Adroddiad corfforaethol

CThEM yn cyhoeddi'r cam nesaf yn ei raglen foderneiddio deng mlynedd o hyd i ddod yn awdurdod treth ar gyfer y dyfodol (2015)

Diweddarwyd 8 January 2019

Heddiw, cyhoeddodd CThEM y cam nesaf yn ein rhaglen foderneiddio deng mlynedd o hyd i greu awdurdod treth sy’n gweddu ar gyfer y dyfodol, gan ymrwymo i swyddi o ansawdd uchel a chreu canolfannau rhanbarthol newydd sy’n gwasanaethu pob rhanbarth a chenedl yn y DU.

Mae’r brîff gwybodaeth hwn yn egluro sut y bydd gennym llai o swyddfeydd, ond rhai mwy modern, lle bydd staff medrus yn rhoi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

1. Creu awdurdod treth fodern

Rydym yn trawsnewid o sefydliad sydd â phrosesau llaw trwsgl i weithrediad llai a mwy medrus sy’n cynnig gwasanaethau digidol, modern. Yn fyr, rydym yn datblygu’n gyflym, i ffwrdd o’n delwedd yn yr 20fed ganrif, i fod yn sefydliad sy’n gweddu ar gyfer y dyfodol.

Golyga’r newidiadau y byddwn yn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell am gost is i’r trethdalwr, gan fodloni her y llywodraeth i bob adran wneud mwy gyda llai.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd cryf. Rydym yn casglu mwy o arian drwy ein gwaith cydymffurfio nag erioed o’r blaen, ac rydym wedi cyflwyno systemau data, a gwasanaethau ar-lein, arloesol a sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan filiynau o gwsmeriaid sy’n fusnesau ac yn unigolion.

Ein bwriad yw dod â’n cyflogeion ynghyd mewn 13 o swyddfeydd mawr a modern, a fydd â’r adeiledd digidol a’r cyfleusterau hyfforddiant sydd eu hangen i greu gweithlu mwy medrus. Mae gennym yr hyn sy’n cyfateb i 58,000 o gyflogeion amser llawn, ac ar hyn o bryd, maent wedi eu gwasgaru ar draws 170 o swyddfeydd ar hyd a lled y wlad. Mae llawer o’r swyddfeydd hyn yn deillio o’r 1960au a’r 1970au, ac yn amrywio o ran maint - o 5,700 o bobl i lai na deg.

Mae’r trawsnewid yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i leoli swyddi ar hyd a lled y wlad, gyda chanolfannau rhanbarthol yn gwasanaethu pob gwlad a rhanbarth yn y DU.

2. Pam rydym yn newid nawr

Mae’r newidiadau a wnawn yn adlewyrchu’r heriau y mae llawer o sefydliadau mawr sy’n gwasanaethu cwsmeriaid, yn eu hwynebu. Yn benodol, mae mwy a mwy o bobl yn rheoli eu materion ariannol ar-lein, ac mae’r cyhoedd yn disgwyl yr un safonau uchel o wasanaeth gan CThEM ac y maent gan fanciau a manwerthwyr.

Yn wir, nid yw hyn yn newydd i ni - mae bron pob un o’n cwsmeriaid busnes yn delio â ni ar-lein, a chyflwynwyd mwy nag wyth o bob deg ffurflen dreth Hunanasesiad eleni yn ddigidol.

Mae’r newidiadau yn golygu y gallwn roi i’n gwsmeriaid y gwasanaethau modern y maent nawr yn eu disgwyl wrth i ni symud yn gadarn i’r oes ddigidol - gan ein galluogi i gynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell am lai o gost i’r trethdalwr. Ni allwn gyflawni hyn oni bai ein bod yn dod â’n gweithlu yn nes at ei gilydd mewn canolfannau rhanbarthol, er mwyn iddynt gydweithio’n well.

Oherwydd y ffordd y mae ein contract ystadau yn gweithio, os na weithredwn nawr byddwn yn colli’r cyfle hwn am o leiaf 15 mlynedd.

3. Sut y byddwn yn creu canolfannau rhanbarthol

Drwy gyfuno 170 o swyddfeydd ar hyd a lled y DU a chreu 13 canolfan rhanbarthol, bydd gennym, fannau gwaith modern a hyblyg, a fydd yn cefnogi’r isadeiledd digidol, y cydweithredu rhwng staff a’r datblygu staff, sydd eu hangen er mwyn i ni foderneiddio.

Bydd canolfannau rhanbarthol yn amrywio o ran maint, ac yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau gweithredol, gwasanaethau proffesiynol o ran treth a gwasanaethau corfforaethol. Byddant yn amrywio o ran maint o 1,200 i 1,700 o gyflogeion sy’n cyfateb i staff amser llawn ar un pegwn, i 5,700 i 6,300 ar y pegwn arall.

4. Lleoliadau ein swyddfeydd yn y dyfodol

Fel sefydliad cenedlaethol, byddwn yn cynnal presenoldeb sylweddol, gan wasanaethu Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a phob rhanbarth yn Lloegr.

Oherwydd hynny, bydd y canolfannau rhanbarthol yn:

  • Gogledd Ddwyrain Lloegr – Newcastle
  • Gogledd Orllewin Lloegr – Manceinion a Lerpwl
  • Swydd Efrog a Humber – Leeds
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr – Nottingham
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr – Birmingham
  • Cymru – Caerdydd
  • Gogledd Iwerddon – Belfast
  • Yr Alban – Glasgow a Chaeredin
  • De Orllewin Lloegr – Bryste
  • Llundain, De Ddwyrain a Dwyrain Lloegr – Stratford a Croydon

Rydym yn bwriadu agor ein canolfan ranbarthol newydd cyntaf yn ystod 2016-2017, gyda’r lleill yn agor dros y pedair blynedd ddilynol.

Yn gyffredinol, bydd canolfannau rhanbarthol yng nghanol y ddinas, pan fod hynny’n bosib, ac mewn lleoliadau sydd â chysylltiadau cryf â thrafnidiaeth. Byddant hefyd o fewn cyrraedd tai, ysgolion a chyfleusterau hamdden da.

Rydym wedi edrych ar ystod o safleoedd posib, o swyddfeydd presennol CThEM i adeiladau newydd sydd, mewn rhai achosion, wrthi’n cael eu cynllunio. Ni allwn ddweud mwy, ar hyn o bryd, ynghylch yr union leoliadau, oherwydd mae’n rhaid i ni gynnal trafodaethau gyda landlordiaid a chontractwyr.

Wrth i ni symud i’n canolfannau rhanbarthol newydd, byddwn yn cadw nifer cyfyngedig o safleoedd trosiannol. Swyddfeydd CThEM sy’n bodoli eisoes bydd y rhain, a byddant yn galluogi pobl i barhau i weithio i’r adran am hyd at 10 mlynedd - ac mewn nifer fach o achosion, hyd at 12 mlynedd o bosib. Fe’u lleolir yn Reading, Ipswich, Portsmouth, Washington ac, yn amodol ar gytuno ar delerau gwell gyda’n landlord, Dwyrain Kilbride.

Yn ogystal â hyn, bydd gennym 4 safle arbenigol ar gyfer gwaith na ellir ei wneud mewn mannau eraill. Yn benodol, pan fod yn rhaid i ni weithio gyda’n cyflenwyr Technoleg Gwybodaeth neu asiantaethau neu adrannau eraill y Llywodraeth. Lleolir y safleoedd hyn yn Telford, Worthing, Dover, ac ar y ‘Scottish Crime Campus’ yn Gartcosh.

Byddwn hefyd yn cadw cyfres o safleoedd ‘dros dro’ a fydd yn rhoi opsiynau i staff y swyddfeydd sy’n cael eu cau. Fodd bynnag, bydd y rhain hefyd yn cau yn hwyr yng nghyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol. Y rhain yw Northampton, Caerwysg, Euston Tower, Luton, Maidstone, Bradford, Peterborough, Southend, Luton, Ealing, Lawress Hall yn Lincoln a Londonderry.

Byddwn hefyd yn cadw presenoldeb llai amlwg yn ein pencadlys yn 100 Parliament Street, ar gyfer pobl sydd wirioneddol angen bod yn agos i Weinidogion.

Nid yw’r newidiadau hyn yn golygu diwedd yr ymweliadau gorfodaeth traddodiadol na chymorth wyneb yn wyneb ar gyfer cwsmeriaid sy’n agored i niwed. Bydd timau symudol - boed yn dimau gydymffurfiad neu’n dimau cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol - yn gallu cyrchu rhwydwaith o safleoedd ‘touchdown’ lleol ar draws y DU. Yno byddant yn gallu mewngofnodi, cwrdd â chwsmeriaid neu gynnal sesiynau briffio cyfrinachol - a bydd ganddynt Dechnoleg Gwybodaeth symudol i’w cynorthwyo â’u gwaith.

5. Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ein gweithlu?

Bydd dod â staff ynghyd mewn canolfannau mawr yn galluogi pobl i ddatblygu gyrfaoedd hyd at lefelau uwch.

Disgwyliwn y bydd 90% o’n gweithlu presennol naill ai’n gweithio mewn canolfan ranbarthol neu’n gorffen eu gyrfaoedd yn un o swyddfeydd CThEM.

Caiff pawb sy’n gweithio i CThEM y cyfle i drafod eu hamgylchiadau personol gyda’u rheolwr cyn cau neu symud swyddfa, fel y gallant eu gwneud yn ymwybodol o faterion sy’n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Rhoddir gwybod i bobl pryd y byddant yn symud i swyddfa arall tua blwyddyn ymlaen llaw. Os yw’n fater o symud i ganolfan ranbarthol newydd, byddwn yn gosod amserlen glir cyn gynted ag y bydd trafodaethau masnachol wedi gorffen.

Mae hyn yn golygu ein bod yn bwriadu cau 137 o swyddfeydd erbyn 2020-21. Nid yw’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn adlewyrchiad o’r gwaith caled a’r ymroddiad a ddangosir gan y bobl sy’n gweithio yn y swyddfeydd hyn. Gallant fod yn falch o’u llwyddiannau

Bydd pob un o’r canolfannau rhanbarthol yn gwneud cyfraniad mawr i economïau’r dinasoedd rydym wedi ein lleoli ynddynt, trwy gynnig mwy o swyddi medrus ac o ansawdd uchel. Mae hynny oherwydd bod y mathau o swyddi rydym yn eu cynnig yn newid.

Mae angen arbenigwyr treth gyda sgiliau digidol arnom, ynghyd â dadansoddwyr data ac arbenigwyr digidol. Dyna pam rydym yn bwriadu gweithio gyda phrifysgolion a cholegau lleol i ddenu’r rhai hynny sydd â’r doniau gorau ac sydd fwyaf disglair. Mae gennym systemau sydd ar flaen y gad sy’n galluogi dadansoddwyr i drefnu a gwirio biliynau o ddarnau o ddata er mwyn dod o hyd i anghysondebau - felly, mae angen pobl sy’n deall technoleg ddigidol arnom, ac sy’n gallu gwneud y gorau ohono.