Gweithdrefnau llywodraethu a sicrwydd ar gyfer cymwysterau newydd a phresennol swyddogion bwyd a bwyd anifeiliaid mewn Awdurdodau Cymwys
Cyhoeddwyd 4 Awst 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Cwmpas
Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i’r cymwysterau sydd gan swyddogion Awdurdodau Cymwys (awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr, a chynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon) sy’n cynnal rheolaethau swyddogol ac answyddogol ar fwyd a/neu fwyd anifeiliaid.
Cefndir
Mae’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/6251 (OCR) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cymwys fod â mynediad at ddigon o staff cymwys a phrofiadol, fel y gellir cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol.
Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd
Mae Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd (FLCoP) ar wahân, ond tebyg, yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, sy’n darparu canllawiau statudol y dylai Awdurdodau Cymwys eu hystyried.
Mae Pennod 3 o’r FLCoP yn ymdrin ag awdurdodiad, cymwysterau a chymhwysedd swyddogion sy’n cynnal rheolaethau swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill ac unrhyw weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhain.
Mae’r gofyniad am ‘gymhwyster addas’ wedi’i amlinellu mewn canllawiau statudol a darperir rhestr o gymwysterau a gydnabyddir fel rhai addas ar gyfer cynhyrchu cynradd (Cymru a Lloegr), hylendid bwyd a safonau bwyd.
Mae’r FLCoP a’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (FLPG) yn caniatáu cydnabod cymwysterau eraill, hyfforddiant ychwanegol a phrofiad sy’n dangos bod swyddogion yn gymwys, os ydynt yn gyfwerth â’r cymwysterau a restrir.
Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid
Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (FeLCoP) yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion Awdurdodau Cymwys sy’n ymwneud ag asesu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid feddu ar ‘gymhwyster priodol’.
Mae’r FeLCoP yn cyfeirio Awdurdodau Cymwys at y rhestr o ‘gymwysterau priodol’ a nodir yn y Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (FeLPG).
Llywodraethu a sicrwydd
Mae’r gweithdrefnau llywodraethu a sicrwydd hyn yn cyflwyno:
-
gweithdrefn i gydnabod cymwysterau ‘newydd’ addas nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestrau cyfredol
-
y meini prawf y mae’n rhaid i gymhwyster eu bodloni er mwyn cael ei gydnabod gan yr ASB fel cymhwyster addas
-
grŵp ymgynghori ar gymwysterau (QAG), sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o bob un o’r tair gwlad – caiff y grŵp ei gynnull yn ôl yr angen i gynorthwyo’r ASB i asesu cymwysterau newydd neu adolygu cymwysterau presennol
-
bydd aelodau’r QAG yn cael eu dewis fesul achos, gan ddibynnu ar gwmpas y cymhwyster dan sylw (er enghraifft, hylendid bwyd, safonau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid) a’r gwledydd y mae’n berthnasol iddynt, neu y gallai ddod yn berthnasol iddynt yn y dyfodol
-
memorandwm cyd-ddealltwriaeth (MOU) rhwng yr ASB a chyrff achredu neu lywodraethu, ar gyfer cymwysterau newydd a phresennol a gydnabyddir fel rhai addas, i gefnogi’r gwaith o oruchwylio adolygiadau sicrwydd ac unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio ohonynt
Mae cyfrifoldebau’r QAG wedi’u nodi yn Atodiad 1.
Cymwysterau newydd: asesu addasrwydd
Meini prawf ar gyfer asesu
Bydd yr ASB yn ystyried cymwysterau newydd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol.
1. Gwybodaeth a sgiliau
Cymwysterau:
-
rhaid bodloni Safon Cymhwysedd yr ASB ar gyfer meysydd technegol bwyd a/neu fwyd anifeiliaid, sy’n seiliedig ar y gofynion cymhwysedd a nodir yn OCR
-
darparu llwybr i ddod yn swyddog bwyd neu swyddog bwyd anifeiliaid neu lwybr posib i gymhwyso fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd neu Swyddog Safonau Masnach
Ac maent yn cael eu meincnodi yn erbyn:
-
Tystysgrif Uwch mewn Rheoli Bwyd (HCFC) ar gyfer hylendid bwyd
-
Tystysgrif Ymarferydd Safonau Masnach y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) gyda’r uned Bwyd o’r Diploma Ymarferydd Safonau Masnach (TSPC a TSPD) ar gyfer safonau bwyd
-
Tystysgrif Ymarferydd Safonau Masnach CTSI gyda’r uned Bwyd Anifeiliaid o’r Diploma Ymarferydd Safonau Masnach (TSPC a TSPD) ar gyfer bwyd anifeiliaid
2. Llywodraethu a sicrwydd
Mae cymwysterau’n amodol ar y canlynol:
-
trefniadau llywodraethu annibynnol boddhaol gan y corff dyfarnu neu lywodraethu, i sicrhau bod y cymhwyster yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol wrth ddechrau ymarfer
-
sicrwydd annibynnol boddhaol gan y corff dyfarnu/llywodraethu sy’n cynnwys archwiliadau allanol ac adolygiad mewnol i werthuso ansawdd rhaglenni, cymwysterau ac arferion asesu
-
gwelliant parhaus drwy adolygiadau rheolaidd o gymwysterau a chwricwla, gan eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg, arferion y diwydiant a safonau academaidd (er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol dros amser)
Asesu cymhwyster newydd
Cam 1: rhoi gwybod i’r ASB
Ar ôl cael gwybod am gymhwyster newydd posib, bydd yr ASB yn cysylltu â’r ymgeisydd cyn gynted â phosib i drafod y meini prawf uchod.
Bydd yr ASB yn asesu a oes potensial i’r cymhwyster fodloni’r gofynion perthnasol.
Cam 2: gwneud cais
Os yw’n ymddangos y gallai’r cymhwyster fodloni’r meini prawf, cynghorir yr ymgeisydd i gyflwyno cais am asesiad o’r cymhwyster.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o’r canlynol:
-
Y trefniadau sicrwydd a llywodraethu sydd ar waith gan y corff dyfarnu neu lywodraethu.
-
Yr wybodaeth a’r sgiliau a geir o’r cymhwyster. Gwneir hyn drwy fapio cynnwys y cymhwyster, gan gynnwys yr holl ddeunydd dysgu, yn erbyn Safon Cymhwysedd yr ASB. Yna caiff y cymhwyster ei feincnodi yn erbyn Uned Bwyd/Bwyd Anifeiliaid yr HCFC neu’r TSPC a TSPD.
-
Y rheolaethau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid swyddogol ac answyddogol y gellir eu cynnal, gan gynnwys nodi unrhyw gyfyngiadau posib.
-
P’un a yw’r cymhwyster yn addas i ymgeiswyr yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban.
Cam 3: adolygu
Ar ôl cael gwybod am gymhwyster newydd posib, bydd yr ASB yn cynnull gweithgor mewnol o’r tair gwlad, gyda chynrychiolwyr perthnasol o bob un o’r gwledydd.
Unwaith y bydd yr holl ddogfennaeth a thystiolaeth briodol wedi’u cyflwyno, bydd gweithgor tair gwlad yr ASB yn cynnal adolygiad manwl o’r dystiolaeth. Bydd y grŵp yn anelu at wneud hyn cyn gynted â phosib, lle bo hynny’n rhesymol ymarferol.
Os oes angen, bydd arbenigwyr polisi a materion pwnc yr ASB yn adolygu’r cais a’r dystiolaeth a ddarperir.
Cam 4: ystyriaeth
Yn dilyn yr adolygiad manwl, bydd yr ASB yn penderfynu ar un o’r opsiynau canlynol:
-
os darparwyd digon o dystiolaeth, bydd yr ASB yn ymgysylltu ag aelodau’r QAG ac yn ceisio eu safbwyntiau
-
os oes angen rhagor o dystiolaeth i ddangos bod y cymhwyster yn bodloni Safon Cymhwysedd yr ASB, wedi’i feincnodi yn erbyn Uned Bwyd/Bwyd Anifeiliaid yr HCFC neu’r TSPC a TSPD, a/neu ei fod yn cynnwys trefniadau sicrwydd boddhaol, bydd yr ASB yn gofyn i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ychwanegol
Os na ddarperir tystiolaeth ddigonol o fewn cyfnod o 3 mis, bydd y cais yn cael ei ddychwelyd. Bydd yr ASB yn nodi’r diffygion yn y cais ac yn amlinellu’r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen pe bai’r ymgeisydd yn dymuno ailgyflwyno cais yn y dyfodol.
Cam 5: argymhelliad
Ar ôl ymgynghori â’r QAG, bydd yr ASB yn gwneud un o’r canlynol:
-
penderfynu a yw’r cymhwyster yn gyfwerth â’r cymwysterau meincnod ac a ddylid argymell ei gynnwys yn y rhestr berthnasol yn ystod yr adolygiad nesaf o’r Cod
-
gofyn am ragor o dystiolaeth i ddangos bod y cymhwyster yn bodloni Safon Cymhwysedd yr ASB, wedi’i feincnodi yn erbyn Uned Bwyd/Bwyd Anifeiliaid yr HCFC neu’r TSPC a TSPD, a/neu ei fod yn cynnwys trefniadau sicrwydd boddhaol
-
os na ddarperir tystiolaeth ategol ddigonol o fewn cyfnod o 3 mis, bydd y cais yn cael ei ddychwelyd. Bydd yr ASB yn nodi’r diffygion yn y cais ac yn amlinellu’r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen pe bai’r ymgeisydd yn dymuno ailgyflwyno cais yn y dyfodol
-
gwrthod y cymhwyster gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad
Cymhwyster newydd: cydnabod addasrwydd
Pan fydd yr ASB yn cydnabod bod cymhwyster newydd yn addas, bydd yr ASB yn:
-
rhoi gwybod i’r ymgeisydd yn ysgrifenedig fod y cymhwyster wedi’i gydnabod gan yr ASB
-
argymell bod y cymhwyster yn cael ei gynnwys yn y rhestr berthnasol o gymwysterau addas yn ystod yr adolygiad nesaf o’r FLCoP a’r FeLPG
-
anfon ‘llythyr cysur’ at Awdurdodau Cymwys drwy Rwydwaith Rhannu’r ASB i’w hysbysu o’r penderfyniad ynghylch y cymhwyster newydd, a rhoi gwybod i awdurdodau lleol drwy Grwpiau Cyswllt
Bydd y ‘llythyr cysur’ at yr Awdurdodau Cymwys yn:
-
enwi’r cymhwyster
-
amlinellu’r llwybr cymhwyso (os oes un yn bodoli)
-
nodi unrhyw gyfyngiadau ar y gweithgareddau y gall deiliad y cymhwyster eu cyflawni
-
egluro y bydd y cymhwyster yn cael ei argymell i’w gynnwys yn y rhestr berthnasol o gymwysterau yn yr FLCoP a’r FeLPG ar y cyfle priodol nesaf, yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth gan y gweinidogion ym mhob un o’r gwledydd
Efallai y byddwn yn cyhoeddi stori newyddion ar wefan yr ASB yn cadarnhau statws y cymhwyster. Gall gynnwys datganiad gan yr ymgeisydd lle bo’n briodol. Bydd yr erthygl yn egluro mai’r bwriad yw argymell cynnwys y cymhwyster newydd yn yr FLCoP/FeLPG perthnasol cyn gynted â phosib, yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth weinidogol.
Cymhwyster newydd: gwrthod
Os na chaiff cymhwyster newydd ei gydnabod gan yr ASB fel cymhwyster priodol, cymerir y camau canlynol:
-
bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad, ynghyd â’r rheswm neu’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw
-
bydd y cais yn cael ei ddychwelyd i’r ymgeisydd, ynghyd ag amlinelliad o’r diffygion a gwybodaeth am sut i ailgyflwyno cais
Cymwysterau presennol: asesu addasrwydd
Mae’r ASB yn ei gwneud yn ofynnol goruchwylio’r trefniadau llywodraethu a sicrwydd sydd ar waith ar gyfer cymwysterau sydd wedi’u cynnwys yn y rhestrau perthnasol o gymwysterau o fewn yr FLCoPs/FeLPGs.
Er mwyn ffurfioli’r trefniant hwn, bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) yn cael ei gytuno gyda’r cyrff proffesiynol neu lywodraethu perthnasol.
Bydd yr MOU rhwng yr ASB a phob corff proffesiynol neu lywodraethu unigol yn cytuno i wneud y canlynol:
-
craffu ar gynnwys y cymhwyster, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn addas at y diben
-
safoni a sicrhau cysondeb wrth asesu cymwysterau
-
hysbysu’r ASB o ganlyniad adolygiadau mewnol ac allanol
-
hysbysu’r ASB pan fydd cwrs yn peidio â chael ei gynnig bellach
Bydd yr MOU yn diffinio’n glir rolau a chyfrifoldebau’r ASB, y cyrff proffesiynol a’r cyrff llywodraethu. Bydd yn nodi’r trefniadau sydd ar waith a ddylai gynnwys y canlynol o leiaf:
1. Hunanasesiad blynyddol
Rhaid i bob darparwr cymhwyster gwblhau a chyflwyno hunanasesiad blynyddol i’r corff proffesiynol neu lywodraethu perthnasol, sy’n:
-
rhoi gwybod am newidiadau a datblygiadau newydd i gynnwys y cwrs, a fydd yn cynnwys dogfennaeth ategol lle bo angen
-
rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’w trefniadau adolygu mewnol
-
darparu data myfyrwyr, gan gynnwys niferoedd cofrestru a graddio
2. Adolygiad annibynnol allanol
Rhaid i’r corff proffesiynol neu lywodraethu gynnal adolygiad yn seiliedig ar eu trefniadau llywodraethu unigol i gynnwys:
-
adolygu cynnwys y cymhwyster yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn parhau i fodloni gofynion deddfwriaeth berthnasol a Safon Cymhwysedd yr ASB
-
adolygu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y cymhwyster, gan gynnwys y dulliau asesu a’r prosesau sydd ar waith i sicrhau safoni a chysondeb wrth asesu
Bydd yr MOU yn nodi bod yn rhaid hysbysu’r ASB os bydd newid sylweddol i gwrs, neu os bydd adolygiad yn canfod trefniadau anfoddhaol nad ydynt wedi cael sylw dyledus o fewn y cyfnod penodol. Bydd yr ASB yn adolygu’r wybodaeth a ddarperir a, lle bo angen, yn ymgynghori â’r QAG.
Ymgynghorir â’r QAG i benderfynu a yw’r cymhwyster yn gallu parhau i fodloni’r meini prawf gofynnol. Bydd yr ASB yn ystyried unrhyw wrthdaro buddiannau posib fel rhan o’r broses.
Os bydd yr asesiad yn dangos nad yw’r cymhwyster bellach yn bodloni’r meini prawf gofynnol, gofynnir i’r QAG argymell camau gweithredu i helpu’r ASB i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol.
Atodiad 1
Grŵp ymgynghori ar gymwysterau
Bydd y grŵp ymgynghori ar gymwysterau (QAG) yn cynnwys arbenigwyr polisi’r ASB a rhanddeiliaid allanol allweddol. Gall aelodau’r grŵp gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
-
Safonau Bwyd yr Alban
-
Sefydliad Brenhinol Iechyd yr Amgylchedd yr Alban
-
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
-
Y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach
-
Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd
-
Safonau Masnach Cenedlaethol
-
Cymdeithas y Prif Swyddogion Safonau Masnach
-
Cyfarwyddwyr Diogelu Cyhoedd Cymru drwy Safonau Masnach Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd Cymru
-
Grŵp Rheolwyr Bwyd Gogledd Iwerddon
-
Grŵp Ffocws Hylendid Bwyd Cenedlaethol (cynrychiolwyr awdurdodau lleol)
-
Grŵp Ffocws Safonau Bwyd Cenedlaethol (cynrychiolwyr awdurdodau lleol)
-
Y Panel Amaethyddol Cenedlaethol
-
darparwyr addysg gan gynnwys prifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant prentisiaeth perthnasol
Bydd gweithgor tair gwlad yr ASB yn ymgysylltu â rhanddeiliaid addas o’r rhestr uchod fesul achos, gan ddibynnu ar gwmpas y cymhwyster dan sylw (er enghraifft, hylendid bwyd, safonau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid) a’r gwledydd y mae’n berthnasol iddynt, neu y gallai ddod yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r QAG
Cyfrifoldebau’r QAG yw:
-
adolygu cynnwys y cymhwyster a mapio cymwysterau newydd yn erbyn Safon Cymhwysedd yr ASB, gan eu meincnodi yn erbyn Uned Bwyd/Bwyd Anifeiliaid yr HCFC neu’r TSPC a TSPD
-
adolygu’r trefniadau llywodraethu a sicrwydd ar gyfer y cymhwyster
-
rhoi eu barn a’u hargymhelliad ar addasrwydd a statws cywerthedd y cymhwyster
-
os bydd adolygiad o gymhwyster presennol yn canfod bod y trefniadau llywodraethu a sicrwydd yn anfoddhaol, neu nad yw cynnwys y cymhwyster wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu deddfwriaeth berthnasol a gofynion y Safon Cymhwysedd, bydd y panel yn rhoi ei farn a’i argymhellion i’r ASB ar y camau gweithredu priodol
-
cyflwyno datganiad blynyddol yn amlinellu unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol, posib, neu ganfyddedig