Rheoliadau allweddol
Cyhoeddwyd 26 Ionawr 2018
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Deddf Safonau Bwyd 1999
Prif bwrpas Deddf Safonau Bwyd 1999 yw ein sefydlu fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae’r Ddeddf yn bodoli i roi swyddogaethau a phwerau i ni, ac i drosglwyddo rhai swyddogaethau mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd.
Cyflwynwyd y Ddeddf yn Nhŷ’r Cyffredin ym 1999.
Mae’n nodi ein prif nod i ddiogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd. Mae’n rhoi’r pŵer i ni weithredu er budd y defnyddiwr ar unrhyw adeg yn y gadwyn cyflenwi a chynhyrchu bwyd.
Deddf Diogelwch Bwyd 1990
Cymru a Lloegr
Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y’i diwygiwyd) yn darparu’r fframwaith ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth fwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Y prif gyfrifoldebau ar gyfer pob busnes bwyd o dan y Ddeddf yw sicrhau:
- nad yw busnesau yn cynnwys unrhyw beth mewn bwyd, yn cael gwared ar unrhyw beth o fwyd nac yn trin bwyd mewn unrhyw ffordd sy’n golygu y byddai’n niweidiol i iechyd y bobl sy’n ei fwyta
- bod y bwyd y mae busnesau yn ei weini neu ei werthu o’r natur, y sylwedd neu’r ansawdd y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl
- bod y bwyd wedi’i labelu, ei hysbysebu a’i gyflwyno mewn ffordd nad yw’n ffug neu’n gamarweiniol
Pwysig
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Cymru a Lloegr
Food Safety Act 1990 - a guide for food businesses
Gorchymyn Diogelwch Bwyd 1991
Gogledd Iwerddon
Northern Ireland Food Safety Order 1991 business guide
Cyfraith Bwyd Cyffredinol
P’un a ydych chi’n fusnes bwyd neu’n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae’r trosolwg hwn yn trafod y brif ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol:
- mewnforion ac allforion bwyd
- diogelwch
- olrhain
- labelu
- galw a thynnu cynhyrchion yn ôl
Codau Ymarfer
Cymryd cip ar Godau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd
Daeth Rheoliadau domestig Gwybodaeth am Fwyd 2014 i rym ar 14 Gorffennaf 2014 ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i orfodi Rheoliad (UE) 1169/2011 a gymathwyd ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr (Rheoliadau FIC).
Mae angen i fusnesau ddarparu gwybodaeth am alergenau os yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen fel y’u rhestrir yn y ‘rheoliadau FIC’. Canllawiau i fusnesau bwyd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau ac arfer gorau ar gyfer trin alergenau.
Bydd modd defnyddio trosedd wrth gefn os nad yw busnesau yn cydymffurfio â Hysbysiad Gwella, lle bydd gofyn i droseddwr, ar gollfarn ddiannod (summary conviction), dalu dirwy nad yw’n fwy na lefel 5. Bydd troseddau yn parhau i fodoli os yw busnesau yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys, yn bennaf, cam-labelu bwyd sy’n cynnwys alergenau gan fod peidio â chydymffurfio â’r darpariaethau alergenau yn gallu arwain at risg i iechyd a diogelwch defnyddwyr.
Mae’r rheoliadau yn mabwysiadu rhai rhanddirymiadau a hyblygrwydd cenedlaethol a ganiateir gan y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd sef:
- rhanddirymiad (derogation) o’r angen i roi gwybodaeth orfodol am laeth a chynhyrchion llaeth mewn poteli gwydr y bwriedir eu hailddefnyddio. Mae mabwysiadu’r rhanddirymiad hwn yn cynnal yr eithriad presennol.
- rhanddirymiad o safonau cyfansoddiad briwgig (minced meat) ar fraster a cholagen i gymarebau protein cig yn y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd. Mae mabwysiadu’r rhanddirymiad hwn yn caniatáu i fusnesau barhau i gyflenwi marchnadoedd y DU â briwgig traddodiadol, ar yr amod ei fod yn cael ei werthu o dan farc cenedlaethol.
- i gadw’r gofyniad i nodi enw’r bwyd ar fwyd sy’n cael ei werthu heb ei becynnu.
- i gadw’r gofyniad am arwydd meintiol o’r cynnwys cig ar gyfer cynhyrchion cig sy’n cael eu gwerthu heb eu pecynnu ymlaen llaw.
- i gyflwyno’r dulliau penodol y mae’n rhaid eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.
- diweddaru deddfwriaeth labelu a safonau bwyd arall i adlewyrchu’r Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd a chyflwyno Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014.
Mae rheoliadau tebyg, ond ar wahân, wedi’u llunio yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban.
Gogledd Iwerddon
Mae ein canllaw i fusnesau yn nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau o dan y Gorchymyn, ynghyd â manylion o ran ei orfodi.
Mae disgwyl i reolwyr busnesau mawr a chanolig i ddarllen y canllaw yn fanwl. Bydd angen i staff wybod y prif gyfrifoldebau a amlinellir yn y cyflwyniad.
Dylai busnesau bach hefyd fod yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau hyn a gallant ddefnyddio gweddill y canllaw i gyfeirio at y Gorchymyn.