Adroddiad corfforaethol

Brîff gwybodaeth CThEM: Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm

Cyhoeddwyd 30 November 2015

O fis Ebrill 2016 ymlaen, bydd gan Lywodraeth Yr Alban y pŵer i osod cyfradd ei hun o Dreth Incwm er mwyn ariannu gwariant gan Lywodraeth Yr Alban. Mae’r brîff hwn yn egluro beth yw Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm, ar gyfer pwy y bydd hi’n gymwys a sut y caiff ei rhoi ar waith.

1. Beth yw Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm?

O fis Ebrill 2016 ymlaen, bydd pobl sy’n byw yn Yr Alban yn talu cyfran o’u Treth Incwm i Lywodraeth Yr Alban. Mae hwn yn wahanol i’r system bresennol, lle caiff yr holl Dreth Incwm ei thalu i Lywodraeth y DU er mwyn ariannu gwariant ar draws y DU.

2. Sut fydd yn gweithio?

Caiff pob un o’r prif gyfraddau Treth Incwm ar gyfer trethdalwyr yn Yr Alban eu gostwng gan ddeg ceiniog, a bydd y gwahaniaeth hwn yn cael ei ddisodli gan Gyfradd Yr Alban o Dreth Incwm.

Nid yw’r gyfradd wedi’i chyhoeddi eto. Os gosodir y gyfradd ar ddeg ceiniog, yna bydd cyfraddau Treth Incwm ar gyfer trethdalwyr yn Yr Alban yn parhau i fod yr un peth ag ydyw ar gyfer gweddill y DU. Os caiff ei gosod ar gyfradd wahanol, yna bydd trethdalwyr yn Yr Alban yn talu cyfradd o Dreth Incwm sy’n gyfatebol yn uwch neu’n is nag unrhyw fan arall yn y DU.

Nid yw Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm yn gymwys i incwm o gynilion, megis llog cymdeithas adeiladu neu incwm o ddifidendau. Bydd treth ar yr incwm hwn yn parhau i fod yr un peth ar gyfer pob trethdalwr ar draws y DU. Nid yw, ychwaith, yn effeithio ar drothwyon Treth Incwm na lwfansau, a fydd yn parhau i gael eu gosod gan Lywodraeth y DU.

Bydd CThEM yn gweinyddu Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm fel rhan o system Treth Incwm y DU.

3. Ar gyfer pwy y bydd y Gyfradd yn gymwys?

Mae’r diffiniad o drethdalwr yn Yr Alban yn seiliedig ar ble mae’r unigolyn yn byw drwy gydol y flwyddyn dreth. Mae statws trethdalwr yn Yr Alban yn gymwys ar gyfer blwyddyn gyfan - nid yw’n bosibl bod yn drethdalwr yn Yr Alban am ran o flwyddyn dreth.

Ar gyfer y rhan fwyaf o drethdalwyr, bydd ble maent yn byw yn amlwg iddynt. Serch hynny, bydd yna rai achosion sy’n llai syml - er enghraifft, pan fod gan bobl mwy nag un cartref, neu eu bod wedi symud i mewn i’r, neu allan o’r, Alban yn ystod y flwyddyn. Mae gan CThEM arweiniad a fydd o gymorth yn yr amgylchiadau hyn.

Nid yw lleoliad cyflogwr person yn berthnasol. Felly, er enghraifft, ni fydd person sy’n gweithio yn Yr Alban, ond sydd â’i gartref mewn man arall yn y DU, yn drethdalwr yn Yr Alban.

Gall person ond fod yn drethdalwr yn Yr Alban os yw’n preswylio yn y DU at ddibenion treth. Darllenwch arweiniad manwl parthed ar gyfer pwy y bydd Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm yn gymwys.

4. Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn gynnar ym mis Rhagfyr, gwnaethom ddechrau ysgrifennu at drethdalwyr arfaethedig yn Yr Alban er mwyn cadarnhau taw’r cyfeiriad sydd gennym ar eu cyfer yn ein cofnodion yw’r un cywir. Os yw’r cyfeiriad yn gywir, does dim rhaid i drethdalwyr gymryd camau pellach.

Er mwyn sicrhau bod y data sydd gennym parthed cyfeiriadau mor gywir â phosibl, rydym wedi cyrchu a chymharu data o amrywiaeth o ffynhonellau gwahanol. Fodd bynnag, os yw’r cyfeiriad sydd gan CThEM yn un hen, neu os bydd person yn newid ei gyfeiriad ar ôl i ni ei wirio, bydd yn rhaid iddo roi gwybod i ni er mwyn i ni allu rhoi’r gyfradd gywir o Dreth Incwm ar waith ar ei gyfer.

Os yw unrhyw un sy’n talu Treth Incwm ac sydd wedi symud i gyfeiriad newydd yn Yr Alban yn ddiweddar, ddim yn derbyn llythyr gennym erbyn diwedd mis Chwefror 2016, dylent roi’r manylion diweddaraf parthed eu cyfeiriad i CThEM. Dylai trethdalwyr roi gwybod i CThEM pryd bynnag y maent yn newid eu cyfeiriad. Ni all cyflogwyr na darparwyr pensiwn wneud hyn, a gallai effeithio ar p’un a ydynt yn drethdalwyr yn Yr Alban ai peidio.

Ar gyfer cyflogeion a phensiynwyr, bydd y newid yn y gyfradd Treth Incwm yn cael ei roi ar waith drwy TWE (Talu Wrth Ennill). Ni fydd yn rhaid i’r trethdalwyr hyn wneud unrhyw beth arall gan y byddwn yn cynghori eu cyflogwyr i’w trin fel trethdalwyr yn Yr Alban, a byddwn yn defnyddio Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm ar eu cyfer. Gofynnir i drethdalwyr sy’n llenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad, i gadarnhau a ydynt yn drethdalwyr yn Yr Alban yn eu Ffurflen Dreth ar gyfer 2016-17.

O fis Ebrill 2016, bydd trethdalwyr yn Yr Alban sydd wedi’u cyflogi ac sy’n derbyn pensiwn, yn cael cod treth sy’n cychwyn â’r llythyren ‘S’, er mwyn dynodi eu bod yn drethdalwyr yn Yr Alban.

5. Beth sy’n rhaid i gyflogwyr ei wneud?

Ein cyfrifoldeb ni yw nodi’r cyflogeion hynny a fydd yn talu Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm, a phenderfynu pa dreth y byddant yn ei thalu. Does dim rhaid i gyflogwyr na darparwyr pensiwn benderfynu ar hyn. Dylent ond ddefnyddio cod treth Yr Alban os yw CThEM yn rhoi gwybod iddynt y dylent wneud hynny. Er mwyn sicrhau bod taliadau treth mor gywir â phosibl, dylai cyflogwyr, fodd bynnag, annog eu cyflogeion i gysylltu â ni pan fyddant yn newid eu cyfeiriad.

Byddwn yn ffurfio’r rhestr o drethdalwyr Cyfradd Yr Alban o Dreth Incwm, ac yn anfon codau treth at gyflogwyr, cyn mis Ebrill 2016. Bydd hyn yn rhoi gwybod pa gyflogeion sy’n drethdalwyr yn Yr Alban. Bydd cyflogwyr yn didynnu treth ar y cyfraddau priodol. Ni fydd yn rhaid iddynt newid sut y maent yn rhoi gwybod ynghylch Treth Incwm na sut maent yn gwneud taliadau i CThEM.

6. I gael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/scottish-rate-income-tax.