Skip to main content
Canllawiau

Tystysgrif iechyd ar gyfer anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio

Cyhoeddwyd 14 Rhagfyr 2017

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Rhaid i’r gweithredwr busnes bwyd neu’r ffermwr lenwi tystysgrif iechyd i ardystio:

  • gwybodaeth am yr anifail
  • dyddiad ac amser y lladd
  • anifeiliaid hela/ratidau wedi’u ffermio sydd wedi’u lladd a’u gwaedu’n gywir 

Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol fel rhan o’r dull gadwyn gyfan a fferm-i-fforc o sicrhau diogelwch bwyd. Mae’n ofynnol o dan y Rheoliad Hylendid sy’n nodi’r rheolau hylendid ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid.

Mae’r wybodaeth yn y dystysgrif enghreifftiol yn dwyn ynghyd y pethau hyn:

  • canlyniadau tystysgrif yr archwiliad ante-mortem
  • gwybodaeth am y gadwyn fwyd
  • ardystiad bod ratidau ac anifeiliaid hela wedi’u ffermio wedi’u lladd a’u gwaedu’n gywir
  • cadarnhad o ddyddiad ac amser y lladd

Tystysgrif iechyd ar gyfer anifeiliaid hela wedi’u ffermio

Tystysgrif iechyd ar gyfer anifeiliaid hela wedi’u ffermio (Dogfen Word)