Adroddiad corfforaethol

Mae CThEM yn gwneud cynnydd sylweddol yn ei weddnewidiad 10 mlynedd i fod yn awdurdod treth sy’n addas ar gyfer y dyfodol

Diweddarwyd 8 January 2019

Gweddnewidiad Cyllid a Thollau EM (CThEM) yw’r rhaglen foderneiddio fwyaf y mae system dreth y DU wedi’i dilyn mewn cenhedlaeth. Mae’n cynnwys gwneud newidiadau sylfaenol i sut y mae’r adran yn gweithio a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu.

Mae ein Rhaglen Leoliadau yn allweddol i weddnewidiad ehangach CThEM. Drwy newid amgylchedd gwaith pobl, mae CThEM yn helpu i newid sut y maent yn gweithio.

Yn 2015, gwnaethom gyhoeddi bod CThEM yn ceisio dod â’i gyflogeion at ei gilydd mewn 13 swyddfa fawr, fodern, gan ei gwneud hi’n haws cydweithio a gweithio’n hyblyg.

Mae safon uwch yr adeilad, a gynlluniwyd i gynorthwyo â ffyrdd digidol, hyblyg o weithio, yn elfen annatod o’n cynlluniau ehangach i roi gwell gwasanaethau i’r trethdalwr am gost is. Drwy wneud defnydd gwell o dechnoleg, a gweithio’n wahanol, gallwn fod yn sefydliad mwy tra medrus sy’n cynyddu refeniw i’r eithaf, gan gynyddu cydymffurfiad a chau’r bwlch treth.

Mae’r brîff hwn yn crynhoi’r cynnydd y mae CThEM wedi’i wneud wrth ddilyn ei Raglen Leoliadau, a sut y mae’n helpu i roi gwell gwasanaethau i gwsmeriaid CThEM.

Erbyn hyn rydym wedi sicrhau safleoedd ar gyfer pob un o’r 13 o ganolfannau rhanbarthol CThEM, ac mae gwaith adeiladu ar y gweill mewn 10 lleoliad.

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol. Ers 2015, rydym wedi agor ein canolfan ranbarthol gyntaf yn Croydon ac wedi symud i’n safle trosiannol yn Canary Wharf.

Rydym hefyd wedi sicrhau adeiladau ar gyfer ein canolfannau rhanbarthol ym Mryste, Caeredin, Glasgow, Belfast, Manceinion, Leeds, Lerpwl, Birmingham, Caerdydd a Stratford ac, yn fwyaf diweddar, ein canolfan ranbarthol yn Nottingham. Bydd ein canolfan ranbarthol yn Newcastle yn ein lleoliad presennol, sef Benton Park View. Mae hyn ar ben ein 5 safle arbenigol, 8 safle trosiannol a’n pencadlys yn Westminster.

Rhaglen Leoliadau CThEM yw’r rhaglen gweddnewid swyddfeydd fwyaf yn y DU, ac mae’n cynnwys datblygu mwy na 429,000 metr sgwâr o ofod swyddfa newydd. Mae ei ganolfannau rhanbarthol yn ffurfio cam un o Raglen Hybiau’r Llywodraeth. Mae CThEM yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i gyflwyno’r rhaglen, ac mae’n rhannu gwersi gydag Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth.

Drwy ddilyn y Rhaglen Leoliadau, mae CThEM ar y trywydd iawn i sicrhau cynilion o tua £300 miliwn hyd at 2025. Bydd yn sicrhau cynilion blynyddol o £74 miliwn ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026, gan godi i tua £90 miliwn o 2028 ymlaen, gan foderneiddio sut y mae CThEM yn gweithio a helpu i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Rydym yn anelu at greu lle gwych i weithio drwy gyfrwng amgylcheddau sy’n wirioneddol gynhwysol mewn gweithleoedd agored a modern, gyda’r dechnoleg iawn i wneud y gwaith, yn unol â gweledigaeth Gwasanaeth Sifil y dyfodol. Rydym hefyd yn cyflwyno 4 elfen arall a fydd yn helpu i greu Gwasanaeth Sifil gwych. Gwneir hyn drwy hoelio ein sylw ar ein cwsmeriaid, drwy rymuso ein harweinwyr i fod yn hyderus ac ysbrydoledig, ac ar yr un pryd sicrhau bod ein pobl yn datblygu llwybrau gyrfa gwell yn y lleoliadau y byddwn yn eu meddiannu.

Creu awdurdod treth modern

Er mwyn gweddnewid y gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer y DU, rydym yn moderneiddio bron pob elfen o’r hyn a wnawn. Mae hynny’n golygu popeth, o’r systemau a’r dechnoleg a ddefnyddiwn, i ble a sut rydym yn gweithio, i’r sgiliau sydd gennym, a’r hyn a ofynnwn gan ein harweinwyr a’n rheolwyr.

Drwy newid amgylchedd gwaith pobl, rydym yn helpu i newid sut y maent yn gweithio. Bydd canolfannau rhanbarthol CThEM yn adeiladau modern o’r radd flaenaf sy’n helpu pobl i gydweithio a gweithio’n hyblyg, a bydd ganddynt seilwaith digidol cyflym a chyfleusterau dysgu a datblygu cyfoes.

Yn y canolfannau rhanbarthol, bydd gennym amrywiaeth o fannau gwaith. Bydd dyluniad a thechnoleg ein swyddfeydd yn y dyfodol yn newid ein ffordd o weithio. Bydd y mannau gwaith hyn wrth wraidd ein hamgylcheddau gwaith newydd, gan roi’r cyfle i ni fod yn wirioneddol hyblyg a galluogi pawb i roi gwell gwerth am ei arian i’r trethdalwr.

Drwy ddod â gweithgareddau o dan yr un to, bydd timau aml-fedrus yn gallu newid rhwng sianeli cyfathrebu a mathau o waith i ateb y galw gan gwsmeriaid a gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd dod â’r gwahanol fathau o waith cydymffurfio gweithredol y mae CThEM yn ei wneud at ei gilydd yn helpu i gynyddu ein heffeithiolrwydd o ran gorfodi a chydymffurfio. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i’n pobl weithio ar draws segmentau cwsmeriaid ac ar draws trethi er mwyn dod o hyd i gysylltiadau. Bydd seilwaith digidol cyflym yn cynorthwyo’r systemau dadansoddi data a’r systemau asesu risg sydd o’r radd flaenaf i helpu CThEM i dargedu gweithgarwch cydymffurfio.

Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod gwell TG a band eang/WiFi cyflym yn ein Canolfan Ranbarthol yn Croydon eisoes yn hwyluso dulliau gweithio mwy hyblyg. Mae dyluniad gwahanol fathau o fannau gwaith wedi gwella cydweithrediad, ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith, gwella llif gwybodaeth a gwella sut y darperir hyfforddiant. Mae gwell mynediad ar gyfer pobl anabl hefyd, a mwy o foddhad ymhlith staff ynglŷn â gwasanaethau’r adran ystadau, diogelwch a diogelwch personol.

Rydym yn helpu ein pobl i baratoi ar gyfer eu mannau gwaith newydd drwy agor cyfleusterau ‘profi a dysgu’ yn ein swyddfeydd presennol sydd yng nghanol dinasoedd. Maent yn debyg iawn i’r canolfannau rhanbarthol, fel y gall ein staff eu profi a dechrau addasu i ffyrdd newydd o weithio. Maent hefyd yn helpu ein pobl i brofi’r daith i’n lleoliadau newydd, gan helpu i sicrhau bod ein pobl yn gallu addasu’n gyflym er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr amgylcheddau newydd. Bydd hyn yn ein galluogi i wella o ran gwasanaethu ein cwsmeriaid, casglu refeniw a diogelu pwrs y wlad drwy gyfrwng gweithgarwch cydymffurfio parhaus.

Rhoi cymorth i’n pobl yn ystod y newidiadau

Gwyddom fod y newid hwn yn anodd i rai o’n pobl, ond rydym eisiau cymaint â phosibl i barhau i weithio gyda ni cyhyd â phosibl a symud gyda ni i’r canolfannau rhanbarthol. Dyna pam y bydd pawb sy’n symud swyddfa yn cael y cyfle i gael sgwrs un-i-un gyda’i reolwr i’w helpu i symud.

Yn ôl yn 2015, dywedom y byddai tua 90% o’n pobl a oedd yn gweithio i ni ar y pryd, ym mhob un o’n lleoliadau, yn gallu symud i’r lleoliadau newydd neu ddirwyn eu gyrfa i ben yn un o adeiladau presennol CThEM. Heddiw, ar hyd a lled y DU, rydym yn dal i ddisgwyl mai dyna fydd y sefyllfa, neu rywbeth tebyg iawn iddi.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal mwy nag 11,000 o sgyrsiau un-i-un sydd wedi galluogi pobl i drafod eu hamgylchiadau personol, rhoi gwybod i ni beth allwn ni ei wneud i’w helpu i symud ac, mewn rhai achosion, rhoi gwybod i ni p’un a oes swyddfa wahanol y gallent deithio iddi.

Rydym hefyd yn parhau i edrych ar sut y gall technoleg hwyluso dulliau gweithio ac oriau gwaith mwy hyblyg, ac ar yr un pryd adolygu ein polisïau o ran pobl i gynorthwyo â ffyrdd newydd o wneud pethau er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu symud gyda ni. O ran cymorth ymarferol, gall pawb sy’n symud hawlio cymorth ariannol tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol am hyd at 5 mlynedd.

Ar gyfer cydweithwyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt i gyrraedd y gwaith, neu yn y gwaith, rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion ymarferol sy’n briodol iddynt hwy ac rydym yn ei gwneud hi’n haws iddynt nodi manylion eu gofynion yn ystod y broses un-i-un.

Pan fo angen, byddwn yn darparu parcio hygyrch naill ai yn y ganolfan ranbarthol neu’n agos ati. Byddwn hefyd yn ystyried opsiynau eraill gan gynnwys defnyddio’r cynllun Mynediad i Waith, tacsis mewn mannau gollwng a thrafnidiaeth gyhoeddus hygyrch. Rydym hefyd yn dylunio ein hadeiladau newydd i sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosibl.

Rydym yn cydnabod na fydd pawb yn gallu symud. Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill i weld a ellir dod o hyd i swyddi gwahanol, ac rydym yn ceisio ei gwneud hi’n symlach i bobl wneud cais am swyddi neu newid adran. Rydym hefyd wedi creu gwasanaeth cymorth arbenigol newydd i gynnig help ymarferol, megis cymorth wrth ysgrifennu CV a llythyr eglurhaol, cyngor ar sut i fynd i’r afael â’r farchnad swyddi, yn ogystal â chyngor ar sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau.

Rydym yn lledaenu newidiadau dros nifer o flynyddoedd, ac yn cadw 8 safle trosiannol am hyd at 10 mlynedd, i leihau’r tarfu ar ein gweithrediadau o ddydd i ddydd. Rydym wedi rhoi tîm penodedig ar waith i sicrhau bod yr holl feysydd yn CThEM yn lleihau’r tarfu ar ein busnes, yn cofleidio ffyrdd newydd o weithio ac yn barod i wneud y defnydd gorau posibl o’r mannau gwaith newydd.

Canolfannau rhanbarthol CThEM

Bydd ein canolfannau rhanbarthol wedi’u lleoli ym mhob rhanbarth a chenedl yn y DU:

  • Yr Alban - 1 Sibbald Walk, Caeredin - i’w hagor yn 2020
  • Yr Alban - 1 Atlantic Square, Glasgow - cam 1 i’w agor yn 2021, cam 2 i’w gadarnhau
  • Gogledd Iwerddon - Erskine House, Belfast - i’w hagor yn 2019 i 2020
  • Swydd Efrog a’r Humber - 7 a 8 Wellington Place, Leeds - i’w hagor yn 2020 i 2021
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr - Safle presennol yn Benton Park View, Newcastle
  • Gogledd Orllewin Lloegr - India Buildings, Lerpwl - i’w hagor yn 2020
  • Gogledd Orllewin Lloegr - 3 New Bailey, Manceinion - cam 1 i’w agor yn 2022, cam 2 i’w gadarnhau
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr - Unity Square, Nottingham - i’w hagor yn 2021 i 2022
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr - 3 Arena Central, Birmingham - i’w hagor yn 2020 i 2021
  • Cymru - Sgwâr Canolog, Caerdydd - i’w hagor yn 2020 i 2021
  • De Orllewin Lloegr - 3 Glass Wharf, Bryste - i’w hagor yn 2019
  • Llundain, Dwyrain Lloegr a De Ddwyrain Lloegr - 14 Westfield Avenue, Stratford - i’w hagor yn 2020 i 2021
  • Llundain, Dwyrain Lloegr a De Ddwyrain Lloegr - 1 Ruskin Square, Croydon - agorwyd ym mis Gorffennaf 2017

Bydd CThEM hefyd yn creu 5 safle arbenigol ar gyfer gwaith na ellir ei wneud mewn mannau eraill, yn enwedig pan fo angen i CThEM weithio gyda’i gyflenwyr TG neu asiantaethau neu adrannau eraill y Llywodraeth. Bydd y safleoedd arbenigol hyn yn:

  • Dover, Priory Court
  • Gartcosh (Campws Trosedd yr Alban)
  • Telford (Plaza 1 a Plaza 2)
  • Worthing (lleoliad i’w gadarnhau)
  • Ipswich (Haven House)

Er mwyn lleihau’r tarfu ar ein busnes, ac i gadw ein pobl yn gweithio’n lleol am gyfnod hwy mewn lleoliadau yr ydym yn cydnabod na fydd niferoedd sylweddol yn gallu symud, rydym yn cadw 8 safle trosiannol yn:

  • East Kilbride (Queensway House hyd at 2025 i 2026)
  • Washington (Parc Waterview hyd at 2024 i 2025)
  • Preston (lleoliad i’w gadarnhau hyd at 2025)
  • Manceinion (Trinity Bridge House hyd at 2027 i 2028)
  • Ipswich (Haven House hyd at 2027 i 2028 a St Clare House hyd at 2023 i 2024)
  • Reading (Sapphire Plaza hyd at 2024 i 2025)
  • Canary Wharf (10 South Colonnade, hyd nes y bydd canolfan ranbarthol Stratford yn agor)
  • Portsmouth (Lynx House hyd at 2025 i 2026)

Byddwn hefyd yn cadw prif swyddfa yn Westminster.

Mae ein cynlluniau yn ddigon hyblyg i addasu

Roeddem bob amser yn disgwyl i gynlluniau’r gweithlu newid, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n strategaeth leoliadau, gan y bydd yn creu’r amgylcheddau gwaith y mae eu hangen arnom i gyflawni heriau yn y dyfodol.

Heddiw, mae gennym ychydig o dan 60,000 o gydweithwyr cyfwerth ag amser llawn (FTE), sydd wedi cynyddu o 57,000 yn 2015. Mae hyn yn rhannol oherwydd recriwtiwyd bron i 3,000 o bobl i weithio ym maes Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Cawsom fuddsoddiad ychwanegol hefyd yng Nghyllideb 2017 i gynorthwyo â’n gwaith o fynd i’r afael ag arbed treth, osgoi treth a methu â chydymffurfio. Yn sgil hyn, recriwtiwyd 1,400 ychwanegol o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn.

Rydym bob amser wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod nwyddau’n llifo i mewn ac allan o’r DU, ac wrth sicrhau ein bod yn casglu unrhyw drethi a thollau sy’n ddyledus arnynt. Dyna pam ein bod nawr yn cyflwyno rhaglenni hanfodol a fydd yn cynorthwyo â mynediad i farchnadoedd yn Ewrop a ledled y byd.

Wrth i ni baratoi ar gyfer ymadael â’r UE, rydym yn creu swyddi ychwanegol ac wedi lansio nifer o ymgyrchoedd recriwtio.

Ar hyn o bryd (31 Hydref), mae tua 3,000 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar ymadael â’r UE. Yn dibynnu ar ganlyniad terfynol y trafodaethau, efallai y bydd angen hyd at 5,300 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn arnom. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi sicrhau llety dros dro ychwanegol mewn lleoliadau canolfannau rhanbarthol ledled y DU a chynyddu maint rhai canolfannau rhanbarthol i gynorthwyo â’r gwaith hwn.

Fel adran, rydym wedi blaenoriaethu’r prosiectau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, gan atal rhywfaint o waith a dirwyn prosiectau eraill i ben er mwyn gwneud lle ar gyfer y gwaith hwn o ymadael â’r UE.

Rydym yn dysgu gwersi

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cyflawni cryn dipyn a dysgu gwersi yn sgil creu ein canolfan ranbarthol gyntaf yn Croydon a’n safle trosiannol yn Canary Wharf.

Gan mai Croydon oedd Hyb newydd gyntaf y Llywodraeth i agor, rydym yn cael blas ar yr amgylchedd gwaith y bydd llawer o weision sifil ledled y DU yn symud i weithio ynddo dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn awyddus i ddysgu o’n profiadau yma, yn ogystal â phrofiadau cydweithwyr yn Canary Wharf, fel y gallant wneud gwelliannau i sut y mae hybiau eraill yn cael eu dylunio a’u rhoi ar waith, deall y manteision sy’n dod yn sgil yr amgylcheddau gwaith newydd hyn, a sicrhau gwelliannau ar gyfer cyflogeion a’r trethdalwr.

Yn wir, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried wrth ddatblygu ein canolfannau rhanbarthol eraill, gan eu gwneud yn well fyth. Bydd ein canolfannau rhanbarthol cynnar yn feinciau arbrofi ar gyfer gwelliannau parhaus.

Rydym yn gweithio’n galed i fod yn sefydliad mwy agored a chynhwysol - rhywle y gall pawb fod ei hunan yn y gwaith, lle y mae gan bawb lais a gall ddweud ei ddweud. Rydym hefyd yn dod yn sefydliad sy’n adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a, thrwy ein rhaglenni allgymorth, rydym yn annog gwirfoddoli i roi cymorth i gymunedau lleol.

Roedd gennym eisoes amrywiaeth o bolisïau a phrosesau sydd wedi’u hanelu at roi cymorth i’n pobl, ac roedd y rhain yn fan cychwyn da. Yn 2015, gwnaethom gyhoeddi crynodeb lefel uchel o Asesiad Effaith ar Bobl, gan nodi’r hyn y byddem yn ei wneud yn ychwanegol at y rhain.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi datblygu dealltwriaeth well fyth o’r effeithiau a’r cyfleoedd ar gyfer ein pobl o ganlyniad i’n cynlluniau o ran lleoliadau, ac ym mis Mehefin 2018 cyhoeddwyd Asesiad Effaith manwl ar Bobl a Chydraddoldeb.

Mae ein Rhaglen Leoliadau yn arwain y ffordd fel cam cyntaf Hybiau’r Llywodraeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn enghraifft batrymol. Mae ein Canllaw Dylunio Cynhwysol ar gyfer canolfannau rhanbarthol yn arwain y diwydiant. Bydd yn sicrhau ein bod yn creu amgylcheddau gwaith sydd mor gynhwysol â phosibl.

Mae Rhaglen Gweithio’n Gallach CThEM hefyd yn dechrau helpu i newid y ffordd y mae ein pobl yn gweithio, fel ein bod yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern ac adeiladau newydd.

Camau nesaf

Bydd pob un o’r canolfannau rhanbarthol yn gwneud cyfraniad mawr i economïau’r dinasoedd lle y byddwn wedi ein lleoli, drwy gynnig rhagor o swyddi tra medrus ac o ansawdd uchel. Mae hynny oherwydd bod y mathau o swyddi rydym yn eu cynnig yn newid.

Mae angen arbenigwyr treth arnom sydd â sgiliau digidol, ynghyd â dadansoddwyr data ac arbenigwyr digidol. Dyna pam yr ydym yn bwriadu gweithio gyda phrifysgolion a cholegau lleol i ddenu’r dalent orau. Mae gennym systemau sydd ar flaen y gad sy’n galluogi dadansoddwyr i ddidoli a gwirio biliynau o ddarnau o ddata er mwyn dod o hyd i anghysondebau. Felly, mae angen pobl arnom sy’n deall technoleg ddigidol ac sy’n gallu gwneud y defnydd gorau ohoni.

Ym Mryste, 3 Glass Wharf fydd ein hail ganolfan ranbarthol i agor. Mae hi ar y trywydd iawn i gael ei hagor yn 2019, ac mae llai na blwyddyn ar ôl cyn y symudiadau cyntaf. Yn yr un modd, mae gwaith ar Erskine House yn Belfast yn symud yn ei flaen yn dda, a bwriedir ei agor nes ymlaen yn 2019.

Rydym wedi hen ddechrau symud i’n canolfannau rhanbarthol erbyn hyn, ac mae’n un o’r rhaglenni gweddnewid mwyaf yn Ewrop. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein huchelgais o fod yr awdurdod treth mwyaf digidol ddatblygedig yn y byd.