Papur polisi

Sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu

Diweddarwyd 5 June 2020

Nod CThEM yw bod pawb yn talu’r dreth sy’n ddyledus yn gyfreithiol, pwy bynnag yr ydynt. Ein rôl ni yw helpu pobl i dalu’r dreth gywir drwy addysg a systemau sydd wedi’u dylunio’n dda, a chamu i mewn pan fydd treth mewn perygl o beidio â chael ei thalu.

Rydym yn gwneud hyn mewn amgylchedd lle mae’r gyfradd gasglu eisoes yn uchel: mae bron i 95% o’r dreth sy’n ddyledus yn gyfreithiol yn cael ei thalu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gwnaethom sicrhau bod ychydig o dan £628 biliwn wedi’u talu. Er bod cyfran y dreth sydd heb ei chasglu wedi aros yn sefydlog ar y cyfan dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwerth ariannol y dreth heb ei chasglu wedi cynyddu wrth i economi’r DU dyfu. Yn syml felly, erbyn hyn mae rhagor o arian y dylai gael ei gasglu.

Rydym yn dysgu ac yn addasu’n barhaol. Mae ein dull o weithredu wedi datblygu mewn ymateb i newidiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol, ynghyd â gwersi gan ein partneriaid mewn awdurdodau treth eraill.

Mae ein data ein hunain, a thystiolaeth ar draws y byd, yn awgrymu bod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar a yw rhywun yn talu’r dreth gywir, gan gynnwys y canlynol:

  • a yw’n deall ei rwymedigaeth
  • pa mor hawdd yw gwneud taliadau
  • pa mor anodd yw gwneud camgymeriadau
  • a yw’n credu bod eraill yn talu’r swm cywir
  • os yw’n credu bod canlyniadau gwirioneddol i’r rhai sy’n tramgwyddo

Ein swydd ni yw bod yn ddiduedd a sicrhau bod pawb yn chwarae yn ôl yr un rheolau. Yn y pen draw, ni sy’n gofalu am system dreth sy’n dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae’r ymddiriedaeth honno’n mynd law yn llaw â dealltwriaeth o gyrhaeddiad a phŵer CThEM: mae trethdalwyr gonest, fel y dylent, am wybod y byddwn yn camu i mewn i orfodi’r rheolau lle y bo angen, gan fod yn deg i unigolion a busnesau.

Mae’n rhaid i’r ymddiriedaeth gyhoeddus honno gael ei chynnal drwy’r ffordd yr ydym yn arfer ein pwerau. Mae’n hanfodol bod goruchwyliaeth briodol a mesurau diogelwch statudol ar waith sy’n golygu bod pobl yn gallu cyflwyno cwynion a dadlau yn erbyn ein penderfyniadau. Mae’ch Siarter yn nodi y byddwn yn ymdrin â chwynion ac apeliadau cwsmeriaid yn gyflym ac yn deg, a’n bod yn ymroddedig i ddiogelu’ch gwybodaeth.

Ein dull o weithredu

Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu yw drwy’r ffordd mae’r system dreth wedi’i dylunio. Mae system sydd wedi’i dylunio’n dda yn atal diffyg cydymffurfio cyn i achosion allu digwydd, tra’n gwneud pethau’n haws i drethdalwyr a chaniatáu i CThEM ganolbwyntio ein hadnoddau lle y gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Y ffordd symlaf a di-wall o gasglu treth yw TWE. Gan fod y dreth yn cael ei hatal wrth y ffynhonnell ac yn cael ei chasglu gan gyflogwyr ar ein rhan, nid oes rhaid i’r rhan fwyaf o gyflogeion wneud dim am y peth. O ganlyniad, mae mwy na 99% o’r dreth sy’n ddyledus yn gyfreithiol yn cael ei thalu.

Mae ein gwaith yn cwmpasu 45 miliwn o unigolion a 5 miliwn o fusnesau. Y ffordd fwyaf effeithlon o gael treth yn gywir ar draws y grwpiau enfawr hyn yw bod CThEM yn arwain y trethdalwr a hynny drwy ymyrryd cyn i unrhyw beth gael cyfle i fynd yn anghywir.

Mae hynny’n cynnwys pethau fel negeseuon ar y sgrin sy’n rhan o’n system Hunanasesiad ar-lein, sy’n tynnu sylw os nad yw cofnod cwsmer yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn disgwyl ei weld. Mae hefyd yn cynnwys rhag-lenwi ffurflenni ar-lein sydd â gwybodaeth a ddelir eisoes gan CThEM, gan gynnwys yr hyn a gafwyd gan drydydd partïon, fel yr ydym yn ei gwneud â data banc ar y llog a enillir.

Mae hefyd yn cynnwys creu polisïau sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl wneud y peth iawn. Ein nod yw dylunio’r system dreth mewn ffordd sy’n lleihau’r posibilrwydd o wneud camgymeriad, ac mewn ffordd sy’n gwneud rhai mathau hanesyddol o ddiffyg cydymffurfio bron yn amhosibl.

I’r mwyafrif sy’n ceisio cael eu materion treth yn gywir, ein strategaeth yw eu cefnogi gyda deunydd addysgol a gwasanaeth cwsmeriaid defnyddiol, ymatebol, boed hynny dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac yn gynyddol ar-lein. Os oes angen help ychwanegol ar gwsmeriaid oherwydd eu hamgylchiadau, mae CThEM yn cynnig cymorth ychwanegol helaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mrîff gwybodaeth CThEM: cymorth i gwsmeriaid y mae angen rhagor o help arnynt.

Pan fydd problemau’n codi, ein nod yw gweithio gyda chwsmeriaid yn brydlon ac yn broffesiynol fel y gallwn eu cael yn ôl ar y trywydd cywir. Cyfrifoldeb pawb yw cael eu treth yn gywir, ond rydym yma i helpu.

Mae ansawdd cyffredinol profiad cwsmeriaid pan fyddant yn delio â ni yn rhan gynyddol bwysig o’n dull o weithredu. Mae ymddiriedaeth cwsmeriaid yn seiliedig ar ansawdd y cysylltiadau hynny, ac ar ein gallu i gydnabod y problemau dynol go iawn sydd weithiau y tu ôl i dreth sydd heb ei thalu. Mae’n hanfodol ein bod yn teilwra ein dull o weithredu yn ôl y cwsmer a’i sefyllfa benodol.

Mae ymateb CThEM i COVID-19 yn enghraifft o’r dull o weithredu teilwredig hwn. Mae’r achos wedi gwthio llawer o’n cwsmeriaid i sefyllfa anodd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni newid rhai o’n prosesau a pholisïau, gan gynnwys y dull yr ydym yn ei gymryd i adennill dyledion treth. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu blaenoriaethu cymorth a rhoi cyfle i fusnesau ac unigolion cyfreithlon gael eu gwynt.

Sut yr ydym yn nodi ac yn gweithredu ar dreth mewn perygl

Mae ein dull o weithredu wedi’i danategu gan brosesau dadansoddi data arloesol a ddefnyddiwn i nodi lle mae’r dreth yn y perygl mwyaf o beidio â chael ei thalu ac rydym yn dylunio ymyriadau teilwredig, targedig a chymesur i fynd i’r afael â hi.

Nid yw penderfyniadau ynghylch pryd a ble i ymyrryd yn cael eu gyrru gan y swm o arian y byddwn yn ei adennill yn unig; rydym hefyd yn ystyried effaith ehangach ein hymyriadau ar gydymffurfiad yn y system dreth yn ei chyfanrwydd. Mae tegwch hefyd yn ein helpu i benderfynu pryd i gamu i mewn - mae’n bwysig i unigolion a busnesau wybod ein bod yn cwmpasu pob rhan o’r economi yn ddiduedd, fel y gallant fod yn hyderus nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais.

Er nad oes gennym broblem gyda chynllunio treth sydd o fewn bwriad y ddeddfwriaeth, ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu yn erbyn trefniadau ffug sy’n ceisio lleihau’r rhwymedigaethau treth yn artiffisial, boed yn gwmnïau rhyngwladol sy’n dargyfeirio elw o’r DU neu gynlluniau arbed treth a ddefnyddir gan unigolion. Rydym yn canolbwyntio’n gynyddol ar fesurau i fynd i’r afael â phroblemau yn y man cychwyn, gan gynnwys canolbwyntio ar y lleiafrif bach o ymgynghorwyr treth sy’n gwneud arian drwy hyrwyddo dulliau o arbed treth a hyd yn oed drwy alluogi twyll.

Ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio ein pwerau troseddol a sifil lle y credwn fod busnes neu unigolyn yn ceisio twyllo’r system dreth. Wedi’r cyfan, mae hyn yn twyllo’r cyhoedd o arian sy’n mynd i’r gwasanaethau hynny y maent yn dibynnu arnynt bob dydd.

Bydd CThEM yn cynnal ymchwiliadau troseddol ac yn ceisio erlyniadau troseddol os yw hynny er budd y cyhoedd, yn enwedig os yw’r ymddygiad a arddangosir yn ddifrifol iawn neu os bydd erlyniad troseddol yn anfon neges gryf at eraill rhag gwneud yr un peth. Rydym yn canolbwyntio ar gyrraedd y canlyniad cywir ar gyfer y DU, yn hytrach na mynd ar drywydd targedau mympwyol at ddiben arestio ac erlyn.

Rydym hefyd yn gwarchod y system dreth rhag ymosodiadau gan droseddwyr cyfundrefnol sy’n mynd ati’n fwriadol i geisio twyllo’r cyhoedd yn y DU o filiynau o bunnoedd. Nid yw’r gwaith hwn erioed wedi bod yn bwysicach nag yn ystod achosion o COVID-19 - rydym yn canolbwyntio ar sicrhau na all troseddwyr dwyllo cynlluniau cymorth y system ac ar ddiogelu pobl rhag sgamiau a dulliau camfanteisio sy’n dwyllodrus.

Trawsnewid ein dull o weithredu

Mae’n rhaid i CThEM barhau i addasu a thyfu wrth i ni ddelio â byd sy’n newid - un a fydd yn cynyddu rhai risgiau treth, yn lleihau rhai eraill, ac yn taflu heriau newydd sbon atom.

Ein nod yw rhagweld newidiadau sydd i ddod yn y gymdeithas, ym maes busnes, economeg neu’r amgylchedd. Er enghraifft, bydd mwy o awtomeiddio, amrywiadau demograffig a COVID-19 yn cael effaith ar yr economi fyd-eang a’r systemau treth ar draws y byd.

Ni allwn ddatrys problemau heddiw gydag atebion ddoe, felly mae CThEM a’r llywodraeth bob amser yn archwilio ymatebion modern, arloesol. Yn ogystal â datblygu atebion newydd, bydd CThEM yn parhau i ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ein hadnoddau i fynd i’r afael â’r heriau newydd hyn dros y blynyddoedd i ddod.

Mae’n bwysig cydnabod, er bod CThEM yn chwarae rhan hanfodol fel awdurdod treth modern, y mae pobl yn ymddiried ynddo, mai gweinyddu’r system dreth yw ein rôl ni; ni allwn drawsnewid y system honno ar ein pennau ein hunain.

Y llywodraeth sy’n gyfrifol am bennu’r rheolau treth ac, er bod CThEM yn rhoi cyngor ar bolisïau, mae gweinidogion ac, yn y pen draw, y Senedd â’r awdurdod i newid y gyfraith. Fodd bynnag, rydym am fod yn fwy agored am yr heriau a wynebwn fel awdurdod treth, a’r opsiynau sydd ar gael i ni gyd. Rydym eisiau gwneud mwy i weithio gyda’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid ac ymgynghori â nhw, fel y gallwn ddylunio system dreth sy’n addas ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd.