar gyfer gweithredwyr a darparwyr cyllid, gan helpu i gefnogi mabwysiadu’r systemau gwresogi carbon isel hyn yn ehangach.
Mae ein gwasanaethau a’n dulliau gweithredu pwrpasol yn ein galluogi i weithio’n rhagweithiol a darparu atebion ymarferol sy’n cefnogi ailddatblygu tir sydd o fudd i’n cymunedau.
Er enghraifft, yn Birtley Lane, Swydd Durham, yr ydym yn galluogi sefydlu adeiladau ysgol newydd.
Mae’r safle yma wedi bod yn ddarostyngedig i gyfamodau cyfyngol hanesyddol sy’n cyfyngu ar sut y gellir ei ddefnyddio.
Gan weithio gyda’r Adran Addysg ac Esgobaeth Hexham a Newcastle, rydym wedi bwrw ymlaen â diwygiad i’r cyfamodau, gan sicrhau canlyniad cadarnhaol a fydd yn golygu buddsoddiad mewn addysg leol gan greu gwerth i’r gymuned.
4. Ein perfformiad
Ym mlwyddyn gyntaf ein cynllun busnes 3 blynedd newydd, rydyn ni’n gwneud cynnydd clir yn erbyn ein cenhadaeth o sicrhau dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Saif ein cynllun mewn cymhariaeth â’n gweledigaeth 10 mlynedd, ac mae’n seiliedig ar ein gwerthoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’r adran ganlynol yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud yn 2025 i 2026.
Rydym wedi defnyddio’r cerdyn sgorio hwn i fesur ac adrodd ar ein cynnydd ar ein cynllun busnes rhwng 2025 a 2028.
4.1 Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu
Canlyniad y cerdyn sgorio: Byddwn yn parhau i wella ein gwasanaethau cyflawni rheng flaen ar gyfer ein cwsmeriaid fel ein bod yn cyflawni canlyniadau gwell a’i bod yn haws gwneud busnes gyda ni.
| Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2028 | Ein llwyddiannau erbyn Ebrill 2026 |
|---|---|
| Byddwn yn cymryd camau i ddiogelu cyflenwad dŵr yfed 2,400 o bobl ychwanegol (cyfanswm o 650,000) a gwella ansawdd dŵr 100km ychwanegol o afonydd a nentydd (350km i gyd) | Gwnaethom wella 70km ychwanegol o ansawdd dŵr afonydd drwy ein gwaith yn Nent Haggs (Cumbria, Lloegr). Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da o ran adeiladu ein cynllun trin dŵr mwynglawdd newydd yn Thorpe Hesley (De Swydd Efrog, Lloegr) er gwaethaf effeithiau tywydd gwlyb hirfaith dros y gaeaf. Bydd y cynllun nawr yn cael ei gwblhau yn ystod 2026-27 ac yn diogelu dŵr yfed ar gyfer 2,400 o bobl. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn parhau i ddatrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis. | Fe wnaethom ddatrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o raddfa a chymhlethdod y risg o ran adfer dŵr mwynglawdd o byllau glo mawr Lloegr. Byddwn yn cynnal ymchwil a gweithio gyda phartneriaid i bennu atebion priodol ar gyfer dŵr halwynog mwynglawdd gan gynnwys technoleg newydd, defnyddio dŵr ac opsiynau seilwaith mawr. | Rydym wedi datblygu achos amlinellol strategol mewn perthynas â rhaglen waith i bennu atebion ar gyfer dŵr mwynglawdd halwynog. Cafodd ei gymeradwyo gan Bwyllgor Portffolio a Buddsodd (PIC) DESNZ ym Mehefin 2025, lle cafodd her a chymhlethdod y rhaglen eu cydnabod. Mae’r rhaglen wedi datblygu yn unol â’r bwriad yn ystod y flwyddyn – gwella dealltwriaeth a risg a datblygu opsiynau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth, ein gwasanaethau a’n harbenigedd i gefnogi twf economaidd drwy Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a galluogi 800,000 hectar o adfywio a datblygu diogel, gan gynnwys 50,000 o gartrefi newydd mewn cymunedau ar y cyn feysydd glo. | Drwy ein gwasanaethau cynllunio a chaniatáu fe wnaethom alluogi dros 568,000 hectar o waith adfywio a datblygu diogel i alluogi twf gan gynnwys dros 34,00 o dai newydd. Fe wnaethom ragori ar ein targed ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn gwella ein hamseroedd ymateb o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, yn cynnal ein hachrediad ServiceMark ac yn mireinio systemau a phrosesau drwy adborth i wella ein darpariaeth. | Rydym wedi rhoi ein cynllun gweithredu achrediad ServiceMark ar waith ac wedi cynyddu amseroedd ymateb i ohebiaeth i 95%, gan ragori ar ein nod o 87%. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran datblygu ein cynllun cwsmeriaid 3 blynedd nesaf ond oherwydd ymateb ychwanegol i ddigwyddiad, bydd hwn nawr yn cael ei gwblhau a’i gyhoeddi yn 2027. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026. |
Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn sefydliad gweithredol ymarferol 24/7/365 sy’n ymateb i argyfwng, sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau statudol craidd ledled Prydain Fawr i helpu i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau ein gwaddol mwyngloddio.
Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned.
Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn gwneud yr hyn a ddywedwn ac yn gwrando ac yn dysgu er mwyn i ni allu gwella’n barhaus.
Drwy weithio gyda phartneriaid eraill a thrwyddynt, rydym yn darparu ymateb cydgysylltiedig i sicrhau’r canlyniad gorau posibl y gellir ei gyflawni.
Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth i ‘wneud gwell dyfodol i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio’.
4.2 Sicrhau cynaliadwyedd
Canlyniad y cerdyn sgorio: Byddwn yn gwreiddio cynaliadwyedd ymhellach ar draws ein gwaith i gyflawni budd cadarnhaol i gymunedau a gwella effeithlonrwydd a gwerth am arian
| Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2028 | Ein llwyddiannau erbyn Ebrill 2026 |
|---|---|
| Byddwn yn cyflymu ein rhaglen ynni adnewyddadwy, gan ddarparu mesurau ar o leiaf 2 safle y flwyddyn fel rhan o’n hymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 65% o’n llinell sylfaen 2017-2018 (wedi’i chynnwys yn ein hymrwymiad cynllun cynaliadwyedd 2023-26 cyn bod ffigurau diweddaraf Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU (GGC) 2025 i 2030 ar gael). | Fe wnaethom flaenoriaethu gwaith atgyweirio ac adnewyddu paneli yn ein safleoedd solar presennol yn ystod 2026 a 2027, felly gohiriwyd y gwaith o gyflwyno ein 2 safle ychwanegol nesaf. Rydym wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb ar 3 safle arall i ddatblygu ein piblinell o safleoedd i’r dyfodol ac rydym wedi datblygu cynlluniau ar gyfer storio batris mewn 2 safle. Mae ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau’n weddol debyg i rai’r llynedd o’u cymharu â’n llinell sylfaen 2017 i 2018. Ein hallyriadau 2025 i 2026 fydd y llinell sylfaen ar gyfer ein targedau lleihau o ran Ymrwymiad Gwyrddu newydd y Llywodraeth (GGC) 2026 i 2030. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun addasu i’r hinsawdd ac yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu i wella gwydnwch ac addasu i risgiau ac effeithiau’r hinsawdd | Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran datblygu ein cynllun addasu i’r hinsawdd, gan ddysgu o effeithiau ychwanegol hinsawdd sy’n newid yr ydym wedi’u profi ac wedi ymateb iddynt eleni. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried y dysgu hwn yn llawn a blaenoriaethu’r camau gweithredu a’r addasiadau allweddol a nodwyd, bydd y cynllun nawr yn cael ei gyhoeddi yn 2026 i 2027. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn parhau i gyflawni ein rhaglen adfer natur, gan adeiladu ar feincnodi cychwynnol i ddatblygu cynlluniau ymarferol ar sail blaenoriaeth ar draws ein hystâd a chymryd camau drwy wreiddio arferion rheoli sy’n ystyriol o natur a gweithio gyda phartneriaid i fanteisio i’r eithaf ar asedau naturiol ein hystâd mewn ffordd effeithlon | Rydym wedi parhau i gyflawni’n gryf yn erbyn ein cynllun adfer natur sy’n dod o dan ein cynllun cynaliadwyedd ar gyfer 2023 i 2026. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cynefinoedd ar un safle ac wedi nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol. Mae canllawiau rheoli wedi cael eu datblygu ar gyfer pob un o’r 82 cynllun trin dŵr mwyngloddiau i gefnogi ein cydweithwyr a’n contractwyr i reoli’r safleoedd hyn mewn ffordd sy’n gadarnhaol o ran natur. Mae 83% o safleoedd gweithredol sy’n cynnwys cynefinoedd wedi cael eu harolygu. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn datblygu, yn gweithredu ac yn adrodd ar dargedau gwerth cymdeithasol ar draws y gwaith rydym yn ei wneud | Rydym wedi datblygu camau gweithredu gwerth cymdeithasol ar gyfer ein cynllun cynaliadwyedd nesaf (2026 i 29) ac wedi datblygu a rhannu astudiaethau achos i ddangos y gwerth cymdeithasol rydym wedi’i ddarparu yn ystod 2025 i 2026. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn gwneud cynnydd clir yn erbyn Ymrwymiad Gwyrddu’r Llywodraeth (GCC) 2025 i 2030 i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a’n costau yn y meysydd hyn | Rydym wedi ail-osod llinell sylfaen ein GGC yn erbyn canllawiau ac ymrwymiadau newydd Llywodraeth y DU ar gyfer 2026 i 2030 yn barod ar gyfer adrodd yn 2026 i 2027. Rydym wedi gwella ein sylfaen dystiolaeth a’n dealltwriaeth a fydd yn helpu i sbarduno rhagor o welliannau. Mae hyn i gyd wedi cyfrannu at ein cynllun cynaliadwyedd nesaf (2026 i 2029). Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026 |
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy ac rydyn ni’n defnyddio ein gwaith i helpu i gyflawni newid cadarnhaol yn y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi, yn ogystal â sbarduno effeithlonrwydd a gwerth am arian yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud.
Rydym wedi parhau i gyflawni blwyddyn olaf ein cynllun cynaliadwyedd 2023 i 2026 ac wedi lansio ein cynllun cynaliadwyedd newydd 2026 i 2029, sy’n gwreiddio newid ymhellach drwy sicrhau bod egwyddorion economi gylchol a gwerth amgylcheddol a chymdeithasol wrth galon ein prosesau meddwl a gwneud penderfyniadau.
Rydym wedi parhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio ein gweithgareddau ymhellach ac i sicrhau bod ein hasedau’n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl.
Rydym yn cymryd camau i’n gwneud ni’n fwy gwydn yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd ar draws ein gweithrediadau yn ogystal â chefnogi’r cynefinoedd gwerthfawr sy’n bodoli ar ein safleoedd drwy reoli ein safleoedd a’n hystâd ar gyfer adferiad byd natur.
4.3 Gweithio gydag eraill i greu gwerth
Canlyniad y cerdyn sgorio: Byddwn yn creu mwy o werth ac yn sicrhau budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o’n hasedau, ein gwasanaethau a’n gwaith.
| Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2028 | Ein llwyddiannau erbyn Ebrill 2026 |
|---|---|
| Byddwn yn dylanwadu ac yn galluogi 3 chynllun gwres dŵr mwynglawdd gweithredol mawr ledled Prydain Fawr, ac yn annog cynlluniau llai a thechnolegau newydd. | Rydym wedi galluogi cynnydd mewn nifer o gynlluniau, wedi cefnogi a galluogi ymchwil a datblygu hanfodol ac wedi cryfhau’r biblinell a’r gefnogaeth ar gyfer gwresogi, oeri a storio dŵr mwyngloddiau yn y dyfodol. Mae 2 gynllun newydd bron â chael eu cwblhau ond byddant nawr yn mynd yn fyw yn 2026 i 2027. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 30% o’n llinell sylfaen 2024 i 2025 o £5.3 miliwn y flwyddyn | Rydym wedi cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid fwy na 25% o’n llinell sylfaen 2024 i 2025. Fe wnaethom ragori ar ein targed ar gyfer 2026 |
| Byddwn yn ailddefnyddio neu ailgylchu’r ocr haearn a’r solidau haearn a gynhyrchir o’n cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau i sicrhau bod llai na 3% yn mynd i safleoedd tirlenwi. | Roedd newidiadau i amserlen y rhaglen cynnal a chadw gwelyau cyrs yn golygu bod llai o ddeunydd yn cael ei gynhyrchu eleni. Roedd hyn yn golygu bod y gwastraff ocr cymhleth, nad oes gennym gynnyrch nac opsiwn ailgylchu ar ei gyfer ar hyn o bryd, yn ganran uwch o’n gwastraff cyffredinol. Rydym wedi dysgu ac yn parhau i chwilio am opsiynau arloesol ar gyfer y deunyddiau mwy heriol hyn. Nid ydym wedi cyrraedd ein targed ar gyfer 2026. |
| Byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau yn ein fframweithiau cyfleoedd ar gyfer sgil-gynhyrchion a gwres dŵr mwyngloddiau | Rydym wedi cyflawni ymrwymiadau blwyddyn 2 yn ein fframweithiau cyfleoedd ar gyfer sgil-gynhyrchion a gwres dŵr mwyngloddiau. Mae hyn yn parhau i ddarparu incwm i wrthbwyso costau i’r trethdalwr, lleihau gwastraff a sicrhau’r budd a’r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl o’n hasedau gwladoledig. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn datblygu ein gwasanaethau a’n partneriaethau, i gefnogi polisi’r llywodraeth, i barhau i roi hyder i’r rhai sy’n ymwneud â phrynu a gwerthu cartrefi ac eiddo yn ardaloedd meysydd glo | Rydym wedi parhau i esblygu a gweithio gydag eraill i gefnogi polisi’r llywodraeth a sicrhau hyder mewn trawsgludo ar y maes glo. Rydym yn gweithio gyda benthycwyr ariannol, syrfewyr ac asiantau tai i gefnogi hyder a gyda phartneriaid i ddatblygu atebion digidol pellach a chefnogi mentrau’r llywodraeth ar gyfer trafodion eiddo cyflymach a mwy digidol. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
Mae sicrhau gwerth i’r trethdalwr ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol, gan sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, yn allweddol i’n ffordd o feddwl yn yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.
Mae hyn yn cynnwys ceisio arloesi, datblygu a gwerthu cynnyrch, a darparu gwasanaethau ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddarparu gwerth da a lliniaru costau i’r trethdalwr.
Rydyn ni’n frwd dros gefnogi cymunedau mwyngloddio hanesyddol ac yn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n harbenigedd i roi hyder i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn ac i greu cyfle a budd o waddol mwyngloddio.
4.4 Creu lle gwych i weithio ynddo.
Canlyniad y cerdyn sgorio: Byddwn yn gyflogwr o ddewis gyda phobl wych sy’n teimlo eu bod wedi’u grymuso, yn defnyddio ein gwerthoedd i lywio eu gwaith, ac yn ymfalchïo mewn cyflawni’r gwaith hanfodol a chymhleth rydyn ni’n ei wneud i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
| Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2028 | Ein llwyddiannau erbyn Ebrill 2026 |
|---|---|
| Byddwn yn parhau i wneud cynnydd amlwg o ran recriwtio a chadw gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr, gan wella symudedd cymdeithasol a darparu cyfleoedd i unigolion sy’n byw mewn cymunedau mwyngloddio. | Rydym wedi rhoi fframwaith gyrfaoedd cynnar ar waith i gefnogi symudedd cymdeithasol a darparu cyfleoedd i unigolion mewn cymunedau mwyngloddio drwy brentisiaethau ac interniaethau â thâl. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn darparu cyfleoedd i’n cyd-weithwyr dyfu a datblygu eu sgiliau a’u harbenigedd, gan gynnwys cymorth ar gyfer datblygiad proffesiynol, achrediad ffurfiol a phrentisiaethau. | Fe wnaethom ddarparu rhagor o gyfleoedd i gydweithwyr dyfu a datblygu eu sgiliau drwy ein system ddysgu fewnol a Champws ehangach y Llywodraeth gan barhau i gefnogi achrediadau ffurfiol a phrentisiaethau. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
| Byddwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd, ein cyd-weithwyr a’n partneriaid a’r gadwyn gyflenwi drwy feincnodi allanol. | Rydym wedi lansio ein cynllun iechyd, diogelwch a llesiant 2025-28 sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu pobl, cefnogi cymunedau, a galluogi twf diogel a chynaliadwy ar draws hen ardaloedd mwyngloddio. Gwnaethom gyflawni camau gweithredu blaenoriaeth o flwyddyn gyntaf y cynllun newydd, a chwblhawyd adolygiad llawn o opsiynau ar gyfer meincnodi allanol pellach yn dilyn ein hadolygiad 5 seren blaenorol o Archwiliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Cyngor Diogelwch Prydain. Fe wnaethom ohirio rhai camau diogelwch ymddygiad yn ystod y flwyddyn i flaenoriaethu gweithgarwch gweithredol parhaus ac ymateb i ddigwyddiadau. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026 |
| Byddwn yn ymdrechu i gadw sgôr ymgysylltu arolwg gweithwyr ar lefel uwch na 70%. | Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da yn erbyn y camau gweithredu a’r themâu allweddol y cytunwyd arnynt o’n harolwg pobl 2024 ac rydym yn parhau i baratoi ar gyfer ein harolwg pobl 2026. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026. |
Mae ein pobl yn allweddol i’n darpariaeth ledled Prydain Fawr.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid, cymunedau, partneriaid a chontractwyr y gadwyn gyflenwi i gyflawni ein gwaith a galluogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban.
Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar dwf a datblygiad diogel, twf economaidd a gwneud y DU yn uwchbŵer ynni glân.
Er mwyn gwneud hyn yn dda, mae angen gweithlu amrywiol arnom gydag amrywiaeth o sgiliau technegol a chymysgedd o brofiad a safbwyntiau newydd i sicrhau ein bod yn gallu parhau i weithredu’n ymarferol ar lawr gwlad.
Rydyn ni’n sicrhau bod gennym bobl sydd â’r sgiliau, yr hyder a’r empathi i gefnogi cymunedau a datrys y problemau cymhleth sy’n ein hwynebu bob awr o bob dydd.
4.5 Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol
Canlyniad y cerdyn sgorio: Byddwn yn parhau i ddatblygu prosesau a systemau modern a gwydn sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y rhain yn helpu ein pobl i weithio’n fwy effeithlon ac effeithiol i gyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
| Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2028 | Ein llwyddiannau erbyn Ebrill 2026 |
|---|---|
| Byddwn yn grymuso ein pobl i gyflawni’n fwy effeithlon drwy brosesau symlach a defnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial (AI) yn fwy clyfar | Gwnaethom barhau i gyflwyno offer deallusrwydd artiffisial a chynhyrchiant (gan gynnwys Microsoft Copilot 365) ac rydym wedi gwreiddio ein polisi deallusrwydd artiffisial. Gwnaethom gwblhau prosiect AI cydweithredol gyda Chanolfan Hartree i ddatblygu llif gwaith awtomataidd i gipio nodweddion mwyngloddio o’r cofnodion papur hanesyddol yn ein harchif genedlaethol. Rydym wedi gwneud cynnydd da gyda phrosiectau allweddol o’n cynllun addas ar gyfer y dyfodol y cytunwyd arno er mwyn galluogi ein pobl i gyflawni’n fwy effeithlon. Rhoddwyd y gorau i weithio ar ein system rheoli asedau newydd i flaenoriaethu adnoddau gweithredol ar weithredu’r contract gweithrediadau a chynnal a chadw newydd. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed yn rhannol ar gyfer 2026 |
| Byddwn yn sbarduno darpariaeth fwy effeithlon ac effeithiol drwy barhau i wreiddio ein dull o reoli portffolio, rhaglenni a phrosiectau | Gwnaethom barhau i ddatblygu ein harferion prosiectau, rhaglenni a phortffolio, gan gynnwys cyflwyno dull graddol o gynyddu ein haeddfedrwydd dros gyfnod y cynllun busnes. Fe wnaethom sefydlu dull llywodraethiant portffolio ar gyfer mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth wneud penderfyniadau. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026 |
| Byddwn yn gwella ac yn datblygu gwasanaethau digidol newydd o amgylch anghenion defnyddwyr, gan arwain at lefelau uwch o foddhad a phrofiadau cadarnhaol i gwsmeriaid | Rydym wedi rhoi teithiau gwell i gwsmeriaid ar waith ar gyfer ein gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd ac wedi cysylltu pobl yn well â’u treftadaeth fwyngloddio drwy gyhoeddi ein cynlluniau mwyngloddio ar-lein a chytuno ar ddull gweithredu ar gyfer rhannu ein harchif lluniau. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026 |
| Byddwn yn cyflawni ein cynllun data a gwybodaeth ar gyfer 2024 i 2027, gan foderneiddio a gwella mynediad at ein data i gefnogi twf a galluogi canlyniadau ehangach ar gyfer yr amgylchedd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu | Rydym wedi cyflawni ail flwyddyn ein cynllun data a gwybodaeth ac wedi dechrau rhaglen gwella data newydd. Mae hyn wedi cynyddu’r ffyrdd y gall rhanddeiliaid gael gafael ar ein data ac wedi rhoi safonau data newydd ar waith ar gyfer rheoli a darparu data. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targed am 2026 |
Rydym wedi nodi lefel uchel o uchelgais drwy ein gweledigaeth a’n cynllun busnes sy’n cael eu galluogi drwy systemau a dulliau effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, canllawiau, fframweithiau a datblygu sgiliau cyson ac effeithiol ar gyfer ein pobl i’w cefnogi i deimlo eu bod wedi’u grymuso i sbarduno darpariaeth effeithiol, yn ogystal â chynllunio, llywodraethiant a sicrwydd cymesur i alluogi mwy o effeithlonrwydd.
Mae’r rhain yn ein cefnogi i ddarparu’r gwasanaethau craidd sy’n diogelu bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd ac yn ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr.
Mae ein data a’n gwybodaeth yn sail i bob darn o waith a wnawn fel sefydliad ac yn helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gynnwys trawsgludo gyda hyder yn y maes glo.
5. Ein Gwaith yn Yr Alban
5.1 Ein blwyddyn yn yr Alban
1,795 archwiliad o fynedfeydd mwyngloddiau wedi’u cynnal
44,870 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno
28 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau wedi’i drin
106 o beryglon mwyngloddio, hawliadau ymsuddiant a galwadau brys wedi’u harchwilio a’u hasesu
1,079 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio wedi’u rhoi
730 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
5.2 Astudiaeth achos: ymateb i ddigwyddiad yn Dalkeith
Mae gweithio gydag eraill i sicrhau diogelwch y cyhoedd a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gymunedau lleol wrth galon sut rydym yn ymateb i ddigwyddiadau sy’n deillio o weithgarwch mwyngloddio hanesyddol.
Fel sefydliad sy’n gweithredu 24/7, rydyn ni’n gweithio i warchod pobl, eiddo, dŵr yfed a’r amgylchedd rhag effeithiau ein gwaddol mwyngloddio.
Ym mis Ionawr, fe wnaethom ymateb i ddigwyddiad critigol yn Dalkeith, Midlothian, yr Alban.
Wrth weithio i adeiladu cynllun trin dŵr mwynglawdd newydd yn yr ardal, sylwodd ein contractwr fod dŵr mwynglawdd wedi stopio gollwng allan o’r ollyngfa leol o dwnnel draenio Old Fordell, sy’n casglu ac yn gollwng dŵr o ardal fawr o weithfeydd mwyngloddio tanddaearol hanesyddol.
Ymchwiliwyd i hyn ar unwaith a sylweddolwyd bod rhwystr yn y twnnel draenio.
Cymerwyd camau brys i asesu a monitro lefelau dŵr mwynglawdd a oedd yn cynyddu yn yr ardal a gwnaed gwaith brys i sicrhau y gellid pwmpio dŵr mwynglawdd o leoliad i fyny’r afon a’i bibellu’n ôl i’w ollwng i’r afon gan ddefnyddio piblinell dros dro, dros y tir.
Roedd y gwaith hwn yn rheoli’r cynnydd yn lefelau dŵr y mwynglawdd ac yn diogelu’r gymuned.
Buom yn gweithio gyda phartneriaid lleol i liniaru risgiau posibl a datrys y sefyllfa.
Roedd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth a chydlynu cyfarfodydd amlasiantaeth drwy’r bartneriaeth gwydnwch rhanbarthol i drafod a chytuno ar y ffyrdd gorau ymlaen i bobl leol a’u hamgylchedd.
Fe wnaethom gyhoeddi adroddiadau dyddiol ar y sefyllfa, map byw o’n gweithgarwch ymateb, a gohebiaeth ar gyfer partneriaid, rhanddeiliaid a thrigolion y gallai sefydliadau eraill eu defnyddio i ymgysylltu â’r gymuned leol mewn ffordd gyson.
Er enghraifft, roedd hyn yn helpu’r awdurdod lleol i egluro cau ffyrdd, newidiadau traffig a gwyriadau dros dro a bod yn glir ynghylch pam roedd angen y mesurau hyn.
Roedd ein gweithredu prydlon gyda’n gilydd yn lleihau’r risg o ffrwydrad dŵr peryglus ac yn diogelu bywyd, eiddo a’r amgylchedd.
Rydym nawr yn gweithio i ddylunio dull hirdymor o drosglwyddo dŵr mwynglawdd a fydd yn cysylltu â’r cynllun trin dŵr mwynglawdd newydd ac yn lleihau llygredd a risg i’r ardal leol am byth.
Drwy gydol y digwyddiad ac ers hynny, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned leol a phartneriaid i ddarparu diweddariadau rheolaidd.
Rydym wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac wedi rhoi swyddog cyswllt cymunedol lleol penodol yn ei le i gefnogi pobl leol a sicrhau bod eu pryderon a’u syniadau ar gyfer gwella yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.
Rydym mor ddiolchgar i’r gymuned leol sydd wedi bod yn hynod amyneddgar gyda’r tarfu ar eu hardal leol ac wedi rhannu gwybodaeth ac adborth am fwyngloddio lleol â ni.
Mae hyn wedi golygu y gallem weithio gyda phartneriaid i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion a busnesau lleol lle bynnag y bo modd a sicrhau bod cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i drigolion agored i niwed lle bo angen.
Mae lefelau dŵr mwynglawdd yn yr ardal yn cael eu rheoli’n ddiogel gan ein gweithrediadau pwmpio ac rydym nawr yn gweithio i ddylunio ac adeiladu dull parhaol o drosglwyddo dŵr mwynglawdd.
Bydd hyn yn cysylltu â’r cynllun trin dŵr mwynglawdd newydd i warchod Afon South Esk a lleihau llygredd a risg i’r ardal leol am byth.
Bydd yn gwella ansawdd dŵr, yn gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac yn gwella harddwch naturiol yr ardal i’r gymuned ei fwynhau.
6. Adolygiad ariannol
Rydym wedi parhau i gyflawni’n gryf mewn blwyddyn o dywydd eithafol ac mae ein hymateb i ddigwyddiadau a’n gwaith diogelwch y cyhoedd wedi parhau i gynyddu, gan adlewyrchu maint y waddol yr ydym yn ei rheoli ar yr un pryd â chadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl.
Rydym wedi cynyddu’r buddsoddiad yn ein cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, gan ddiogelu ansawdd dŵr a’r amgylchedd a sicrhau bod ein hasedau’n parhau i fod yn wydn yn y dyfodol.
Rydym wedi parhau i gynyddu incwm o’n gwasanaethau cynghori, gan weithio gyda phartneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau a darparu gwybodaeth glir a dibynadwy i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda DESNZ i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd sy’n sail i’n gofynion cyllido ac rydym wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon.
Roedd y cymorth grant a dderbyniwyd gan DESNZ yn ystod y flwyddyn yn £83.2 miliwn (2024 i 2025: £75.1 miliwn) sy’n adlewyrchu ein rhaglenni mwy a mwy cymhleth a chynnydd yng nghost net ein gweithrediadau fel yr amlinellir isod.
Mae hyn yn cael ei egluro a’i ddangos yn y graffig canlynol (noder y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol o’r gost hon mewn blynyddoedd blaenorol fel yr esbonnir yn nodyn 12 y datganiadau ariannol ac nid yw’n cael ei godi’n uniongyrchol i’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).
Gan weithio gyda’n partneriaid, gwnaethom gyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed i ddiogelu cyrsiau dŵr, dyfrhaenau dŵr yfed ac atal llifogydd.
Mae gwariant refeniw ar ein cynlluniau wedi cynyddu, gan adlewyrchu ein gwaith parhaus i ddeall ac asesu’r opsiynau gorau ar gyfer rheoli dŵr mwynglawdd halwynog mewndirol a sicrhau bod cyrsiau dŵr a dyfrhaenau’n cael eu diogelu yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol a chost-fanteisiol.
Bydd ein rhaglenni effeithlonrwydd parhaus yn lleihau’r gost o redeg cynlluniau dŵr mwyngloddiau yn y dyfodol drwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffordd arloesol.
Mae hyn yn cynnwys ymestyn y defnydd o’n sgil-gynnyrch ocr yn y farchnad treulio anaerobig a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill sy’n cael eu harwain gan ein buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy i leihau costau pŵer a chyfrannu at gyflawni ein hymrwymiadau lleihau carbon.
Rydym yn disgwyl i’r gweithgareddau hyn ddarparu £4.9 miliwn yn raddol dros y 4 blynedd nesaf.
Mae ein gwariant ar ddiogelwch y cyhoedd yn adweithiol a gall amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Mae gwariant 2025 i 2026 yn parhau ar lefel sy’n gyson â blynyddoedd blaenorol, gan adlewyrchu’r gwaith rydym wedi’i wneud i ddatrys nifer o hawliadau a digwyddiadau sylweddol, gan gynnwys prosiectau i adfer nodweddion mwyngloddio sy’n effeithio ar seilwaith ynni yn Glasgow ac eiddo yn Dewar Avenue, Kincardine, Fife.
Cynhyrchodd gwaith ein gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £13 miliwn (2024 i 2025: £10 miliwn), sy’n adlewyrchu ein llwyddiant parhaus o ran gweithio gydag eraill i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar draws y llywodraeth.
Mae hyn yn cynnwys darparu cynllun dŵr mwynglawdd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn Lloegr ac i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chefnogi Llywodraeth Cymru i reoli tomenni yn ddiogel.
Mae incwm adroddiadau mwyngloddio o £6.2 miliwn ychydig yn is na’r llynedd (2024 i 2025: £6.7 miliwn).
Mae hyn yn adlewyrchu colled yng nghyfran y farchnad o ganlyniad i’n polisi i sicrhau bod ein data ar gael ac agor y farchnad o sefyllfa fonopoli bron, gydag ychydig o wrthbwyso o ganlyniad i dwf bychan yn y farchnad eiddo a nifer y trafodion.
6.1 Sut y gwnaethom ddefnyddio ein harian yn 2024 i 2025
| Ein hincwm o | 2025 i 2026 | 2024 i 2025 |
|---|---|---|
| Adroddiadau mwyngloddio | £6.2 miliwn | £6.7 miliwn |
| Gwasanaethau cynghori a thechnegol | £13 miliwn | £10 miliwn |
| Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall | £400,000 | £200,000 |
| Indemniadau trwyddedu a chaniatadau | £1.3 miliwn | £1 miliwn |
| Trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio | £2.7 miliwn | £2.3 miliwn |
| Cysylltiedig ag eiddo | £900,000 | £1.1 miliwn |
| Incwm arall | £200,000 | £200,000 |
| Cyfalaf gweithio | £3.1 miliwn | £800,000 |
| Cymorth grant (DESNZ neu’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) | £83.2 miliwn | £75.1 miliwn |
| Cyfanswm incwm | £111 miliwn | £97.4 miliwn |
| Ein gwariant ar | 2025 i 2026 | 2024 i 2025 |
|---|---|---|
| Diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant | £25.9 miliwn | £26.3 miliwn |
| Cynlluniau dŵr mwyngloddiau | £37.5 miliwn | £33.2 miliwn |
| Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant | £2 miliwn | £2.2 miliwn |
| Cynllunio, trwyddedu, caniatadau ac eiddo | £4.9 miliwn | £5.4 miliwn |
| Adroddiadau, data, digidol a gwybodaeth | £11.6 miliwn | £10.3 miliwn |
| Gwres mwyngloddiau, arloesi a gwasanaethau | £2.7 miliwn | £2.2 miliwn |
| Rhaglen cynlluniau dŵr mwyngloddiau (cyfalaf) | £24.7 miliwn | £16.1 miliwn |
| Rhaglen gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (cyfalaf) | £900,000 | £700,000 |
| Arall (cyfalaf) | £1.3 miliwn | £2.2 miliwn |
| Cyfanswm gwariant | £111 miliwn | £97.4 miliwn |
Ein hincwm gweithredu o £24.7 miliwn yn ôl y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau incwm uchod ac eithrio cymorth grant a symudiadau cyfalaf gweithio.
Ein gwariant gweithredu yn unol â’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, wedi’i addasu ar gyfer eitemau nad ydynt yn gysylltiedig ag arian parod (defnyddio cyflenwadau, dibrisiant, ailbrisio a thaliadau amhariad) o £84.1 miliwn a buddsoddiad yn ein rhaglenni cyfalaf o £26.9 miliwn yw cyfanswm y ffigurau gwariant uchod.
Mae ein hincwm a’n gwariant gweithredol yn cyd-fynd â’n segmentau gweithredol. Am ragor o wybodaeth gweler hefyd nodyn 3 incwm, nodyn 2 gwariant ac am fuddsoddiad cyfalaf nodyn 5 a nodyn 7.
Mae ffigurau 2024 i 2025 wedi cael eu cynrychioli er cysondeb â’r flwyddyn gyfredol.
6.2 Datganiadau ariannol
Mae ein datganiadau ariannol yn cael eu dominyddu gan y balans darpariaethau o £1,571 miliwn.
Dangosir y rhesymeg a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 12 i’n datganiadau ariannol.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Mae’r balans hwn wedi gostwng £138 miliwn (2024 i 2025: cynnydd o £98 miliwn).
Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian i adlewyrchu gwerth amser yr arian ar sail rhagdybiaethau a chyfraddau a ddarperir gan Drysorlys EF.
Mae’r newid mewn cyfraddau eleni wedi arwain at ostyngiad o £191 miliwn (2024 i 2025: gostyngiad o £59 miliwn).
Mae ein llifoedd arian gwaelodol, y cyfrifir balans y darpariaethau arnynt, wedi cael eu diweddaru ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf ac maent wedi cynyddu £89.6 miliwn i £4,150 miliwn.
Mae hyn yn cydnabod cynnydd o ganlyniad i ddiweddariadau yn dilyn yr adolygiad o gostau a chamau’r rhaglen cynlluniau dŵr mwynglawdd, yn ogystal ag adlewyrchu’r duedd dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch y cyhoedd cymhleth, er bod hyn wedi cael ei wrthbwyso’n rhannol yn dilyn adolygiad a diweddariad o gostau gweithredol a chynnal a chadw ein rhaglen gorsafoedd pwmpio ymsuddiant.
Mae’r newid hwn yn y llifoedd arian gwaelodol, ar ôl addasu ar gyfer gwerth amser yr arian, yn golygu cynyddu balans y ddarpariaeth gan £53 miliwn.
6.3 Datganiad o wariant net cynhwysfawr
Roedd yr incwm net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026 yn £69.5 miliwn (2024 i 2025: gwariant net o £170.7 miliwn).
Mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y 2 flynedd yn cael ei yrru gan y symudiadau darpariaethau a amlinellir uchod.
Heb gynnwys y symudiadau darpariaethau hyn, roedd gwariant net cynhwysfawr am y flwyddyn yn £32.8 miliwn (2024 i 2025: £35.5 miliwn), gostyngiad o £2.7 miliwn.
Amlinellir y rhesymau y tu ôl i’r symudiad hwn isod.
6.4 Cyfanswm incwm gweithredu
Roedd cyfanswm yr incwm gweithredu, nad oedd yn cynnwys cymorth grant, yn £24.7 miliwn (2024 i 2025: £21.5 miliwn) gan adlewyrchu ein strategaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau’r sector cyhoeddus i’w cefnogi i reoli eu risgiau, gan hyrwyddo cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein data a’n gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol wedi codi £3 miliwn, i £13 miliwn.
Mae hyn yn cael ei sbarduno gan raglenni mwyngloddiau metel estynedig rydyn ni’n eu darparu i Defra yn Lloegr ac i Lywodraeth Cymru.
Mae colli cyfran o’r farchnad yn ystod y flwyddyn, sy’n cael ei wrthbwyso’n rhannol gan gynnydd o 5% o un flwyddyn i’r llall ym maint y farchnad, wedi arwain at ostyngiad o £0.5 miliwn mewn incwm adroddiadau mwyngloddio i £6.2 miliwn, ac mae incwm trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio wedi cynyddu £0.4 miliwn i £2.7 miliwn.
Mae symudiadau eraill yn ein hincwm o 2024 i 2025 yn ymwneud â’r indemniadau trwyddedu a chaniatadau (cynnydd o £0.3 miliwn), sgil-gynhyrchion (cynnydd o £0.2 miliwn), elw ar waredu eiddo (gostyngiad o £0.3 miliwn) a mân newidiadau mewn rhent ac incwm arall (cynnydd o £0.1 miliwn).
6.5 Gwariant
Mae costau staff o £33 miliwn yn dangos cynnydd o £4.8 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r dyfarniad cyflog o 3.5% yn unol â chanllawiau cylch cyflog y gwasanaeth sifil, yn cyfrif am £1 miliwn.
Mae gweddill y cynnydd hwn yn cael ei sbarduno gan nifer y staff sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau cynghori y telir amdanynt i’n cwsmeriaid a darparu mwy o wasanaethau rheng flaen i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae hyn yn cynnwys diogelu’r amgylchedd drwy gyflawni ein rhaglen cynllun dŵr mwynglawdd a gwaith dichonoldeb i asesu opsiynau i reoli halwynedd mewndirol.
Cynyddodd prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau rheng flaen a ddarparwyd yn flaenorol) gan £2.5 miliwn i £15.4 miliwn. Mae hyn yn cael ei sbarduno gan gostau cadwyn gyflenwi sy’n cefnogi’r cynnydd yn ein hincwm gwasanaethau cynghori a thechnegol.
Gostyngodd taliadau dibrisiant, ailbrisio ac amhariad £7 miliwn i £8.9 miliwn.
Mae symudiadau allweddol yn cynnwys gostyngiad o £7.3 miliwn mewn amhariadau, sy’n adlewyrchu amseriad cwblhau adeiladu cynlluniau dŵr mwyngloddiau (lle, dan ein polisi cyfrifyddu, rydym yn amharu ar gynlluniau ar unwaith i ddim gwerth net ar bapur pan fyddant yn dod yn weithredol), sy’n cael ei wrthbwyso gan gynnydd o £0.3 miliwn sy’n cwmpasu dibrisiant, amorteiddiad ac ailbrisiadau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 2 a 3, yn ogystal â nodiadau 5 a 6 i’r datganiadau ariannol.
6.6 Datganiad o’r sefyllfa ariannol
Rhwymedigaethau net o £1,543.6 miliwn wedi gostwng £152.7 miliwn (2024 i 2025: £1,696.3 miliwn). Y ffactorau allweddol oedd:
-
mae darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol wedi gostwng £138 miliwn yn dilyn adolygiad ac fel yr amlinellir uchod (mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 12 i’r datganiadau ariannol)
-
cynnydd o £18 miliwn yng nghyfanswm yr asedau anghyfredol i £46.5 miliwn (2024 i 2025 £28.5 miliwn) sy’n cael ei yrru’n bennaf gan 2 gynllun dŵr mwyngloddiau newydd sy’n cael eu hadeiladu
-
mae symiau masnach derbyniadwy wedi cynyddu £1 miliwn i £7.2 miliwn (2024 i 2025: £6.2 miliwn), yn bennaf oherwydd amseriad taliadau gan Defra a Llywodraeth Cymru am wasanaethau cynghori a thechnegol mewn perthynas â’u rhaglenni cynllun dŵr mwyngloddiau metel
-
mae arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn £22.3 miliwn (2024 i 2025: £21.2 miliwn) (gweler yr adran isod ar lif arian i gael manylion am symudiadau)
-
mae symiau masnach taladwy wedi cynyddu £5.4 miliwn i £49.1 miliwn (2024 i 2025: £43.7 miliwn), a’r prif sbardun yw gwariant cronedig sy’n ymwneud â mwy o wariant ar ddiogelwch y cyhoedd a chynlluniau dŵr mwyngloddiau
6.7 Llif arian
Ar 31 Mawrth 2026 roeddem yn dal £22.3 miliwn o arian parod (2025: £21.2 miliwn).
Mae hyn yn cynnwys £1.3 miliwn (2025: £1.4 miliwn) o gyllid wedi’i neilltuo mewn perthynas â diogelwch a alwyd i mewn gan weithredwyr mwyngloddio sydd wedi cael eu diddymu.
Roedd cynnydd net mewn arian parod yn ystod y flwyddyn o £1.1 miliwn. Dyma rannau cyfansoddol y symudiad hwn:
-
derbyn £83.2 miliwn o gymorth grant gan DESNZ, cynnydd o £8.1 miliwn (2024 i 2025: £75.1 miliwn wedi’i dderbyn) – yr arian parod a dynnwyd i lawr o’r adran ar gyfer gofynion am gyfalaf gweithio sy’n ymwneud â 3 phrif faes: gweithredu ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, rheoli hawliadau a digwyddiadau diogelwch y cyhoedd a darparu ein rhaglenni cyfalaf
-
all-lif arian net o weithgareddau gweithredu o £57.3 miliwn (2024 i 2025: £50.8 miliwn) – rydym wedi gwario £6.5 miliwn yn fwy eleni ar ein gweithrediadau sy’n cael eu sbarduno gan ein rhaglenni dŵr mwyngloddiau, gan gynnwys parhau â’n gwaith manwl i gynhyrchu a gwerthuso’r opsiynau mwyaf cost-effeithiol a chynaliadwy ar gyfer trin dŵr mwynglawdd halwynog mewndirol yn y dyfodol a rheoli hawliadau a digwyddiadau diogelwch y cyhoedd
-
all-lif arian net o weithgareddau buddsoddi o £24 miliwn, cynnydd o £6 miliwn ar y flwyddyn flaenorol (2024 i 2025: £18.0 miliwn) – mae hyn yn ymwneud yn bennaf â phrynu eiddo, offer a chyfarpar fel rhan o’n rhaglen gynyddol i ddatblygu, adeiladu a chynnal cynlluniau dŵr mwyngloddiau a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, yn ogystal â buddsoddiad parhaus yn ein technoleg gwybodaeth a’n systemau
-
all-lif arian net o ariannu gweithgareddau o £0.8 miliwn (2024 i 2025: £0.8 miliwn), sy’n ymwneud â thalu rhwymedigaethau les.
6.8 Busnes hyfyw
I’r graddau nad ydynt yn cael eu diwallu o’n ffynonellau incwm eraill, dim ond drwy gymorth grant neu grantiau yn y dyfodol gan ein hadran noddi DESNZ y gellir cwrdd â’n rhwymedigaethau.
Y rheswm am hyn yw, dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, efallai na fydd grantiau o’r fath yn cael eu cyhoeddi cyn yr angen amdanynt.
Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, dalu i’r Awdurdod Glo unrhyw swm y mae’n penderfynu yw’r swm sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Glo ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”
Ar sail hynny, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid er mwyn gallu cyflawni ein rhwymedigaethau.
Rydym felly wedi paratoi ein datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw.
7. Ein Gwaith yng Nghymru
7.1 Ein blwyddyn yng Nghymru
2,639 archwiliad o fynedfeydd mwyngloddiau wedi’u cynnal
6,408 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno
15 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau wedi’i drin
150 o beryglon mwyngloddio, hawliadau ymsuddiant a galwadau brys wedi’u harchwilio a’u hasesu
1,111 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio wedi’u rhoi
355 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
7.2 Astudiaeth achos: troi gorffennol mwyngloddio Cymru yn ddyfodol ynni glân
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gyflwyno mapiau cyfleoedd cyntaf Cymru ar gyfer gwres dŵr mwyngloddiau – set ddata genedlaethol fanwl sy’n dangos lle gall gwres dŵr mwyngloddiau gael yr effaith fwyaf.
Mae’r mapiau hyn bellach yn rhan ganolog o Strategaeth Gwres i Gymru Llywodraeth Cymru ac maent yn cefnogi sgyrsiau cynllunio ynni a datgarboneiddio ardal yn lleol ledled y wlad.
Nodwyd cyfle allweddol yn ein cynllun trin dŵr mwynglawdd Lindsay, ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr gwres adnewyddadwy lleol Thermal Earth Ltd – a gyda chefnogaeth cyllid Innovate UK – fe wnaethom helpu i ddatblygu a chyflawni cynllun gwres dŵr mwynglawdd cyntaf Cymru ar gyfer adeilad masnachol.
Cafodd y camau cynllunio a dylunio eu cwblhau mewn 6 mis, ac ni chymerodd y gwaith adeiladu fawr mwy na 2 wythnos.
Y system hon yw’r gyntaf yn y DU i ddefnyddio cyfnewidwyr gwres tanddwr yn un o lagwnau trin y cynllun dŵr mwynglawdd i ddal gwres dŵr mwynglawdd.
Erbyn hyn, mae’n cyflenwi gwres a dŵr poeth carbon isel i uned ddiwydiannol a swyddfeydd cyfagos, gan ddisodli systemau nwy petrolewm hylifedig ac arbed amcangyfrif o oddeutu 17.5 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
Mae’r canlyniadau wedi rhagori ar ddisgwyliadau. Mae’r system yn gweithredu ar lefel mwy na 400% effeithlon ac mae wedi lleihau costau rhedeg gan oddeutu 60%.
Mae’r cynllun, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cydweithio i Arloesi 2025, wedi denu sylw cenedlaethol. Ymwelodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Rebecca Evans AS â’r safle, gan ganmol Lindsay fel enghraifft flaenllaw o sut y gall Cymru droi ei gorffennol diwydiannol yn atebion ynni cynaliadwy.
Mae eu cefnogaeth yn tanlinellu’r hyn y mae’r prosiect yn ei ddangos: pan fydd uchelgais polisi, arbenigedd technegol ac arloesedd lleol yn gweithio gyda’i gilydd, gall y canlyniadau fod yn eithriadol.
Gan adeiladu ar lwyddiant Lindsay, rydym wedi dechrau gwaith cwmpasu i nodi safleoedd y GIG ledled Cymru sydd â’r potensial i elwa o’r dechnoleg carbon isel hon.
Rydym hefyd wedi dechrau edrych ar ymarferoldeb defnyddio gwres dŵr mwynglawdd gwastraff o’n cynllun trin Morlais i ddarparu gwres i ysgolion, tai cymdeithasol a datblygiadau cymysg eraill, gyda’n partneriaid o Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru.
Mae Lindsay yn enghraifft o’n dull datblygu gwres dŵr mwynglawdd: gwres carbon isel, diogel sy’n cael ei ddarparu’n gynaliadwy, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy, gan adfywio safleoedd diwydiannol a chefnogi Pontio Teg Cymru i ynni glân.
8. Iechyd, diogelwch a llesiant
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom lansio ein cynllun iechyd, diogelwch a llesiant (HSW) ar gyfer 2025 i 2028, gan nodi sut y byddwn yn rheoli risg ac yn cefnogi llesiant wrth i ni gyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Fe wnaethom ymateb i amrywiaeth o ddigwyddiadau diogelwch y cyhoedd gan weithio gyda phartneriaid a chontractwyr i ddiogelu pobl a’r amgylchedd.
Gwnaethom barhau i gryfhau ein trefniadau rheoli, gan ddiweddaru gweithdrefnau fel eu bod yn parhau i fod yn glir, yn ymarferol ac yn cyd-fynd â’n hanghenion gweithredol.
Mae ein cynllun iechyd, diogelwch a llesiant (HSW) ar gyfer 2025 i 28 yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd, ein cydweithwyr a’r rhai sy’n gweithio ar ein rhan.
Mae’n nodi sut y byddwn yn cynnal llywodraethiant a sicrwydd cryf ar yr un pryd â chefnogi diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros iechyd, diogelwch a llesiant.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ein gwaith drwy 3 galluogwr:
-
datblygu ein diwylliant sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch: hyrwyddo ymddygiad diogel, annog cydweithwyr i godi eu llais, a dysgu o ddigwyddiadau i atal niwed
-
technoleg ac arloesi: defnyddio data ac offer digidol i ganfod peryglon, asesu risg, rhannu gwybodaeth a chefnogi penderfyniadau gwell
-
cyflawni diogel drwy eraill: gosod disgwyliadau clir ar bartneriaid a’n cadwyn gyflenwi, cynnal goruchwyliaeth, a rhannu dysgu fel bod gwaith yn cael ei gyflawni’n ddiogel.
Rydym yn cyflawni’r cynllun drwy weithgareddau ymgysylltu a sicrwydd wedi’u targedu, gyda chymorth canllawiau a hyfforddiant, er mwyn i dimau ddeall yr hyn a ddisgwylir a sut mae’n berthnasol i’w rolau.
Mae technoleg ac arloesi yn alluogwr allweddol yng nghynllun Iechyd, Diogelwch a Llesiant 2025 i 2028.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom flaenoriaethu gwelliannau i’n system adrodd Iechyd, Diogelwch a Llesiant er mwyn ei gwneud yn haws canfod peryglon, cofnodi camau gweithredu a chael gafael ar wybodaeth reoli.
Roedd hyn yn cynnwys gwella ein hasesiad risg deinamig ar gyfer cydweithwyr sy’n teithio i’r safle, gan alluogi cwblhau gwiriad byr, strwythuredig cyn dechrau gweithio, sy’n cynorthwyo rheoli risg yn gyson ac yn atgyfnerthu cyfrifoldeb personol.
Fe wnaethom dreialu dangosfyrddau hunanwasanaeth i ddarparu gwybodaeth amserol a gwella sut mae ymweliadau arweinyddiaeth yn cael eu cofnodi a’u dilyn i fyny.
Mae’r newidiadau hyn yn cael eu cefnogi gan ganllawiau a hyfforddiant, ac maent yn cynyddu ein gallu i weld peryglon a chamau gweithredu er mwyn i ni allu targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf.
Rydym yn ymateb i nifer fawr o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn a chawsom ein herio’n arbennig ddechrau 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau cymhleth ac uchel eu proffil yn digwydd ar yr un pryd.
Buom yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi ac ymatebwyr eraill i sicrhau bod trefniadau gwydn ar waith i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant ein cydweithwyr, gweithluoedd contractwyr a chymunedau lleol.
Tra’r oedd timau’n darparu ein hymateb i ddigwyddiadau, fe wnaethom wella cymorth llesiant a chynnal goruchwyliaeth o iechyd, diogelwch a llesiant drwy gyfarfodydd digwyddiadau critigol.
Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu adnoddau arbenigol, dyrannu timau i ddigwyddiadau penodol a chynnal gweithgarwch busnes fel arfer drwy gymorth ehangach y sefydliad.
Byddwn yn parhau i gofnodi’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau hyn a’i ddefnyddio i wella ein trefniadau a chynnal diwylliant sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ar draws y sefydliad a’n cadwyn gyflenwi.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl fel bod ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth i gyflawni eu rolau’n ddiogel a gwarchod eu hiechyd a’u llesiant.
Mae rhywfaint o’n gwaith yn cael ei gyflawni mewn amodau heriol, gan gynnwys gweithgarwch ymateb i argyfwng.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom ganolbwyntio mwy ar feithrin gallu a hyder, gan gynnwys hyfforddiant Rheoli Risg Trawma (TRiM) i helpu cydweithwyr i baratoi ar gyfer gofynion y sefyllfaoedd hyn a’u rheoli.
Fe wnaethom gynnal 12 gweithdy adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), gan gyrraedd 107 o gydweithwyr, gyda’n grŵp ymgysylltu â staff yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a darparu.
Mae hyn yn meithrin gallu a hyder ymateb brys i weithredu’n gyflym os bydd rhywun yn mynd yn sâl. Fe wnaethom gefnogi hyfforddiant, gan gynnwys cwrs asesu risg y Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (NEBOSH), i feithrin ymwybyddiaeth o risg cyn ymweliadau safle a pharhau i weithio gyda Mines Rescue ar gyfer hyfforddiant ar fannau cyfyng arbenigol. Mae cynyddu’r defnydd o’n llwyfan dysgu i ddarparu un lle ar gyfer y rhan fwyaf o hyfforddiant Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn ei gwneud yn haws i reolwyr llinell gael mynediad ato ac yn gwella gwelededd.
Mae ein system rheoli iechyd, diogelwch a llesiant yn parhau i ddatblygu i adlewyrchu ein proffil risg a gofynion gweithredol sy’n newid.
Mae’r tîm Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y busnes i sicrhau bod ein trefniadau’n cael eu cofnodi, eu deall a’u defnyddio’n gyson.
Er enghraifft, gan ein bod wedi cyflwyno ystafell dechnoleg newydd i ddarparu cyfleuster mewnol i brofi dŵr, rydym wedi datblygu systemau gweithio a gweithdrefnau diogel ar y cyd i gefnogi gweithredu diogel.
Byddwn yn parhau i gryfhau ein gweithdrefnau a’n trefniadau sicrwydd, gan gynnwys ar gyfer gweithgareddau risg uwch, drwy lwybrau llywodraethiant sefydledig.
Mae ein data Iechyd, Diogelwch a Llesiant (HSW) ar gyfer 2025 i 2026 yn parhau i ddangos adroddiadau rhagweithiol cryf a ffocws clir ar ddysgu ac atal.
Rhoddodd cydweithwyr a chontractwyr wybod am gyfanswm o 1,387 o arsylwadau’n ymwneud â gweithredoedd neu amodau anniogel a 594 o enghreifftiau o arferion da, gan adlewyrchu diwylliant adrodd iach a chydberchnogaeth ar ddiogelwch.
Bu cynnydd yn yr arolygiadau Iechyd, Diogelwch a Llesiant ffurfiol a gynhaliwyd gan gydweithwyr, gyda 490 wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn.
Ochr yn ochr â hyn, codwyd 833 o gamau gweithredu Iechyd, Diogelwch a Llesiant a’u holrhain drwy’r system reoli HSW.
Mae hyn yn rhoi sicrwydd clir bod materion a nodwyd drwy arsylwadau ac arolygiadau yn cael eu dilyn hyd at eu cwblhau.
Mae nifer yr arolygiadau a’r camau gweithredu yn dangos dull mwy aeddfed a sefydledig o reoli risg a sbarduno gwelliant parhaus.
Rydym yn parhau i anelu at beidio â chael unrhyw ddamweiniau na digwyddiadau.
Yn ystod y flwyddyn cafwyd 13 damwain heb golli amser a dim damweiniau colli amser wedi’u cofnodi.
Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) ar gyfer cydweithwyr na chontractwyr.
Mae pob damwain a damwain a fu bron â digwydd yn cael ei chymryd o ddifrif, gydag adolygiad llawn yn cael ei gynnal i nodi’r hyn a ddysgwyd a sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwreiddio i helpu pawb i gadw’n ddiogel.
| Mesurau rhagweithiol | 2024 i 2025 | 2023 i 2024 |
|---|---|---|
| Arsylwi HSW ar weithredoedd neu amodau anniogel (staff a chontractwyr) | 1387 | 1224 |
| Arsylwadau HSW – enghreifftiau o arferion da (staff a chontractwyr) | 594 | 486 |
| Archwiliadau HSW (staff) | 490 | 293 |
| Camau gweithredu HSW (staff a contractwyr) | 833 | 594 |
| Mesurau rhagweithiol | 2024 i 2025 | 2023 i 2024 |
|---|---|---|
| Damweiniau – dim amser wedi’i golli (staff a chontractwyr) | 13 | 13 |
| Damweiniau – amser wedi’i golli (staff a chontractwyr) | 0 | 0 |
| Digwyddiadau – RIDDOR (staff a chontractwyr) | 0 | 1 |
9. Ein Gwaith yn Lloegr
9.1 Ein blwyddyn yn Lloegr
7,661 archwiliad o fynedfeydd mwyngloddiau wedi’u cynnal
55,698 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno
93 biliwn litr o ddŵr mwyngloddiau wedi’i drin
544 o beryglon mwyngloddio, hawliadau ymsuddiant a galwadau brys wedi’u harchwilio a’u hasesu
5,855 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio wedi’u rhoi
2,627 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
9.2 Astudiaeth achos: Camberwell Drive, Ashton-under-Lyne
Rhan greiddiol o’n cenhadaeth yw rheoli gwaddol mwyngloddio Prydain Fawr a diogelu cymunedau drwy ddarparu atebion ymateb i ddigwyddiadau ac adfer i ymsuddiant sy’n gysylltiedig â mwyngloddio.
Rhwng 2025 a 2026, rydym wedi gweithio gyda Chyngor Tameside, a phartneriaid allweddol eraill, i ddylunio a darparu ateb diogel parhaol yn dilyn cwymp tir yn Camberwell Drive, Ashton-under-Lyne.
Mae hwn yn un o’n prosiectau diogelwch cyhoeddus mwyaf arwyddocaol ac mae wedi cael ei siapio gan fewnbwn lleol o’r cychwyn cyntaf.
Roedd y tir wedi cwympo o ganlyniad i ddeunydd yn symud uwchben siafft mwynglawdd a oedd yn gysylltiedig â hen Lofa Limehurst, a fu’n gweithredu yn yr ardal rhwng 1852 a 1899.
Roedd mynediad i siafft y mwynglawdd oddeutu 50 metr o dan y ddaear ac mae ein cofnodion yn dangos bod y siafft wedi cael ei hôl-lenwi yn yr 1960au.
Yn fwy diweddar, cafodd y siafft ei growtio gan ddatblygwr tai yn 1989, cyn gosod cap ar draws top y siafft i’w selio’n llwyr.
Yn anffodus, er gwaethaf y mesurau hyn, roedd symud yn y ddaear uwchben y siafft yn golygu ei bod yn ofynnol i ni gymryd camau i sicrhau sefydlogrwydd yr ardal leol.
Roedd dyfnder y siafft, a’r lle cyfyngedig ar yr ystâd dai gylchog, yn gwneud y prosiect yn gymhleth ac yn heriol, i’n timau ni ac i drigolion lleol.
Datblygwyd dyluniad a dull ein gwaith adfer yn uniongyrchol mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd preswylwyr wrthym oedd bwysicaf, ac roedd partneriaeth wrth galon sut roeddem yn gweithio drwy gydol y broses.
Fe wnaethom roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ac ymgynghori â nhw ar bob cam.
Fe wnaethom gynnal digwyddiadau cymunedol yn gynnar gyda’r nos i gynorthwyo preswylwyr sy’n gweithio a rhieni i fod yn bresennol, ac roedd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfleoedd i’r gymuned leol adolygu’r cynlluniau, gofyn cwestiynau a chodi unrhyw bryderon am y gwaith.
Fe wnaethom gwrdd â rhai preswylwyr yn unigol i ddeall eu hamgylchiadau personol, gan ddarparu cymorth ychwanegol lle bo angen.
Cyn i’r gwaith ddechrau, fe wnaethom ddargyfeirio gwasanaethau hanfodol a gosod platfform diogelwch; ar 36.5 metr o hyd, dyma’r platfform mwyaf rydyn ni wedi’i ddefnyddio, ac roedd angen craen 300 tunnell i’w osod.
Roedd y platfform hwn yn ganolog i’r prosiect. Rhoddodd yr wybodaeth yr oedd ei hangen ar ein tîm i lywio amodau tir cymhleth yn ofalus, ac yn hollbwysig, helpodd ni i ddod o hyd i siafft y pwll glo, gan roi’r hyder i ni symud y prosiect yn ei flaen yn ddiogel.
Gwnaethom sefydlogi siafft y mwynglawdd drwy chwistrellu growt o 60 metr dan lefel y tir i fyny i’r wyneb, gan greu plwg solet i atal y tir rhag symud ymhellach.
Nawr bod y gwaith o sefydlogi’r tir wedi’i gwblhau, rydyn ni’n adeiladu’r cap concrid parhaol sy’n cael ei gynnal gan 36 o seilbyst concrid wedi’i atgyfnerthu.
Mae’r cap 15 metr sgwâr wedi’i ddylunio i gario llwythi trwm a diogelu siafft y mwynglawdd yn barhaol.
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn gymhleth, ond rydym wedi gweithio’n galed i darfu cyn lleied â phosibl ac i reoli’r safle i’r safonau uchaf.
Diogelu eiddo cyhoeddus a sicrhau diogelwch y cyhoedd fu ein blaenoriaeth bob amser, ac mae gofal a pharch at yr ardal leol wedi bod yn ganolog i’r ffordd rydym wedi mynd i’r afael â’r prosiect hwn o’r diwrnod cyntaf.
Wrth i ni nesáu at gwblhau’r gwaith, rydyn ni’n falch o fod yn darparu ateb hirdymor sy’n canolbwyntio ar y gymuned y gall yr ardal leol ddibynnu arno am flynyddoedd i ddod.
10. Ein pobl
Mae ein pobl yn hanfodol i’n gwaith rheng flaen a’n hymateb brys ac i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae eu gwaith caled a’u harbenigedd yn ein galluogi i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth, cynorthwyo cwsmeriaid yn effeithiol, a manteisio i’r eithaf ar yr hyn y gallwn ei gyflawni.
I’w cynorthwyo, rydym wedi buddsoddi mewn dysgu a datblygu wedi’u targedu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r buddsoddiad hwn yn cryfhau gallu ar draws y sefydliad, yn gwella hyder mewn arferion arwain a rheoli, ac yn cefnogi cynnydd mewnol.
O ganlyniad, mae cydweithwyr mewn gwell sefyllfa i ymateb i ofynion gweithredol, rheoli newid a darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol.
Mae gwrando ar gydweithwyr yn parhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu.
Mae ein rhaglen ‘lle gwych i weithio’, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn defnyddio adborth cydweithwyr i lywio penderfyniadau, gwella prosesau a chyflwyno arbedion effeithlonrwydd sy’n galluogi pobl i ganolbwyntio ar gyflawni gweithredol.
Gan ddefnyddio dulliau ymgysylltu strwythuredig, gan gynnwys trafodaethau wedi’u hwyluso a sianeli adborth, rydym yn cynorthwyo cyfathrebu agored a gwelliant parhaus.
Rydym yn parhau i wneud cynnydd cadarn a pharhaus o ran gwreiddio cynhwysiant mewn ymarfer bob dydd, gyda chymorth cynlluniau clir, arweinyddiaeth gyson ac adroddiadau tryloyw.
Mae lansio ein cynllun cynhwysiant bob dydd a’n blaenoriaethau gwrth-hiliaeth yn cryfhau ymhellach ein dull cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddarparu fframwaith ar y cyd ar gyfer y ffordd yr ydym yn arwain, yn gweithio gyda’n gilydd ac yn darparu gwasanaethau.
Mae ein dadansoddiad o’r bwlch cyflog yn 2025 yn dangos cynnydd cryf a pharhaus, gyda bylchau cyflog rhwng y rhywiau ac o ran ethnigrwydd bron wedi haneru, bylchau anabledd a bonws yn gwella, a pherfformiad yn cymharu’n ffafriol â meincnodau cenedlaethol.
Mae cynrychiolaeth ar draws nodweddion gwarchodedig yn parhau i wella, gan adlewyrchu’r ffordd y mae cynhwysiant wedi’i wreiddio yn ein prosesau recriwtio, datblygu, gwobrwyo a chefnogi.
Mae ein hymrwymiad i symudedd cymdeithasol yn parhau i fod yn gryf.
Rydym yn cynnig prentisiaethau a llwybrau gyrfa cynnar, gan weithio gydag ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion i hyrwyddo profiad gwaith a chyfleoedd interniaeth.
Mae prentisiaid yn cael eu cynorthwyo i ddeall ein gwaith, cyfrannu at brosiectau allweddol a chael profiadau dysgu ystyrlon sy’n atgyfnerthu eu rôl o ran cyflawni gwaith gwerth chweil.
Fe wnaethom gryfhau effeithiolrwydd y sefydliad drwy nifer o fentrau allweddol, gan gynnwys lansio BrightMines, ein cynllun syniadau ar draws y sefydliad, sy’n annog syniadau am arloesi ac effeithlonrwydd o bob rhan o’r busnes.
Datblygwyd ein fframwaith gwerthoedd ar waith ymhellach, gan helpu cydweithwyr i drosi gwerthoedd sefydliadol yn ymddygiadau bob dydd, cefnogi gwell cydweithio a chyflwyno prosiectau a gwasanaethau’n fwy effeithiol i gwsmeriaid a chymunedau.
Parhaodd datblygu gallu i fod yn flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael yn Core, ein llwyfan dysgu a lansiwyd ym mis Mawrth 2025, wedi ehangu, gan roi mwy o fynediad i gydweithwyr at ddysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamcanion personol.
Mae hyn yn cefnogi symudedd talent mewnol ac yn galluogi cydweithwyr i symud ymlaen i rolau newydd.
Mae ein rhaglenni arweinyddiaeth yn cryfhau gallu a chysondeb o ran sut mae timau’n cael eu harwain a sut mae gwaith yn cael ei gyflawni, ac yn cefnogi cynnydd mewnol, gan ein helpu i lenwi swyddi wrth i anghenion godi.
Mae’r rhaglen Arwain Gyda’n Gilydd yn atgyfnerthu ymddygiadau arwain cynhwysol, gan alluogi arweinwyr i gefnogi perfformiad tîm effeithiol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r sefydliad.
Mae’r rhaglen gyrfaoedd cynnar yn parhau i gryfhau ein llif o dalent yn y dyfodol, gan gefnogi’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth, gwydnwch sefydliadol a safbwyntiau newydd sy’n sbarduno arloesedd a gwelliant parhaus.
Mae ein gweithgarwch cynllunio’r gweithlu yn cael ei siapio gan flaenoriaethau’r sefydliad ac mae data a gwybodaeth am y gweithlu yn ein galluogi i ganolbwyntio ymdrechion lle mae’n cael yr effaith fwyaf.
Rydym yn ei ddefnyddio i gefnogi cynllunio olyniaeth a datblygu wedi’i dargedu mewn meysydd lle mae sgiliau’n brin neu lle mae gallu arbenigol yn hanfodol i gyflawni.
Mae cysoni cynllunio’r gweithlu ag anghenion gallu yn y dyfodol yn ein galluogi i gynllunio a chynnal y gwaith o ddarparu ein gwasanaethau yn fwy hyderus.
Fe wnaethom gryfhau llywodraethiant drwy ddatblygu canllaw polisïau, sy’n helpu i ddarparu dull cyson a thryloyw o reoli polisi a chefnogi arferion rheoli pobl teg ac effeithiol.
Mewn ymateb i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025, rydym yn diweddaru polisïau ac yn rhoi arweiniad a hyfforddiant i reolwyr.
Mae llesiant ein pobl yn hanfodol i’n heffaith.
Rydym yn parhau i ddatblygu rhwydweithiau sy’n cael eu harwain gan gydweithwyr, gan gynnwys lansio ein rhwydwaith teuluoedd a gofalwyr a’n rhwydwaith hygyrchedd, sy’n darparu cymorth ymarferol gan gymheiriaid, helpu cydweithwyr i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a phersonol a llywio drwy heriau.
Mae ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a’n rhaglen cymorth i weithwyr yn parhau i gynnig cymorth hygyrch ar-alw sy’n helpu cydweithwyr i reoli pwysau o ddydd i ddydd ac yn helpu i gynnal eu llesiant yn y gwaith.
Rydym yn canolbwyntio ar fod yn lle gwych i weithio ynddo, lle mae ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u cefnogi.
Drwy feithrin sgiliau a hyder, gwreiddio cynhwysiant, a datblygu arweinyddiaeth effeithiol, rydym yn creu amgylchedd lle gall pawb ffynnu a chael eu galluogi i ddarparu ein gwasanaethau, cefnogi ein cymunedau ac ymateb i heriau cymhleth wrth iddynt godi ledled Prydain Fawr.
11. Astudiaeth achos: Ein gwaith i wella gwerth amgylcheddol a chymdeithasol
Rydym yn rheoli dŵr mwyngloddiau ym Mhrydain Fawr i atal llygru dŵr yfed, afonydd a’r môr.
I wneud hyn, rydym yn gweithredu ac yn cynnal 82 o gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, 10 gorsaf bwmpio ymsuddiant ac yn casglu ac yn storio data o dros 700 o bwyntiau monitro.
Mae cyflawni ein rhaglenni amgylcheddol yn gynaliadwy yn allweddol i’n dull gweithredu ac mae’n caniatáu i ni fod yn fwy effeithlon ac effeithiol, a sicrhau gwell gwerth am arian.
Mae ein rhaglenni’n cynnwys dylunio, adeiladu a gweithredu cynlluniau trin.
Mae hyn yn cynnwys tynnu sgil-gynnyrch ocr o’n lagwnau setlo sy’n cael eu creu yn ystod y broses drin ac adnewyddu’r gwelyau cyrs yn ein safleoedd, i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i berfformio’n effeithiol.
Rydym hefyd yn drilio tyllau turio i fonitro lefelau dŵr mwyngloddiau sy’n codi i ddiogelu dyfrhaenau dŵr yfed hanfodol.
Mae ein nodau cynaliadwyedd a’n huchelgeisiau gwerth cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r rhaglenni hyn yn ein hymestyn yn fwriadol ac yn ein hannog i fod yn uchelgeisiol o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n cydweithwyr, ein partneriaid a’n cadwyn gyflenwi.
Mae’r gwaith adeiladu bron â dod i ben yn ein cynllun trin dŵr mwynglawdd yn Thorpe Hesley, ger Rotherham.
Mae’n chwarae rhan allweddol yn ein strategaeth o reoli dŵr mwyngloddiau sy’n codi ar draws maes glo Swydd Efrog a bydd yn cyfrannu at ddiogelu adnoddau dŵr sy’n gallu cyflenwi’r hyn sydd gyfwerth â defnydd dŵr domestig dros 550,000 o bobl.
Yn ystod y cam adeiladu, buom yn gweithio’n galed i wneud i’r prosiect weithio i bobl leol ac roedd y cynlluniau gwerth cymdeithasol roeddem yn gallu eu cyflawni yn cynnwys dargyfeirio hawl tramwy cyhoeddus a llwybr ceffylau i’w wneud yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb sy’n ei ddefnyddio.
Ar ôl ymgysylltu â’r gymuned farchogion yn yr ardal a gwrando arni, fe ddysgon ni fod lliw rhwystrau adeiladu traddodiadol yn gallu dychryn ceffylau.
Felly, fe wnaethom newid lliw ein rhwystrau – addasiad bach a roddodd dawelwch meddwl i’r marchogion a diogelu lles yr anifeiliaid.
Gosodwyd blychau tylluanod ac ystlumod yn y safle ac o’i gwmpas, yn ogystal â phlannu coed a llwyni o amgylch ffin y cynllun.
Mae hyn yn sgrinio’r cyfleuster trin oddi wrth bentref Scholes gerllaw ac yn ein galluogi i wella natur a bioamrywiaeth ar draws y tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae cynnwys y gymuned wedi bod yn ganolog i’r prosiect hwn ers y dechrau.
Denodd diwrnod plannu cyrs ddiddordeb mawr gan drigolion ac ysgol gynradd gyfagos, gyda chyfranogwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at greu cynefinoedd newydd ar y safle.
Rydym bellach wedi cwblhau arolygon cynefin yn 65 o’n cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ganiatáu i ni ddatblygu cynllun rheoli ecolegol manwl ar gyfer pob safle.
Mae gan bob safle adroddiad arolwg unigol a map cynefin, sy’n adnodd data asedau naturiol i gefnogi ein penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae gwelyau cyrs yn hanfodol i weithrediad rhai o’n cynlluniau triniaeth.
Maen nhw’n hidlo llygryddion o ddŵr mwyngloddiau, ond dros amser maen nhw’n cael eu tagu â deunydd ac yn dod yn llai effeithiol.
Mae gwaith adnewyddu rheolaidd yn rhoi cyfle iddynt adfer a sicrhau bod ein cynlluniau’n parhau i berfformio’n dda.
Mae hefyd yn helpu i gynnal cynefinoedd ar gyfer adar, fel bras y cyrs.
Pan fyddwn yn tynnu’r deunydd ocr sydd wedi cronni dros amser yn ein lagwnau trin, mewn proses a elwir yn lanhau (desludging), rydym yn chwilio am ddewisiadau amgen arloesol yn lle tirlenwi.
Mae hyn yn cynnwys ei ddefnyddio yn y diwydiant treulio anaerobig, gan ddisodli’r angen i fewnforio cynhyrchion o Ewrop wedi’u gwneud gan ddyn, gan helpu i leihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a chludo’r cynnyrch i’r DU.
Mae’r cynnyrch ocr yn cael ei ddefnyddio i ddal hydrogen sylffid, sy’n lleihau’r risg o arogl o’r broses ac yn lleihau’r gwaith cynnal a chadw ar y peiriannau, ochr yn ochr â chyflawni gwelliannau perfformiad o fwy na 30% o’i gymharu â chynnyrch haearn confensiynol.
Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio i adfer tir, lle mae’n cynorthwyo trin pridd sydd wedi’i halogi’n drwm â sylweddau fel arsenig neu blwm, gan helpu’r diwydiant datblygu i drin tir halogedig a chreu cyfleoedd ychwanegol o ran defnydd tir.
Mae’r dull ailgylchu ac ailddefnyddio hwn yn cefnogi economi gylchol, yn arbed arian i’r trethdalwr ac yn cyfrannu at ein huchelgais i ddod yn sefydliad sero net.
12. Risgiau strategol
| Risgiau strategol | Diweddariad a lliniaru | Sgôr gymharol a thuedd yn ystod y flwyddyn |
|---|---|---|
| Diogelwch y cyhoedd – perygl sylweddol ar yr wyneb a achoswyd gan waith cloddio glo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle gwaddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth. | Mae gennym brosesau sydd wedi hen sefydlu i reoli ein risgiau gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell ymateb brys 24/7. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu. | Uchel (sefydlog) |
| Newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol – nid ydym yn gallu deall, addasu a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn ddigonol, sy’n effeithio ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith. | Mae ein rhaglenni adnewyddu ac adeiladu ag arian cyfalaf sylweddol wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac yn atal llygredd a llifogydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o effaith addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau a bydd hyn yn helpu i siapio ein gwaith a’n rhaglenni ar gyfer y dyfodol. | Uchel (sefydlog) |
| Dŵr mwynglawdd halwynog o feysydd glo mewndirol – mae perygl y bydd dŵr mwynglawdd halwynog heb ei drin yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd os na chymerir camau i adfer y sefyllfa. | Mae dadansoddiad o’n gwaith monitro ar feysydd glo mewndirol Lloegr yn dangos bod cemeg dŵr mwyngloddiau yn heriol dros ben ac y bydd angen triniaeth ychwanegol i’r hyn a gyflawnir fel arfer, yn y dyfodol. Mae ein gwaith arolygu ac archwilio i ddeall maint a graddfa’r mater hwn yn unol â’r targed, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu opsiynau cynaliadwy i reoli’r risg. | Uchel (sefydlog) |
| Digwyddiadau – mae maint digwyddiadau critigol/mawr, neu’r ffaith eu bod yn gallu cyd-ddigwydd, yn effeithio ar allu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni ei amcanion strategol. | Rydym yn gweithio’n galed i gynnal ein gwydnwch a’n parodrwydd i ymateb i argyfwng ac yn gweithio gyda phartneriaethau gwydnwch lleol a phartneriaethau gwydnwch rhanbarthol ledled Prydain Fawr i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i argyfyngau a digwyddiadau sy’n digwydd ar y maes glo. Mae hyn wedi galluogi ymateb effeithiol a rhagweithiol i nifer o ddigwyddiadau sylweddol yn ystod 2025 i 2026. | Uchel (yn codi) |
| Methiant seiberddiogelwch – mae hinsawdd wleidyddol y byd, dibyniaeth ddigidol gynyddol, dulliau cynyddol soffistigedig ac arloesol o ymosod yn arwain at fethiant seiberddiogelwch, gan arwain at golli arian neu ddata, amharu ar wasanaeth neu niweidio enw da. | Mae lefel bygythiad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn parhau i fod yn uwch, gan adlewyrchu’r dirwedd risg fyd-eang. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant cryf o ymwybyddiaeth seiber, cynnal rheolaethau technegol cryf, a sicrhau bod gennym weithdrefnau gwydn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau. | Uchel (yn codi) |
| Ansicrwydd byd-eang ac ansefydlogrwydd macroeconomaidd – ansefydlogrwydd geowleidyddol, gwrthdaro rhyngwladol, tarfu ar fasnach ac ansicrwydd economaidd byd-eang ehangach, yn sbarduno pwysau chwyddiant parhaus, ansefydlogrwydd mewn marchnadoedd ynni a nwyddau a tharfu ar gadwyni cyflenwi, gan gynyddu cost cyflenwi ac effeithio ar allu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni ei amcanion strategol. | Rydym yn ystyried datblygiadau economaidd a geo-wleidyddol byd-eang ac yn asesu eu heffeithiau posibl ar chwyddiant, cadwyni cyflenwi a fforddiadwyedd drwy ein fframweithiau cynllunio a rheoli ariannol. Rydym yn lliniaru risg y gadwyn gyflenwi drwy ymgysylltu â’r farchnad, rheoli contractau’n effeithiol a blaenoriaethu gweithgarwch i gynnal gwerth am arian a pharhad cyflenwi ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. | Uchel (yn codi) |
| Polisi’r Llywodraeth – newidiadau polisi a deddfwriaeth mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan gynnwys mwy o wahaniaethau mewn blaenoriaethau ar draws y 3 gwlad a achosir gan ragor o ddatganoli, yn achosi aneffeithlonrwydd, her gyfreithiol, ansicrwydd neu effeithiau ar enw da. | Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraethau a phartneriaid yn y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu i gyflawni ein gwaith mewn ffordd sy’n cefnogi eu blaenoriaethau a’u cynlluniau ac i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn y DU ac yn genedlaethol. | Canolig (sefydlog) |
| Data/gwybodaeth – oherwydd diffyg adnoddau neu flaenoriaethu neu oherwydd arafwch o ran mabwysiadu technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial (AI), nid ydym yn gallu datblygu ein data a’n gwybodaeth i ddiwallu anghenion ein busnes a’n rhanddeiliaid ni ein hunain, gan arwain at anallu i gyflawni yn erbyn ein hamcanion strategol a chreu gwerth. | Rydym yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn ein cynllun data a gwybodaeth a gyhoeddwyd yn 2023 i 2024, sy’n amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu i’r eithaf werth cymdeithasol ac amgylcheddol ein data ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr. Bydd ein rhaglen gwella data yn cadw ein data’n addas i’r diben ac rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i’n helpu i reoli ein data a’n gwybodaeth yn fwy effeithiol. | Canolig (sefydlog) |
| Arloesi – oherwydd adnoddau mewnol cyfyngedig neu brosesau mewnol a/neu gleientiaid, gall datblygu/darparu cynnyrch neu wasanaeth gymryd mwy o amser na’r disgwyl, gan arwain at oedi wrth greu gwerth a/neu arbedion costau. | Rydym yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio ein hystadau a’n sgil-gynhyrchion i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Rydym wedi gwneud rhagor o gynnydd o ran galluogi cyfleoedd gwres o ddŵr mwynglawdd ac rydym yn ymchwilio i gyfleoedd i ailddefnyddio’r dŵr mwynglawdd rydym yn ei drin. | Canolig (sefydlog) |
| Iechyd, diogelwch a llesiant – rydym yn methu ag adnabod a rheoli’n briodol risgiau iechyd a diogelwch sy’n arwain at farwolaeth, anaf, afiechyd neu lesiant gwael i unrhyw un y mae ein gweithgareddau a/neu ein hasedau’n effeithio arnynt. | Rydym yn parhau i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles pobl ac mae gennym brosesau a gweithdrefnau gwydn a rhagweithiol ar waith. Rydym wedi parhau i adeiladu ar ein hachrediad 5 seren llwyddiannus gan Gyngor Diogelwch Prydain, gan ddangos ein hymrwymiad parhaus i iechyd, diogelwch a llesiant a’u rheoli’n effeithiol. | Isel (sefydlog) |
| Ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaid – mae strategaeth aneffeithiol o ran ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid yn golygu nad oes gan randdeiliaid ddealltwriaeth glir o’n cylch gwaith a’n gweithgareddau sy’n arwain at golli cyfleoedd i wella canlyniadau ar y maes glo ac ar gyfer cymunedau. | Yn dilyn newid ein henw a chyhoeddi ein cynllun busnes newydd, rydym wedi parhau i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’n gwaith ac annog eraill i weithio mewn partneriaeth â ni i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i wella canlyniadau ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. | Isel (sefydlog) |
13. Astudiaeth achos: ein gwaith yn croesawu technoleg i greu dealltwriaeth sy’n seiliedig ar ddata
Mae gennym gasgliad unigryw a helaeth o ddata a gwybodaeth sy’n cofnodi gwaddol mwyngloddio Prydain Fawr a’i effeithiau ar bobl, lleoedd a’r amgylchedd.
Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i gefnogi ein gweithgareddau rheng flaen i ddiogelu’r amgylchedd a chadw pobl yn ddiogel, ac i gynorthwyo datblygiad cynaliadwy a thwf economaidd.
Credwn fod gan arloesedd sy’n cael ei yrru gan ddata y potensial i drawsnewid sut rydym ni, ac eraill, yn cefnogi dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Ar adeg o newid technolegol cyflym a mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn gyflymach, rydym wedi mabwysiadu dull gweithredu ystyriol, gan fuddsoddi mewn data, sgiliau a gallu digidol i foderneiddio ein gweithrediadau, gwireddu gwerth ein hasedau gwybodaeth, a darparu gwasanaethau mwy effeithlon a gwydn.
Rydym wedi bod yn harneisio pŵer deallusrwydd artiffisial (AI) i ddatgloi gwybodaeth o’n harchif o gynlluniau mwyngloddiau hanesyddol.
Mae’r archif hon yn cynnwys oddeutu 120,000 o gynlluniau, rhai’n dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg.
Er gwaethaf eu hoedran, mae’r cynlluniau hyn yn parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth am amodau tanddaearol, gan gynnwys hyd a lled a chysylltedd gweithfeydd cloddio glo.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Hartree (sydd, gyda chefnogaeth cyllid gan y llywodraeth a phartneriaethau diwydiant strategol, yn galluogi sefydliadau’r sector cyhoeddus a busnesau’r DU i fabwysiadu technolegau uwchgyfrifiadura, gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i sbarduno cynhyrchiant ac arloesedd) ac IBM, datblygodd gwyddonwyr data lif gwaith sy’n canfod ac yn echdynnu nodweddion sy’n gysylltiedig â mwyngloddio o gynlluniau hanesyddol y mwyngloddiau.
Mae’r llif gwaith yn nodi ac yn echdynnu nodweddion mwyngloddio yn awtomatig, ynghyd â thestun a labeli cysylltiedig, i gronfa ddata strwythuredig.
Mae ein timau arbenigol wedyn yn dilysu’r allbynnau cyn eu derbyn i’n cronfeydd data corfforaethol.
Mae’r llif gwaith hwn yn caniatáu i ni gasglu llawer iawn o wybodaeth yn llawer cyflymach na dulliau llaw, gan ein helpu i greu darlun mwy cywir o weithgarwch tanddaearol.
Ochr yn ochr â’n defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, rydym wedi ehangu ein defnydd o dechnolegau arsylwi’r ddaear i gryfhau sut rydym yn nodi, yn asesu ac yn rheoli peryglon sy’n gysylltiedig â mwyngloddio.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwy o ddata drôn a lloeren i fapio nodweddion yr arwyneb ac asesu cyflwr y tir.
Yn dilyn pryderon am ddiogelwch tomennydd gwastraff a holltau yn y bryniau o amgylch Abertyleri yn Ne Cymru – gwaddol o hanes cloddio glo dwfn y rhanbarth – fe wnaethom ddefnyddio data Canfod ac Anelu Golau (LiDAR) a gafwyd o arolygon o’r awyr a gyda dronau i fesur yn effeithlon a gwerthuso’n ddiogel y nodweddion posibl hyn sy’n gysylltiedig â mwyngloddio, gan ein helpu i asesu’r risg i gymunedau lleol heb achosi perygl i bobl.
Ar ben hynny, mae data LiDAR wedi cefnogi ymchwiliadau i sut mae gweithfeydd mwyngloddio’n cysylltu dan ddaear a sut mae dŵr mwynglawdd yn symud drwyddynt, gan ein helpu i ddeall lle gallai dŵr mwynglawdd ddod i’r amlwg ar yr wyneb.
Yn ein cynllun trin dŵr mwynglawdd yn Lynemouth, Gogledd Ddwyrain Lloegr, rydym wedi defnyddio tirfesur â drôn i ddeall ein hasedau a’r ffordd orau o’u diogelu dros amser, gan gydweithio ag Arolwg Daearegol Prydain i gael strategaeth monitro erydu bwrpasol ar gyfer y safle arfordirol unigryw hwn.
Gyda’i gilydd, mae’r cynlluniau hyn yn dangos sut rydym yn defnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol wedi’i thargedu, gan gyfuno arloesedd â goruchwyliaeth arbenigol i gynyddu gwerth ein data i’r eithaf, cryfhau’r gwaith o reoli risg, a diogelu pobl, cymunedau a’r amgylchedd yn well.
14. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd
Rydym wedi gwneud rhagor o gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau yn ein cynllun cynaliadwyedd 2023 i 2026, rydym wedi gwella ein gwaith o ran y llinell sylfaen a chasglu tystiolaeth ac rydym yn barod i ddechrau adrodd yn erbyn Ymrwymiad Gwyrddu llywodraeth newydd y DU yn 2026 i 2027.
Rydym wedi cymryd camau ymarferol i dyfu ein hystâd solar a’i gwneud mor effeithlon â phosibl er mwyn cefnogi datgarboneiddio a sicrhau gwerth i’r trethdalwr.
Rydym yn parhau i ddysgu gan eraill ac i fod yn onest am yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth wneud y cynnydd rydym yn anelu ato ac i addasu i effeithiau’r hinsawdd sy’n newid sy’n dylanwadu fwyfwy ar ein gwaith.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom ddechrau gosod 2,400 o baneli solar newydd ar 2 safle cynllun trin dŵr mwynglawdd yng Ngogledd-ddwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr gyda chapasiti cynhyrchu cyfun o 1.2 megawat ar y brig (MWp).
Rydym hefyd wedi newid paneli sydd wedi cael eu difrodi neu eu dwyn ar draws ein hystâd solar bresennol gan adfer 153kw o gapasiti cynhyrchu, digon o drydan i bweru 36 o gartrefi cyffredin yn y DU am flwyddyn.
Rydyn ni wedi dechrau gosod storfa fatri ar safleoedd i wneud y defnydd gorau posibl o’r ynni solar rydyn ni’n ei gynhyrchu ac rydyn ni wedi datblygu dull cynnal a chadw newydd, arfer gorau a fydd yn helpu i sicrhau bod ein safleoedd yn gallu gweithredu mor effeithlon â phosibl.
Bydd y gwaith hwn yn lleihau ein hallyriadau carbon ac yn sicrhau gwerth i’r trethdalwr drwy leihau ein costau ynni yn y tymor hir.
Yn ystod 2025 i 2026, roedd ein hallyriadau a’r ynni a gynhyrchwyd yn cyd-fynd yn fras â 2024 i 2025.
Gostyngodd cyfanswm ein hallyriadau ychydig oherwydd amrywiadau tymhorol mewn glawiad a datgarboneiddio’r grid yn ehangach.
Yn ystod y flwyddyn, rydyn ni wedi gweld effeithiau tywydd gwlyb a thywydd sych am gyfnodau hir.
Rydym yn gweld mwy a mwy o effeithiau hinsawdd sy’n newid yn ein gwaith ac yn cymryd camau i addasu i hyn.
Mae hyn yn cynnwys gwaith agos gyda Llywodraeth Cymru i ystyried effeithiau tymor canolig a thymor hir ar reoli tomennydd.
Rydym am sicrhau bod ein cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn adlewyrchu’r realiti gweithredol hyn ac rydym wedi herio ein hunain ynghylch sut y gallwn ddefnyddio ein data a’n technolegau newydd i lywio’r gwaith o asesu ac ymateb i risg yn well.
Bydd ein cynllun 3 blynedd ar addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn adlewyrchu’r meddylfryd hwn a bydd nawr yn cael ei gyhoeddi yn 2026 i 2027.
Rydym wedi gwneud cynnydd da yn erbyn ein nodau adfer natur.
Rydyn ni wedi llunio gwaelodlin lawn i’r mathau o gynefinoedd a’r amodau ar draws pob un o’n 65 cynllun trin dŵr mwyngloddiau sy’n cynnwys cynefinoedd, ac wedi datblygu cynllun rheoli cynefinoedd manwl ar gyfer pob safle.
Fe wnaethom gynnal arolygon cynefin mewn 7 o’n tomenni glo eraill, a chynhyrchu cynlluniau rheoli ar gyfer 2 o’r rhain.
Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i ddiogelu, gwarchod ac adfywio’r cynefinoedd a’r rhywogaethau gwaddol mwyngloddio amrywiol ac unigryw y mae ein hystâd yn eu cynnal.
Ar ben hynny, buom yn gweithio mewn partneriaeth â Grwpiau Amffibiaid ac Ymlusgiaid y DU i wella cynefinoedd ar gyfer gwiberod, rhywogaeth warchodedig, ar ein safle yng Nghoed Cannock.
Cefnogwyd hyn gan gyllid gan dîm Tirwedd Genedlaethol Cannock Chase.
Mae darparu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr yn rhan allweddol o’n dull gweithredu.
Rhwng 2025 a 2026, buom yn gweithio’n agos gyda’n cadwyn gyflenwi yn ystod y gwaith o adeiladu 2 gynllun trin dŵr mwynglawdd newydd i greu manteision cymunedol ystyrlon.
Roedd hyn yn cynnwys darparu cyngor a chymorth gyrfaoedd wedi’i dargedu i ysgolion lleol, cynnal ymweliadau â phrifysgolion, a darparu allgymorth addysgol i dros 1,000 o unigolion.
Ar ben hynny, cafodd 3 chyfle prentisiaeth eu creu.
Yn ystod y gwaith o adeiladu’r 2 safle hyn, dyfarnwyd contractau gwerth dros £2.2 miliwn i gyflenwyr lleol, gyda dros 60% o’r gwariant ar un safle wedi’i gyfeirio at fusnesau bach a chanolig (SME).
Buom yn cydweithio â chyflenwyr i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli corfforaethol, a oedd yn cynnwys cydweithwyr yn yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cymryd rhan mewn digwyddiad plannu cyrs cymunedol yn un o’n safleoedd.
Mae ein partneriaid yn y gadwyn gyflenwi wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â chymunedau lleol, gan gynnig mentrau fel diwrnodau gwirfoddoli gan ysgolion, gweithgareddau plannu cymunedol, a chymryd rhan mewn ffeiriau ysgolion a gyrfaoedd a digwyddiadau adeiladu arbenigol.
Rydym yn parhau i wella ein prosesau casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata er mwyn gwella dealltwriaeth ac atebolrwydd ar draws ein gwaith cynaliadwyedd a’r amgylchedd.
Fe wnaethom ehangu ein hadnodd tracio deunyddiau crai i bob safle adeiladu er mwyn datblygu gwaelodlin gwastraff a chanfod cyfleoedd i reoli’r deunyddiau rydyn ni’n eu defnyddio yn well.
Fe wnaethom fethu ein targed ailgylchu ocr eleni oherwydd newidiadau i’r rhaglen cynnal a chadw gwelyau cyrs a oedd yn lleihau cyfanswm y gwastraff ocr a gynhyrchwyr ac yn gwneud y gwastraff ocr mwy cymhleth (sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ar hyn o bryd) yn ganran uwch o’r cyfaint is.
Rydyn ni wedi dysgu o hyn ac hefyd wedi blaenoriaethu gwaith i ddod o hyd i ddewisiadau newydd arloesol ar gyfer ein gwastraff ocr mwyaf heriol a chymhleth yn y dyfodol.
Fe wnaethom lansio ein cynllun cynaliadwyedd newydd ar gyfer 2026 i 2029, wedi’i greu ar y cyd â mwy na 120 o gydweithwyr, a threialu adnodd asesu effaith cynaliadwyedd newydd i gynorthwyo cydweithwyr i wella cynaliadwyedd ar draws pob agwedd ar ein gwaith.
Fe wnaethom ddatblygu ein system rheoli amgylcheddol ymhellach i reoli risgiau amgylcheddol yn fwy effeithiol a chryfhau cydymffurfiad amgylcheddol.
Bydd hyn i gyd yn ein helpu i adrodd ar ein gwaith cynaliadwyedd ac mae wedi caniatáu i ni fod yn barod i adrodd o dan Ymrwymiad Gwyrddu (GGC) Llywodraeth y DU 2026 i 2030 o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
14.1 Yn ystod 2025 i 2026, mae’r llwyddiannau allweddol yn cynnwys:
- adfer capasiti llawn i’n safleoedd solar presennol drwy osod paneli solar newydd yn lle’r rhai sydd wedi’u difrodi neu eu dwyn ar draws ein hystâd, a dechrau gosod paneli solar newydd mewn 2 gynllun trin dŵr mwyngloddiau
- dechrau gosod storfa fatri i gefnogi solar ar 2 safle a chynnal astudiaethau dichonoldeb i ehangu’r ddarpariaeth ymhellach yn y dyfodol
- cofnodi cynefinoedd a datblygu cynlluniau gwella ym mhob un o’n 65 o -gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau sy’n cynnwys cynefinoedd
- cynnal arolygon cynefinoedd ar 7 tomen a chyflawni prosiect gwella cynefinoedd gyda phartneriaid ar safle allweddol
- rhoi ystyriaeth bellach i effaith hinsawdd sy’n newid ar ein gwaith a’r angen i addasu ymhellach ar draws ein gwaith a chyda phartneriaid
- paratoi ar gyfer GGC Llywodraeth newydd y DU
- cyhoeddi ein cynllun cynaliadwyedd newydd ar gyfer 2026 i 2029
14.2 Ein hadroddiadau cynaliadwyedd drwy’r GGC
Rydym yn adrodd ar ein cynnydd drwy Ymrwymiadau Gwyrddu’r Llywodraeth, sy’n rhan o’r fframwaith cynaliadwyedd newydd.
Bydd y data ar gyfer ein blwyddyn 2025 i 2026 yn ffurfio’r llinell sylfaen ar gyfer y targedau GCC newydd, sydd eto i’w cwblhau a’u cyhoeddi.
Er mwyn paratoi ar gyfer mwy o ofynion adrodd, rydym wedi ymestyn ein ffynonellau a’n dulliau casglu data i adlewyrchu ehangder llawn ein gwaith, gan gynnwys gwaith adeiladu, tyllau turio a chynnal a chadw gweithredol ar draws y sefydliad nad yw wedi cael ei adrodd o’r blaen.
Er mwyn cymharu, rydym wedi dangos ein data 2025 i 2026 mewn 2 golofn; un yn dangos y ffigurau gan ddefnyddio’r fethodoleg data wreiddiol ac un arall gan ddefnyddio’r ffynonellau data gwell newydd a fydd yn ffurfio ein llinell sylfaen ar gyfer adrodd yn y dyfodol.
Byddwn yn diwygio ein hadroddiadau y flwyddyn nesaf i ddangos cynnydd yn erbyn ein llinell sylfaen ar gyfer 2025 i 2026.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Y pŵer sy’n cael ei gynhyrchu drwy ein defnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (kWh) | 1,575,484 | 1,413,944 | 1,141,616 | 4,151,179 |
| Cyfanswm allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) o ddefnydd uniongyrchol o danwyddau ffosil (tCO2e) | 408.48 | 360.96 | 291.45 | 1,141.29 |
| allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o ddefnydd uniongyrchol o danwyddau ffosil (tCO2e) | 8.78 | 8.78 | 8.53 | 13.7 |
Mae’r adran hon yn ymwneud â thanwydd disel ac olew llysiau hydrogenaidd (HVO) a ddefnyddir mewn generaduron mewn safleoedd gweithredol ac adeiladu, yn ogystal â nwy petrolewm hylifedig (LPG) a brynir ar gyfer ein swyddfa ym Mansfield ar gyfer gwresogi.
Bu cynnydd yn yr adroddiadau ar y defnydd o danwydd ffosil a’r allyriadau cysylltiedig.
Effeithiwyd ar hyn gan waith rheng flaen ac ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys pŵer generaduron ar gyfer ein safle adeiladu yn Dalkeith a gofynion pŵer generadur ychwanegol yng nghynllun trin dŵr mwynglawdd Wheal Jane i drin mwy o ddŵr mwynglawdd yn ystod stormydd y gaeaf.
Mae gwaith wedi parhau i ddisodli generaduron â chysylltiadau grid yn rhai o’n safleoedd gweithredol.
Mae cytundebau bellach yn eu lle ar gyfer y gwaith, ac rydym yn disgwyl gweld y budd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae ein ffigurau ffynonellau data gwell ar gyfer 2025 i 2026 yn cynnwys allyriadau o waith adeiladu, tyllau turio ac adnewyddu nad ydynt wedi cael eu hadrodd yn flaenorol.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Trydan wedi’i brynu (kWh) | 27,817,604 | 27,817,604 | 28,056,826 | 20,494,016 |
| Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr o drydan a brynwyd (tCO2e) | 5,439.18 | 5,439.18 | 6,322.61 | 7,878.51 |
| allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o drydan a brynwyd (tCO2e) | 202.88 | 202.88 | 217.91 | 364.94 |
Mae’r adran hon yn ymdrin â’n safleoedd gweithredol a’n prif swyddfa.
Rydym yn parhau i weld newidiadau ym mhatrwm y tywydd sychach a gwlypach oherwydd yr hinsawdd sy’n newid.
Nodwyd gostyngiad sylweddol yn y defnydd ers y llynedd ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn oherwydd amodau sychach na’r hyn a brofwyd yn flaenorol.
Fodd bynnag, yn yr amodau gwlypach yn Ch4 gwelwyd cynnydd yn y defnydd o bŵer ers y flwyddyn flaenorol, ond y sefyllfa gyffredinol oedd gostyngiad bach yn y defnydd o drydan o’r prif gyflenwad.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd (kWh) | 1,031,120 | 1,031,120 | 935,694 | 189,966 |
| Ynni adnewyddadwy a ddefnyddiwyd (kWh) | 670,626 | 670,626 | 639,940 | 165,501 |
| Ynni adnewyddadwy a allforiwyd i’r grid (kWh) | 360,494 | 360,494 | 295,754 | 24,465 |
Rydym wedi cynyddu’r ynni a gynhyrchir o’n gosodiadau solar o’r blynyddoedd blaenorol.
Mae hyn oherwydd newid asedau diffygiol a gwaith cynnal a chadw parhaus.
Rydym yn disgwyl cynnydd pellach mewn cynhyrchu wrth i’n rhaglen solar ehangu.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Dwysedd carbon (kgCO2e/kWh) | 0.19 | 0.19 | 0.22 | 0.36 |
Mae dwysedd carbon wedi gostwng, gyda chymorth datgarboneiddio’r grid, ac wedi’i gynorthwyo gan berfformiad cynyddol solar oherwydd gwaith cynnal a chadw.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â phŵer y brif swyddfa (tCO2e) | 211.66 | 211.66 | 226.44 | 378.64 |
| Er ein bod wedi gweld cynnydd yn y defnydd o drydan oherwydd cynnydd yn y defnydd o swyddfeydd, rydym wedi gallu adrodd am ostyngiad mewn allyriadau carbon o ganlyniad i ddatgarboneiddio ehangach ar drydan a gyflenwir gan y grid. |
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e) | 6,206.5 | 5,800.13 | 6,624.06 | 9,019.8 |
Mae ein hallyriadau wedi gostwng o ganlyniad i ddatgarboneiddio’r grid, a pherfformiad solar gwell.
Gan ddefnyddio’r ffynonellau data gwreiddiol, mae hyn yn ostyngiad o 12.4% ers y llynedd ac yn 35.7% o ostyngiad ers ein llinell sylfaen yn 2017 i 2018.
Rydym wedi gwella ein gwaith monitro ac adrodd yn y maes hwn, ac mae’r ffigurau ffynonellau data gwell a ddangosir yn cynnwys pŵer o’n gwaith adeiladu, tyllau turio ac adnewyddu.
Gan ddefnyddio’r data hwn, rydym wedi dangos gostyngiad o 6.3% ers y llynedd a gostyngiad o 31.2% ers ein llinell sylfaen 2017-2018.
| Pŵer | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm gwariant ar ddefnyddio ynni | £7,128,611 | £7,128,611 | £8,546,812 | £4,348,855 |
Mae ein gwariant yn ymwneud â defnyddio ynni yn ein swyddfa ym Mansfield, cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant.
Mae swm y gwariant o orsafoedd pwmpio ymsuddiant yn sylweddol is na blynyddoedd blaenorol.
| Allyriadau sy’n ffoi | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Oeri ac Aer-dymheru (tCO2e) | 6 | 6 | 9 | 6 |
Roedd y system yn gweithredu’n effeithiol ar ôl canfod ac atgyweirio’r gollyngiad yn 2024 i 2025.
| Teithio yn gysylltiedig â busnes | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| km a deithiwyd | 1,514,995 | 1,514,995 | 1,435,054 | 1,799,174 |
| Nifer yr hediadau | 2 | 2 | 4 | 73 |
| allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e) | 316.34 | 193.96 | 184.69 | 305.9 |
| Dwysedd (tCO2e/100,000km) | 20.88 | 12.8 | 12.87 | 17 |
| Cyfanswm gwariant ar deithio (domestig a rhyngwladol) | £683,026 | £683,026 | £536,652 | £354,537 |
Aeth un cydweithiwr ar hediad ymlaen ac yn ôl i gynhadledd dramor.
Oherwydd gwelliannau yn ein methodoleg casglu data, rydym bellach wedi cynnwys lefelau manylach o ddata gan ein contractwr gweithrediadau a chynnal a chadw gydag adroddiadau ar waith ar gyfer y mathau o gerbydau sy’n cael eu gyrru.
Mae cynnwys y data hwn wedi arwain at gynnydd yn ein ffigurau dwysedd teithio.
| Teithio yn gysylltiedig â busnes | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| % cerbydau fflyd sy’n gerbydau allyriadau isel iawn neu allyriadau sero (hybrid neu drydan llawn) | 100% | 100% | 97% | 0% |
Rydym wedi cymryd camau pellach i ddatgarboneiddio ein fflyd. Mae pob cerbyd fflyd a chronfa naill ai’n hybrid allyriadau isel neu’n gwbl drydanol.
| Adnoddau – defnyddio dŵr | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Defnydd o ddŵr (m3) – Swyddfa Mansfield | 1,148 | 1,148 | 1,069 | 1,910 |
| Safleoedd dŵr mwynglawdd | 6,193 | 6,193 | 7,046 | 3,075 (amcangyfrifwyd o’r defnydd cyfartalog) |
| Cyfanswm gwariant ar ddŵr | £9,822 | £9,822 | £77,351 | £65,259 |
Rydym wedi defnyddio mwy o ddŵr yn ein swyddfa ym Mansfield gan fod mwy o bobl yn defnyddio’r swyddfa fel mater o drefn.
Mae dŵr yn cael ei ddefnyddio hefyd yn y broses gemegol ar rai o’n safleoedd trin dŵr mwynglawdd.
Cawsom ad-daliad o £35,000 yn ystod y flwyddyn yn erbyn gwariant blynyddoedd flaenorol, a ddefnyddiwyd i wrthbwyso ein biliau eleni.
| Adnoddau – defnyddio papur | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Defnyddio papur (rîm cyfwerth ag A4) | 225 | 225 | 470 | 718 |
Er gwaethaf y cynnydd yn nifer y staff, rydym wedi gweld gostyngiad yn y defnydd o bapur o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Byddwn yn parhau i fonitro’r defnydd o bapur.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm gwastraff (tunelli) | 27,846 – gwastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, gan gynnwys Wheal Jane (24,138 – gwastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, ac eithrio Wheal Jane) | 16,663 – gwastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, gan gynnwys Wheal Jane (12,955 – gwastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, ac eithrio Wheal Jane) | 30,871 – cynllun gwastraff trin dŵr cloddfeydd, gan gynnwys Wheal Jane (26,375 - gwastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, ac eithrio Wheal Jane) | 1,417 – yn cynnwys gwastraff o gynlluniau trin dŵr mwynglawdd gweithredol (Dawdon ac Ynysarwed) ond nid yw’n cynnwys trin dŵr mwynglawdd arall na gwastraff Wheal Jane |
| Gwastraff swyddfa Mansfield a ailgylchwyd (tunelli) | 5.18 | 5.18 | 5.54 | 12 |
| Gwastraff a ailgylchwyd (tunelli) | 12,371.42 | 11,793.77 | 28,651.12 | 12 |
| Gwastraff bwyd Mansfield (compostio/treulio anaerobig) (tunelli) | 0.005 | 0.005 | 0.076 | Heb ei gofnodi |
| Gwastraff Wheal Jane (tunelli) | 3,707.7 | 3,707.7 | 3,483.42 | Heb ei gofnodi |
| Gwastraff swyddfa Mansfield i dirlenwi (tunelli) | 0 | 0 | 0.06 | 6.9 |
| Gwastraff i dirlenwi (tunelli) | 2,585.15 | 1,148.02 | 730.38 | 1,405 |
| Gwastraff Swyddfa Mansfield a losgwyd (ynni o wastraff) (tunelli) | 6.17 | 6.17 | 6.44 | 0 |
| Gwastraff peryglus swyddfa Mansfield (tunelli) | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Gwastraff a losgwyd (heb adfer ynni) (tunelli) | 1.43 | 0 | 0 | 0 |
Ers 2022 i 2023, rydym wedi cynnwys gwastraff o fwynglawdd metel Wheal Jane rydyn ni’n ei reoli ar gyfer Defra yn ein ffigurau adrodd blynyddol.
Rydym yn dangos y rhifau heb Wheal Jane mewn cromfachau i gael cymhariaeth agosach â’r llinell sylfaen 2017 i 2018.
Mae gwastraff a ailgylchwyd yn cynnwys gwastraff swyddfa Mansfield.
Mae swm y deunydd gweithredol a ailgylchwyd wedi gostwng eleni oherwydd ein bod yn gwneud llai o waith adnewyddu gwelyau cyrs.
Mae ein ffynonellau data gwell yn 2025 i 2026 yn cynnwys data gwastraff o’n gwaith adeiladu, tyllau turio a chynnal a chadw ar draws y sefydliad nad adroddwyd arno o’r blaen, gan gynnwys gwastraff a losgwyd.
Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn datblygu ein proses casglu data ymhellach i wella ein data gwastraff, gan alluogi darlun cyflawn o’r holl wastraff sy’n deillio o weithgareddau’r sefydliad.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Gwastraff TGCh (tunelli) | 0.23 | 0.23 | 0.43 | 0 |
Rydyn ni’n ailddefnyddio, yn ail-bwrpasu neu’n ailgylchu ein hoffer TGCh.
Yn 2025 i 2026 fe wnaethom ailgylchu 0.233t o wastraff TGCh na ellid ei roi na’i ail-bwrpasu.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| % gwastraff y prif swyddfa i safleoedd tirlenwi | 0% | 0% | 0.48% | 36.51% |
Rydym yn parhau i leihau ein gwastraff swyddfa sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| % gwastraff i safleoedd (ac eithrio Wheal Jane, sy’n cael ei storio mewn cyfleuster gwastraff mwyngloddio ac ocr wedi’i storio i’w ailddefnyddio) | 9.28% | 6.89% | 2.2% | 99.2% |
Rydym wedi anfon mwy o wastraff ein cynllun trin dŵr mwyngloddiau i safleoedd tirlenwi eleni.
Fel rhan o wella ein gwaith adrodd ar wastraff, rydym wedi rhoi system olrhain gwastraff ar waith, sy’n galluogi i ffrydiau gwastraff o’n gwaith adeiladu a diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant gael eu mesur a’u hadrodd.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm gwariant ar waredu gwastraff | £8,810 | £8,810 | £8,147 | £3,176 |
Mae hyn yn ymwneud â chost gwaredu gwastraff o’n swyddfa ym Mansfield.
| Gwastraff | 2025 i 2026 (data llinell sylfaen gan ddefnyddio ffynonellau data mwy a manylach) | 2025 i 2026 (ffigurau o ffynonellau data cymaradwy er mwyn gallu cymharu â’n blynyddoedd adrodd blaenorol) | 2024 i 2025 | 2017 i 2018 (ein blwyddyn llinell sylfaen wreiddiol ar gyfer cyfnod adrodd 2021 i 2025) |
|---|---|---|---|---|
| Nifer Eitemau Plastigau Untro Defnyddwyr (CSUPs) | 4,052 | 4,052 | 1,641 | Heb eu cofnodi |
Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr eitemau a brynwyd.
Yr eitemau a restrwyd yw beiros plastig, weips glanhau tafladwy a photeli diod, yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r swyddfa.
Byddwn yn parhau i fonitro’r defnydd o blastig untro yn ein swyddfa ym Mansfield ac yn gweithio i leihau nifer yr eitemau plastig sy’n cael eu prynu.
Cymeradwywyd yr adroddiad atebolrwydd hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu, Paul Frammingham, ar 9 Gorffennaf 2026.