Skip to main content
Canllawiau

Proses Datrys Anffurfiol ar gyfer carcasau cig coch sy’n cael eu gwrthod fel rhan o arolygiad post mortem

Cyhoeddwyd 14 Ionawr 2019

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Pwysig

Bydd y weithdrefn hon yn cael ei threialu am flwyddyn. Ar ôl hynny, gwneir penderfyniad i gadw, addasu neu dynnu’r weithdrefn hon yn ôl.

Nod y broses

Mae’r weithdrefn hon wedi’i datblygu gan yr ASB ar y cyd â chynrychiolwyr y diwydiant cig i roi mynediad i weithredwyr busnesau bwyd at broses ddatrys anffurfiol a gwirfoddol pan fydd y penderfyniad wedi’i wneud i beidio â rhoi marc iechyd yn dilyn arolygiad ante mortem a post mortem (“penderfyniad ar sail canlyniad arolygiad”), a bod y gweithredwyr busnesau bwyd yn anghytuno.

I’w ystyried

Lle gwneir cais am adolygiad, y milfeddyg swyddogol (OV) a oedd yn bresennol ar ddiwrnod prosesu’r anifail sy’n parhau i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch addasrwydd carcas.

Gall gweithredwr busnes bwyd wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad ar sail canlyniad arolygiad cychwynnol y milfeddyg swyddogol a wnaed gan filfeddyg yr ASB, sydd hefyd yn filfeddyg swyddogol cymwys. (Byddwn yn cyfeirio at y milfeddyg hwn fel milfeddyg yr ASB at ddibenion y ddogfen hon ac i osgoi dryswch rhwng y milfeddyg swyddogol yn y ffatri a milfeddyg swyddogol yr ASB.)
Er gwaethaf y cais am adolygiad, os yw’r milfeddyg swyddogol yn ystyried ei bod yn rhesymol cymryd camau i ddileu neu atal unrhyw risgiau i iechyd pobl neu anifeiliaid, neu i les anifeiliaid, mae’r milfeddyg swyddogol yn cadw’r hawl i gymryd camau o’r fath.

Pan fydd gweithredwr busnes bwyd yn anghytuno â’r penderfyniad a wnaed ar sail canlyniad yr arolygiad, nid oes gofyn i weithredwr busnes bwyd ofyn am adolygiad anffurfiol a gall herio’r penderfyniad drwy’r llwybrau cyfreithiol arferol.

O ystyried y bydd gofyn am adolygiad anffurfiol yn sicr o oedi’r milfeddyg swyddogol cyn dod i benderfyniad terfynol, dylai gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod cyfleusterau cwbl weithredol a chloadwy ar gael ar gyfer storio cig sydd wedi’i gadw mewn amgylchedd oeredig a hylan cyn gwneud cais am adolygiad anffurfiol.

Y broses o wneud cais am adolygiad anffurfiol

  1. Pan na fydd gweithredwr busnes bwyd yn cytuno â phenderfyniad y milfeddyg swyddogol ar sail canlyniad yr arolygiad, rhaid iddo drafod ei bryderon yn uniongyrchol â’r milfeddyg swyddogol yn gyntaf. Rhaid ystyried caniatáu i garcasau galedu, gan ganiatáu iddynt oeri dros nos o bosib cyn cychwyn y weithdrefn hon (er enghraifft, oedema mewn gwartheg hŷn).
  2. Yn dilyn y drafodaeth, os na ellir dod i gytundeb, dylai gweithredwr y busnes bwyd roi gwybod i’r milfeddyg swyddogol am ei fwriad i wneud cais am adolygiad anffurfiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dylai gweithredwr y busnes bwyd, neu gynrychiolydd a benodwyd ganddo, lenwi Rhan 1 o’r ffurflen a nodir yn Atodiad I a’i hanfon drwy e-bost at y milfeddyg swyddogol. Dylai’r hysbysiad hwn ddigwydd o fewn oriau gwaith cytunedig y milfeddyg swyddogol ar y diwrnod y gwnaed y penderfyniad ar sail canlyniad yr arolygiad. Dylid copïo’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau i’r hysbysiad e-bost hwn.
  3. Dylai’r milfeddyg swyddogol gasglu tystiolaeth ffotograffig a fideo. Dylai ffotograffau a fideos gynnwys stamp dyddiad ac amser cywir ac, yn ddelfrydol, dylent gael eu tynnu o fewn 24 awr i ladd yr anifail.
  4. Ar ôl i weithredwr y busnes bwyd gysylltu â’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau (gweler pwynt 2), bydd y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau yn penodi milfeddyg o’r ASB i ddarparu adolygiad cyn gynted â phosib, a hynny er mwyn bod yn barod ar gyfer derbyn y ddogfennaeth i’w hadolygu.
  5. Ar ôl i’r milfeddyg swyddogol gasglu tystiolaeth, dylent gwblhau Rhan 2 o Atodiad I a’i chyflwyno i’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau dim hwyrach na diwedd y dydd ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i weithredwr y busnes bwyd gychwyn y weithdrefn hon. Mae gweithredwr y busnes bwyd yn cychwyn y weithdrefn hon pan fydd yn cwblhau cam 2 o’r broses hon.
  6. Bydd y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau yn cyflwyno Atodiad I i filfeddyg yr ASB cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond bydd yn gwneud ymdrechion rhesymol i wneud hynny ar yr un diwrnod y daw i law. Dylai milfeddyg yr ASB ddarparu ei adolygiad, gan gynnwys manylion ei resymeg, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a dychwelyd Atodiad I ar ôl cwblhau Rhan 3 i’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau a’r milfeddyg swyddogol.
  7. Dylai milfeddyg yr ASB drafod cynnwys Atodiad I â’r milfeddyg swyddogol os oes angen, a gall ymweld â’r sefydliad i arolygu’r carcas a rhannau’r corff os oes angen er mwyn cyrraedd ei farn.
  8. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn Rhan 3, a honno wedi’i chwblhau, o Atodiad I, bydd y milfeddyg swyddogol yn ystyried barn milfeddyg yr ASB. Yna bydd y milfeddyg swyddogol yn cwblhau Rhan 4 o Atodiad I, gan nodi’r penderfyniad terfynol. Bydd yn rhannu’r penderfyniad terfynol hwn â gweithredwr y busnes bwyd yn ysgrifenedig, drwy e-bostio pob rhan wedi’i chwblhau o Atodiad I at weithredwr y busnes bwyd a’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosib.
  9. Os yw canlyniad yr adolygiad yn cytuno â phenderfyniad y milfeddyg swyddogol, sef bod y carcas a rhannau’r corff yn anaddas i’w bwyta gan bobl, bydd y carcas a’r deunydd cysylltiedig yn cael eu datgan yn anaddas a rhaid i weithredwr y busnes bwyd gael gwared ar yr holl ddeunydd yn unol â’r categori priodol o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
  10. Os bydd canlyniad yr adolygiad yn tynnu sylw at dystiolaeth neu faterion pellach a allai arwain at gasgliad gwahanol, ar ôl ystyried yr holl ffactorau a thystiolaeth, y milfeddyg swyddogol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch addasrwydd y carcas a rhannau’r corff.
  11. Disgwylir i bawb sy’n ymwneud â’r weithdrefn weithredu’n ddidwyll.
  12. Mae Atodiad II yn cynnwys diagram llif proses i roi eglurhad pellach.

Goblygiadau cost

Ni fydd unrhyw gost am waith milfeddyg yr ASB yn ystod y cyfnod prawf. Unwaith y bydd y cyfnod hwn drosodd, bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu.

Atodiad I: Ffurflen – Gweithredwr busnes bwyd lladd-dy yn gwneud cais am adolygiad o benderfyniad y milfeddyg swyddogol ar sail canlyniad yr arolygiad

RHAN 1 – Hysbysiad Gweithredwr y Busnes Bwyd i’r Milfeddyg Swyddogol. Gwneud cais am adolygiad anffurfiol

Manylion y sefydliad

Rhif cymeradwyo:
Enw cymeradwyo’r sefydliad:  
Cyfeiriad llawn y sefydliad:  
Enw gweithredwr y sefydliad/cynrychiolydd y gweithredwr busnes bwyd sy’n gwneud y cais:  
Swydd y gweithredwr:  
Cyfeiriad e-bost y gweithredwr/cynrychiolydd y gweithredwr busnes bwyd:  
Rhif ffôn y gweithredwr/cynrychiolydd y gweithredwr busnes bwyd:  
Dyddiad:  

Disgrifiad a’r modd o adnabod y carcas sy’n destun yr anghydfod

Rhywogaeth:
Manylion adnabod:  
Nifer y carcasau:  
Dyddiad geni/oedran:  
Dyddiad ac amser y lladd:  
Rhif(au) lladd:  
A yw’r carcas(au) yn yr oergell cadw?  
A yw pob rhan o’r corff wedi’i chadw?  

Manylion y pryder

Rhowch fanylion eich anghytundeb â phenderfyniad y milfeddyg swyddogol ar sail canlyniad yr arolygiad:
Beth yn eich barn chi yw’r penderfyniad cywir a pham?  

Nodyn i weithredwr y busnes bwyd: Ar ôl cwblhau’r ffurflen, anfonwch hi dros e-bost at y milfeddyg swyddogol a’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau o fewn oriau gwaith cytunedig y milfeddyg swyddogol ar y diwrnod y gwnaed y penderfyniad ar sail canlyniad yr arolygiad ynghylch y carcas.

RHAN 2 – Tystiolaeth ddogfennol y milfeddyg swyddogol i gefnogi’r penderfyniad a wnaed ar sail canlyniad yr arolygiad

Manylion y milfeddyg swyddogol

Enw’r milfeddyg swyddogol:
Cyfeiriad e-bost y milfeddyg swyddogol:  
Rhif ffôn y milfeddyg swyddogol:  
Dyddiad:  

Manylion y penderfyniad

A oedd unrhyw fanylion o bwys yn nogfen Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) yr anifail (er enghraifft, patholegau, triniaethau milfeddygol)? Os oedd, nodwch nhw:
A oedd unrhyw ganfyddiadau arwyddocaol o’r arolygiad ante mortem? Os oedd, nodwch nhw:  
Rhowch fanylion eich canfyddiadau a’ch penderfyniad ar sail canlyniad yr arolygiad:  

Tystiolaeth ffotograffig a fideo

Rhif Delwedd a disgrifiad
(Disgrifiad o’r organ/rhan o’r corff)
1  
2  
3  
4  
6  
7  

Parhewch yn ôl yr angen.

Nodyn i’r milfeddyg swyddogol: Ar ôl cwblhau’r ffurflen, anfonwch hi dros e-bost at y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau dim hwyrach na diwedd y dydd ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i weithredwr y busnes bwyd gychwyn y weithdrefn hon.

RHAN 3 – Adolygiad

Manylion milfeddyg yr ASB

Enw milfeddyg yr ASB:
Swydd:  
Cyfeiriad e-bost:  
Dogfen wedi dod i law (dyddiad): Canlyniadau’r adolygiad wedi’u cyhoeddi (dyddiad):

Ar ôl adolygu’r wybodaeth yn y ddogfen hon, ac ar ôl ystyried penderfyniad y milfeddyg swyddogol ar sail canlyniad yr arolygiad, rhowch ganlyniad eich adolygiad isod. Bydd y milfeddyg swyddogol yn ystyried eich safbwyntiau cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Nodyn i filfeddyg yr ASB: Ar ôl cwblhau’r ffurflen, dychwelwch hi at y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau a’r milfeddyg swyddogol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

RHAN 4 – Penderfyniad terfynol y milfeddyg swyddogol

Ar ôl adolygu’r safbwyntiau a gyflwynwyd, dyma fy mhenderfyniad terfynol:

Penderfyniad terfynol:
Enw’r milfeddyg swyddogol: Dyddiad:

Nodyn i’r milfeddyg swyddogol: Ar ôl cwblhau’r ffurflen, dychwelwch hi at weithredwr y busnes bwyd a’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosib.