Hysbysiad Cydymffurfio – Adran 44 Mesury Gymraeg (CYMRU) 2011
Published 6 December 2023
Rhif Safon | Dosbarth o Safon | Safon | Diwrnod Gosod |
---|---|---|---|
94 | Gweithredu | Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd. | 25/07/2017 |
95 | Gweithredu | Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg. |
25/07/2017 |
96 | Gweithredu | Rhaid ichi— (a) gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a (b) os yw cyflogai yn dymuno hynny, darparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg. |
25/07/2017 |
97 | Gweithredu | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
98 | Gweithredu | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
99 | Gweithredu | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
100 | Gweithredu | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi— (a) gwyliau, (b) absenoldebau o’r gwaith, ac (c) oriau gwaith hyblyg, yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg. |
25/07/2017 |
101 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
102 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
103 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
104 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
105 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
106 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
107 | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. | 25/07/2017 |
108 | Gweithredu | Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff— (a) gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg. |
25/07/2017 |
108A | Gweithredu | Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff— (a) gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg; a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno. |
25/07/2017 |
110 | Gweithredu | Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
25/07/2017 |
111 | Gweithredu | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg, (b) wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef, (c) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn. |
25/07/2017 |
112 | Gweithredu | Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol. | 25/07/2017 |
112A | Gweithredu | Rhaid ichi— (a) datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a (b) os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno. |
25/07/2017 |
114 | Gweithredu | Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
25/07/2017 |
115 | Gweithredu | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg, (b) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (c) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu. |
25/07/2017 |
116 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael). | 25/07/2017 |
121 | Gweithredu | Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg. | 25/07/2017 |
123 | Gweithredu | Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion. | 25/01/2017 |
124 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg— (a) recriwtio a chyfweld; (b) rheoli perfformiad; (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu; (d) delio â’r cyhoedd; ac (dd) iechyd a diogelwch. |
25/07/2017 |
125 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn— (a) cyfarfodydd; (b) cyfweliadau; ac (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu. |
25/07/2017 |
126 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith— (a) i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a (b) i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr. |
25/01/2017 |
127 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith. | 25/01/2017 |
128 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu— (a) ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru); (b) dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg; (c) dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle |
25/01/2017 |
129 | Gweithredu | Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. | 25/01/2017 |
130 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith. | 25/01/2017 |
131 | Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost. | 25/01/2017 |
132 | Gweithredu | Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
25/01/2017 |
132A | Gweithredu | Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi— (a) pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a (b) hysbysebu’r swydd yn Gymraeg. |
25/01/2017 |
133 | Gweithredu | Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. | 25/01/2017 |
133A | Gweithredu | Os byddwch yn cyhoeddi— (a) ffurflenni cais am swyddi; (b) deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi; (c) gwybodaeth am eich proses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi; (ch) swydd-ddisgrifiadau; rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt. Rhaid cydymffurfio â safon 133A ymhob amgylchiad, ac eithrio:swydd ddisgrifiadau pan fo’r swydd wedi ei chategoreiddio fel un ble nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol |
25/01/2017 |
133B | Gweithredu | Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau). | 25/01/2017 |
135 | Gweithredu | Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi— (a) yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw ddull arall o asesiad, a (b) yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen; ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw). |
25/01/2017 |
136 | Gweithredu | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg. | 25/01/2017 |
141 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. | 25/01/2017 |
142 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. | 25/01/2017 |
143 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). | 25/01/2017 |
145 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 123), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. | 25/01/2017 |
146 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o— (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs. |
25/07/2017 |
147 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 132) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. | 25/01/2017 |
148 | Cadw Cofnodion | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
25/01/2017 |
161 | Atodol - Gweithredu | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
25/01/2017 |
162 | Atodol - Gweithredu | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd. |
25/01/2017 |
163 | Atodol - Gweithredu | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer— (i) goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a (iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd. |
25/01/2017 |
164 | Atodol - Gweithredu | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— (a) nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 145); (b) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146); (c) os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146); (ch) nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn— (i) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol (ii) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd, (iii) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu (iv) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 148); (d) nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
25/01/2017 |
165 | Atodol - Gweithredu | Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. | 25/01/2017 |
166 | Atodol - Gweithredu | Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. | 25/01/2017 |
167 | Atodol - Cadw Cofnodion | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. |
25/01/2017 |
168 | Atodol - Cadw Cofnodion | Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny. | 25/01/2017 |