Hysbysiad Preifatrwydd Ap CThEF
Gwybodaeth ynghylch sut y mae CThEF, a sefydliadau eraill, yn gallu defnyddio’ch data pan fyddwch yn defnyddio ap CThEF.
Dogfennau
Manylion
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y mae CThEF, a sefydliadau eraill, yn gallu defnyddio’ch data pan fyddwch yn defnyddio ap CThEF.
Gallwch lawrlwytho ap CThEF i ddyfais Android neu iOS. Gallwch hefyd gael mynediad at y gwasanaethau hyn gan fewngofnodi drwy wefan CThEF yn eich porwr gwe. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r ddwy sianel hon.
Dylech ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd CThEF ochr yn ochr â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.