Asesiadau Effaith / De Minimis
Cyhoeddwyd 6 Chwefror 2018
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae Asesiad Effaith yn offeryn polisi i asesu effeithiau’r opsiynau sy’n cael eu hystyried, gan gynnwys y costau a’r buddion disgwyliedig, ac mae’n crynhoi’r rhesymeg dros ymyrraeth y llywodraeth. Mae Asesiadau De Minimis yn asesiadau neu amcangyfrifon cymesur o’r effeithiau ar gyfer mesur sydd wedi’i ardystio fel un islaw’r trothwy de minimis [wedi’i osod ar hyn o bryd ar Gost Uniongyrchol Net Blynyddol Cyfwerth i Fusnesau (EANDCB) o ± £10m].
Mae deall effaith newidiadau arfaethedig ar ein dull rheoleiddio yn hanfodol i lunio polisïau da. Datblygir Asesiadau Effaith gan ddefnyddio tystiolaeth rhanddeiliaid, ac felly fel arfer cânt eu cyhoeddi gyntaf ar ein gwefan dan ymgynghoriad. Fel arfer, mae Asesiadau De Minimis yn dilyn y broses ddatblygu fel Asesiadau Effaith.
Unwaith y bydd y cam casglu tystiolaeth drosodd, cyhoeddir Asesiad Effaith Cam Terfynol neu Asesiadau De Minimis ar ein gwefan.
Mae ein hasesiadau De Minimis i’w gweld ar y dudalen flaenorol.
Asesiadau Effaith blaenorol
Asesiadau Effaith o 2013 i 2016(Archifau Cenedlaethol)
Asesiadau Effaith o 2011 - 2013 (Archifau Cenedlaethol)
Asesiadau Effaith o 2000 i 2010 (Archifau Cenedlaethol)