Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2025 i 2026: adroddiad atebolrwydd

Diweddarwyd 19 Awst 2026

1. Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2025 i 2026

Am y cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.

Cyflwynwyd i Senedd y DU yn unol ag Adran 60(6) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.

Cyflwynwyd y cyfrifon gerbron Senedd y DU yn unol â pharagraff 15(4) Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.

Gorchmynnwyd eu hargraffu gan Dŷ’r Cyffredin ar 14 Gorffennaf 2026.

Ar 28 Tachwedd 2024, cafodd yr Awdurdod Glo enw gweithredol newydd, sef yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, i adlewyrchu ei rôl esblygol o ran rheoli gwaddol diwydiant mwyngloddio’r DU.

Yr Awdurdod Glo yw enw cyfreithiol y sefydliad o hyd, nes y bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei chreu i gadarnhau’r newid.

Dylid dehongli cyfeiriadau at yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fel cyfeiriadau at yr Awdurdod Glo.

HC 272

© Hawlfraint y Goron 2026

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle y nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth o dan hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn:

Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 200 Lichfield Lane, Mansfield Swydd Nottingham NG18 4RG

Ffôn: 0345 762 6848 E-bost: customerservice@miningremediation.gov.uk

ISBN 978-1-5286-6435-6

E03595078 07/26

2. Adroddiad atebolrwydd

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn bodloni’r gofynion atebolrwydd allweddol I Senedd y DU.

Mae’r gofynion yn seiliedig ar Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y’i haddaswyd ar gyfer y sector cyhoeddus.

Mae’n cwmpasu’r materion y mae’n rhaid ymdrin â hwy mewn adroddiad cyfarwyddwyr ac yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, fel y nodir ym mhennod 6 y Ddeddf Cwmnïau.

Mae’n cynnwys gwybodaeth fel cyflogau cyfarwyddwyr a thaliadau eraill, trefniadau llywodraethiant a thystysgrif ac adroddiad yr archwiliad. Mae wedi ei lofnodi a’i ddyddio gan y swyddog cyfrifyddu.

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn cynnwys 3 prif ran. Y rhain yw:

  • adroddiad llywodraethiant corfforaethol, sy’n delio â strwythurau llywodraethiant yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a sut y maent yn cynorthwyo’r gwaith o gyflawni amcanion yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
  • adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, sy’n cynnwys gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol i uwch reolwyr a datgeliadau eraill yn ymwneud â staff sy’n ofynnol gan y Ddeddf Cwmnïau a ffynonellau llywodraethol eraill
  • Adroddiad archwilio ac atebolrwydd seneddol, sy’n cynnwys datgeliadau ychwanegol sy’n ofynnol gan Senedd y DU, a barn ar faterion fel rheoleidd-dra gwariant, ffioedd a thaliadau a thueddiadau gwariant hirdymor – mae’n cynnwys tystysgrif ac adroddiad yr archwiliad

3. Adroddiad llywodraethiant corfforaethol

Mae’r adroddiad llywodraethiant corfforaethol yn cynnwys 3 prif ran. Y rhain yw:

  • adroddiad y cyfarwyddwyr, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o ddatgeliadau statudol nad ydynt wedi’u hamlinellu mewn man arall yn yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol
  • datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, sy’n nodi’n glir y cyfrifoldebau a ysgwyddwyd mewn perthynas â’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol gan y swyddog cyfrifyddu enwebedig, a’r sail ddeddfwriaethol ar eu cyfer
  • datganiad llywodraethiant, sy’n egluro cyfansoddiad a threfniadaeth bwrdd a strwythurau llywodraethiant yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a sut maent yn cynorthwyo’r gwaith o gyflawni amcanion yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

4. Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu

Dan baragraff 15(1)(b) Atodlen 1 i Ddeddf y Diwydiant Glo 1994, mae’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Trysorlys EF, wedi cyfarwyddo’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y cyfarwyddyd cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau a rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o sefyllfa’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ei incwm a’i wariant, Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol a’r llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r swyddog cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion llawlyfr adroddiadau ariannol y llywodraeth ac i wneud y canlynol yn benodol:

  • rhoi sylw i’r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn llawlyfr adroddiadau ariannol y llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol
  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw; a
  • cadarnhau bod yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae swyddog cyfrifyddu’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) wedi dynodi’r prif weithredwr yn swyddog cyfrifyddu i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, o ran cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.

Fel y swyddog cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd pob cam y dylwn fod wedi’u cymryd er mwyn sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol, ac i sicrhau bod archwilwyr yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni.

5. Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cyflwyno ei adroddiad a’i ddatganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.

Paratowyd y cyfrifon ar ffurf a gyfarwyddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Trysorlys EF yn unol â pharagraff 15(1)(b) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 (“y Ddeddf”).

Awdurdododd y swyddog cyfrifyddu y datganiadau ariannol hyn i’w cyhoeddi ar y dyddiad ardystio gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.

5.1 Swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Yn wreiddiol, cafodd pwerau a swyddogaethau’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio eu nodi mewn deddfwriaeth gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a Deddf Ymsuddiant 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994). Gwnaethom ymgymryd â’n swyddogaethau ar 31 Hydref 1994.

Nodir y swyddogaethau hyn ar-lein ac maent yn ymwneud â’r diwydiant glo a rheoli buddiannau a etifeddwyd gan Gorfforaeth Glo Prydain, trwyddedu gweithrediadau mwyngloddio glo, delio ag ymsuddiant o ganlyniad i fwyngloddio glo a darparu gwybodaeth.

Diwygiwyd Deddf 1994 ymhellach gan ddeddfwriaeth ddilynol, gan gynnwys Deddf Dŵr 2003 a Deddf Gwasanaethau Dŵr (Yr Alban) 2005.

Mae hyn wedi ymestyn pwerau’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i atal neu leihau effaith gollwng dŵr llygredig o bwll glo ar unrhyw dir neu i gyrsiau dŵr.

Ymestynnodd Deddf Ynni 2011 bwerau’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i ddefnyddio’i arbenigedd mewn cyd-destunau eraill nad ydynt yn ymwneud â mwyngloddio glo, gan gynnwys camau i ddiogelu ansawdd dŵr rhag effeithiau gollwng dŵr llygredig o hen byllau glo segur, fel sy’n ofynnol gan Gyfarwyddebau’r Fframwaith Dŵr.

5.2 Adolygu gweithrediadau

Mae adroddiad y prif weithredwr yn yr adroddiad perfformiad yn rhoi crynodeb o’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

5.3 Rheoli risg cyllid

Mae’r datganiad llywodraethiant yn nodi’r strwythurau llywodraethiant rydym wedi’u defnyddio i fonitro a rheoli risg a dull gweithredu’r bwrdd o ran rheoli risg.

Mae hwn, ynghyd â’r adroddiad perfformiad, hefyd yn nodi ac yn trafod y risgiau sylweddol a’r mesurau lliniaru sydd ar waith.

Mae gennym system gadarn o reolaeth ariannol a rheoli risg ariannol weithredol.

Nid oes gennym unrhyw fenthyciadau ac rydym yn dibynnu ar gymorth grant ac incwm arall i ariannu ein gofynion arian parod.

Felly, nid ydym yn agored iawn i risg o ran hylifedd, credyd a llif arian.

Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau wedi’u dynodi mewn sterling ac felly nid oes unrhyw risg o ran arian cyfred.

Nid oes gennym unrhyw asedau y mae symudiadau cyfraddau llog yn effeithio arnynt yn uniongyrchol, ac nid ydym ychwaith yn ymwneud ag unrhyw gyfrifyddu rhagfantoli.

Rydym yn dal rhai eitemau ar y Datganiad am y Sefyllfa Ariannol sy’n cael eu disgowntio gan ddefnyddio cyfraddau a bennir gan Drysorlys EF, yn benodol darpariaethau. Mae Trysorlys EF yn amrywio’r cyfraddau disgownt hyn o bryd i’w gilydd, a fydd yn effeithio ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol a’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr.

Yn 2025 i 2026 roedd hyn yn ostyngiad o £191 miliwn (gostyngiad o £59 miliwn yn 2024 i 2025 a gostyngiad o £876 miliwn yn 2023 i 2024). Gweler nodyn 12 yn y cyfrifon.

5.4 Datblygiadau i’r dyfodol

Trafodir ein datblygiadau a’n hamcanion yn y dyfodol mewn rhannau eraill o’r adroddiad blynyddol, gan gynnwys adroddiad y prif weithredwr ac adran risgiau strategol yr adroddiad perfformiad.

5.5 Gweithgareddau ymchwil a datblygu

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil a datblygu i wella effeithlonrwydd ein gweithrediadau ac yn benodol i leihau cost net hirdymor trin dŵr mwyngloddiau.

Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer ein sgil-gynhyrchion (e.e. ocr haearn) a hyrwyddo’r defnydd o ddŵr mwyngloddiau sy’n llifo drwy hen weithfeydd mwyngloddio segur fel ffynhonnell gwres geothermol ac ynni carbon isel.

Amlinellir yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn yn yr adroddiad perfformiad.

5.6 Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Rydym wedi datgelu dau ddigwyddiad ar ôl y cyfnod adrodd, ac mae’r manylion i’w gweld yn nodyn 18.

Mae’r cyntaf yn ymwneud â’n newid yn y Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu o 7 Ebrill 2026 ymlaen, sydd hefyd wedi’i nodi yn adran Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Yr ail yw nodi symudiad tir ar 18 Mai 2026, sy’n destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Gallai’r costau cysylltiedig fod yn sylweddol os penderfynir bod y digwyddiad i’w briodoli i ymsuddiant cloddio glo.

Ar ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol hyn, nid yw achos y digwyddiad wedi’i sefydlu.

5.7 Canghennau y tu allan i’r DU

Nid oes gennym ganghennau y tu allan i’r DU.

5.8 Rhoddion

Ni wnaethom unrhyw roddion gwleidyddol nac elusennol yn ystod y flwyddyn.

5.9 Cynnwys y gweithwyr

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â chydweithwyr yn y busnes drwyddo draw fel yr amlinellir yn ein hadroddiad pobl.

5.10 Cyflogaeth

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn canolbwyntio’n gryf ar amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae penderfyniadau i benodi, gwobrwyo, hyfforddi, datblygu a dyrchafu yn cael eu gwneud ar sail sgiliau a galluoedd, sy’n cael eu hasesu yn erbyn gofynion y swydd.

Rydym yn parhau â’n gwaith i ddenu, datblygu a chadw gweithlu mwy amrywiol.

Rydym yn gwneud cynnydd ond yn cydnabod bod mwy i’w wneud.

Byddwn yn parhau i gyflawni yn erbyn ein cynllun cynhwysiant bob dydd i greu lle gwych i weithio i bawb.

Rydym yn ceisio denu a chadw gweithwyr o safon uchel.

Rhoddir blaenoriaeth uchel i gyfleoedd hyfforddi a datblygu fel y gall yr holl staff gyfrannu’n llawn a chymryd perchnogaeth dros ddatblygiad eu gyrfa.

5.11 Pensiynau a buddion eraill ar ôl ymddeol

Mae gweithwyr blaenorol a phresennol sydd wedi dewis ymuno yn dod dan ddarpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) sy’n gynllun buddion diffiniedig aml-gyflogwr heb ei ariannu.

Rhoddir y polisi cyfrifyddu yn nodyn 1 i’r cyfrifon ac mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff.

5.12 Data personol

Nid oedd unrhyw achosion o dorri amodau data y dylid rhoi gwybod amdanynt i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ystod y flwyddyn.

Mae’r datganiad llywodraethiant yn rhoi rhagor o fanylion am ein gweithgareddau rheoli risg gwybodaeth.

5.13 Tueddiadau gwariant hirdymor

Mae tueddiadau gwariant hirdymor yn cael eu hadolygu gan y cyfarwyddwyr fel rhan o’r adolygiad blynyddol o ddarpariaethau. Gweler nodyn 12 i’r cyfrifon.

5.14 Archwilwyr

Penodwyd y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 ac mae’n adrodd i Senedd y DU ar yr arolygiad archwilio.

Y ffi archwilio oedd £116,000.

Ni thalwyd unrhyw dâl i’n harchwilwyr am waith nad yw’n ymwneud ag archwilio ac ni ddarparwyd unrhyw wasanaethau eraill.

5.15 Mynediad at wybodaeth a chwynion

Fel corff cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i ateb ceisiadau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).

Yn ystod y flwyddyn, cawsom 98 o geisiadau (FOIA, EIR a Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun).

Mae pob cais wedi ei ateb o fewn y dyddiad cau statudol neu estyniadau y cytunwyd arnynt.

Mae 5 cais wedi mynd i apêl ac ym mhob achos roedd swyddog o’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, sy’n annibynnol ar y broses wreiddiol, wedi cadarnhau penderfyniad gwreiddiol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Derbyniwyd 17 llythyr gan Aelodau Seneddol, 5 gan Aelodau Senedd yr Alban a 3 gan Aelodau Senedd Cymru, ac ymatebwyd yn llawn i bob un yn brydlon yn unol â’n safonau gwasanaeth i gwsmeriaid.

Derbyniwyd 30 o gwynion gan aelodau’r cyhoedd a chwsmeriaid eraill.

Ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion at yr ombwdsmon.

Deliwyd â phob cwyn dan ein trefn gwyno a’u datrys o fewn y sefydliad.

Mae ein trefn gwyno i’w gweld ar ein gwefan.

6. Bwrdd y cyfarwyddwyr

6.1 Y Bwrdd a’u buddiannau

Nid oes gan unrhyw aelod o fwrdd yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio unrhyw fuddiant ariannol yn yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Cedwir cofrestr o fuddiannau sy’n agored i’r cyhoedd ei gweld yn ein swyddfeydd ym Mansfield neu gellir ei gweld ar-lein yn [ein cynllun cyhoeddi] (https://www.gov.uk/government/publications/mining-remediation-authority-register-of-board-members-interests).

Ni chafwyd unrhyw drafodion partïon cysylltiedig mewn perthynas ag aelodau’r bwrdd yn 2025-2026.

Lisa Pinney MBE, prif weithredwr (hyd 6 Ebrill 2026)

  • penodwyd yn brif weithredwr o 1 Mehefin 2018
  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Mehefin 2018 i 31 Mawrth 2020
  • ailbenodwyd bob 3 blynedd hyd at 30 Mehefin 2026

Paul Frammingham, prif swyddog cyllid a gwybodaeth

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2014
  • ailbenodwyd bob 3 blynedd hyd at 31 Mawrth 2029
  • penodwyd yn brif weithredwr dros dro o 7 Ebrill 2026

Carl Banton, cyfarwyddwr gweithrediadau

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 22 Mawrth 2021 i 31 Mawrth 2023
  • ailbenodwyd bob 3 blynedd hyd at 31 Mawrth 2029

Jeff Halliwell, cadeirydd

  • penodwyd yn gadeirydd o 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2024
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2027
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2030

Jayne Scott, cyfarwyddwr anweithredol

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2022
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2025
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2028

David Brooks, cyfarwyddwr anweithredol

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2028

Bev Smith, cyfarwyddwr anweithredol

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2026
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2029

Kate Denham, cyfarwyddwr anweithredol

  • penodwyd yn gyfarwyddwr ar y bwrdd o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2027
  • ailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2032

7. Datganiad llywodraethiant

Mae ein datganiad llywodraethiant yn egluro’r trefniadau llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth sydd gennym ar waith i sicrhau bod amcanion yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cael eu cyflawni.

Mae’n egluro sut rydym yn sicrhau bod y rhain yn parhau’n effeithiol wrth i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio esblygu fel y gallwn barhau i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Cymeradwywyd y datganiad llywodraethiant hwn gan Paul Frammingham, prif weithredwr a swyddog cyfrifyddu dros dro, yn dilyn adolygiad a sicrwydd priodol a dderbyniwyd gan Lisa Pinney, prif weithredwr a swyddog cyfrifyddu yn ystod y cyfnod adrodd.

Yn gyffredinol, rydym o’r farn bod ein trefniadau llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth yn gadarn ac yn addas i’r diben, gan gydnabod yr angen parhaus i adolygu ac esblygu ein hamgylchedd rheoli i sicrhau ei fod yn aros yn gymesur ac yn effeithiol wrth i’r amgylchedd allanol a’n sefydliad barhau i newid.

7.1 Fframwaith llywodraethiant yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Rydym wedi ymrwymo i safonau uchel o ran llywodraethiant corfforaethol.

Rydym yn gweithio o fewn dogfen fframwaith sy’n cael ei hadolygu a’i chytuno o bryd i’w gilydd gyda DESNZ.

Mae’n nodi diben yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, elfennau craidd ein perthynas â’n corff noddi a’r fframwaith rydym yn gweithredu oddi mewn iddo.

Mae gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fframwaith llywodraethu sefydledig sy’n cael ei gefnogi gan ddiwylliant sefydliadol priodol, rhoddir crynodeb o hyn isod ac eglurhad pellach drwy’r datganiad.

Diwylliant y sefydliad

Cefnogir y swyddog cyfrifyddu drwy 4 maes rhyng-gysylltiedig:

  • y bwrdd
  • parodrwydd i dderbyn risg ddiffiniedig
  • rheoli perfformiad
  • rheolaeth ariannol

Mae pob un o’r meysydd hyn yn cael eu cefnogi gan haenau ychwanegol o lywodraethiant, goruchwylio, adolygu a sicrhau.

Y Bwrdd

Cefnogir y bwrdd gan ei bwyllgorau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • archwilio mewnol
  • y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg (ARAC)
  • y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol
  • y pwyllgor iechyd, diogelwch a llesiant (HSW)
  • pwyllgor yr amgylchedd a chynaliadwyedd (EAS)
  • pwyllgor sicrwydd rhaglen dŵr mwyngloddiau halwynog (SMWPAC)

Parodrwydd i dderbyn risg ddiffiniedig

Mae’r parodrwydd i dderbyn risg diffiniedig yn cael ei gefnogi gan ddulliau rheoli risg wedi’u gwreiddio, gan gynnwys:

  • cofrestr risg adrannol
  • cofrestr risg strategol
  • cofrestrau risg rhaglenni

Rheolaeth ariannol

Cefnogir rheolaeth ariannol gan awdurdod dirprwyedig, gan gynnwys:

  • fframwaith cyllidebol
  • bwrdd buddsoddi a chyfleoedd
  • byrddau rhaglenni

Rheoli perfformiad

Cefnogir rheoli perfformiad gan y tîm arwain gweithredol, gyda chefnogaeth:

  • arbenigwyr swyddogaethol
  • adolygiad risg
  • swyddfa rheoli’r rhaglen
  • adolygiad perfformiad integredig
  • adolygiad allweddol o’r prosiect

7.2 Y Bwrdd a’i bwyllgorau

Bwrdd y cyfarwyddwyr

Mae gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fframwaith llywodraethiant sefydledig a gefnogir gan fwrdd cyfarwyddwyr.

Mae’r bwrdd yn pennu ac yn cyfleu bwriad a chyfeiriad strategol, yn gwneud penderfyniadau strategol na ellir eu dirprwyo, yn monitro ac yn herio perfformiad busnes corfforaethol.

Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol DESNZ.

Mae cyfarwyddwyr gweithredol statudol yn cael eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol DESNZ.

7.3 Dangosir aelodaeth a phresenoldeb ar y bwrdd a’i bwyllgorau yn y tabl isod

Cyfarwyddwyr anweithredol

Bwrdd (7 cyfarfod) ARAC (4 cyfarfod) Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol (4 cyfarfod) HSW (4 cyfarfod) EAS (3 chyfarfod) SMWPAC (3 chyfarfod)
Jeff Halliwell, cadeirydd y bwrdd 6 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3 2 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 1 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Jayne Scott, cadeirydd y pwyllgor archwilio 5 4 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 2 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Bev Smith, cadeirydd HSW a SMWPAC 7 4 3 4 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3
David Brooks, cadeirydd y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol 6 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 4 4 2 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Kate Denham, cadeirydd y pwyllgor EAS 7 4 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 4 3 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Cyfarwyddwyr gweithredol
Bwrdd (8 cyfarfod) ARAC (4 cyfarfod) Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol (5 cyfarfod) HSW (3 chyfarfod) EAS (3 chyfarfod) SMWPAC (3 chyfarfod)
Lisa Pinney, prif weithredwr 7 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 4 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 1 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Paul Frammingham, prif swyddog cyllid a gwybodaeth 7 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 1 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 2 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)
Carl Banton, cyfarwyddwr gweithrediadau 7 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 0 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 4 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 3 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn) 2 (ddim yn aelod o’r pwyllgor hwn)

Rhwng 2022 a 2026, fe wnaethom ni gynnal 3 chyfarfod bwrdd a oedd yn cynnwys ymweliadau safle, un yr un yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Cynhelir cyfarfodydd bwrdd a phwyllgorau eraill wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio fideogynadledda i gael manteision dull hybrid.

Roedd y cyfarwyddwr arloesi a gwasanaethau, y cyfarwyddwr pobl ac ymgysylltu, y cyfarwyddwr amgylchedd, y cyfarwyddwr sicrwydd rhaglenni a chontractau a chyfarwyddwr y rhaglen halwynedd yn bresennol yn y bwrdd drwy wahoddiad.

Mae uwch reolwyr eraill yn mynychu’r bwrdd neu bwyllgorau er mwyn cyflwyno papurau, ymuno â thrafodaethau strategol a chefnogi eu dysgu a’u datblygiad.

Yn ystod 2025-2026 roedd gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 8 cyfarwyddwr statudol (5 anweithredol a 3 gweithredol statudol).

Rhwng 2025 a 2026, fe wnaeth yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio hefyd gefnogi Rhaglen Prentisiaethau’r Bwrdd, gyda phrentis yn ymuno â’r bwrdd ar raglen dysgu, datblygu a lleoli unigryw am 12 mis.

Nod y rhaglen yw galluogi amrywiaeth ehangach o unigolion i chwarae eu rhan ar fyrddau.

7.4 Perfformiad y Bwrdd

Cydymffurfio â’r cod llywodraethiant corfforaethol

Rydym yn cydymffurfio â’r cod llywodraethiant corfforaethol yn adrannau’r llywodraeth ganolog a chanllawiau’r llywodraeth i’r graddau y mae’n berthnasol ac yn ymarferol i gorff hyd braich o’n maint a’n cymhlethdod ni.

Yn unol â’n dogfen fframwaith:

  • mae’r bwrdd yn monitro perfformiad yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio mewn ffordd effeithiol, gan gynnwys chwarae rhan weithredol yn y gwaith o reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid
  • mae’r bwrdd yn herio ac yn helpu i ddatblygu strategaeth mewn modd adeiladol, gyda chefnogaeth arweiniad effeithiol y cadeirydd sy’n goruchwylio trafodaeth a dadl o safon uchel mewn cyfarfodydd
  • mae’r bwrdd yn derbyn gwybodaeth gywir, amserol a chlir i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau sy’n gryno ac yn addas i’r diben – mae hyn yn cynnwys diweddariadau rheolaidd ar sefyllfa ariannol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, a cherdyn sgorio corfforaethol sy’n dangos cyflawniad yn erbyn amcanion corfforaethol
  • mae’r bwrdd yn sicrhau bod asesiad cytbwys a rhesymol o berfformiad yn cael ei adrodd i DESNZ ac yn trafod yn rheolaidd y prif risgiau sy’n wynebu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
  • drwy ei bwyllgor archwilio a sicrhau risg, mae’r bwrdd yn cynnal systemau rheoli risg a rheolaeth fewnol gadarn
  • mae’r bwrdd yn adolygu dogfennau llywodraethiant corfforaethol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a chylch gorchwyl is-bwyllgorau’r bwrdd yn flynyddol
  • mae gan y bwrdd gydbwysedd priodol o sgiliau a phrofiad i’w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau’n effeithiol
  • mae’r pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol yn cytuno ar gydnabyddiaeth ariannol aelodau gweithredol o fewn y canllawiau a bennir gan Drysorlys EF a DESNZ, tra bod DESNZ yn pennu’r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau anweithredol ac adolygir hyn yn flynyddol

Adolygu perfformiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd

Mae’r bwrdd yn gwerthuso ei berfformiad ei hun a pherfformiad ei gyfarwyddwyr yn rheolaidd. Caiff perfformiad pob aelod o’r bwrdd ei werthuso’n flynyddol.

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o effeithiolrwydd y bwrdd a hwyluswyd yn allanol yn 2024 a chadarnhaodd berfformiad cyffredinol cryf, gan nodi nifer fach o feysydd i’w datblygu’n barhaus.

Mae’r bwrdd wedi bwrw ymlaen â’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiad hwn, gyda chefnogaeth camau gweithredu wedi’u targedu i gryfhau ffyrdd o weithio a ffocws gweithgarwch y bwrdd a’r pwyllgor.

Roedd ein hadolygiad mewnol o effeithiolrwydd y bwrdd yn 2025 yn rhoi sicrwydd i’r swyddog cyfrifyddu a’r bwrdd bod y trefniadau llywodraethiant yn dal yn addas i’r diben ac yn cyd-fynd â Rheoli Arian Cyhoeddus, nodau strategol gweinidogion a disgwyliadau rhanddeiliaid.

Cadarnhaodd fod perfformiad cryf yn parhau a bod tystiolaeth o gynnydd o ran gwreiddio’r meysydd gwelliant parhaus a nodwyd yn 2024.

Roedd yr adolygiad hefyd yn tynnu sylw at fwy o ffocws ar gynnal capasiti, cryfhau trafodaethau siapio strategol a chynnar, a manteisio i’r eithaf ar werth pwyllgorau, archwiliadau dwfn ac ymweliadau safle.

Mae camau gweithredu sy’n codi yn cael eu hadlewyrchu mewn blaengynlluniau ac amcanion y bwrdd, gyda chynnydd yn cael ei fonitro drwy 2026 i 2027 i gefnogi goruchwyliaeth effeithiol mewn cyd-destun gweithredu heriol sy’n symud yn gyflym.

Mae’r bwrdd yn cynnal sesiynau strategaeth a datblygu rheolaidd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y bwrdd i fyfyrio ar agweddau allweddol ar ei waith, ac mae aelodau’r bwrdd yn ymweld â safleoedd yn unigol ac ar y cyd.

Adolygodd y bwrdd ei amcanion ar y cyd yn ystod 2025 i 2026, cytunodd ar amcanion newydd ar gyfer 2026 i 2027, ac mae o’r farn ei fod wedi cyflawni ei amcanion yn sylweddol ac wedi parhau i weithredu’n effeithiol yn ystod 2025 i 2026.

7.5 Pwyllgorau’r bwrdd

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg (ARAC)

Mae aelodau ARAC yn cynnwys 3 chyfarwyddwr anweithredol.

Rhwng 2023 a 2026, cafodd y pwyllgor ei gadeirio gan Jayne Scott, cyfarwyddwr anweithredol, sydd â phrofiad ariannol perthnasol a diweddar, gyda’r prif swyddog cyllid a gwybodaeth fel yr arweinydd gweithredol enwebedig.

Y mynychwyr sefydlog yw’r prif weithredwr fel swyddog cyfrifyddu, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth, y pennaeth cyllid, a’r pennaeth cynllunio busnes, risg a llywodraethiant.

Fel arfer, gwahoddir archwilwyr mewnol ac allanol i fynychu holl gyfarfodydd y pwyllgor.

Fe wnaeth uwch reolwyr eraill fynychu’r pwyllgor er mwyn cyflwyno papurau ac ymuno â thrafodaethau.

Mae’r pwyllgor yn sicrhau ein bod yn gweithredu systemau rheoli risg a rheolaeth effeithiol ac integredig i sicrhau bod y lefel gyffredinol o sicrwydd yn ddigonol.

Mae’n adolygu’r strategaeth a’r canlyniadau archwilio allanol, yn argymell cymeradwyo’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol, ac yn goruchwylio’r swyddogaeth archwilio mewnol a ddarperir gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA).

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd y pwyllgor adolygiad syml o effeithiolrwydd a gadarnhaodd fod y pwyllgor yn parhau i fodloni neu ragori ar safonau arferion gorau a hanfodol yn unol â’r adolygiad ffurfiol diwethaf a gynhaliwyd yn 2024 i 2025, ac nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Bydd adolygiad rheolaidd o effeithiolrwydd yn parhau yn unol â chylch gorchwyl y pwyllgor.

Cyfarfu’r pwyllgor 4 gwaith yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth y pwyllgor y canlynol:

  • parhau i ganolbwyntio ar risg adrodd ariannol ac adolygu ein polisïau cyfrifyddu, gan gynnwys adolygu’r penderfyniadau sylweddol a wnaed wrth baratoi’r cyfrifon a’r tybiaethau sy’n sail i’n cydbwysedd darpariaethau
  • cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y fframwaith rheoli risg a sicrwydd, y strategaeth atal twyll, a gwaith yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i reoli risg seiber
  • darparu adroddiad blynyddol i’r bwrdd ar systemau rheoli risg a rheolaeth cyffredinol y sefydliad
  • adolygu’r adolygiadau archwilio mewnol a gynhaliwyd gan GIAA, ar ein dull gweithredu o ran: - rheoli risg - cynllunio’r gweithlu - rhaglen halwynedd mewndirol - newid yn yr hinsawdd - rheoli contractau - data a gwybodaeth - cynllunio ariannol a rheoli cyllidebau

Roedd y farn archwilio mewnol ar gyfer 2025-2026 yn cynnig lefel ‘cymedrol’ o sicrwydd i reolwyr ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaethau mewnol y sefydliad.

Nododd adroddiad GIAA, er bod y prif farn yn aros yr un fath â’r llynedd, bod eu hymgysylltiad, eu dadansoddiad o ganfyddiadau a’u hargymhellion yn dangos bod yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio wedi parhau i ddatblygu a gwreiddio fframwaith llywodraethiant sy’n aeddfedu ac amgylchedd rheoli risg a rheolaeth effeithiol, a thynnodd sylw at duedd gadarnhaol yn y braced barn ‘cymedrol’, drwy nifer cynyddol o farnau ‘sylweddol’ ar draws yr adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.

Roedd yr adroddiad yn manylu y sylwyd ar arferion da ym maes llywodraethiant aml-haen, uwchgyfeirio risg, cynllunio strategol, a defnyddio gwybodaeth reoli i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau.

Roedd hefyd yn darparu argymhellion i wella rheolaethau mewn meysydd penodol sy’n cael eu mabwysiadu fel y bo’n briodol fel rhan o welliannau llywodraethiant a rheoli parhaus.

Mae gweithgarwch archwilio allanol ar gyfer 2025 i 2026 wedi cyfrannu gwybodaeth bellach o ran sicrwydd archwilio mewnol yng nghyswllt rheolaethau mewnol drwy ddilysu annibynnol ar effeithiolrwydd rheolaethau ariannol a llywodraethiant allweddol.

Y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol

Mae’r pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys 3 aelod sy’n gyfarwyddwyr anweithredol.

Rhwng 2025 a 2026, cafodd y pwyllgor ei gadeirio gan David Brooks, gyda’r cyfarwyddwr pobl ac ymgysylltu yn arweinydd gweithredol enwebedig.

Mae’r pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol yn cefnogi’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i wella gallu’r sefydliad i fodloni gofynion busnes yn y dyfodol.

Cynhaliodd y pwyllgor arolwg ac adolygiad effeithiolrwydd ym mis Rhagfyr 2025 a chytunodd fod y pwyllgor yn parhau i berfformio’n dda gydag ymgysylltiad a boddhad cryf.

Roedd yr argymhellion o’r adolygiad ar gyfer gwelliant parhaus a fydd yn cael eu datblygu yn y flwyddyn i ddod yn canolbwyntio ar gryfhau goruchwyliaeth strategol, sganio’r gorwel a gwella amrywiaeth o fewn y pwyllgor, gan gynnal y sicrwydd effeithiol presennol a llais cryf cydweithwyr ar yr un pryd.

Cyfarfu’r pwyllgor 4 gwaith yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth y pwyllgor ystyried y canlynol:

  • dosbarthiad adolygiadau datblygu a pherfformiad (PDR) ar gyfer 2025-2026 i sicrhau bod cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad (PRP) yn cael ei ddosbarthu’n deg
  • egwyddorion y cylch cyflog cyn ei gyflwyno i’r llywodraeth
  • adrodd ar y bwlch cyflog
  • diweddariadau rheolaidd gan y grŵp ymgysylltu â staff
  • cynllunio’r gweithlu ac olyniaeth
  • gwybodaeth reoli a dadansoddeg sy’n ymwneud â phobl ar gyfer meysydd fel absenoldeb, cadw gweithwyr, recriwtio a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI)
  • agwedd y sefydliad tuag at biblinellau recriwtio, datblygu a thalent
  • cynnydd yn erbyn y thema lle gwych i weithio ein cynllun busnes

Y pwyllgor iechyd, diogelwch a llesiant (HSW)

Mae aelodau HSW yn cynnwys 3 chyfarwyddwr anweithredol.

Rhwng 2025 a 2026, cafodd y pwyllgor ei gadeirio gan Bev Smith, gyda’r cyfarwyddwr pobl ac ymgysylltu yn arweinydd gweithredol enwebedig.

Prif gyfrifoldebau’r pwyllgor yw goruchwylio cynllun iechyd, diogelwch a llesiant yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, sicrhau bod diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol yn cael ei wreiddio ar draws y sefydliad a chynghori’r bwrdd ar faterion HSW i gefnogi’r cynllun busnes.

Mae pwyllgor HSW yn adolygu gwybodaeth fanwl am berfformiad iechyd, diogelwch a llesiant er mwyn cael sicrwydd ynghylch sut mae’r sefydliad yn perfformio ac er mwyn pennu’r blaenoriaethau.

Cynhaliodd y pwyllgor ei adolygiad effeithiolrwydd blynyddol ym mis Mawrth 2026, a chytunodd fod y pwyllgor yn parhau i gyflawni ei gylch gorchwyl yn effeithiol.

Cyfarfu’r pwyllgor 4 gwaith yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth y pwyllgor ystyried y canlynol:

  • yr adolygiad rheoli blynyddol sy’n rhoi sicrwydd ynghylch addasrwydd, digonolrwydd ac effeithiolrwydd y system rheoli HSW
  • cynnydd yn erbyn y cynllun iechyd, diogelwch a llesiant 2025 i 2028, gyda blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwelliant parhaus
  • Diwylliant ac ymddygiad HSW ar draws yr awdurdod
  • Risgiau HSW, gan gynnwys rheolaethau cysylltiedig a ffynonellau sicrwydd
  • dysgu o astudiaethau achos gweithredol ar brosesu cemegol, rheoli HSW yn ystod digwyddiadau ac asesu risg dynamig

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd (EAS)

Mae aelodau’r pwyllgor EAS yn cynnwys 3 chyfarwyddwr anweithredol.

Rhwng 2025 a 2026, cafodd y pwyllgor ei gadeirio gan Kate Denham, gyda’r cyfarwyddwr amgylcheddol yn arweinydd gweithredol enwebedig hyd fis Rhagfyr 2025, a’r cyfarwyddwr arloesi a gwasanaethau am weddill y flwyddyn fel rhan o ailstrwythuro tîm arwain gweithredol.

Prif gyfrifoldebau’r pwyllgor yw goruchwylio cynllun cynaliadwyedd yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, a chynghori’r bwrdd ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd i gefnogi’r cynllun busnes.

Mae pwyllgor EAS yn adolygu gwybodaeth fanwl am berfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd, er mwyn cael sicrwydd ynghylch sut mae’r sefydliad yn perfformio ac er mwyn pennu’r blaenoriaethau.

Cyfarfu’r pwyllgor 3 gwaith yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn, mae’r pwyllgor wedi ystyried y canlynol:

  • cynnydd yn erbyn cynllun cynaliadwyedd y sefydliad
  • archwiliadau dwfn i ddatgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy, economi gylchol, adfer natur a grymuso newid cynaliadwy
  • datblygu ein cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd a’n cynllun cynaliadwyedd
  • cynnal archwiliad trylwyr o werth cymdeithasol

Pwyllgor sicrwydd rhaglen dŵr mwyngloddiau halwynog (SMWPAC)

Mae aelodaeth y pwyllgor SMWPAC yn cynnwys 1 cyfarwyddwr anweithredol, y prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth, y cyfarwyddwr gweithrediadau, cyfarwyddwr y rhaglen halwynedd a phennaeth y rhaglen halwynedd.

Rhwng 2025 a 2026, cafodd y pwyllgor ei gadeirio gan Bev Smith, gyda chyfarwyddwr y rhaglen halwynedd yn arweinydd gweithredol enwebedig.

Prif gyfrifoldebau’r pwyllgor yw adolygu a herio’r strategaeth gyflawni gyffredinol ar gyfer y rhaglen i sicrhau ei bod yn bodloni gofynion strategol, rheoli amlygiad yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i risg i lefel briodol ac ystyried yr hyn a ddysgwyd o arferion gorau’r diwydiant.

Mae pwyllgor SMWPAC yn adolygu gwybodaeth fanwl am y rhaglen dŵr mwyngloddiau halwynog er mwyn cael sicrwydd ynghylch cyflawni’r rhaglen.

Cyfarfu’r pwyllgor 4 gwaith yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn, mae’r pwyllgor ystyried y canlynol:

  • cynnydd yn erbyn cerrig milltir allweddol y rhaglen
  • prosesau llywodraethiant a chymeradwyo’r rhaglen
  • sefyllfa ariannol y rhaglen
  • lliniaru risgiau a phroblemau allweddol y rhaglen

7.6 Rheoli perfformiad – y tîm arwain gweithredol

Mae’r tîm arwain gweithredol (ELT) yn cynnwys y prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth, y cyfarwyddwr gweithrediadau, cyfarwyddwr yr amgylchedd, y cyfarwyddwr pobl ac ymgysylltu, y cyfarwyddwr arloesi a gwasanaethau, y cyfarwyddwr sicrwydd rhaglenni a chontractau a chyfarwyddwr y rhaglen halwynedd.

Mae pob un o’r rhain yn adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwr.

Mae pob cyfarwyddwr yn gyfrifol am arwain a chyflawni eu cyfarwyddiaeth, ac maent hefyd yn gyfrifol ar y cyd am arwain a darparu ar draws y sefydliad.

Rhwng 2025 a 2026, roedd y cyfarwyddwr cynorthwyol digidol a gwybodaeth a phennaeth adran arall hefyd yn bresennol mewn cyfarfodydd ELT fel cyfle datblygu dros gyfnod o 6 mis.

Mae gan y cyfarfodydd busnes bob pythefnos agenda dreigl ffurfiol sy’n ystyried pob agwedd ar waith y sefydliad.

Mae’r cyfarfod hefyd yn ystyried adroddiad diweddaru misol y prif weithredwr sy’n rhoi trosolwg lefel uchel o sut mae’r busnes yn perfformio yn ei gyfanrwydd ac fel arfer mae’n cynnwys:

  • adolygiad o berfformiad y sefydliad
  • adroddiad ariannol cryno
  • adolygiad o symudiadau yn erbyn risg gorfforaethol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
  • gwybodaeth am ein pobl ac iechyd, diogelwch a llesiant ein pobl, ein cyflenwyr a’r cyhoedd
  • diweddariadau gan fyrddau rhaglenni a meysydd sefydliadol allweddol eraill (chwarterol)

Mae’r tîm arwain gweithredol (ELT) hefyd yn cynnal cyfarfodydd strategaeth misol sydd fel arfer yn ystyried eitemau mwy strategol a thymor hwy sy’n gofyn am drafodaeth, llywio a siapio mwy manwl.

7.7 Rheolaeth ariannol

Mae gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio system gadarn o reolaeth ariannol yn seiliedig ar lefelau pendant o awdurdod dirprwyedig a fframwaith cyllidebol clir.

Mae’r system hon wedi parhau’n effeithiol ac ni nodwyd unrhyw faterion rheoli sylweddol mewn unrhyw archwiliad mewnol nac allanol yn ystod y flwyddyn.

Mae’r materion sy’n cael eu cadw ar gyfer y bwrdd wedi’u nodi’n glir yn y fframwaith rheolaeth strategol, gyda chanllawiau manwl pellach mewn perthynas â pholisïau, gweithdrefnau a lefelau awdurdod dirprwyedig yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i staff.

Mae’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn rhan bwysig o’n fframwaith rheolaethau ariannol ac mae ganddo awdurdod dirprwyedig gan y prif weithredwr i gymeradwyo gwariant cyfalaf, rhaglenni allweddol, prosiectau a chyfleoedd masnachol ar yr amod eu bod:

  • yn cyd-fynd â strategaeth yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fel y nodir yn ei gynllun busnes 3-blynedd y cytunwyd arno gan y bwrdd
  • o fewn parodrwydd y bwrdd i dderbyn risg
  • ddim yn fater a gedwir yn ôl i un o adrannau’r llywodraeth
  • yn unol â chanllawiau eraill y llywodraeth sy’n berthnasol i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

Ar ôl i’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd gymeradwyo rhaglenni a phrosiectau, maen nhw’n cael eu goruchwylio gan fwrdd rhaglen perthnasol, gyda’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn cael diweddariadau rheolaidd ac yn darparu rhagor o oruchwyliaeth yn ôl yr angen.

Yn ystod 2025 i 2026, fe wnaethom benderfynu cyfuno ein bwrdd buddsoddi a chyfleoedd ag agweddau eraill ar gynllunio busnes, blaenoriaethu a rheoli adnoddau strategol i ffurfio bwrdd portffolio i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gyda mwy o oruchwyliaeth sefydliadol.

Dechreuodd y bwrdd portffolio o fis Ionawr 2026 ymlaen ac mae ei gylch gwaith llawn yn parhau i gael ei ddatblygu yn unol â’n gwaith parhaus o wella’r gwaith o reoli portffolios, rhaglenni a phrosiectau.

Fel rhan o’n fframwaith rheolaeth ariannol, rydym yn cynnal adolygiad manwl blynyddol o’n darpariaethau ar gyfer atebolrwydd sy’n deillio o gloddio glo yn y gorffennol.

Mae ein timau busnes yn dilysu tybiaethau allweddol ac yn diwygio amcangyfrifon sy’n cyfrannu at y cydbwysedd hwn ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dilynir hyn gan adolygiad a her gynhwysfawr gan ein tîm cyllid ac aelodau’r ELT a dadansoddiad o’r ffactorau sbarduno y tu ôl i’n cydbwysedd darpariaethau a chyflwynir symudiadau allweddol i’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg.

Mae allbynnau o’r model darpariaethau yn bwydo i mewn i’n datganiadau ariannol blynyddol (gweler nodyn 12 i’r cyfrifon) yn ogystal â darparu fframwaith ar gyfer pennu ein cyllideb yn fanwl a chynllunio busnes yn y tymor canolig.

7.8 Rheoli risg

Rheoli risg a’r diwylliant wedi’u gwreiddio

Rydym wedi canolbwyntio ar wella ein prosesau rheoli risg a sicrwydd yn barhaus, i hyrwyddo adrodd mewn amser real a sgyrsiau o safon uchel ar draws pob lefel o’r sefydliad.

Mae rheoli risg yn fyw ac wedi’i wreiddio mewn diwylliant sy’n annog trafodaeth amser real a pherchnogaeth ar risgiau. Mae’r canlynol yn tystio i hyn:

  • cysoni ein risgiau strategol yn glir â’n cynllun busnes
  • sesiynau sganio’r gorwel gan y bwrdd
  • adolygiad llawn o’n datganiad parodrwydd derbyn risg gan ein bwrdd, gydag ymgorffori clir a pharhaus o barodrwydd derbyn risg yn ein trafodaethau a’n penderfyniadau drwy fframwaith buddsoddi a chyfleoedd y bwrdd
  • cefnogaeth, craffu a herio rheolaidd a pharhaus gan ARAC, gan gynnwys adolygiad trylwyr o’n ‘3 llinell sicrwydd’
  • prosesau sy’n sicrhau, yn unol â’n fframwaith rheolaeth strategol, bod y bwrdd yn ystyried yn ffurfiol ac yn penderfynu ar unrhyw fater neu brosiect nad yw’n rhan o barodrwydd y bwrdd i dderbyn risg
  • adolygiadau risg misol ar lefel cyfarwyddiaeth gan gynnwys sganio’r gorwel ac adolygiad manwl ar draws risgiau ar lefel cyfarwyddiaeth ac adran
  • proses adolygu risg flynyddol ddiwygiedig a gwell ar gyfer risgiau strategol a risgiau ar lefel cyfarwyddiaeth
  • cofrestr risg sy’n fyw, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd ac yn cael ei chymeradwyo gan reolwyr bob chwarter, ac adolygiad cyfnodol ARAC, ELT a’r tîm busnes o’r fframwaith rheoli risg a sicrwydd (RMAF), yn seiliedig ar y Llyfr Oren a’r arferion gorau cyfredol
  • cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth o reoli risg i bob cydweithiwr a staff newydd
  • adolygiad archwilio mewnol cadarnhaol o effeithiolrwydd ein trefniadau rheoli risg
  • adolygiad manwl gan ein pwyllgor archwilio a sicrwydd risg o sut i wneud ein trefniadau rheoli risg hyd yn oed yn fwy effeithiol
  • parhau i rwydweithio a meincnodi gyda sefydliadau partner eraill yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ).

Sicrhau gwybodaeth a seiberddiogelwch

Nid oes gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio wybodaeth gyfrinachol neu dra chyfrinachol ac felly mae’n peri risg gynhenid gymharol isel o ran gwybodaeth i’r llywodraeth.

Mae’r uwch berchennog risg gwybodaeth (y prif swyddog cyllid a gwybodaeth) yn aelod o’r bwrdd ac mae’n atebol dros sicrhau bod rheolaethau cymesur yn cael eu rhoi ar waith i reoli risg gwybodaeth yn unol â pharodrwydd y bwrdd i dderbyn risg.

Mae lefel bygythiad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn parhau i fod yn uwch, gan adlewyrchu’r dirwedd risg fyd-eang ehangach.

Mewn ymateb, rydym yn parhau i ganolbwyntio’n gryf ar seiberwydnwch drwy gyfuniad o ddiwylliant sy’n ymwybodol o seiber a rheolaethau technegol gwydn, gan ddefnyddio dull amddiffyniad manwl.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom barhau i gryfhau ymwybyddiaeth cydweithwyr a chyfrifoldebau unigol drwy hyfforddiant, ymarferion gwe-rwydo ffug a chyfathrebu mewnol wedi’i dargedu.

Mae ein rheolaethau diogelwch technegol haenog yn parhau i fod yn effeithiol o ran canfod a rheoli bygythiadau.

Mae gennym bolisi priodol ar gyfer asesu risg, rheoli risg gwybodaeth a diogelu data a chofrestr asedau gwybodaeth.

Rydym yn monitro’n rhagweithiol y cyd-destun bygythiadau ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o fygythiadau i’n cadwyn gyflenwi.

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion arwyddocaol o dorri diogelwch na pholisi nac unrhyw golli gwybodaeth bersonol neu wybodaeth a ddiogelir yn ystod y flwyddyn.

Asesiad risg

Yn unol â’n cynllun busnes 3 blynedd, rydym wedi nodi’r prif fygythiadau a chyfleoedd a allai effeithio ar ein gallu i gyflawni ein hamcanion, ac rydym yn trafod mesurau lliniaru’n rheolaidd ar lefel y tîm arwain gweithredol a’r bwrdd.

Ceir eglurhad pellach o’r risgiau a’r mesurau rheoli yn adran risgiau strategol yr adroddiad perfformiad.

Nid ydym yn ceisio dileu risg ond yn chwilio am gyfleoedd i sicrhau dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd drwy wneud yn siŵr bod risg yn cael ei hystyried a’i rheoli.

Mae cyfeirio’n glir at barodrwydd i dderbyn risg yn ein galluogi i fabwysiadu iaith gyffredin ar draws yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ac yn darparu fframwaith i reolwyr allu gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg yn hyderus.

7.9 Ystyriaethau eraill

Adolygiad o’r dreth Alexander

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio wedi cydymffurfio â gweithdrefnau gweithio oddi ar y gyflogres adolygiad treth Alexander yn unol â gofynion Trysorlys EF i sicrhau bod unrhyw staff sy’n gweithio oddi ar y gyflogres yn talu’r dreth incwm a’r yswiriant gwladol priodol.

Adolygiad MacPherson (2013) o sicrhau ansawdd

Ar hyn o bryd nid yw’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn gweithredu unrhyw fodelau dadansoddi busnes critigol yn ôl diffiniad adolygiad MacPherson (2013).

Gwrth-dwyll (gan gynnwys gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredd) a chwythu’r chwiban

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd tryloyw ac mae gennym fframwaith polisi gwydn sy’n cynnwys polisïau gwrth-dwyll clir (yn cynnwys llwgrwobrwyo a llygredd) a chwythu’r chwiban.

Mae pob polisi’n rhoi arweiniad i staff ac mae’n rhan o’r broses gynefino.

Adolygir y polisïau hyn yn flynyddol ar gyfer perthnasedd ac eglurder, cyn cael eu briffio i staff a’u cyhoeddi ar ein mewnrwyd.

Mae asesu gweithgarwch ac adborth yn cadarnhau bod polisïau’n cael eu deall yn dda, eu bod yn effeithiol ac yn hawdd eu defnyddio.

Mae’r bwrdd wedi ymrwymo’n arbennig i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso, eu cefnogi a’u hamddiffyn pe bai angen iddynt godi unrhyw bryderon.

Atal caethwasiaeth fodern

Rydym wedi diweddaru ein datganiad a’n dull gweithredu o ran caethwasiaeth fodern mewn perthynas â chefnogi gofynion Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Adrodd ar gynaliadwyedd

Ochr yn ochr â’n hadroddiadau cynaliadwyedd, mae materion ac ystyriaethau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd yn cael eu monitro a’u herio yn ein pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd, gan roi sicrwydd a diweddariadau i’r bwrdd.

7.10 Adolygiad corff partner

Cynhaliwyd ein hadolygiad corff partner diwethaf yn ystod 2023-2024.

Roedd yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo bryd hynny) yn destun adolygiad cam 1 o gorff hyd braich Swyddfa’r Cabinet, a ddaeth i’r casgliad: “Darparodd yr Awdurdod Glo dystiolaeth gynhwysfawr i gefnogi’r adolygiad ac ymgysylltu’n llawn â’r broses.

“Roedd hyn yn galluogi asesiad gwydn a sicrhau’r gwerth gorau posibl o’r adolygiad.

“Yr argymhelliad cyffredinol yw peidio â bwrw ymlaen i adolygiad llawn.

“Drwy gydol yr adolygiad, roedd tystiolaeth gyson a oedd yn dangos bod gan yr Awdurdod Glo arweinyddiaeth a mecanweithiau effeithiol ar waith i’w alluogi i weithredu’n dda.”

Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad ym mis Tachwedd 2024 a gwnaeth nifer fach o argymhellion.

Cafodd yr holl argymhellion eu derbyn a’u rhoi ar waith yn llawn o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

Mae ein hadran noddi wedi derbyn pob ymateb.

7.11 Amgylchedd rheoli gwydn sy’n gwella’n barhaus

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad perfformiad, mae ein sefydliad yn parhau i ddatblygu wrth i ni reoli rhaglenni gwaith mwy a mwy cymhleth i gadw pobl yn ddiogel, i ddarparu tawelwch meddwl ac i warchod a gwella’r amgylchedd.

Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2025 i 2028 yn uchelgeisiol a thrwy gyfnod ein cynllun busnes nesaf byddwn yn parhau i esblygu ein sefydliad, gan wella ein llywodraethiant a’n heffeithlonrwydd ymhellach i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio wrth i ni symud tuag at ein gweledigaeth 10 mlynedd.

Rydym yn ymwybodol bod angen i ni barhau i ddatblygu ein trefniadau llywodraethiant a rheolaeth ymhellach er mwyn cefnogi hyn.

Mae ein grŵp llywio llywodraethiant yn goruchwylio gwelliannau parhaus i’n hamgylchedd llywodraethiant a rheolaeth, gan ddod ag unigolion allweddol o bob rhan o’r sefydliad at ei gilydd a meithrin ein diwylliant o welliant parhaus.

Yn ystod 2025 i 2026 rydym wedi parhau i hyrwyddo diwylliant rheoli risg cryfach fyth, wedi adolygu ein terfynau awdurdod dirprwyedig mewnol gan adlewyrchu maint a chymhlethdod newidiol y sefydliad, ac wedi dechrau gweithio i ddadansoddi anghenion y sefydliad o ran systemau busnes craidd gwydn ac integredig (cyllid, Adnoddau Dynol a chaffael).

Rydym hefyd wedi parhau i wella ein hymwybyddiaeth o wrth-dwyll ymhellach ac wedi rhoi ein cynllun gweithredu ar waith, gan barhau i ganolbwyntio ar gryfhau ein rheolaethau seiberddiogelwch ymhellach.

Rydym yn parhau i sicrhau arferion gorau ar draws ein meysydd gwaith swyddogaethol yn unol â safonau swyddogaethol y llywodraeth, gydag adolygiadau sicrwydd a chynlluniau gweithredu ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sy’n weddill i’w gwella’n barhaus.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cynnal adolygiad mewnol rheolaidd ar draws pob agwedd ar ein trefniadau sicrwydd ar lefel cyfarwyddiaeth, yn ogystal â sicrhau 3 llinell o sicrwydd amddiffyn ar draws ein risgiau strategol.

Mae’r gwaith parhaus hefyd yn cynnwys proffesiynoli rheolaeth portffolios, rhaglenni a phrosiectau ymhellach a pharhau i gryfhau ein gallu i sicrhau contractau.

Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig sicrhau nad ydym yn llaesu dwylo, ac rydym yn parhau i adolygu a datblygu ein hamgylchedd rheoli i sicrhau ei fod yn aros yn gymesur ac effeithiol wrth i’r amgylchedd allanol a’n sefydliad barhau i newid.

7.12 Effeithiolrwydd yr amgylchedd rheolaeth

Mae’r system lywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth wedi’i chynllunio i reoli risg i lefel resymol yn hytrach na dileu pob risg o fethu â chyflawni polisïau, nodau ac amcanion.

Felly, ni all ond darparu sicrwydd rhesymol, ac nid sicrwydd llwyr, o effeithiolrwydd.

Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith yn yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 ac, fel y dangosir, hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol, yn unol â chanllawiau Trysorlys EF.

Ar sail holl elfennau fframwaith llywodraethiant yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, rwyf yn fodlon bod trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn gymesur, yn addas i’r diben ac yn gweithio yn ôl y bwriad.

8. Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff

Paratowyd yr adroddiad hwn yn unol â llawlyfr adroddiadau ariannol y llywodraeth.

Lluniwyd yr adroddiad gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y bwrdd ar argymhellion y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol.

Fel rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae’r adroddiad tâl cydnabyddiaeth a staff yn rhoi manylion am wybodaeth allweddol sy’n ymwneud â chyflogau a thaliadau eraill, unrhyw daliadau ymadael neu ddyfarniadau sylweddol eraill i uwch reolwyr presennol neu gyn uwch reolwyr.

Mae hefyd yn cynnwys rhai polisïau ar gyflogau a materion ehangach, a datgeliad statudol sy’n ymwneud â materion fel cyflog teg ac ymrwymiadau oddi ar y gyflogres.

Mae’r tablau a’r adrannau canlynol yn yr adroddiad hwn yn amodol ar archwiliad:

  • tâl cydnabyddiaeth cyfarwyddwyr anweithredol
  • tâl cydnabyddiaeth i gyfarwyddwyr gweithredol
  • hawliau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol
  • nifer cyfartalog yr unigolion a gyflogir (cyfansymiau yn unig)
  • costau staff a chostau cysylltiedig
  • cyfansoddiad staff (cyfanswm cyffredinol ond nid rhaniadau rhwng y rhywiau)
  • adrodd ar gynllun iawndal y gwasanaeth sifil a chynlluniau iawndal eraill
  • lluosrifau tâl

8.1 Y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol

Fel yr eglurwyd yn y datganiad llywodraethiant, mae gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio bwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol sefydledig.

Mae hyn yn pennu ac yn cadw dan adolygiad strategaeth cyflogau a gwobrwyo ar gyfer holl staff yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ac yn adolygu egwyddorion y cylch cyflog ar gyfer ei gyflwyno i Ysgrifennydd Gwladol DESNZ.

Mae cylch gorchwyl y pwyllgor yn rhagnodi na fydd y prif weithredwr yn bresennol pan fydd eu tâl a’u hamodau gwaith yn cael eu hystyried.

8.2 Polisi tâl cydnabyddiaeth ar gyfer y cyfarwyddwyr gweithredol

Mae’r pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol yn adolygu ac yn gwneud argymhellion ynghylch tâl cydnabyddiaeth y cyfarwyddwyr gweithredol gan gynnwys y prif weithredwr.

Cytunir ar holl gyflogau cyfarwyddwyr gweithredol o fewn fframwaith canllawiau cylch cyflogau uwch weision sifil a bennir gan Swyddfa’r Cabinet.

8.3 Yr undeb llafur (gofynion cyhoeddi amser cyfleuster)

Dan y rheoliadau uchod, mae’n ofynnol i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ddarparu manylion am amser undebau llafur.

Ar gyfer 2025 i 2026, nid oes gweithgarwch i’w adrodd.

8.4 Trosiant staff

Mae trosiant staff yn parhau’n sefydlog gyda 38 o weithwyr yn gadael y sefydliad yn ystod y flwyddyn, canran o 8.4% (2024 i 2025: 9.9%).

8.5 Absenoldeb staff oherwydd salwch

Roedd cyfanswm y diwrnodau gwaith cyfartalog a gollwyd am bob blwyddyn staff yn 5.1 diwrnod, yn gymharol debyg i 2024 i 2025, sef 5.3 diwrnod.

Caiff cydweithwyr sydd wedi cymryd cyfnodau estynedig o absenoldeb eu cefnogi wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith drwy asesiadau iechyd galwedigaethol a thrwy ddefnyddio ein rhaglen cymorth i weithwyr.

8.6 Adolygiadau datblygu perfformiad (PDR)

Mae’r cyfarwyddwyr gweithredol yn cymryd rhan yn ein proses PDR.

Gwneir asesiadau unigol gan y prif weithredwr ac fe’u hadolygir gan y cadeirydd a’r pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol.

Cynhelir asesiad y prif weithredwr gan y cadeirydd ac fe’i hadolygir gan y pwyllgor pobl a chydnabyddiaeth ariannol.

Mae gwerthuso perfformiad unigol cydweithiwr yn seiliedig ar gyflawni amcanion ac ymddygiadau diffiniedig a asesir yn erbyn 4 sgôr perfformiad.

8.7 Tâl ar sail perfformiad (PRP)

Nid yw tâl ar sail perfformiad yn bensiynadwy ac mae’n amodol ar gael cymeradwyaeth flynyddol drwy’r broses cylch cyflog gan DESNZ.

Cafodd y cylch cyflog ar gyfer 2025 i 2026 ei gymeradwyo gan DESNZ ym mis Medi 2025.

Mae PRP yn cael ei ennill ar sail dyfarniad corfforaethol fel ei fod yn adlewyrchu perfformiad corfforaethol ac unigol yn erbyn amcanion.

Aseswyd perfformiad corfforaethol ar gyfer 2025 i 2026 gan y bwrdd ar 100% ac mae PRP wedi cael ei ddyfarnu yn unol â hynny.

8.8 Contractau cyfarwyddwyr gweithredol

Ein polisi yw y dylai cyfarwyddwyr gweithredol gael contractau cyflogaeth am gyfnod amhenodol, sy’n gofyn am gyfnod rhybudd o 6 mis gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyfarwyddwr.

Y cyfnod rhybudd i’w roi gan gyfarwyddwr i’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yw: gan y prif weithredwr, 6 mis, a chan y cyfarwyddwyr gweithredol eraill, 3 mis.

Dangosir manylion contractau cyflogaeth y cyfarwyddwyr gweithredol isod:

Dyddiad gwasanaeth parhaus
Lisa Pinney MBE 1 Mehefin 2018 i 30 Mehefin 2026
Paul Frammingham 6 Mai 2008
Carl Banton 5 Ionawr 2004

8.9 Cydnabyddiaeth ariannol i gyfarwyddwyr anweithredol (yn amodol ar archwiliad)

Mae cyfarwyddwyr anweithredol wedi cael eu penodi gan DESNZ yn unol â’r cod ymarfer a gyhoeddwyd gan y comisiynydd penodiadau cyhoeddus.

DESNZ sy’n pennu eu telerau ymgysylltu a’u cydnabyddiaeth ariannol.

Nid ydynt yn gymwys i gymryd rhan yn y cynlluniau pensiwn nac i dderbyn PRP.

Dangosir y ffioedd a delir i’r cyfarwyddwyr anweithredol isod:

Dyddiad diwedd y contract 2025 i 2026 2024 i 2025
Jeff Halliwell 31 Mawrth 2030 £27,050 £27,050
Jayne Scott 31 Mawrth 2028 £11,666 £11,666
David Brooks 31 Mawrth 2028 £11,666 £11,666
Bev Smith 31 Mawrth 2029 £11,666 £11,666
Kate Denham 31 Mawrth 2032 £11,666 £11,666

8.10 Cydnabyddiaeth ariannol i gyfarwyddwyr gweithredol (yn amodol ar archwiliad)

Cyflog 2025 i 2026 Cyflog 2024 i 2025 Lwfans 2025 i 2026 Lwfans 2024 i 2025 PRP 2025 i 2026 PRP 2024 i 2025 Buddion pensiwn 2025 i 2026 Buddion pensiwn 2024 i 2025 Cyfanswm 2025 i 2026 Cyfanswm 2024 i 2025
Lisa Pinney MBE £150,000 i £155,000 £145,000 i £150,000 0 0 £20,000 i £25,000 £15,000 i £20,000 £60,000 £59,000 £235,000 i £240,000 £225,000 i £230,000
Paul Frammingham £110,000 i £115,000 £110,000 i £115,000 £5,000 i £10,000 £5,000 i £10,000 £15,000 i £20,000 £10,000 i £15,000 £45,000 £43,000 £180,000 i £185,000 £170,000 i £175,000
Carl Banton £90,000 i £95,000 £90,000 i £95,000 £5,000 i £10,000 £5,000 i £10,000 £10,000 i £15,000 £10,000 i £15,000 (£13,000) £70,000 £100,000 i £105,000 £175,000 i £180,000

Mae tâl cydnabyddiaeth cyfarwyddwyr gweithredol yn cynnwys cyflog, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno a enillwyd yn ystod y flwyddyn dan y broses adolygu datblygiad perfformiad (nid dan gontract), lwfansau penodol a gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn.

Mae’r lwfansau’n cynnwys lwfansau car yn y ddwy flynedd i Paul Frammingham a lwfans cyfrifoldeb yn y ddwy flynedd i Carl Banton.

Mae PRP yn seiliedig ar lefelau perfformiad a gyrhaeddir ac fe’i gwneir fel rhan o’r broses adolygu perfformiad.

Mae PRP yn ymwneud â’r perfformiad yn y flwyddyn y daw’n daladwy i’r unigolyn.

Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi â 20 ynghyd â’r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad llai’r cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn.

Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn sgil trosglwyddo hawliau pensiwn.

Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn cynllun beicio i’r gwaith sydd wedi’i gymeradwyo gan CThEF.

Cymerodd Paul Frammingham ran yn y cynllun hwn o 2025 i 2026 yn unig.

Cymerodd Carl Banton ran yn y cynllun hwn o 2024 i 2025 ac o 2025 i 2026.

Ni chafodd unrhyw gyfarwyddwyr gweithredol unrhyw fuddion ymarferol yn ystod 2024-2025 na 2025-2026.

8.11 Hawliau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol (yn amodol ar archwiliad)

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2026 a chyfandaliad cysylltiedig Gwir gynnydd mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn Gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod ar 31 Mawrth 2026 Gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod ar 31 Mawrth 2025 Gwir gynnydd mewn gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod
Lisa Pinney MBE £30,000 i £35,000 £ 2,500 i £5,000 £418,000 £357,000 £38,000
Paul Frammingham £45,000 i £50,000 £ 2,500 i £5,000 £781,000 £722,000 £31,000
Carl Banton £40,000 i £45,000 0 £839,000 £846,000 (£25,000)

8.12 Pensiynau’r gwasanaeth sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n cael ei rannu’n ychydig o wahanol adrannau – mae clasurol, premiwm a chlasurol uwch yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, ac mae Nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa.

O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – y Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa.

Ymunodd pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd eisoes mewn swydd, â’r cynllun newydd.

Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu.

Mae gweithwyr a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau gweithwyr yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog).

Telir balans cost y buddiannau gan arian y pleidleisir arno gan y Senedd bob blwyddyn.

Mae pensiynau sy’n cael eu talu yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau.

Yn hytrach na’r trefniadau buddion diffiniedig, gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, cyfrif pensiwn y bartneriaeth.

Yn alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF.

Gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cymudo) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Bydd buddion PCSPS pob aelod sydd wedi newid i gynllun alpha o PCSPS yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.

Y pensiwn cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn normal, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd oed pensiwn neu dros yr oedran hwnnw.

Yr oedran pensiwn normal ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy yw 60, a 65 ar gyfer aelodau Nuvos, a 65 oed neu oed pensiwn y wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alpha.

Mae’r ffigurau pensiwn a yn yr adroddiad hwn ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol.

Os oes gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau’n dangos gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhannau o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.

Pan gyflwynodd y llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd yna drefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran.

Roedd aelodau hŷn o PCSPS yn aros yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha.

Yn 2018, canfu’r Llys Apêl fod y trefniadau pontio yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod.

Mae’r rhwymedi pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys 2 ran. Caeodd y rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda’r holl aelodau gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022 ymlaen.

Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Mae hyn yn cael ei alw’n “ddirwyn y broses yn ôl” (rollback).

Ar gyfer aelodau sydd o fewn cwmpas y rhwymedi pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, mae cyfrifo eu buddion at ddibenion cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod a’u ffigur cyfanswm tâl sengl, ar 31 Mawrth 2025 a 31 Mawrth 2026, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi cael ei dirwyn yn ôl i’r PCSPS.

Er y bydd aelodau’n cael dewis maes o law i benderfynu a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alpha, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi’i dirwyn yn ôl, h.y. buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn galwedigaethol cyfraniadau diffiniedig sy’n rhan o’r Legal & General Mastertrust.

Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% ac 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod).

Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr).

Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol ar sail afiechyd).

Mae rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael ar y wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk.

Ar gyfer 2025 i 2026, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £5,901,000 yn daladwy i’r PCSPS (2024-2025: £5,146,000) ar gyfradd o 28.97% o gyflog pensiynadwy.

Bydd Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun.

Cafodd y bandiau cyflog a’r cyfraddau cyfrannu eu diwygio ar gyfer 2024 i 2025 a byddant yn aros yr un fath tan 2028 i 2029.

Mae cyfraddau’r cyfraniadau’n adlewyrchu’r buddion wrth iddynt gronni, nid pan fydd y costau’n codi mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad blaenorol o’r cynllun.

Gall gweithwyr ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr.

Talwyd cyfraniadau’r cyflogwr o £71,920 (2024 i 2025: £65,657) mewn perthynas â 16 (2024 i 2025: 18) o weithwyr a symudodd o alpha i’r cynllun partneriaeth.

8.13 Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod

Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod (CETV) yw gwerth cyfalafol a aseswyd gan actiwari o fuddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol.

Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun.

CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol.

Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun.

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

8.14 Cynnydd real mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr.

Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o drefniant neu gynllun pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Dim personau (2024 i 2025: 2 berson) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd; roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn £dim (2024 i 2025: £12,000).

Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer cyfartalog yr unigolion a gyflogir gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio drwy gydol 2025 i 2026.

Mae’n adlewyrchu twf parhaus yn rhaglenni gweithredol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a gwaith a ariennir yn allanol.

8.15 Nifer cyfartalog y bobl a gyflogwyd (yn amodol ar archwiliad)

Staff Arall Cyfanswm
2025 i 2026 439 13 452
2024 i 2025 398 9 407

Cafodd 3.6 o unigolion cyfwerth ag amser llawn eu codi ar brosiectau cyfalaf yn ystod 2025 i 2026 (2024 i 2025: 9).

8.16 Staff a chostau cysylltiedig 2025 i 2026 (yn amodol ar archwiliad)

Staff Arall Cyfanswm
Cyflogau £22,577,000 £0 £22,577,000
Costau nawdd cymdeithasol £3,113,000 £0 £3,113,000
Costau pensiwn eraill £5,972,000 £0 £5,972,000
Costau staff asiantaeth £0 £1,360,000 £1,360,000
Cyfanswm costau £31,662 ,000 £ 1,360,000 £33,022,000

8.17 Staff a chostau cysylltiedig 2024 i 2025 (yn amodol ar archwiliad)

Staff Arall Cyfanswm
Cyflogau £19,485,000 £0 £19,485,000
Costau nawdd cymdeithasol £2,220,000 £0 £2,220,000
Costau pensiwn eraill £5,200,000 £0 £5,200,000
Costau staff asiantaeth £0 £1,286,000 £1,286,000
Cyfanswm costau £26,905,000 £1,286,000 £28,191,000

8.18 Cyfansoddiad staff (cyfanswm cyffredinol yn amodol ar archwiliad, nid y rhaniad rhwng y rhywiau)

Mae’r tabl canlynol yn dangos cyfansoddiad gweithlu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar 31 Mawrth 2026.

Cyfarwyddwyr anweithredol Y tîm arwain gweithredol Uwch reolwyr Staff Cyfanswm
Dynion 2 5 13 250 270
Menywod 3 3 15 209 230
Cyfanswm 5 8 28 459 500

8.19 Anabledd, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan bawb a allai fod â’r sgiliau priodol i’n helpu i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Rydym yn cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr sy’n nodi bod ganddynt anabledd neu sy’n dod o grwpiau ethnig amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydym yn gweithio’n barhaus i hyrwyddo cynhwysiant a dileu rhagfarn o’n harferion recriwtio.

Rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn mynd ati’n rhagweithiol i roi mesurau cynhwysol ar waith i gefnogi ymgeiswyr a chydweithwyr i sicrhau llwyddiant yn ein sefydliad.

Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser ac amserlenni gwaith cywasgedig.

Rydym wedi cyflawni yn erbyn y camau gweithredu a amlinellir yn ein cynllun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (2021 i 2024) a’n cynllun gwrth-hiliaeth (2022 i 2025) gan wella amrywiaeth ein gweithlu.

Mae ein cynllun cynhwysiant bob dydd 2025 i 2028, sy’n cynnwys ein camau gweithredu gwrth-hiliaeth, wedi cael ei gyhoeddi eleni ac mae’n amlinellu sut byddwn yn parhau i wrando a dysgu.

Rydym yn parhau i weithio i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu amrywiol ar bob lefel a’u datblygu drwy’r holl sefydliad.

Rydym yn annog pawb i deimlo’n gyfforddus i hunan-ddatgelu data amrywiaeth yn gyfrinachol er mwyn gwella cywirdeb ein hadroddiadau a’n galluogi ni i roi camau gweithredu clir ar waith.

Ein nod yw bod yn sefydliad gwirioneddol amrywiol a chynhwysol – ‘lle gwych i weithio i bawb’.

Gwyddom fod gennym fwy i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wella a chreu newid cadarnhaol.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith amrywiaeth a chynhwysiant ar gael yn adran “ein pobl” yr adroddiad hwn.

8.20 Adrodd am gynlluniau iawndal y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael (yn amodol ar archwiliad)

Nid oedd unrhyw gynlluniau Gwasanaeth Sifil na chynlluniau iawndal eraill (pecynnau ymadael) yn ystod 2025 i 2026 (2024 i 2025: dim).

8.21 Rhoi gwybod am benodiadau cyflog mawr oddi ar y gyflogres

Nid oedd unrhyw weithwyr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr ar 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 y diwrnod neu fwy.

Nid oedd unrhyw weithwyr oddi ar y gyflogres ar gyflog mawr ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, a oedd yn ennill £245 y diwrnod neu fwy.

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cynnal archwiliadau fel mater o drefn ar rolau arfaethedig, gan gynnwys profion Gwasanaeth Statws Cyflogaeth CThEM, i bennu statws IR35 cyn gwneud unrhyw gynnig.

Lle mae’r gwiriadau hyn yn awgrymu bod angen sicrwydd ynghylch treth incwm a rhwymedigaethau yswiriant gwladol, mae contractau’n cynnwys y cymalau a grybwyllwyd uchod a gofynnir am sicrwydd naill ai gan y gweithiwr neu gan yr asiant y maent yn gweithio drwyddo.

Ymrwymiadau oddi ar y gyflogres o ran aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026:

Nifer
Nifer yr ymrwymiadau oddi ar y gyflogres o ran ‘aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol’ yn ystod y flwyddyn ariannol 0
Nifer yr unigolion yr ystyriwyd eu bod yn ‘aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol’, yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys ymrwymiadau ar ac oddi ar y gyflogres 15

Roedd gwariant ymgynghoriaeth ar gyfer y flwyddyn yn £dim (2024 i 2025: £dim).

8.22 Lluosrifau tâl (yn amodol ar archwiliad)

Y newid canrannol ers y flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer cyflog a lwfansau, a chyflog seiliedig ar berfformiad, y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a gweithwyr yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yw:

Cyflog a lwfansau 2025 i 2026 2024 i 2025
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf (pwynt canol y band) 3.4% 0%
Gweithwyr yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 2.6% 3.9%
PRP 2025 i 2026 2024 i 2025
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf (pwynt canol y band) 28.6% 0%
Gweithwyr yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio 7.2% 6.3%

Dyfarniad cyflog a oedd yn 3.5% ar gyfartaledd (2024 i 2025: 5%) wedi’i dalu ar draws pob lefel o’r sefydliad. Yn 2025 i 2026, cynyddodd cyflog a lwfansau cyfartalog cyflogeion 2.5% (2024 i 2025: 3.7%).

Mae cyflog seiliedig ar berfformiad yn gysylltiedig â chyflawni targedau perfformiad y sefydliad, a gafodd eu cyflawni’n llawn yn ystod 2025 i 2026.

Mae cap ar gyflog a thâl seiliedig ar berfformiad y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf.

Mae cymhareb tâl y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf â thâl y cyflogai yn y 3 chwartel fel a ganlyn:

Blwyddyn 25ain canradd Canolrif 75ain canradd
2025 i 2026 4.6 3.5 3.0
2024 i 2025 4.3 3.4 2.9

Mae cyfanswm y tâl cydnabyddiaeth yn cynnwys cyflog, lwfansau a thâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau.

Dyma’r ffigurau y seilir y cyfrifiadau hyn arnynt:

Blwyddyn 25ain canradd cyfanswm cyflog a buddion 25ain canradd cyflog Canolrif cyfanswm cyflog a buddion Cyflog canolrifol 75ain canradd cyfanswm cyflog a buddion Cyflog 75ain canradd
2025 i 2026 38,902 36,553 50,632 47,691 60,024 56,135
2024 i 2025 38,596 36,278 48,948 46,563 58,661 54,892

Tâl band (cyfanswm , llai buddion pensiwn) y cyfarwyddwr sy’n cael y tâl uchaf yn y sefydliad yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 oedd £175,000 i £180,000 (2024 i 2025: £165,000 i £170,000).

Yn 2025 i 2026 a 2024 i 2025, ni chafodd unrhyw gyflogai dâl cydnabyddiaeth a oedd yn fwy na’r cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf. Roedd y taliadau cydnabyddiaeth yn amrywio rhwng £24,969 a £177,500 (2024 i 2025: £22,162 i £167,500).

9. Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Fel rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae adroddiad atebolrwydd ac archwilio’r senedd yn nodi’r datgeliadau ychwanegol hynny sy’n ofynnol gan Senedd y DU, os na fanylir arnynt mewn man arall yn yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, ac mae’n cynnwys yr adroddiad archwilio allanol.

Safonau swyddogaethol y llywodraeth

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cydymffurfio â mabwysiadu safonau swyddogaethol y llywodraeth, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion a blaenoriaethau busnes.

Mae’r adrannau canlynol yn amodol ar archwiliad.

9.1 Rheoleidd-dra gwariant: colledion, taliadau arbennig a rhoddion

Ni chafwyd unrhyw golledion na thaliadau arbennig dros £300,000, nac unrhyw roddion yn ystod 2025 i 2026.

9.2 Ffioedd a thaliadau

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cydymffurfio â’r gofynion dyrannu costau a chodi tâl a nodir yng nghanllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EF.

Eglurir isod ffrydiau incwm mwyaf arwyddocaol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, fel yr amlinellir yn nodyn 3 i’r datganiadau ariannol.

Mae gwasanaethau cynghori a thechnegol yn cynnwys darparu rhaglenni cynlluniau dŵr mwyngloddiau metel ar gyfer Defra yn Lloegr a Llywodraeth Cymru, gwasanaethau rheoli tomennydd ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cynghori eraill sy’n ymwneud â phrosiectau seilwaith, cefnogi awdurdodau lleol i reoli risgiau sy’n gysylltiedig â mwyngloddio a phartneriaid i ddatgloi cyfleoedd o wres mwyngloddiau.

Cynhyrchodd ein gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £13,016,000 (2024 i 2025: £9,996,000), costau o £12,578,000 (2024 i 2025: £9,636,000), a gwarged o £438,000 (2024 i 2025: £360,000 o warged).

Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori a thechnegol yw naill ai adennill costau llawn (gan gynnwys lwfans ar gyfer adennill gorbenion) wrth ddarparu gwasanaethau ar draws y llywodraeth, neu gyfraddau masnachol, sy’n adlewyrchu’r lefelau uwch o risg, wrth ddarparu gwasanaethau i farchnadoedd cystadleuol.

Mae cyfran yr incwm o ganlyniad i adennill costau’n llawn dros 96% (2024 i 2025: 97%), sy’n adlewyrchu’r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau i’n cwsmeriaid ar draws y llywodraeth wrth i ni eu cefnogi i ddarparu rhaglenni allweddol.

Cynhyrchodd adroddiadau mwyngloddio incwm o £6,186,000 (2024 i 2025: £6,710,000), costau o £3,289,000 (2024 i 2025: £3,442,000), a gwarged o £2,897,000 (2024 i 2025: £3,268,000 o warged).

Rheolir ac adroddir ar wariant sy’n gysylltiedig â rhaglenni a gweithgareddau penodol dan segmentau gweithrediadau eraill, ond mae’n ymwneud â gwella data a gwybodaeth.

Amcan ariannol adroddiadau mwyngloddio yw darparu gwasanaethau ar raddfa fasnachol.

Cynhyrchodd trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio incwm o £2,676,000 (2024 i 2025: £2,317,000), ad-daliadau mewnol o £1,384,000 (2024 i 2025: £1,537,000), costau o £3,445,000 (2024 i 2025: £3,493,000), a gwarged o £615,000 (2024 i2025: £361,000 o warged).

Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth am drwyddedu a chloddio data yw adennill costau llawn (gan gynnwys lwfans ar gyfer adfer gorbenion).

Cynhyrchodd gweithgareddau trwyddedu a chaniatadau incwm o £1,328,000 (2024 i 2025:£1,005,000), costau o £1,515,000 (2024 i 2025: £1,491,000), a diffyg o £187,000 (2024 i 2025: diffyg o £485,000).

Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau trwyddedu a chaniatadau yw adennill costau llawn ynghyd â lwfans ar gyfer adfer gorbenion.

9.3 Rhwymedigaethau digwyddiadol pell

Nid oes yn rhaid datgelu rhwymedigaethau digwyddiadol pell dan Safon Cyfrifeg Ryngwladol (IAS) 37, ond fe’u hystyrir yma at ddibenion adrodd ac atebolrwydd senedd y DU.

Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio o’r farn bod datgeliad digonol ar gael yn y datganiadau ariannol, yn nodyn 15 o rwymedigaethau amodol a Darpariaethau nodyn 12, i roi dealltwriaeth lawn i’r darllenydd o’r rhwymedigaethau y mae’n eu hwynebu ac y gallai eu hwynebu.

9.4 Busnes hyfyw

Cafodd yr adroddiad hwn ei greu ar sail bod yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn fusnes hyfyw fel y nodir yn nodyn 1.3 y datganiadau ariannol.

Cymeradwywyd yr adroddiad atebolrwydd hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu, Paul Frammingham, ar 9 Gorffennaf 2026.

10. Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ’r Cyffredin

10.1 Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol yr Awdurdod Glo ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026 dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y canlynol gan yr Awdurdod Glo:

  • datganiad o sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2026
  • datganiad o wariant net cynhwysfawr, datganiad llifoedd arian a datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben
  • nodiadau cysylltiedig gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig

Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi datganiadau ariannol yr Awdurdod Glo yw’r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr busnes yr Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2026 a’i incwm net ar gyfer y flwyddyn yn diweddu bryd hynny
  • wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd oddi tani

10.2 Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan Senedd y DU, ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

10.3 Sail y farn

Fe gynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Gyfrifyddu (Y DU) (ISAs y DU), y gyfraith berthnasol, a Nodyn Ymarfer 10 Archwilio Datganiadau Ariannol a Rheoleidd-dra Cyrff Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (2024).

Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a’m staff gydymffurfio â Safon Moesegol Ddiwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2024.

Rwyf yn annibynnol ar yr Awdurdod Glo yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU.

Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill, yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chael o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail i fy marn.

10.4 Pwysleisio mater – darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau dŵr mwyngloddiau, diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant

Tynnaf sylw at y datgeliadau a wnaed yn nodiadau 1.20 a 12 i’r datganiadau ariannol sy’n ymwneud â’r ansicrwydd sy’n gynhenid yn y darpariaethau yng nghyswllt trin dŵr mwyngloddiau, sef £1,121 miliwn (2025: £1,238 miliwn) a diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant o £328 miliwn (2025: £324 miliwn), cyfanswm o £1,449 miliwn ar 31 Mawrth 2026 (2025: £1,562 miliwn).

Fel y nodir yn y nodiadau, o ystyried natur hirdymor y rhwymedigaethau hyn a nifer a natur y rhagdybiaethau y seilir yr amcangyfrifon o’r darpariaethau penodol hyn arnynt, bu angen i’r Awdurdod Glo wneud penderfyniadau sylweddol wrth amcangyfrif y ddarpariaeth ac mae cryn ansicrwydd yn parhau i fod ynghylch gwerth y rhwymedigaethau.

Gallai newidiadau sylweddol i’r rhwymedigaethau ddigwydd o ganlyniad i wybodaeth a digwyddiadau dilynol sy’n wahanol i’r tybiaethau presennol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod Glo.

Nid yw fy marn wedi’i haddasu o ran y mater hwn.

10.5 Casgliadau ynglŷn â busnes hyfyw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr Awdurdod Glo o sail cyfrifyddu busnes hyfyw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi canfod dim ansicrwydd o bwys yn ymwneud â digwyddiadau nac amodau a allai, ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r Awdurdod Glo i barhau i fod yn fusnes hyfyw am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad pan awdurdodir y datganiadau ariannol i’w cyhoeddi.

Mae fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes hyfyw yn cael eu disgrifio yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mae sail cyfrifyddu busnes hyfyw ar gyfer yr Awdurdod Glo yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes hyfyw wrth baratoi’r datganiadau ariannol pan ragwelir y bydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn parhau i’r dyfodol.

10.6 Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol ond nid yw’n cynnwys y datganiadau ariannol a’m datganiad a’m tystysgrif i fel archwiliwr arnynt.

Mae’r swyddog cyfrifyddu’n gyfrifol am yr wybodaeth arall.

Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny, heblaw i’r graddau y bo hynny wedi’i ddatgan yn glir yn fy nhystysgrif.

Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol, neu’r wybodaeth rwyf wedi’i chael yn yr archwiliad, neu sy’n ymddangos yn gamddatganiad o bwys fel arall.

Os byddaf yn canfod anghysondebau o bwys neu gamddatganiadau o bwys tybiedig, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o ran yr wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

10.7 Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r adroddiad tâl cydnabyddiaeth a staff sydd i’w harchwilio wedi’i pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994;

Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

  • paratowyd y rhannau o’r adroddiad atebolrwydd sy’n destun archwiliad yn briodol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd dani
  • mae’r wybodaeth a roddir yn yr adroddiadau perfformiad ac atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol cymwys

10.8 Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni gwybodaeth a dealltwriaeth am yr Awdurdod Glo a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr adroddiad perfformiad ac atebolrwydd.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol y byddaf yn adrodd arnynt i chi os, yn fy marn i:

  • nad yw’r Awdurdod Glo wedi cadw cofnodion cyfrifyddu priodol, neu na chyflwynwyd ffurflenni perthnasol i’m harchwiliad gan ganghennau nad yw fy staff wedi ymweld â nhw
  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad
  • nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhannau o’r adroddiad atebolrwydd sy’n destun archwiliad yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni
  • nad yw rhai o’r taliadau cydnabyddiaeth a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EF wedi cael eu datgelu neu nad yw rhai o’r adroddiad taliadau cydnabyddiaeth a staff sydd i’w harchwilio yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni
  • nad yw’r datganiad Llywodraethiant yn adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF

10.9 Cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, mae’r swyddog cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • cynnal cofnodion cyfrifyddu priodol
  • darparu mynediad i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol at yr holl wybodaeth y mae’r rheolwyr yn ymwybodol ohoni sy’n berthnasol ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol fel cofnodion, dogfennau a materion eraill
  • rhoi’r wybodaeth a’r esboniadau ychwanegol sydd eu hangen ar y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar gyfer ei archwiliad
  • darparu mynediad anghyfyngedig i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol at bersonau o fewn yr Awdurdod Glo y mae’r archwilydd yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol cael tystiolaeth archwilio ganddynt
  • sicrhau bod y fath reolaethau mewnol ar waith fel yr ystyrir sy’n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol heb gynnwys camddatganiadau o bwys, boed o ganlyniad i dwyll neu gamgymeriad
  • paratoi datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg ac sydd yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol
  • paratoi’r adroddiad blynyddol, sy’n cynnwys yr Adroddiad Tâl Cydnabyddiaeth a Staff, yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol
  • asesu gallu’r Awdurdod Glo i barhau fel busnes hyfyw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n ymwneud â busnes hyfyw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes hyfyw oni bai fod y swyddog cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod Glo yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

10.10 Cyfrifoldebau’r archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyflwyno tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i.

Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu y bydd archwiliad a gynhaliwyd yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Gyfrifyddu (y DU) bob amser yn dod o hyd i gamddatganiad o bwys lle bo hynny’n bodoli.

Mae camddatganiadau’n gallu codi o dwyll neu gamgymeriadau ac maen nhw’n cael eu hystyried yn rhai o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

10.11 I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Rwy’n llunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau o bwys mewn perthynas â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Nodir isod i ba raddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu dod o hyd i achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

10.12 Nodi ac asesu risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Wrth nodi ac asesu risgiau camddatganiadau perthnasol ynghylch peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, fe wnes i:

  • ystyried natur y sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad gweithredol gan gynnwys dyluniad polisïau cyfrifyddu’r Awdurdod Glo
  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr Awdurdod Glo a’r rhai a oedd yn gyfrifol am lywodraethiant, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod Glo ar:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau
    • canfod ac ymateb i risgiau twyll
  • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau’r Awdurdod Glo yn ymwneud â chydymffurfiaeth yr Awdurdod Glo â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a Rheoli Arian Cyhoeddus
  • holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr Awdurdod Glo a’r rhai a oedd yn gyfrifol am lywodraethiant:
    • a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau
    • a oeddent yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig
  • a oeddent wedi trafod gyda’r tîm ymgysylltu ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll

O ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a allai fodoli yn yr Awdurdod Glo ar gyfer twyll a nodais fod y posibilrwydd mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio dyddlyfrau anarferol, trafodion cymhleth a rhagfarn mewn amcangyfrifon rheoli. Yn yr un modd â phob archwiliad o dan y Rheolau Rhyngwladol ar Gyfrifyddu (y DU),

mae’n ofynnol i mi ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg o ddiystyru gan reolwyr.

Cefais ddealltwriaeth o fframwaith awdurdod yr Awdurdod Glo a fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Awdurdod Glo yn gweithredu yn unol â hwy.

Canolbwyntiais ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau’r Awdurdod Glo.

Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriais yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf y Diwydiant Glo 1994, Deddf Rheoli Arian Cyhoeddus, Deddf Dŵr 2003, Deddf Mwyngloddiau ac Ymholiadau (Tomennydd) 1969, Rheoliadau Mwyngloddiau a Chwareli (Tomennydd) 1971, Deddf Draenio Doncaster 1929 a’r Gorchymyn Diwygio cysylltiedig 1994, Deddf Ynni 2011, Rheoliad Mwyngloddiau 2014 a chyfraith cyflogaeth berthnasol, deddfwriaeth pensiynau a deddfwriaeth treth.

10.13 Ymateb yr archwiliad i risg a nodwyd

Er mwyn ymateb i’r risgiau a nodwyd sy’n deillio o’r gweithdrefnau uchod:

  • adolygais ddatgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â darpariaethau cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a ddisgrifir uchod fel rhai sy’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol
  • holais y rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r cwnsler cyfreithiol mewnol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl
  • adolygais gofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant a’r Bwrdd ac adroddiadau archwilio mewnol
  • rhoddais sylw i’r risg o dwyll wrth i reolwyr ddiystyru rheolaethau, drwy brofi pa mor briodol yw cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; gan asesu a yw’r penderfyniadau ar amcangyfrifon yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg busnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu sydd y tu allan i’r busnes arferol

Fe wnes i gyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad pellach o’m cyfrifoldebau o ran archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities.

Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m tystysgrif.

10.14 Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae’n rhaid i mi gael tystiolaeth archwilio briodol sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan Senedd y DU a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu â’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion o bwys o ran rheolaeth fewnol y byddaf yn dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

10.15 Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol, 10 Gorffennaf 2026.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 157-197 Buckingham Palace Road, Victoria, Llundain SW1W 9SP