Skip to main content
Canllawiau

Mewnforio cynhyrchion cyfansawdd

Cyhoeddwyd 23 Mawrth 2018

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Yn ôl y diffiniad, mae cynhyrchion cyfansawdd yn cynnwys y cynhyrchion hynny y mae prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan hanfodol o gynhyrchu’r cynnyrch terfynol.

Sylwch mai at ddibenion gwybodaeth yn unig y darperir unrhyw ddolenni i ddeddfwriaeth a ddarperir yn y ddogfen hon, ac mae’n bosib nad y fersiynau diweddaraf ydynt.

Byddwch yn ymwybodol y gall amodau mewnforio gael eu diweddaru oherwydd newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth. Cyfrifoldeb y mewnforiwr yw sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Penderfyniad 2007/275/ECRheoliad Rhif 28/2012yn nodi amodau mewnforio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd o wledydd cymeradwy.

Yn rhan o’r gofynion, mae’n rhaid i’r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad a restrir yn y ddeddfwriaeth fel un sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer y cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid a gynhwysir yn y cynnyrch cyfansawdd, a rhaid iddo fod â chynllun gweddillion milfeddygol cymeradwy, yn unol â’r gofyn ym Mhenderfyniad 2011/163/EU a restrir yma.

Mae’n rhaid hefyd i’r cynnyrch cig, y cynnyrch llaeth, y cynnyrch wyau a’r cynnyrch pysgodfeydd sy’n rhan o’r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad gymeradwy a lle bo hynny’n briodol, o sefydliad cymeradwy.
Mae’n rhaid cyflwyno’r dystysgrif swyddogol berthnasol yn Rheoliad 2019/628gyda’r cynnyrch cyfansawdd os yw’n cynnwys cig wedi’i brosesu, cynnyrch llaeth, cynnyrch wyau neu gynnyrch pysgodfeydd.

Mae’n rhaid i gynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw gynnyrch anifeiliaid arall gael eu cyflwyno gyda’r dystysgrif berthnasol sy’n ofynnol ar gyfer y cynnwys anifail, neu mewn achosion eraill gyda dogfen fasnachol.

Mae cynhyrchion cyfansawdd y cyfeirir atynt uchod yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin.

Cynhyrchion nad ydynt yn destun gwiriadau

Nid yw cynnyrch cyfansawdd nad yw’n cynnwys unrhyw gynnyrch cig wedi’i brosesu ac y mae llai na hanner ohono’n cynnwys cynnyrch arall wedi’i brosesu sy’n dod o anifeiliaid yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin pan fydd yn bodloni gofynion Erthygl 6 o Benderfyniad a gymathwyd 2007/275/CE.

Mae Atodiad II o Benderfyniad 2007/275/EC yn rhestru rhai bwydydd a chynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol, sef:

  • danteithion (gan gynnwys melysion) a siocled, sy’n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi’u prosesu
  • pasta a nwdls heb eu cymysgu na’u llenwi â chynnyrch cig wedi’i brosesu; sy’n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi’u prosesu
  • bara, cacennau, bisgedi, wafflau ac waffers, bisgedi caled, bara tost a chynhyrchion tost tebyg sy’n cynnwys llai nag 20% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi’u prosesu
  • olewydd wedi’u stwffio â physgod
  • stociau a chyflasynnau cawl wedi’u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy’n cynnwys llai na 50% o olew pysgod, powdr pysgod neu ddarnau pysgod
  • atchwanegiadau bwyd wedi’u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy’n cynnwys symiau bach (cyfanswm llai na 20%) o gynhyrchion anifeiliaid wedi’u prosesu heblaw am gynhyrchion cig

Atgoffir gweithredwyr busnesau bwyd mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod unrhyw fwydydd y dymunant eu mewnforio yn cydymffurfio â rheolau cenedlaethol sydd ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Dylai mewnforwyr fodloni eu hunain fod unrhyw gynhyrchion cyfansawdd sy’n dod i Brydain Fawr yn cydymffurfio â’r amodau mewnforio fel y’u nodir ym Mhenderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad 28/2012. Mae’n werth cofio, lle mae rheolaeth ddiogelu yn berthnasol, er enghraifft dyframaeth Indiaidd, ar gyfer cynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid, y byddai hefyd yn berthnasol i’r cynnyrch cyfansawdd gorffenedig.

Mewnforio cynhyrchion cyfansawdd o wledydd yn yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE

Ystyrir bod bwyd cyfansawdd a fewnforir o’r UE yn isel ei risg ac mae’n destun gwahanol lefelau o wiriadau ar y ffin, fel y disgrifir ar GOV.UK.

Ar gyfer bwydydd cyfansawdd a fewnforir o wledydd nad ydynt yn yr UE, ystyrir bod y rhain yn ganolig eu risg, ac mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r rheolaethau a fydd yn cael eu rhoi ar waith wrth y ffin.

Mae’r dolenni uchod yn dangos categorïau risg y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd.

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30%
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Ystyrir bod cynhyrchion o wledydd nad ydynt yn yr UE yn isel eu risg os ydynt yn silff-sefydlog ar dymheredd ystafell ac wedi’u sterileiddio. Mae’r ddolen uchod yn rhoi arweiniad pellach ar ba gynhyrchion sy’n silff-sefydlog.