Canllawiau

Offer TWE Sylfaenol - help ynghylch gosod Linux

Diweddarwyd 6 Ebrill 2021

Mae’r canllaw hwn yn gymwys i Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol (BPT) fersiwn 21.0 ac ar ôl hynny.

Dibyniaethau sylfaenol

I’w redeg, mae BPT yn dibynnu ar glibc>=2.12.

Dibyniaethau ychwanegol ar gyfer Linux 64-bit

Mae BPT wedi cael ei adeiladu a’i brofi ar systemau 32-bit. Nid yw’n cael ei gefnogi’n swyddogol ar Linux 64-bit, ond gallai’r canllaw hwn helpu os ydych yn defnyddio system 64-bit.

Bydd angen i chi osod y llyfrgelloedd 32-bit priodol ar gyfer eich system. Ar Ubuntu 20.04 ac ar ôl hynny, gellir gwneud hyn gyda:

$ sudo dpkg --add-architecture i386
$ sudo apt update
$ sudo apt install libxft2:i386 libxext6:i386
$ sudo apt install libxslt1.1:i386 libgssapi-krb5-2:i386 libsqlite3-0:i386

Efallai na fydd rheolwyr pecynnau graffigol fel Synaptic yn rhestru fersiynau 32-bit y pecynnau hyn.

Rhedeg y gosodwr

Mae’n rhaid i chi dynnu’r gosodwr o’r lawrlwythiad sip cyn ei redeg. Mae rhai offer Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffeg (GUI), er enghraifft Rheolwr Archif Ubuntu, yn caniatáu i chi redeg rhaglen y gosodwr y tu mewn i’w rhyngwyneb heb ei thynnu, ond nid yw’n rhedeg yn gywir fel hyn.

Problemau posibl

Mae gwall yn codi wrth redeg y gosodwr

Rhedwch y gosodwr yn y modd testun gan ddefnyddio’r gorchymyn canlynol (gan ddisodli “payetools-rti-xx.y.zzzzz.aaaa-linux” gydag enw ffeil y gosodwr rydych wedi’i lawrlwytho):

$ ./payetools-rti-xx.y.zzzzz.aaaa-linux --mode text

Y tro cyntaf i chi redeg Offer TWE Sylfaenol o’r llwybr brys ar y bwrdd gwaith, efallai y byddwch yn cael eich annog i ‘Ymddiried a lansio’ y rhaglen.

Does dim byd yn digwydd pan fyddwch yn ceisio agor y rhaglen BPT

I fynd at wraidd y broblem, dylech wirio’r ddau beth hyn yn y lle cyntaf:

  • allbwn y consol wrth redeg /path/to/HMRC/payetools-rti/rti.linux
  • cynnwys y /tmp/rti.log

Bydd y rhain yn dangos gwybodaeth a allai eich helpu i ddatrys y broblem eich hun (er enghraifft, dibyniaethau sydd ar goll). Os oes angen help arnoch, cysylltwch â CThEM a gwnewch yn siŵr bod y ffeil cofnodi gennych wrth law (gan gynnwys unrhyw ffeiliau cofnodi eraill yn /tmp named rti*).

Gweinydd Modd Cynorthwyol

Os ydych yn dewis rhedeg BPT gyda chymorth y Feddalwedd Gynorthwyol wedi’i alluogi, bydd BPT yn rhedeg yn y cefndir fel gweinydd, ac yn ceisio rhoi ei ryngwyneb ym mhorwr gwe diofyn eich amgylchedd bwrdd gwaith.

Bydd y gweinydd yn parhau i redeg yn y cefndir. Bydd y rhan fwyaf o amgylcheddau bwrdd gwaith yn dangos eicon cilfach â logo CThEM sy’n eich caniatáu i adael y gweinydd yn hwylus. Fodd bynnag, nid yw rhai amgylcheddau, er enghraifft Ubuntu Unity, yn dangos yr eicon cilfach.

Gallwch hefyd adael y gweinydd yn gyfan gwbl drwy ddefnyddio’r URL: http://127.0.0.1:46729/QUIT